Y Dyfawden

pentref a chymuned yn Sir Fynwy

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Y Dyfawden (Saesneg: Devauden).[1][2] Saif i'r gogledd-orllewin o dref Cas-gwent ar ffordd y B4293. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref bychan Fedw.

y Dyfawden
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,070 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6874°N 2.7493°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001062 Edit this on Wikidata
Cod OSST483990 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map

Mae'r sillafiad Cymraeg yn mynd yn ôl i 1677 a "Devawden" yn 1464, ac mae'r gair yn enwau ar gaeau lleol hefyd ("Devauden acer"; 1583) ym Masaleg ar gyrion gorllewinol Casnewydd. Tarddiad y gair yw "defod" (hen sillafiad: 'defawd') hynny yw "arferiad", "ffasiwn", "arddull"[3] ond mae hefyd yn bosibl ei fod yn cyfeirio at glwt o dir, bychan (maint bawd). Mae'n bosibl hefyd fod y "De" ar ddechrau'r gair yn Ffrengig gan mai'r cyfeiriad cyntaf ato yw'r ffurf de vaudeñ (13g).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[5]

Ceir Croes Cilgwrwg yn yr eglwys leol, a gofrestrwyd gan Cadw.

Dywedir i John Wesley bregethu ei bregeth gyntaf yng Nghymru yn y Dyfawden ar 15 Hydref 1739.

Y Dyfawden


Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Dyfawden (pob oed) (1,040)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Dyfawden) (116)
  
11.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Dyfawden) (464)
  
44.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Dyfawden) (124)
  
29%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Chwefror 2022
  3. Dictionary of the Placenames of Wales, gol. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]