Rheilffordd Ganolog Chubut

Rheilffordd Ganolog Chubut (Sbaeneg: Ferrocarril Central del Chubut) oedd y rheilffordd a adeiladwyd gan drigolion y Wladfa yn nhalaith Chubut, Patagonia yn yr Ariannin.

Rheilffordd Ganolog Chubut
Puerto Madryn terminus, c. 1930.
Trosolwg
MathRheilffordd ddinesig
Inter-city railway
StatwsDaeth i ben
LleolChubut
TerminiPuerto Madryn
Las Plumas
Nifer mwyaf197,936 (1948)
O ddydd i ddydd
Agorwyd1888
Ceuwyd1958; 66 blynedd yn ôl (1958)
PerchennogLlywodraeth yr Ariannin
O ddydd i ddyddFerrocarriles Argentinos
Technegol
Cul neu safonol?750mm (2 tr 5 1⁄2 modf)
Map

Hanes golygu

Yn 1884 rhoddodd llywodraeth yr Ariannin hawl i Lewis Jones i adeiladu a rhedeg rheilffordd rhwng rhan isaf Dyffryn Camwy a phorthladd Porth Madryn. Roedd y rheilffordd yn angenrheidiol am nad oedd aber Afon Camwy yn addas i'w ddefnyddio gan longau o unrhyw faint, tra oedd y Bae Newydd ger y Península Valdés yn angorfa ragorol.

Gyda chymorth y peiriannydd Azhabel P. Bell, sefydlodd Lewis Jones gwmni yn Lerpwl i ariannu'r ymgymeriad. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1886, gydag offer adeiladu a 400 o ymfudwyr i wethio ar y rheilffordd yn cyrraedd ar 28 Gorffennaf y flwyddyn honno ar y stemar Vesta.

Edward Jones Williams o Fostyn oedd tirfesurydd y lein. Roedd o wedi cyrraedd Patagonia ym 1881 ac wedi gweithio ar y camlesi cynnar yn yWladfa. Aeth y lein o Borth Madryn, yn cyrraedd y 'pampas' ar ôl 11 cilomedr ac yn mynd yn syth am 30 milltir cyn disgyn yn serth i ddyffryn Chubut ac i Drelew. Ac ar 11 Tachwedd 1888 agorwyd rheilffordd 70 km rhwng Trelew a Phorth Madryn. Lled y trac oedd 1 medr. Daeth sliperi dur o Gwmni Haearn Rhymney, cledrau o Lynebwy, a byrddau tro o Fowndri Risca. Daeth locomotifau o gwmni Sharp Stewart a Beyer Peacock ym Manceinion Roedd y gweithwyr gwreiddiol wedi cytuno i ddod i Batagonia wedi cynnig o dir yn y wladfa, a doedden nhw ddim yn hapus efo safon y tir; Dywedodd Capten Kennedy (capten y llong HMS Ruby sydd wedi ymweld â'r wladfa ym 1887) bod chwarter y gweithwyr wedi gadael. Aeth Edward Jones Williams i Buenos Aires i chwilio am weithwyr Eidaleg, ac o ganlyniad mae gan Rawson gymuned Eidaleg. [1].

Estyniadau golygu

Ymestynwyd y rheilffordd o Drelew am 50 km arall i Gaiman ar 31 Rhagfyr 1908. Dechreuodd gwaith ar estyniad i Valle Superior yng Ngorffennaf 1914, ac agorwyd y lein 12 milltir o hyd ar 12 Hydref 1915. Daeth Valle Superior yn Ddolafon yn hwyrach. Adeiladwyd twnnel 282 medr o hyd i orllewin Gorsaf reilffordd Dolafon gan lowyr o De Cymru, ond dywedir bod rhai wedi gadael, a chymerwyd eu lle gan weithwyr o'r Wlad Pwyl[2]. Daeth y cwmni yn eiddo'r wladwriaeth yn 1920. Yn ddiweddarach, ymestynwyd y rheilffordd cyn belled a Dol y Plu. Caewyd hi yn 1961.

Locomotifau golygu

Roedd gan y rheilffordd 10 locomotifau, ac roedd y 2 gyntaf yna ar y diwrnod agoriadol.

Rhif 1 'Fontana' golygu

injan 0-4-2, adeiladwyd gan gwmni Sharp Stewart ym Manceinion ym 1886.. Enwyd ar ôl llywydd talaith Chubut, Luis Jorge Fontana. Tynnwyd o wasanaeth ym 1899. Named 'Fontana' after the Governor of Chubut, Luis Jorge Fontana. A Sharp Stewart (Atlas Works, Manchester) 0-4-2, no. 3360 of 1886. Withdrawn 1899.

Rhif 2 'Presidente Roca' golygu

Tebyg i rif 1. Adeiladwyd ym 1886. Goroeswyd hyd at newid lled y traciau yn y 1920au, ac oedd mewn stordy hyd at 1940/1.

Rhif 3 golygu

Injan 2-6-0, adeiladwyd gan Beyer Peacock ym 1988, seiliedig ar locomotifau adeiladwyd ar gyfer De Awstralia. Tynnwyd o wasanaeth ar adeg newid lled, goroesodd, ac erbyn hyn yn ymddangos yn hen orsaf reilffordd Porth Madryn.

Rhifau 4 a 5 golygu

2-6-0, adeiladwyd gan Beyer Peacock ym 1907; tebyg I rif 3 efo gwahanieithau manwl.

Rhif 6 golygu

2-6-0 adeiladwyd gan gwmni Hudswell Clark ym 1912. Copi o rifau 4 a 5 efo gwahanieithau manwl.

Rhif 21 golygu

0-6-0ST adeiladwyd gan gwmni Hunslet ym 1908. Roedd mewn stordy ym 1940.

Rhifau 118 a 119 golygu

Locomotifau Fives Lille, adeiladwyd yn Frainc. Yn ôl Sydney Jones, rheolydd gorsaf reilffordd Gaiman rhwng 1934 a 1954 roedd angen locomotifau i gymryd lle rhifau 3 a 5 ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, felly prynwyd 118 a 119 o Reilffordd Ganolog y Gogledd. Daethant cynt o Reilffordd San Cristobal y Tucuman. Aethant yn ôl i Reilffordd Ganolog y Gogledd ym 1934.

0-6-0T golygu

Locomotif Fives Lille, adeiladwyd ym 1910.

Defnyddiwyd lo stêm De Cymru o Gaerdydd vessel.[3].

Cyfeiriadau golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Colin M. Lewis, British Railways in Argentina 1857-1914: A Case Study of Foreign Investment, Athlone Press (for the Institute of Latin American Studies, University of London), 1983.