Michael Russell
Gwleidydd o'r Alban ac aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) yw Michael William Russell (ganwyd 9 Awst 1953 i fam o Loegr a mam o'r Alban).[1][2][3] Dros y blynyddoedd, mae Russell hefyd wedi cyhoeddi sawl llyfr ffeithiol ac un gwaith llenyddol. Adnebir ef gan fwyaf fel Mike Russell. I nifer o Gymry ei gyfraniad bwysicaf bu sefydlu'r Festival of Celtic Film, a ddaeth maes o law i'w alw'n Gŵyl Cyfryngau Celtaidd.[4]
Michael Russell | |
---|---|
Ganwyd | Michael William Russell 9 Awst 1953 Bromley |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, awdur ffeithiol, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu |
Swydd | Cabinet Secretary for Education and Lifelong Learning, Minister for Environment, Climate Change and Land Reform, Member of the 1st Scottish Parliament, Member of the 3rd Scottish Parliament, Member of the 4th Scottish Parliament, Member of the 5th Scottish Parliament, Minister for UK Negotiations on Scotland's Place in Europe, Minister for Gaelic |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Gwefan | http://www.scottish.parliament.uk/msps/95959.aspx |
Gyrfa wleidyddol
golyguCafodd Russell ei eni yn Bromley, Swydd Caint, Lloegr. Mynychodd e Goleg Marr, Troon (An Truthail / An t-Sròn yn Gaeleg sy'n gytras â'r gair Cymraeg "trwyn" gan ddynodi daearyddiaeth y dref) yn Swydd Ayr yn yr Alban, ac yna aeth i Brifysgol Caeredin, lle y graddiodd gyda gradd Meistr mewn Hanes a Llenyddiaeth yr Alban. Yna bu'n gweithio yn y sector cyfryngau. Ymunodd â’r SNP yn 1974 ac mae wedi dal amryw o swyddi dros y blynyddoedd. Bu'n allweddol yn etholiad Alex Salmond yn arweinydd y blaid yn 1990 a bu'n rheolwr ymgyrch yr SNP rhwng 1994 a 1999, gan gydlynu ymgyrchoedd etholiad cyffredinol 1997 a'r etholiad cyffredinol yn etholaethau Perth a De Paisley.[5][6]
Yn 2021, ymddeolodd Russell o waith gwleidyddol gweithgar, ildiodd ei sedd yn Senedd yr Alban a chafodd swydd anrhydeddus "Llywydd yr SNP". Ymddiswyddodd o'r swydd honno ddechrau mis Rhagfyr 2023 gan ei fod yn rhedeg am gadeiryddiaeth Comisiwn Tir yr Alban. Mae'r swydd hon yn gofyn am niwtraliaeth wleidyddol.[7]
Canlyniadau etholiad
golyguSafodd Russell ar gyfer etholiadau cenedlaethol am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 1987. Yn ei etholaeth yn Clydesdale, fodd bynnag, dim ond tua 14.8% o'r bleidlais a gafodd, y bedwaredd gyfran uchaf o'r bleidlais, a methodd gael lle yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn etholiad Senedd yr Alban 1999, safodd Russell ar gyfer mandad uniongyrchol etholaeth De Cunninghame, ond cafodd ei drechu gan yr ymgeisydd Llafur Irene Oldfather.[8] Fodd bynnag, gan ei fod yn ail ar y rhestr etholiadol rhanbarthol ar gyfer rhanbarth etholiadol De'r Alban, derbyniodd Russell un o saith sedd restr yn y rhanbarth etholiadol ac aeth i Senedd yr Alban.[9] Yng nghabinet cysgodol yr SNP, bu Russell yn Ysgrifennydd Gwladol dros Blant ac Addysg rhwng 2000 a 2003. Ef hefyd oedd llefarydd y blaid ar ddarlledu a Gaeleg.[5] Yn etholiad cyffredinol Senedd yr Alban 2003, ni lwyddodd eto i ennill y mandad uniongyrchol ar gyfer De Cunninghame.[10] Gan mai dim ond yn bedwerydd y gosodwyd Russell ar y rhestr etholiadol rhanbarthol ar gyfer yr etholiadau hyn, ni chafodd fandad ac felly gadawodd y senedd.[11] Yn 2004, safodd Russell mewn etholiad ar gyfer arweinyddiaeth yr SNP gan dderbyn y drydedd gyfran uchaf o'r bleidlais gyda 9.7% o'r bleidlais, y tu ôl i Alex Salmond (75.6%) a Roseanna Cunningham (14.6%).[6]
Yn etholiad cyffredinol 2007, safodd Russell dros etholaeth Dumfries, ond dim ond y trydydd nifer uchaf o bleidleisiau a gafodd.[12] Er gwaethaf hyn, enillodd sedd seneddol eto, y tro hwn i ranbarth etholiadol De'r Alban.[13] Yn dilyn yr etholiad, fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, swydd a ddaliodd hyd 2009, pan gafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Materion Tramor a'r Cyfansoddiad. Ar ddiwedd 2009, penodwyd Russell yn Weinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes.[5] Yn etholiad cyffredinol Senedd yr Alban 2011, safodd dros etholaeth Argyll a Bute, gan gymryd lle ei gyd-bleidiwr Jim Mather, na safodd yn yr etholiad, ac fe llwyddodd Russell i ennill sedd etholaeth am y tro cyntaf.[14] Cadwodd ei swydd weinidogol heb ei newid tan ddiwedd 2014,[5] ac olynwyd ef gan Angela Constance.
Gaeleg
golyguMae Russell wedi dysgu Gaeleg yn rhugl. Rhoddodd gefnogaeth fawr i’r Aeleg yn y Senedd yr Alban, yn enwedig gyda’r Bil Gaeleg cyntaf yn 2002. Yn 2010, traddododd araith yn Gaeleg yng Nghyngor Ewrop - dyna'r tro cyntaf i hynny ddigwydd.[15][16]
Yn 2009 traddododd 'Óraid an t-Sabhail' darlith flynyddol bwysig Sabhal Mòr Ostaig (sefydliad addysg uwch uniaith Gaeleg).
Sefydlu Gŵyl Cyfryngau Celtaidd
golyguYng ngwanwyn 1979 roedd Russell yn gweithio fel Cyfarwyddwr Sgire Cinema yn Ynysoedd Allanol Heledd. Sinema Sgire oedd yr unig gyfrwng yn yr Alban ar gyfer cynhyrchu fideo yn yr iaith Aeleg, ni chafodd yr un ei wneud gan y BBC na’r cwmnïau ITV a doedd gan neb arall fynediad i offer recordio fideo.
Sbardunodd cyfuniad o doriadau i wariant cyhoeddus a diffyg gwybodaeth i Michael Russell deithio i Iwerddon, Cymru a Llydaw yn ystod gaeaf 1979 i ddarganfod gymaint ag y gallai am gynhyrchu rhaglenni neu ffilm yn yr ieithoedd brodorol yno, ac i weld a oedd eraill yn rhannu ei weledigaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac unioni'r anghydbwysedd yn erbyn yr ieithoedd Celtaidd. Heb ddim cefnogaeth o bwys ac mewn tri mis, aeth ymlaen â’i benderfyniad i gynnal y Festival of Celtic Film (fel y'i galwodd) yn Ne Uist yn Ebrill 1980.
Wedi llwyddiant yr ŵyl gyntaf, cytunwyd y dylid cynnal un eto a chreu strwythur i hwyluso deialog rhwng y rhai a oedd yn gweithio ym myd teledu a ffilm yn y gwledydd Celtaidd. Gydag amser tyfodd ac addasodd yr Ŵyl gan newid ei henw i'r un gyfredol, sef Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, er mwyn adlewyrchu natur y diwydiant.[4]
Cyhoeddiadau
golyguMae Russell wedi bod yn weithgar ym maes y cyfryngau a chyhoeddi erioed gan fod yn sylwebydd cyson ar ddiwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas yr Alban. Mae’n berchen ar gwmni teledu, White Swan ac wedi ysgrifennu sawl llyfr.
- (Gol.): Glasgow – The Book, 1990
- (Fol.): Edinburgh – A Celebration, 1992, ISBN 978-1-85158-517-5
- A Poem of Remote Lives: Images of Eriskay, 1934 – Enigma of Werner Kissling, 1895-1988, 1997, ISBN 978-1-89778-446-4
- In Waiting: Travels in the Shadow of Edwin Muir, 1998, ISBN 978-1-89778-463-1
- A Different Country: Photographs by Werner Kissling, 2002, ISBN 978-1-84158-245-0
- (Fol.), Winnie Ewing: Stop the World – The Autobiography of Winnie Ewing, 2004, ISBN 978-1-84158-239-9
- (gyda D. McLeod): Grasping the Thistle: How Scotland Must React to the Three Key Challenges of the Twenty First Century, 2006, ISBN 978-1-90283-186-2
- The Next Big Thing: A Fable of Modern Scotland, 2007, ISBN 978-1-90597-400-9
- (gyda I. McKie): Shirley McKie: The Price of Innocence, 2007, ISBN 978-1-84158-575-8
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "FreeBMD Entry Info". Freebmd.org.uk. Cyrchwyd 2012-05-06.
- ↑ Archifwyd (Dyddiad ar goll) yn y UK Parliament's Web Archive
- ↑ Gwybodaeth Llywodraeth yr Alban
- ↑ 4.0 4.1 "Who We Are". Gwefan Gŵyl Cyfryngau Celtaidd. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 "Michael Russell MSP". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-15. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ 6.0 6.1 , alba.org.uk, http://www.alba.org.uk/scot07constit/s05.html
- ↑ "Michael Russell steps down as SNP president". BBC news. 2023-12-01. Cyrchwyd 2023-12-02.
- ↑ Canlyniadau Etholiadau 1999 ar gyfer Etholiad Senedd yr Alban]
- ↑ Canlynidau Etholiad 1999 ar gyfer Senedd yr Alban
- ↑ Canlyniadau Etholiad 2003 ar gyfer Senedd yr Alban
- ↑ Canlyniadau Etholiad 2003 ar gyfer Senedd yr Alban
- ↑ Canlyniadau Etholiad 2007 ar gyfer Senedd yr Alban
- ↑ Canlyniadau Etholiad 2007 ar gyfer Senedd yr Alban
- ↑ Canlyniadau Etholiad 2011 ar gyfer Senedd yr Alban
- ↑ "European Council landmark for Gaelic". BBC News. 9 Mai 2010. Cyrchwyd 2012-05-02.
- ↑ "Mike Russell addresses EU meeting in Gaelic". BBC News. 11 Mai 2010. Cyrchwyd 2012-05-02.