Mamaldof yw ceffyl sy'n perthyn i deulu'r equidae. Mae ceffylau wedi cael eu defnyddio gan bobl ers rhai miloedd o flynyddoedd ar gyfer marchogaeth a thynnu cerbydau neu gerbydau rhyfel a thynnu'r aradr. Heddiw, mae rasio ceffylau yn parhau yn boblogaidd iawn. Megir ceffylau hefyd am eu cig mewn rhai gwledydd fel Ffrainc ac mae yfed llaeth caseg yn boblogaidd ym Mongolia. Yng Nghymru ceir Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig i warchod a bridio rhywogaeth sy'n unigryw i Gymru ee Merlyn mynydd Cymreig.