System cyfiawnder i Gymru
Ar hyn o bryd, mae'r system gyfiawnder yng Nghymru yn rhan o system gyfiawnder Cymru a Lloegr. Mae sawl galwad wedi bod am system gyfiawnder i Gymru yn unig a fyddai yn cwympo o dan reolaeth y Senedd.
Cefndir
golyguRoedd system Cyfraith Hywel yn system cyfreithiol Cymreig a gafodd ei chodeiddio gan Frenin Cymru, Hywel Dda a fu farw yn y flwyddyn 950.[1] Collodd cyfraith Hywel ei phwysigrwydd a'i statws yn dilyn concwest Cymru gan Edward I a Statud Rhuddlan ym 1284. Er hyn, roedd y gyfraith yn parhau i fod yn bwysig yng Nghymru tan Ddeddfau Cyfreithiau Cymru 1535 a 1542 ("Y Deddfau Uno").[2]
Ers y Deddfau Uno, mae Cymru wedi bod yn rhan o awdurdodaeth gyfreithiol sengl "Cymru a Lloegr". Ar hyn o bryd, mae’r materion a ganlyn dan reolaeth San Steffan, sy’n golygu na ellir eu diwygio gan Ddeddf Senedd Cymru: (a) llysoedd; (b) barnwyr; (c) achosion sifil neu droseddol; (d) pardonau am droseddau; (d) cyfraith ryngwladol breifat; (f) adolygiad barnwrol o gamau gweinyddol yn ogystal â phlismona. Er gwaethaf argymhellion ar gyfer datganoli’r materion hyn i Senedd Cymru gan adroddiadau ac unigolion, mae llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn anghytuno â datganoli cyfiawnder i Gymru.[3]
Cyflwr cyfiawnder yng Nghymru
golyguCyhoeddi ffigurau penodol i Gymru
golyguYn 2019, dangosodd ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ffigurau penodol i Gymru am y tro cyntaf erioed. Roedd ffigyrau dedfrydu yn dangos bod 154 o garcharorion am bob 100,000 o bobl yng Nghymru, yr uchaf yng Ngorllewin Ewrop. Daeth Lloegr yn ail gyda 141 fesul 100,000, yr Alban yn drydydd gyda 135 a Sbaen yn bedwerydd gyda 134. Roedd mwy o bobl yn cael eu carcharu yng Nghymru er gwaethaf cyfradd droseddu is nag yn Lloegr bob blwyddyn rhwng 2013 a 2017. Dywedodd Dr Robert Jones, "Yn raddol, mae darlun manwl yn dod i'r amlwg o'r system gyfiawnder yng Nghymru a sut mae'n dra gwahanol i un Lloegr."[4]
Mewn ymateb i'r ffigyrau hyn, dywedodd Plaid Cymru fod y system pennyd yn methu ac fod y ffigyrau yn cyfrannau at y ddadl y dylai'r system gyfiawnder gael ei detganoli i Gymru. Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Staffan, Liz Saville Roberts "Mae'n gywilydd fod Cymru ar frig y tabl cynghrair. dylai bod ein Cynulliad Cenedlaethol dros Cymru yn cymryd rheolaeth o'n system carchar fel ein bod yn gallu creu un sydd yn addas ar gyfer anghenion unigryw ein cenedl ac ddim yn gadael i San Steffan i orfodi ei pholisiau anaddas".[5]
Dywedodd Jane Hutt, Aelod o’r Senedd (AS) sy’n gyfrifol am bolisi cyfiawnder, “Er bod cyfiawnder yn parhau i fod yn swyddogaeth nad yw wedi’i datganoli, mae gwaith ar y gweill i gael y datrysiad gorau posibl i Gymru. Gan weithio gyda Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a HMPPS [gwasanaeth carchardai a phrawf llywodraeth y DU], rydym yn datblygu cynigion ar sut y byddai system gyfiawnder unigryw a gwahanol yn gweithredu’n benodol ar gyfer troseddwyr benywaidd a throseddwyr ifanc yng Nghymru. Mae ymyrraeth gynnar ac atal yn allweddol - mae ystyried sut y gallwn ddargyfeirio pobl oddi wrth droseddu yn y lle cyntaf mewn ffordd gyfannol ac adsefydlu yn hanfodol i ragolygon Cymru ar gyfer y dyfodol.”[5]
Ym mis Hydref 2022, wrth gyhoeddi ei lyfr "The Welsh Criminal Justice System", dywedodd Dr Robert Jones: “Ar lawer o fesurau allweddol, fe welwn fod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n perfformio hyd yn oed yn waeth na’r un yn Lloegr, sy’n haeddu cael ei hadnabod ymhlith y systemau sy’n perfformio waethaf yng ngorllewin Ewrop. Mae nifer fwy o droseddau treisgar yn cael eu cyflawni, ac mae’r data ar hiliaeth yn peri pryder drwyddi draw. Mae mwy o bobl yn cael eu carcharu yma nag yn Lloegr, ac mae cyfran uwch o’r boblogaeth yn cael ei goruchwylio i ryw raddau yn ystod cyfnod prawf.
Ar y cyfan, ni allwn osgoi dod i’r casgliad bod y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n ddiffygiol, o ran strwythur ac ar lefel endemig.”[6]
Carcharorion benywaidd
golyguYm mis Chwefror 2023, dangosodd adroddiad newydd fod carcharorion benywaidd o dde Cymru yn cael eu gorfodi i gyflawni eu dedfrydau yn Lloegr ac yn byw mewn amodau gwael. Oherwydd hyn, mae'n rhaid i deulu a ffrindiau carcharorion benywaidd deithio i Loegr ar gyfer ymweliadau. Dywedodd Jenny Rathbone, AS dros Ganol Caerdydd a Chadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, “Yn y pen draw mae angen i ni gael datganoli Cyfiawnder i Gymru – mae’n waith sydd ar y gweill.”[7]
Cynigion ar gyfer y system Gymraeg
golyguArgymhellodd Comisiwn Silk yn 2014 yr amserlen ddatganoli ganlynol;
- 2017: system cyfiawnder ieuenctid
- 2017: heddlu
- Erbyn 2018: gorffen yr adolygiad o ddatganoli carchardai a’r gwasanaeth prawf
- Parhaus: datganoli gweinyddol y system llysoedd
- Erbyn 2025: cwblhau a gweithredu [3]
Yn 2015, arweiniodd papur gan lywodraeth y DU[8] at gytundeb ar ddatganoli gweinyddol pellach yn y system llysoedd a chreu Bwrdd Cyfiawnder Troseddol i Gymru. Rhoddodd Deddf Cymru 2017 y cytundebau hyn ar waith.[3]
Yn 2018, galwodd Jeremy Miles, a oedd yn Gyngor Cyffredinol Cymru ac yn Aelod o’r Senedd, am ddatganoli cyfiawnder i helpu i atal trosedd.[9]
Cynhyrchodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru adroddiad yn 2019 yn asesu’r system gyfiawnder yng Nghymru am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd. Beirniadodd yr adroddiad y modd y mae llywodraeth y DU yn ariannu cyfiawnder yng Nghymru, gan nodi bod y toriadau i'r gyllideb cyfiawnder gan lywodraeth y DU "ymhlith y mwyaf difrifol o'r holl doriadau cyllideb adrannol". Mae'r adroddiad yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei harian ei hun i geisio "lliniaru effeithiau niweidiol y polisïau hyn". Mae 40% o gyllid cyfiawnder yn cael ei gyfrannu yng Nghymru. Mae hyn yn ychwanegol i arian trethdalwyr Cymreig a delir i San Steffan sy’n cael ei ailddosbarthu yn ôl i Gymru. Penderfynodd yr adroddiad y dylai "cyfiawnder gael ei benderfynu a'i gyflwyno yng Nghymru".[10] I grynhoi, gwnaeth yr adroddiad yr argymhellion fel y ganlyn: Dylai cyfrifoldebau cyfiawnder gael eu dal gan un Aelod Seneddol ac adran, ffurfio Bwrdd Cyfiawnder Troseddol i Gymru, dylai data cyfiawnder troseddol fod yn benodol i Gymru gyda mwy o fanylder a defnydd cynyddol o ddewisiadau carchar eraill, yn enwedig ar gyfer menywod.[11]
Sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru yn dilyn argymhellion gan y Comisiwn Cyfiawnder annibynnol yng Nghymru yn 2019 a nododd weledigaeth y system gyfreithiol yng Nghymru. Cadeiriwyd y comisiwn gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr.[12] Sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru er mwyn hybu addysg, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gyfreithiol o gyfraith Cymru. Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi datblygiad economaidd a chynaliadwyedd y gyfraith yng Nghymru.[12] Cynlliniwyd y cyfarfod cyntaf ar gyfer Tachwedd 2021.[13]
Ym mis Mai 2022 cynhyrchodd Llywodraeth Cymru ddogfen o'r enw "Cyflawni cyfiawnder i Gymru", a ysgrifennwyd gan Mick Antoniw a Jane Hutt . Mae'r cyhoeddiad yn dweud bod datganoli cyfiawnder i Gymru yn 'anochel', ac yn cynnig yr "elfennau craidd" fel y ganlyn:
- Ffocws ar atal ac adsefydlu
- Lleihau poblogaeth y carchar drwy fynd ar drywydd dewisiadau eraill yn lle carcharu lle bo’n briodol. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglenni i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl a chymorth a thriniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
- Defnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau at y gyfraith a llunio polisïau, ac ymgorffori ymhellach hawliau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol mewn cyfraith ddomestig[14][15]
Ym mis Tachwedd 2022, galwodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts hefyd am ddatganoli cyfiawnder i Gymru mewn dadl yn San Steffan. Dywedodd cyn y ddadl, “Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain, Manceinion. Mae gan rain i gyd naill ai reolaeth lwyr, neu rywfaint o reolaeth ddatganoledig dros gyfiawnder." “Mae Cymru, ar y llaw arall, yn parhau i gael ei thrin fel atodiad i Loegr er gwaethaf tystiolaeth llethol o’r niwed y mae hynny'n ei achosi.”[16] Mewn ymateb i’r ddadl yn San Steffan dan arweiniad Liz Saville Roberts, dywedodd llywodraeth y DU “Mae Llywodraeth y DU yn anghytuno â datganoli cyfiawnder i Gymru. . ."[17]
Ym mis Rhagfyr 2022 ailadroddodd y prif weinidog Mark Drakeford ei awydd am ddatganoli cyfiawnder a dywedodd am gynigion maniffesto Llafur Gordon Brown ar ddatganoli’r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid, “mewn ffordd ymarferol, dylem ganolbwyntio ar yr agweddau hynny yn gyntaf, ac os gallwn sicrhau eu datganoli i Gymru, yna byddwn yn gallu symud ymlaen oddi yno i'r agweddau eraill a fyddai'n dilyn."[18]
Yn yr un mis, bu academyddion o Gymru, yr Athro Richard Wyn Jones a Dr Robert Jones yn galw am ddatganoli cyfiawnder i Gymru a chyhoeddi llyfr "The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge."[18][19] Ychwanegodd Wyn Jones, “Mae system cyfiawnder troseddol Cymru’n dal i fod mewn sefyllfa cyfansoddiadol cymhleth, lle nad yw’n sicr a yw’n hollol berthyn i San Steffan neu Fae Caerdydd. O ganlyniad, dyma faes polisi lle nad yw’r problemau sydd ynghlwm wrth y system cyfiawnder troseddol yn unig yn cyfyngu ar y ddwy lywodraeth, ond hefyd set unigryw a gor-gymhleth o drefniadau cyfansoddiadol.
“Nid yw datganoli’r system gyfiawnder troseddol yng Nghymru ynddo’i hun yn gwarantu y bydd y system yn well, ond mae’r system bresennol yn methu’r wlad, ei phobl a’i chymunedau mewn ffordd wael iawn, ac nid oes unrhyw obaith o fynd i’r afael â’r methiannau hynny mewn unrhyw ffordd systematig a difrifol nes bod y system wedi’i datganoli.”[20]
Heddlu
golyguYm mis Mai 2022, cynhyrchodd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddatganiad yn cefnogi datganoli cyfiawnder i Gymru. Roeddent hefyd yn cyfeirio at gyflwyno plismona penodol i Gymru yn ystod y pandemig covid a sylwadau’r cyn Arglwydd Ganghellor a ddywedodd, “Mae’n ymddangos eich bod yn well am wneud pethau gyda’ch gilydd yng Nghymru”.[21]
Mae Plaid Cymru yn cefnogi datganoli pwerau dros heddluoedd Cymru i Gymru, gan awgrymu y byddai heddluoedd Cymru yn derbyn £25 miliwn ychwanegol y flwyddyn, sy’n cyfateb i 900 o swyddogion heddlu ychwanegol.[22] Mae comisiwn Thomas ac enghreifftiau yn y cyfryngau cenedlaethol yng Nghymru hefyd wedi galw am ddatganoli plismona.[23] Mae plismona wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn barod.[24]
Mae cyn-brif weinidog Cymru a chomisiynydd presennol Heddlu De Cymru, Alun Michael hefyd yn cefnogi datganoli’r system blismona a chyfiawnder troseddol i Gymru.[25]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Laws of Hywel Dda - National Library of Wales". www.library.wales. Cyrchwyd 2023-02-24.
- ↑ "Daniel Huws' Article - 'Peniarth 28: illustrations from a Welsh Lawbook' - National Library of Wales". www.library.wales. Cyrchwyd 2023-02-24.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Tyler-Todd, Joe; Lalic, Maria. "The potential merits of the devolution of justice to Wales" (PDF).
- ↑ "Wales has 'highest imprisonment rate' in western Europe". BBC News (yn Saesneg). 2019-01-16. Cyrchwyd 2023-02-22.
- ↑ 5.0 5.1 Morris, Steven (2019-01-16). "Wales has highest incarceration rate in western Europe – study". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-02-22.
- ↑ "Datganoli'n 'gam angenrheidiol' tuag at system cyfiawnder troseddol well yng Nghymru, yn ôl academyddion". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2023-04-24.
- ↑ "Calls for devolution of Justice to Wales as report reveals shocking conditions women inmates face in English prison". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-02-22. Cyrchwyd 2023-02-22.
- ↑ "Powers for a purpose: Towards a lasting devolution settlement for Wales". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-22.
- ↑ "Welsh Government's top lawyer calls for justice devolution". BBC News (yn Saesneg). 2018-12-03. Cyrchwyd 2023-01-29.
- ↑ "Commission on Justice in Wales report". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-07.
- ↑ "Criminal justice in Wales: Two years since landmark report". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-04-15. Cyrchwyd 2022-04-07.
- ↑ 12.0 12.1 "Law Council of Wales Executive Committee members announced". Legal News (yn Saesneg). 2021-10-28. Cyrchwyd 2022-04-29.
- ↑ "Inaugural Law Council of Wales meeting set for November". Legal News (yn Saesneg). 2021-09-30. Cyrchwyd 2022-06-09.
- ↑ "Welsh Government outline principles for a reformed justice system". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-29.
- ↑ "Written Statement: Update on the development of the justice system and the legal sector in Wales (30 September 2021)". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-29.
- ↑ "Plaid Cymru call for devolution of justice to Wales - 'we can't be treated as an appendage to England'". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-11-29. Cyrchwyd 2022-11-29.
- ↑ "The potential merits of the devolution of justice to Wales". House of Commons Library.
- ↑ 18.0 18.1 "Devolution of criminal justice to Wales – will it actually happen?". research.senedd.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-05.
- ↑ "Video: "Jagged Edge" authors bring book discussion to Pontypridd". Prifysgol Caerdydd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-05.
- ↑ "Datganoli'n 'gam angenrheidiol' tuag at system cyfiawnder troseddol well yng Nghymru, yn ôl academyddion". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2023-04-24.
- ↑ "Justice in Wales Now and in the Future - A statement by the four Welsh Police & Crime Commissioners". www.dyfedpowys-pcc.org.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-22. Cyrchwyd 2023-02-22.
- ↑ "£25million extra for Welsh police forces". Police 2021 (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-29. Cyrchwyd 2022-04-29.
- ↑ "Senedd Explained: Why is policing and justice not devolved to Wales?". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-04. Cyrchwyd 2022-04-29.
- ↑ "Explained: Devolution in Wales, Scotland and Northern Ireland". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-06. Cyrchwyd 2022-07-06.
- ↑ "The potential folly of a single police force [Wales]". www.southwalescommissioner.org.uk. Cyrchwyd 2022-12-02.
Darllen pellach
golygu- Jones, Robert (2022). The Welsh Criminal Justice System (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 978-1-78683-945-9.