Pentrecwrt

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Pentre-cwrt (neu Pentrecwrt). Fe'i lleolir ar y ffordd A486 tua hanner ffordd rhwng Ceinewydd i'r gogledd a Chaerfyrddin i'r de, dwy filltir i'r de-orllewin o bentref Llandysul.

Pentrecwrt
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangeler Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0208°N 4.35°W Edit this on Wikidata
Map
Y felin wlan ym Mhentre-cwrt

Ganed y llenor adnabyddus T. Llew Jones yn y pentref yn 1915. Tua milltir o sgwâr y pentref, lleolir Cwm Alltcafan lle'r arferai melin wlan fodoli. Ysgrifennodd T. LLew Jones gerdd am Gwm Alltcafan hefyd.

Pregethodd y Bedyddiwr enwog, Christmas Evans, ei bregeth gyntaf yn y pentref hwn.


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato