Barnwr o Gymru oedd Yr Anrhydeddus Farnwr Pryce Michael Farmer QC (20 Mai 19449 Ebrill 2011).[1]

Michael Farmer
Ganwyd20 Mai 1944 Edit this on Wikidata
Pen-y-groes Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddCwnsler y Brenin, barnwr cylchdaith Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Mynychodd Pryce Michael Farmer Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Gadawodd ei dad y teulu pan oedd Michael yn faban, ac felly cafodd ei fagu gan ei nain tra oedd ei fam yn gweithio. Y ffilm Witness for the Prosecution a wnaeth ennyn diddordeb yn y gyfraith ynddo pan oedd yn blentyn. Astudiodd y Saesneg yng Ngholeg y Brenin, Llundain ond penderfynodd yn hwyrach i astudio'r gyfraith. Gweithiodd fel athro Saesneg yng am bedair mlynedd yng Ngholeg Dewi Sant, Llandudno er mwyn ennill digon o arian i astudio yn Gray’s Inn.[1]

Cafodd ei alw i'r Bar ym 1972 a chychwynnodd ei yrfa gyfreithiol ar Gylchdaith Cymru a Chaer gan dderbyn cynnig o dymor prawf ac yn hwyrach tenantiaeth yn Sedan House, siambrau'r Arglwydd Hooson yng Nghaer. O 1973 hyd 1995 ymarferodd y gyfraith gyffredin yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer, gan gymryd rhan mewn nifer o achosion sifil a throseddol a chadeirio nifer o ymchwiliadau cyhoeddus. Daeth yn Gofiadur Cynorthwyol, a chafodd sidan ym 1995. Dewisodd Farmer i barhau ei yrfa yng Nghaer fel pennaeth Siambrau yn Sedan House, a pheidio i symud i Lundain. Ym 1995 penodwyd yn Gofiadur Llys y Goron, ac yn 2001 daeth yn farnwr ar Gylchdaith Cymru a Chaer. Yn 2004 fe'i benodwyd yn Farnwr Teuluol Penodedig dros Ogledd Cymru ac yn ddirprwy Farnwr Cyswllt dros yr iaith Gymraeg ar Gylchdaith Cymru a Chaer.[1] Roedd yn Aelod Cyfreithiol o'r Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl o 2001 hyd 2008.[2] Yn 2004 penodwyd Farmer yn Ddirprwy Uwch Farnwr dros yr ardaloedd Canolfan Sofran Akrotiri a Dhekelia yng Nghyprus, ac yn 2010 penodwyd yn Ddirprwy Raglaw Clwyd.[1]

Roedd Farmer yn un o ychydig o farnwyr oedd yn medru'r Gymraeg, a dan ei arweiniad daeth Sedan House yn brif ddarparwr adfocadau Cymraeg eu hiaith ar gyfer Gogledd Cymru. Roedd Michael Farmer yn gefnogwr brwd o'r iaith Gymraeg a gweithiodd i sicrháu'r hawl i gynnal achosion yn y Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.[1][3] Wedi ei farwolaeth dywedodd y Barnwr Derek Halbert "roedd ganddo'r meddwl cyfreithiol gorau yng Nghymru",[4] ac yn ôl Dafydd Wigley roedd yn "genedlaetholwr a oedd yn gefnogol iawn i bopeth Cymreig".[5]

Bywyd personol

golygu

Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Conwy yn etholiadau cyffredinol Chwefror ac Hydref 1974, ond roedd yn aflwyddiannus.[1]

Priododd Olwen Roberts ym 1975 a chafodd mab a merch, Siôn ap Mihangel a Mair Mihangel,[4] y ddau ohonynt yn fargyfreithwyr yn hen siambrau eu tad yng Nghaer.[1] Roedd y teulu yn byw yn yr Wyddgrug am flynyddoedd[3] ac yna roedd Michael ac Olwen yn byw yn Upper Downing Road, Chwitffordd, ger Treffynnon, Sir y Fflint.[4] Trodd Michael yn Babydd yn ystod ei arddegau. Darllenodd weddi yn y Gymraeg ym Mharc Cofton, Birmingham, pan ymwelodd y Pab Bened XVI â Lloegr a'r Alban ym Medi 2010. Roedd Michael yn llywydd Clwb Rygbi Yr Wyddgrug o 2001 hyd 2005.[1] Roedd hefyd yn gadeirydd y garfan bwyso Gristnogol BARA, a lansiwyd yn 2009 i gynnig cymorth i gyn-garcharorion,[6] ac yn aelod o Gymdeithas Thomas Pennant.[4]

Yn Eisteddfod Genedlaethol 2009 ymunodd â Gorsedd y Beirdd.[7] Rhoddwyd iddo'r enw barddol Ustus o’r Glyn, gan gyfeirio at gartref ei blentyndod Glynllifon. Roedd disgwyl iddo annerch Cyfraith-Gymdeithas Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2011,[1] ond bu farw ar 9 Ebrill yn 66 oed yn Llundain, yn debyg o drawiad ar y galon.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 (Saesneg) Obituary: His Honour Judge Michael Farmer. The Daily Telegraph (4 Mai 2011). Adalwyd ar 15 Awst 2013.
  2. (Saesneg) Circuit Judge - Death In Service. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (11 Ebrill 2011). Adalwyd ar 15 Awst 2013.
  3. 3.0 3.1  Y Barnwr Michael Farmer wedi marw. BBC (11 Ebrill 2011). Adalwyd ar 15 Awst 2013.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 (Saesneg) Flintshire judge Michael Farmer QC dies of suspected heart attack. Daily Post (14 Ebrill 2011). Adalwyd ar 15 Awst 2013.
  5.  Teyrngedau i Michael Farmer. Golwg360 (12 Ebrill 2011). Adalwyd ar 15 Awst 2013.
  6.  Gwirfoddoli i helpu cyn-garcharorion. Golwg360 (5 Chwefror 2009). Adalwyd ar 15 Awst 2013.
  7.  Urddo Cymry am gyfraniadau. BBC (7 Awst 2009). Adalwyd ar 15 Awst 2013.