Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2016
Pencampwriaeth Pêl-droed UEFA Euro 2016, a gyfeirir ato yn aml fel Euro 2016, oedd y 15fed Pencampwriaeth Ewrop ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion a drefnwyd gan UEFA. Fe'i cynhaliwyd yn Ffrainc rhwng 10 Mehefin hyd 10 Gorffennaf 2016.[1][2]
Championnat d'Europe de football 2016 (Ffrangeg) | |
---|---|
Logo Swyddogol UEFA Ewro 2016 Le Rendez-Vous | |
Manylion | |
Cynhaliwyd | Ffrainc |
Dyddiadau | 10 Mehefin – 10 Gorffennaf 2016 |
Timau | 24 |
Lleoliad(au) | 10 (mewn 10 dinas) |
← 2012 2020 → |
Roedd 24 o dimau yn cystadlu ym Mhencampriaeth Ewrop am y tro cyntaf wedi i UEFA godi nifer y timau o 16 (oedd wedi cystadlu yn y rowndiau terfynol ers 1996) i 24.[3]. O dan y fformat newydd roedd 24 tîm yn cystadlu mewn chwe grŵp o bedwar gydag 16 o dimau yn camu ymlaen i'r rownd nesaf. Roedd Ffrainc yn y rowndiau terfynol fel y wlad oedd yn cynnal y gystadleuaeth. Cystadleuodd 53 o wledydd UEFA rhwng Medi 2014 a Tachwedd 2015 am y 23 o lefydd eraill oedd yn weddill. Yn eu mysg roedd y deiliaid, Sbaen, ac am y tro cyntaf ers ymuno ag UEFA, Gibraltar.
Dewis Lleoliad
golyguRoedd pedwar cais i gynnal y gystadleuaeth wedi dod ger bron UEFA cyn y dyddiad cau ar 9 Mawrth 2009 sef Ffrainc, Twrci, Yr Eidal a chais ar cyd rhwng Norwy a Sweden[4] ond tynodd Norwy a Sweden eu cais yn ôl ym mis Rhagfyr 2009[5]
Dewisiwyd y lleoliad ar 28 Mai 2010 gyda Ffrainc yn ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau (43 dewis cyntaf a 7 ail bleidlais) gyda Thwrci yn ail (38 a 6) a'r Eidal yn drydydd (23 pleidlais)[6].
- Canlyniadau'r etholiad
Gwlad | Rownd[7] | |
---|---|---|
1af (pwyntiau) | 2il (pleidleisiau) | |
Ffrainc | 43 | 7 |
Twrci | 38 | 6 |
Yr Eidal | 23 | – |
Cyfanswm | 104 | 13 |
- Rownd 1: Roedd pob un o'r 13 aelod ar Bwyllgor Gweithredol UEFA yn gosod y tri chais yn gyntaf, ail a thrydydd. Roedd safle cyntaf yn derbyn 5 pwynt, ail yn derbyn 2 bwynt a thrydydd yn derbyn 1 pwynt.
- Rownd 2: Roedd yr un aelodau yn pleidleisio am un o'r ddwy wlad gyrhaeddodd yr ail rownd.
Rowndiau rhagbrofol
golyguRoedd Ffrainc yn cyrraedd y rowndiau terfynol fel y sawl sy'n cynnal y gystadleuaeth gyda 53 o wledydd UEFA yn cystadlu rhwng Medi 2014 a Tachwedd 2015 am y 23 o lefydd eraill yn weddill. Daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer y gemau rhagbrofol yn y Palais des Congres Acropolis, Nice ar 23 Chwefror 2014 gyda'r timau yn cael eu rhannu i wyth grŵp o chwe tîm ac un grŵp o bump tîm.
Roedd enillwyr pob grŵp, y timau yn yr ail safle a'r tîm oedd â'r record gorau o'r holl dimau yn y trydydd safle yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol. Roedd yr wyth tîm arall orffennodd yn y trydydd safle yn wynebu ei gilydd mewn gemau ail gyfle ar gyfer y pedwar lle arall yn y rowndiau terfynol.[8][9][10]
Timau llwyddiannus
golygu
|
|
|
|
Didoli
golyguDaeth yr enwau allan o'r het ar gyfer y rowndiau terfynol yn y Palais des congrès de Paris ym Mharis ar 12 Rhagfyr 2015.[1][2][11].
|
|
|
|
Lleoliadau
golyguCafwyd 12 stadiwm yn rhan o gais gwreiddiol Ffrainc ar 28 Mai 2010 gyda Ffederasiwn Bêl-droed Ffrainc yn bwriadu cwtogi'r rhestr i naw stadiwm erbyn mis Mai 2011. Yn ogystal â'r Stadiwm Genedlaethol, y Stade de France, roedd pedair stadiwm newydd i'w hadeiladu yn Lille, Lyon, Nice a Bordeaux, a phenderfynwyd cynnal gemau hefyd yn y ddwy ddinas fwyaf, Paris a Marseille.
Tynodd Strasbourg yn ôl ar ôl i'r clwb ddisgyn allan o Ligue 1 [12] a dewisiwyd Lens a Nancy gyda Saint-Étienne a Toulouse yn cael eu gosod ar y rhestr wrth gefn.
Ym mis Mehefin 2011, wedi i'r gystadleuaeth gael ei hymestyn i 24 tîm, penderfynwyd codi nifer y meysydd i 11[13] gan olygu y byddai Toulouse a Saint-Étienne yn cael eu defnyddio, ond ym mis Rhagfyr 2011 tynodd Nancy yn ôl wedi i'w cynlluniau i uwchraddio'r stadiwm fethu[14] gan adael deg lleoliad ar gyfer y bencampwriaeth.
Y Stade de la Beaujoire yn Nantes a'r Stade de la Mosson ym Montpellier yw'r lleoliadau fu'n rhan o Gwpan y Byd 1998 na gafwyd eu defnyddio eto yn 2014.
- ^1 – Cynhaliwyd gemau yng Nghwpan y Byd 1938
- ^2 – Cynhaliwyd gemau yng Nghwpan y Byd 1998
- ^3 – Cynhaliwyd gemau yng Cwpan Cenhedloedd Ewrop 1960
- ^4 – Cynhaliwyd gemau yng Euro 1984
- ^5 – Cynhaliwyd gemau yng Cwpan Conffederasiynau FIFA 2003
- ^6 – Amcangyfrifir maint y torfeydd
Rownd y Grwpiau
golyguGrŵp A
golyguTîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ffrainc | 3 | 2 | 1 | 0 | 4 | 1 | +3 | 7 |
y Swistir | 3 | 1 | 2 | 0 | 2 | 1 | +1 | 5 |
Albania | 3 | 1 | 0 | 2 | 1 | 3 | -2 | 3 |
Romania | 3 | 0 | 1 | 2 | 2 | 4 | -2 | 1 |
Grŵp B
golyguTîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cymru | 3 | 2 | 0 | 1 | 6 | 3 | +3 | 6 |
Lloegr | 3 | 1 | 2 | 0 | 3 | 2 | +1 | 5 |
Slofacia | 3 | 1 | 1 | 1 | 3 | 3 | 0 | 4 |
Rwsia | 3 | 0 | 1 | 2 | 2 | 6 | -4 | 1 |
Grŵp C
golyguTîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
yr Almaen | 3 | 2 | 1 | 0 | 3 | 0 | +3 | 7 |
Gwlad Pwyl | 3 | 2 | 1 | 0 | 2 | 0 | +2 | 7 |
Gogledd Iwerddon | 3 | 1 | 0 | 2 | 2 | 2 | 0 | 3 |
Wcráin | 3 | 0 | 0 | 3 | 0 | 5 | -5 | 0 |
Grŵp D
golyguTîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croatia | 3 | 2 | 1 | 0 | 5 | 3 | +2 | 7 |
Sbaen | 3 | 2 | 0 | 1 | 5 | 2 | +3 | 6 |
Twrci | 3 | 1 | 0 | 2 | 2 | 4 | -2 | 3 |
Y Weriniaeth Tsiec | 3 | 0 | 1 | 2 | 2 | 5 | -3 | 1 |
Grŵp E
golyguTîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
yr Eidal | 3 | 2 | 0 | 1 | 3 | 1 | +2 | 6 |
Gwlad Belg | 3 | 2 | 0 | 1 | 4 | 2 | +2 | 6 |
Gweriniaeth Iwerddon | 3 | 1 | 1 | 1 | 2 | 4 | −2 | 4 |
Sweden | 3 | 0 | 1 | 2 | 1 | 3 | −2 | 1 |
Grŵp F
golyguTîm | Chw | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Hwngari | 3 | 1 | 2 | 0 | 6 | 4 | +2 | 5 |
Gwlad yr Iâ | 3 | 1 | 2 | 0 | 4 | 3 | +1 | 5 |
Portiwgal | 3 | 0 | 3 | 0 | 4 | 4 | 0 | 3 |
Awstria | 3 | 0 | 1 | 2 | 1 | 4 | -3 | 1 |
Rowndiau Olaf
golyguRownd yr 16 | Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | |||||||||||
25 Mehefin - Saint-Étienne | ||||||||||||||
y Swistir | 1 (4) | |||||||||||||
30 Mehefin - Marseilles | ||||||||||||||
Gwlad Pwyl (c.o.s.) | 1 (5) | |||||||||||||
Gwlad Pwyl | 1 (3) | |||||||||||||
25 Mehefin - Lens | ||||||||||||||
Portiwgal (c.o.s.) | 1 (5) | |||||||||||||
Croatia | 0 | |||||||||||||
6 Gorffennaf - Lyon | ||||||||||||||
Portiwgal | 1 | |||||||||||||
Portiwgal | 2 | |||||||||||||
25 Mehefin - Paris | ||||||||||||||
Cymru | 0 | |||||||||||||
Cymru | 1 | |||||||||||||
1 Gorffennaf - Lille | ||||||||||||||
Gogledd Iwerddon | 0 | |||||||||||||
Cymru | 3 | |||||||||||||
26 Mehefin - Toulouse | ||||||||||||||
Gwlad Belg | 1 | |||||||||||||
Hwngari | 0 | |||||||||||||
10 Gorffennaf - Saint-Denis | ||||||||||||||
Gwlad Belg | 4 | |||||||||||||
Portiwgal | 1 | |||||||||||||
26 Mehefin - Lille | ||||||||||||||
Ffrainc | 0 | |||||||||||||
yr Almaen | 3 | |||||||||||||
2 Gorffennaf - Bordeaux | ||||||||||||||
Slofacia | 0 | |||||||||||||
yr Almaen (c.o.s.) | 1 (6) | |||||||||||||
27 Mehefin - Saint-Denis | ||||||||||||||
yr Eidal | 1 (5) | |||||||||||||
yr Eidal | 2 | |||||||||||||
7 Gorffennaf - Marseilles | ||||||||||||||
Sbaen | 0 | |||||||||||||
yr Almaen | 0 | |||||||||||||
26 Mehefin - Lyon | ||||||||||||||
Ffrainc | 2 | |||||||||||||
Ffrainc | 2 | |||||||||||||
3 Gorffennaf - Saint-Denis | ||||||||||||||
Gweriniaeth Iwerddon | 1 | |||||||||||||
Ffrainc | 5 | |||||||||||||
27 Mehefin - Nice | ||||||||||||||
Gwlad yr Iâ | 2 | |||||||||||||
Lloegr | 1 | |||||||||||||
Gwlad yr Iâ | 2 | |||||||||||||
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "UEFA EURO 2016: key dates and milestones". UEFA.com. 2013-02-01.
- ↑ 2.0 2.1 "UEFA EURO 2016 steering group meets in Paris". UEFA.com. 2012-10-23.
- ↑ "UEFA approves 24-team Euro from 2016". UEFA.com. Union of European Football Associations. 2008-09-27.
- ↑ "Four candidates signal UEFA Euro 2016 interest". UEFA.com. Union of European Football Associations. 2009-03-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-07. Cyrchwyd 2015-06-18.
- ↑ "Regeringen säger nej till EM 2016-ansökan". Swedish Football Association (yn Swedeg). 2009-12-09.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "France chosen to host Euro 2016". UEFA.com. Union of European Football Associations. 2010-05-28.
- ↑ AFP: France win race to host Euro 2016
- ↑ "UEFA EURO 2016 qualifying format". UEFA.com.
- ↑ "UEFA EURO 2016 regulations published". UEFA.com. 18 December 2013.
- ↑ "Regulations of the UEFA European Football Championship 2014-16" (PDF). UEFA.com.
- ↑ "Finals draw". UEFA.com.
- ↑ "Strasbourg se rétracte". Sport24 (yn Ffrangeg). 2011-07-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-13. Cyrchwyd 2015-06-18.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Bisson, Mark (2011-07-17). "France gets go-ahead to stage Euro 2016 in 11 host cities". World Football Insider. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-03. Cyrchwyd 2015-06-18.
- ↑ "Nancy renonce à accueillir l'Euro 2016". Agence France-Presse (yn Ffrangeg). Le Monde. 2011-12-02.CS1 maint: unrecognized language (link)