Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 ar gaeau Stad Rhiwlas, ger Y Bala, Gwynedd, rhwng y 1af a’r 8fed o Awst. Roedd cost yr Eisteddfod yn £3.3 miliwn gyda'r gronfa leol wedi codi £290,000, sef £90,00 yn fwy na'r targed.[2]
Oherwydd yr holl law yn ystod yr wythnosau a oedd yn arwain at yr eisteddfod, roedd y maes ei hun mewn stâd reit ddrwg ar ddydd Sadwrn cyntaf yr ŵyl. Dywedodd y prif weithredwr, Elfed Roberts, fod y sefyllfa'n "edrych yn ddigon blêr ar y Maes ond bod gweithwyr yn ceisio cymoni a gosod ffyrdd i lawr". Erbyn canol yr wythnos, roedd cyflwr llawr y maes wedi gwella'n sylweddol oherwydd gwellhad yn y tywydd ac ymdrechau i gorchuddio'r ardaloedd gwlyb efo lloriau.
Prif gystadlaethau
golyguCystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Atal y wobr | ||
Y Goron | Yn y Gwaed | "Moelwyn" | Ceri Wyn Jones |
Y Fedal Ryddiaeth | Y Trydydd Peth | "y mynydd segur" | Siân Melangell Dafydd |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Y Llyfrgell | "Palindrom" | Fflur Dafydd |
Y Cadeirio
golyguDyfarnwyd nad oedd neb yn deilwng yn 2009, ac atalwyd y gadair am y tro cyntaf ers 1998. Dywedodd y cyn-Archdderwydd Selwyn Iolen (yn absenoldeb Dic Jones) ei bod yn "bwysicach cadw safon na chynnal seremoni".
Y Coroni
golyguEnillydd y goron oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones am gerddi wedi'u cyflwyno i'w ewythr, y diweddar Barchedig Aled ap Gwynedd.
Gwobr Goffa Daniel Owen
golyguFflur Dafydd a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen. Y beirniaid oedd John Rowlands, Geraint Vaughan Jones a Rhiannon Lloyd. Galwodd John Rowlands yr awdur yn "ddewin llenyddol" a luniodd "nofel anghyffredin dros ben".
Gwobrau Celf
golygu- Y Fedal Aur am Bensaernïaeth: penseiri canolfan ymwelwyr Hafod Eryri, y ganolfan newydd ar gopa'r Wyddfa gafodd ei hagor ym mis Mehefin.
- Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio: Lowri Davies, crochenydd o Gaerdydd, sy'n derbyn £5,000 fel gwobr am ei gwaith cerameg.
- Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain: Elfyn Lewis, Porthmadog, am ei baentiadau haniaethol.
Dysgwr y Flwyddyn
golyguY pedwar a aeth ymlaen i'r rownd derfynol oedd: John Burton, Zoë Morag Pettinger, Meggan Lloyd Prys a Dominic Gilbert. Enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2009 oedd Meggan Lloyd Prys.
Maes B
golyguRoedd Maes B yn dal 3,000 o bobl.[3]
Darlledu ar y we
golyguAm y tro cyntaf erioed roedd yn bosib i bawb drwy'r byd wylio'r Brifwyl wrth i BBC Cymru ddarlledu'r digwyddiadau yn fyw ar y we, gydag Arfon Haines Davies a Sara Edwards yn sylwebu'n fyw ar y digwyddiadau. Roedd y darllediadau drwy gyfrwng y Saesneg.[4]
Prif swyddogion y pwyllgor gwaith
golygu- Cadeirydd: Elfyn Llwyd, Llanuwchllyn
- Is-gadeiryddion: Gerallt Hughes, Arthog; Evie Morgan Jones, Llanbedr; Geriant Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth; Dilwyn Morgan, Y Bala
- Ysgrifennydd: Ian Lloyd Hughes, Y Bala.
Galeri Lluniau
golygu-
Y Pafiliwn
-
Pabell Bwrdd yr Iaith Gymraeg
-
Ar y Maes
-
Stiwdio awyr agored BBC Cymru
-
Maes Ieuenctid
-
Poster mewn ffenestr siop yn Y Bala
-
Cysylltiadau lloeren BBC Cymru
-
Gweithgareddau yn un o'r stondinau
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 – achlys arall pan gynhaliwyd yr Eisteddfod ym Meirion
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Adroddiad Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro. tud.85" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-06-27. Cyrchwyd 2012-08-09.
- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-17. Cyrchwyd 2012-04-05.
- ↑ Gwefan y BBC
Dolenni allanol
golygu- Is-wefan Eisteddfod 2009 gan y BBC
- Stwnsh 'Steddfod Archifwyd 2009-10-05 yn y Peiriant Wayback Gwefan answyddogol yn cynnwys rhestr digwyddiadau, lluniau Flickr a negeseuon Twitter o'r wŷl.