Yr Ymerodraeth Fysantaidd

(Ailgyfeiriad o Bysantiaid)

Yr Ymerodraeth Fysantaidd yw'r enw a roddir ar ran ddwyreiniol yr Ymerodraeth Rufeinig ar ôl i'r ymerodraeth fawr honno'n ymrannu'n dderfynol. Fe'i gelwir yr Ymerodraeth Fysantaidd am ei bod yn cael ei llywodraethu o ddinas hynafol Caergystennin a elwid yn Fysantiwm yn Roeg; Istanbul yw ei henw heddiw, dinas mwyaf Twrci ar lannau'r Bosporus.

Yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ei heithaf tua 550. Y tiriogaethau mewn porffor yw'r rhai a ail-goncwerwyd yn nheyrnasiad Iwstinian I.

Dechreuadau'r Ymerodraeth Fysantaidd

golygu

Mae'n anodd dweud pryd daeth yr Ymerodraeth Rufeinig i ben a phryd dechreuodd yr Ymerodraeth Fysantaidd. Rhannodd yr ymerodr Diocletian yr ymerodraeth yn ddwy ran, yr Ymerodraeth Ddwyreinol a'r Ymerodraeth Orllewinol, am bwrpasau gweinyddol, yn y flwyddyn 284. Gellir dyddio'r Ymerodraeth Fysantaidd o deyrnasiad Cystennin I, yr ymerodr Cristnogol cyntaf, a symudodd y brifddinas i Gaergystennin. Gellir hefyd ei dyddio i deyrnasiad Valens; lladdwyd ef yn ymladd yn erbyn y Gothiaid ym Mrwydr Adrianople yn 378, ac mae'r flwyddyn hon yn un o'r dyddiadau traddodiadol ar gyfer dechrau yr Oesoedd Canol. Arcadius a Theodosiws I oedd yr ymerodron olaf i reoli'r cyfan o'r ymerodraeth, gorllewin a dwyrain.

Mae eraill yn dadlau bod yr ymerodraeth Fysantaidd wedi ddechrau mor hwyr ag yn oes Heraclius (a wnaeth yr iaith Roeg yn iaith swyddogol), ac mae arbenigwyr arian bath yn ei gyfri o ddiwygiad ariannol Anastasius I yn 498. Dylid cofio, fodd bynnag, mai term a ddefnyddir gan haneswyyr diweddar yw "yr Ymerodraeth Fystantaidd", ac mai fel "yr ymerodraeth Rufeinig" y byddai ei thrigolion yn ei hystyried hyd ei diwedd yn 1453.

 
Y Palaiologos, symbol ymerodron diweddar Caergystennin

Yr Ymerodraeth Rufeinig yn y dwyrain

golygu

Daeth Diocletian yn ymerawdwr Rhufain yn 284, a gwnaeth newidiadau mawr yn nhrefn rheoli'r ymerodraeth. Sefydlodd y Tetrarchiaeth, oedd yn rhannu'r ymerodraeth yn bedwar. Yn rheoli'r rhannau hyn yr oedd dau Awgwstws, sef Diocletian ei hun a Maximinus, a dau "Cesar", Galerius a Constantius Chlorus. Roedd Diocletian, fel Awgwstws y dwyrain, yn gyfrifol am Thracia, Asia a'r Aifft; Galerius yn gyfrifol am y Balcanau heblaw Thracia, Maximinus fel Awgwstws y gorllewin yn rheoli Italia, Hispania ac Affrica, a'r Cesar Constantius Chlorus yn gyfrifol am Gâl a Phrydain. Roedd pob Awgwstws i fod i ymddeol ar ôl 20 mlynedd, gyda'r ddau Gesar yn dod yn Awgwstws yn eu lle. Ar 1 Mai 305 ymddeolodd Dioclecian a Maximianus yn ôl y cynllun; y tro cyntaf i ymerawdwr Rhufeinig ymddeol yn wirfoddol.

 
Cystennin Fawr, sylfaenydd Caergystennin.

Ar farwolaeth Constantius, yn Efrog ar 25 Gorffennaf 306, cyhoeddodd ei lengoedd ei fab Cystennin yn Awgwstws. Yn ystod y deunaw mlynedd nesaf bu Cystennin yn brwydro, yn gyntaf i ddiogelu ei safle fel cyd-ymerawdwr ac yn nes ymlaen i uno’r ymerodraeth. Ym Mrwydr Pont Milvius (312) enillodd fuddugoliaeth derfynol yn y gorllewin, ac ym Mrwydr Adrianople ( 323) gorchfygodd ymerawdwr y dwyrain, Licinius, a dod yn unig ymerawdwr (Totius orbis imperator).

Dywedir i Cystennin gael gweledigaeth cyn brwydr Pont Milvius. Gwelodd groes o flaen yr haul, yn darogan ei fuddugoliaeth. Wedi’r frwydr cymerodd arwydd Cristnogol, y ‘’Crismon’’ , fel baner. Credir i’w fam, Helena, oedd o deulu Cristionogol, gael dylanwad mawr arno. Yn 325 bu Cystennin yn gyfrifol am alw Cyngor Cyntaf Nicea a wnaeth y grefydd Gristionogol yn gyfreithlon yn yr ymerodraeth am y tro cyntaf. Er hynny ni chafodd ei fedyddio yn Gristion ei hun nes oedd ar ei wely angau. Ail-sefydlodd Cystennin ddinas Bysantiwm fel Caergystennin (Constantini-polis), Istanbul heddiw.

O 375 ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: Valens, Valentinian II a Gratian. Pan laddwyd Valens ym Mrwydr Adrianople yn 378, penododd Gratian Theodosiws yn ei le fel cyd-awgwstws yn y dwyrain. Lladdwyd Gratian mewn gwrthryfel yn 383, a bu farw Valentinian II yn 392, gan adael Theodosiws yn unig ymerawdwr. Teyrnasodd Theodosiws hyd 395; ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth Gristionogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.

Dilynwyd Theodosiws gan ei ddau fab, Honorius yn y gorllewin ac Arcadius yn y dwyrain, ac ni chafodd y ddau ran eu had-uno eto. Erbyn hyn roedd y Fisigothiaid dan eu brenin Alaric I yn bygwth yr ymerodraeth. Yn 401 gwnaeth gytundeb ag Arcadius a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin. Ym mis Awst 410 cipiodd ddinas Rhufain a'i hanrheithio, y tro cyntaf i'r ddinas gael ei chipio gan elyn ers 390 CC.

Cynhaliwyd Cyngor Chalcedon dan nawdd yr ymerawdwr Marcianus (450 - 457) yn ninas Chalcedon yng ngorllewin Asia Leiaf yn y flwyddyn 451. Dyma'r pedwaredd cyngor eglwysig i gael ei gynnal gan yr Eglwys gynnar. Ynddo comdemniwyd dysgeidiaeth monoffysyddiaeth, sy'n honni fod natur ddynol Crist wedi ei llwyr lyncu gan ei natur ddwyfol. Y ddysgeidiaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor oedd "dwy natur mewn un person". Ynyswyd rhai o'r eglwysi dwyreiniol, Eglwysi'r tri cyngor, mewn canlyniad, gan gynnwys yr Eglwys Goptaidd yn yr Aifft. Roedd y rhain yn credu mewn un natur, a bu ymryson rhwng y Monoffisiaid a'r Chalcedoniaid yn nodwedd o hanes yr ymerodraeth am y ddwy ganrif nesaf.

Daeth Leo I yn ymerawdwr yn 457, yr olaf o gyfres o ymerodron a osodwyd ar yr orsedd gan y cadfridog Alanaidd Aspar. Gwnaeth Leo gynghrair a'r Isawriaid, gan briodi ei ferch i'w harweinydd Tarasicodissa, a olynodd Leo fel yr ymerawdwr Zeno yn ddiweddarach. Trwy'r cynghrair yma, gallodd ddod yn rhydd o reolaeth Aspar. Bu'n ymladd llawer yn erbyn y Gothiaid dwyreiniol a'r Hyniaid a dechreuodd ymgyrch yn erbyn y Fandaliaid yn 468, ond fe'i gorchfygwyd oherwydd brad ei frawd-yng-nghyfraith Basiliscus.

Pan fu farw yn 474, olynwyd ef Leo II, mab ei ferch Ariadne a'i gadfridog Zeno. Bu farw Leo II yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a daeth Zeno yn ymerawdwr ar ei ben ei hun. Nid oedd yn boblogaidd gyda'r bobl, oherwydd mai tramorwr a ystyrid yn farbariad ydoedd. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a'i gorfododd i ffoi i Antioch, a daeth Basiliscus yn ymerawdwr yn 475. Fodd bynnag, aeth Basiliscus yn amhoblogaidd yn fuan, a gallodd Zeno ddychwelyd y flwyddyn wedyn, ac alltudio Basiliscus i Phrygia.

Roedd sefyllfa ymerodraeth y gorllewin wedi dirywio'n raddol yn ystod y 5g. Yn 455, llofruddiwyd dau ymerawdwr, a bu un arall farw mewn terfysg. Ar 4 Medi 476 diorseddwyd yr ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, Romulus Augustus, gan Odoacer, pennaeth yr Heruli. Bu raid i Zeno dderbyn hyn am y tro, ond llwyddodd i drefnu cytundeb heddwch a Geiseric, a roddodd ddiwedd ar ymosodiadau y Fandaliaid. Bu raid iddo dalu i arweinwyr yr Ostrogothiaid, Tewdrig Fawr a Tewdrig Strabo, i'w cadw rhag ymosod ar Gaergystennin. Yn ddiweddarach, daeth Tewdrig yn frenin yr holl Ostrogothiaid wedi marwolaeth Tewdrig Strabo, ond cafodd Zeno wared ohono o'r dwyrain trwy ei berswadio i ymosod ar Odoacer yn yr Eidal. Bu farw Zeno ar 9 Ebrill 491, a dewisodd ei weddw, Ariadne, Anastasius I fel ei olynydd.

Iwstinian I a'i olynwyr

golygu
 
Iwstinian I; mosäig yn Ravenna.

Daeth Iwstinian I yn ymerawdwr yn 527, ond mae'n bosibl ei fod eisoes yn rheoli'r ymerodraeth yn rhan olaf teyrnasiad ei ewythr, Justinus I (518–527). Yn 532, diogelodd Iwstinian ei ffîn ddwyreiniol trwy wneud cytundeb heddwch a Khosrau I, brenin Persia. Yr un flwyddyn bu terfysgoedd Nika yng Nghaergystennin; dywedir i'r rhain arwain at farwolaeth 30,000 o'r trigolion.

Dechreuodd Iwstinian ymgyrch i geisio adennill y tiriogaethau a gollwyd yn y gorllewin. Penododd y cadfridog Belisarius yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y Fandaliaid yng Ngogledd Affrica rhwng 533 a 534. Ym Mrwydr Ad Decimum (13 Medi 533) gerllaw Carthago, gorchfygodd Gelimer, brenin y Fandaliaid. Enillodd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau 534.

Yn 535 gyrrwyd Belisarius ar ymgyrch i geisio adennill tiriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin. Glaniodd yn yr Eidal, oedd ym meddiant yr Ostrogothiaid a chipiodd ddinas Rhufain yn 536, yna symudodd tua'r gogledd i gipio Milan yna yn 540 Ravenna, prifddinas yr Ostrogothiaid. Dywedir i'r Ostrogothiaid gynnig derbyn Belisarius fel Ymerawdwr y Gorllewin; cymerodd yntau arno dderbyn y cynnig a defnyddio'r cyfle i gymeryd brenin yr Ostrogothiaid yn garcharor. Yn ddiweddarach galwyd ef o'r Eidal i wynebu ymgyrch Bersaidd yn Syria 541 -542).

Dychwelodd Belisarius i'r Eidal yn 544, lle roedd y sefyllfa wedi newid yn fawr, a'r Ostrogothiaid dan eu brenin newydd Totila wedi adfenniannu gogledd yr Eidal, yn cynnwys Rhufain. Llwyddodd Belisarius i ail-gipio Rhufain am gyfnod, ond roedd yr ymerawdwr yn amau ei deyrngarwch, a galwyd ef yn ôl o'r Eidal, gyda Narses yn cymryd ei le.

 
Hagia Sophia

Yn ystod teyrnasiad Iwstinian yr adeiladwyd eglwys Hagia Sophia rhwng 532 a 537 yng Nghaergystennin, a ystyrir yn un o gampweithiau pensaernïaeth Fysantaidd. Y penseiri oedd dau Roegwr, Antemios o Tralles ac Isidoros o Miletus. Bu Iwstinian hefyd yn gyfrifol am ail-ysgrifennu Cyfraith Rhufain, y Corpus Juris Civilis sy'n parhau i fod yn sylfaen y gyfraith sifil mewn llawer o wledydd. Rhoddwyd diwedd ar gynlluniau mwyaf uchelgeisiol Iwstinian gan Bla Iwstinian, yn ôl pob tebyg y Pla Du, a darawodd yr ymerodraeth yn y 540au cynnar gan achosi nifer fawr o farwolaethau. Cafodd Iwstinian ei hun y pla, ond roedd ef yn un o'r ychydig a lwyddodd i wella ohono. Ceir hanes y cyfnod yng ngwaith yr hanesydd Procopius.

Olynwyd Iwstinian gan Justinus II, mab ei chwar Vigilantia. Bu ef yn llawer llai llwyddiannus fel ymerawdwr; cipiwyd yr Eidal gan y Lombardiaid yn 568, bu'n ymladd yn aflwyddiannus yn erbyn yr Afariaid a chollodd Syria i'r Persiaid. Erbyn diwedd ei deyrnasiad roedd yn dioddef o afiechyd meddyliol.

Dyrchafwyd Tiberius II Cystennin, oedd yn gyfaill i Justinus, yn gyd-ymerawdwr yn 574 ar gyngor yr ymerodres Sophia, a bu'n rheoli'r ymerodraeth ar y cyd a hi hyd ar farwolaeth Justinus, pan ddaeth yn ymerawdwr ar ei ben ei hun. Gorchfygodd y Persiaid yn Armenia, a diogelwyd tiriogaethau'r ymerodraeth yn Sbaen a Gogledd Affrica. Ni allodd atal y Slafiaid rhag ymosod ar y Balcanau. Enwodd ei fab-yng-nghyfraith, Mauricius, fel ei olynydd ychydig cyn ei farwolaeth yn 582; roedd sibrydion ei fod wedi ei wenwyno.

Eifeddodd Mauricius yr ymerodraeth ar gyfnod anodd, gyda thrafferthion ariannol, yr angen i dalu arian i aral yr Afariaid rhag ymosod a'r rhyfel yn erbyn Persia yn parhau. Gorchfygodd y Persiaid ger Dara yn 586. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu rhyfel catref ym Mhersia, a rhoddodd Mauricius fenthyg byddin i roi Chosroes II ar yr orsedd. Enillodd rannau o Mesopotamia ac Armenia yn gyfnewid am ei gymorth. Wedi cael heddwch ar ei ffîn ddwyreiniol, bu Mauricius yn ymladd yn y Balcanau, gan ad-ennill Singidunum oddi wrth yr Afariaid yn 592; ac enillodd ei gadfridog Priscus gyfres o fuddugoliaethau yn 593.

Yn 602, gorchymynodd yr ymerawdwr fod ei fyddin i dreulio'r gaeaf tu hwnt i Afon Donaw, a dechreuodd gwrthryfel dan arweiniad Phocas. Bu terfysg yng Nghaergystennin, a chymerwyd Mauricius yn garcharor wrth iddo geisio ffoi. Llofruddiwyd ef ar 27 Tachwedd, 602; dywedir i'w dri mab gael eu lladd o flaen ei lygaid yn gyntaf. Cyhoeddwyd Phocas yn ymerawdwr.

Heraclius a'i olynwyr

golygu
 
Yr ymerawdwr Heraclius yn derbyn gwrogaeth Khosrau, brenin Persia.

Achubodd Khosrau, brenin Persia, y cyfle i ddiddymu ei gytundeb a Mauricius ac ail-gipio Mesopotamia. Roedd Phocas yn amhoblogaidd a bu nifer o gynllwynion yn ei erbyn. Yn y diwedd, diorseddwyd ef gan Heraclius yn 610. Ymosododd y Persiaid ar Asia Leiaf, gan gipio Damascus a Jeriwsalem a dwyn y Wir Groes i Ctesiphon. Llwyddodd Heraclius i ddinistrio'r fyddin Bersaidd ger Ninefeh yn 627, a dychwelyd y Wir Groes i Jeriwsalem yn 629. Roedd yr ymladd wedi gwanhau yr ymerodraeth Fysantaidd a'r Persiaid fel ei gilydd, gan ei gwneud yn anodd iddynt wrthsefyll y byddinoedd Arabaidd a ymosododd arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Gorchfygwyd y Bysantiaid gan yr Arabiaid ym Mrwydr Yarmuk yn 636, tra syrthiodd Ctesiphon iddynt yn 634.

Heraclius oedd yr ymerawdwr cyntaf i ddefnyddio'r teitl Groeg Basileus (Βασιλεύς) yn lle'r teitl Lladin traddodiadol Augustus, a dechreuwyd defnyddio Groeg yn lle Lladin mewn dogfennau swyddogol. Roedd llawer o ddadleuon diwinyddol rhwng y Monoffisiaid a'r Chalcedoniaid, ac awgrymodd Heraclius gyfaddawd, monotheletiaeth, a gyhoeddwyd mewn dogfen a roddwyd ar narthex eglwys Hagia Sophia yn 638. Erbyn hyn roedd yr Arabiaid wedi cipio Syria a Palesteina, a syrthiodd yr Aifft iddynt yn 642.

Llwyddodd Heraclius i sefydlu brenhinllin yr Heracliaid, a barhaodd hyd 711. Olynwyd ef gan ei fab, a fu'n farw'n fuan wedyn, yna gan ei ŵyr Constans II. Llofruddiwyd ef yn 668, a daeth ei fab, Cystennin IV i'r orsedd. Yn 670, cipiodd yr Arabiaid Benrhyn Cyzicus ac yn 674 gosodasant ddinas Caergystennin ei hun dan warchae. Gorfodwyd hwy i godi'r gwarchae ac encilio yn 678, yn rhannol oherwydd arf newydd oedd wedi ei ddyfeisio gan y pensaer a mathenategydd Kallinikos, y Tân Groegaidd a roddodd fantais fawr i'r ymerodraeth. Bu farw Cystennin yn 685, ac olynwyd ef gan ei fab, Iwstinian II. Cafodd ef nifer o fuddugoliaethau dros yr Arabiaid ar y cychwyn, ond yn ddiweddarach collwyd Armenia iddynt yn 691 a Carthago yn 697.

Yn raddol, collwyd gafael ar diriogaethau yn y dwyrain a'r gorllewin. Yn 717 daeth Leo III i'r orsedd. Bu Leo yng ngwasanaeth yr ymerawdwr Iwstinian II, yna apwyntiwyd ef yn stratēgos y thema Atolig gan yr ymerawdwr Anastasios II. Pan ddiorseddwyd Anastasios II, gwnaeth Leo gynghrair ag Artabasdus, stratēgos y theme Armeniac, yn erbyn yr ymerawdwr newydd, Theodosios III. Meddiannodd Leo Gaergystennin a dod yn ymerawdwr yn 717.

Yn fuan wedyn daeth Caergystennin dan warchae gan fyddin Arabaidd Ummayad o 80,000 o wŷr wedi eu gyrru gan y Califf Sulayman ibn Abd al-Malik. Llwyddodd Leo i amddiffyn y ddinas, a bu raid i'r Arabiaid encilio. Yn ddiweddarach enillodd Leo nifer o fuddugoliaethau dros yr Arabiaid, yn enwedig Brwydr Akroinon yn 740. Bu hefyd yn gyfrifol am ddiwygiadau cymdeithasol, gan droi'r taeogion yn ddosbarth o denantiaid rhyddion.

Cefnogai Leo yr eiconoclastiaeth, oedd yn gwrthwynebu'r defnydd o ddelwau mewn addoliad. Rhwng 726 a 729 cyhoeddodd nifer o orchymynion yn gwahardd y defnydd o ddeilau ac eiconau. Bu cryn dipyn o wrthwynebiad i hyn.

 
Darn arian solidus gyda delw Irene

Adferwyd y defnydd o eiconau mewn addoliad gan yr ymerodres Irene (797-802). Ganed Irene yn Athen, a daethwwyd a hi i Gaergystennin fel merch amddifad gan yr ymerawdwr Cystennin V. Yn 769 priododd fab Cystennin V, Leo IV. Yn 771 cafodd Irene a Leo fab, a ddaeth yn ymerawdwr fel Cystennin VI pan fu farw Leo IV yn 780. Oherwydd ei oed, gweithredai Irene fel rheolwr y deyrnas. Llwyddodd i orchfygu nifer o wrthryfeloedd yn ei herbyn, a bu'n ymladd yn erbyn y Ffranciaid, a gipiodd Istria a Benevento yn 788, ac yn erbyn y Califfiaid Abbasaidd Al-Mahdi a Harun al-Rashid.

Wrth i Gystennin VI ddod yn hŷn, daeth yn anfodlon fod y grym yn nwylo ei fam. Bu gwrthryfel yn 790, pan gyhoeddodd milwyr y gard Armenaidd Cystennin fel unig ymerawdwr. Yn 797 cymerodd Irene ei mab yn garcharor, a'i ddallu. Bu farw o'i anafiadau rai dyddiau'n ddiweddarach. Nid oedd Pab Leo III yn barod i gydnabold merch fel rheolwr, ac yn 800 coronodd Siarlymaen fel Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Gwaethygodd hyn y berthynas rhwng yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred, er y dywedir i Irene gynnig priodi Siarlymaen.

Yn 802, bu cynllwyn yn ei herbyn, a daeth Nikephoros I yn ymerawdwr. Alltudiwyd Irene i ynys Lesvos, lle gorfodwyd hi i ennill ei chynhaliaeth trwy nyddu. Bu farw y flwyddyn wedyn.

Y nawfed a'r ddegfed ganrif

golygu

Dechreuodd sefyllfa'r ymerodraeth wella o ganlyniadau i newidiau a wnaed yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Mihangel III (842–867) gyda chymorth cynghorydd ei wraig, Theoktistos, a wnaeth lawr i wella'r sefyllfa economaidd. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan Basileios I (867–886), sylfaenydd y frenhinllin Facedonaidd. Erbyn hyn roedd yr eiconoclastiaeth wedi gwanhau yn fawr, felly roedd llai o ymryson crefyddol.

 
Simeon, ymerawdwr Bwlgaria, o flaen muriau Caergystennin

Dechreuodd rhyfel rhwng yr ymerodraeth a Simeon I, ymerawdwr Bwlgaria pan ymyrrodd Leo VI a marsiandïwyr Bwlgaraidd yn yr ymerodraeth. Ymosododd Simeon ar y Bysantiaid, gan ennill buddugoliaeth fawr, ond bu raid iddo encilio i ddelio ag ymosodiad gan y Magyar. Cytunwyd i gadoediad yn 895. Gorchfygodd Simeon y Magyar yn 896, cyn ymosod ar y Bysantiaid eto a'u gorchfygu ym Mrwydr Bulgarophygon. Gosododd Gaergystennin dan warchae, ond llwyddodd Leo VI i amddiffyn y ddinas, yn rhannol trwy roi arfau i garcharorion Arabaidd i ymnladd yn erbyn y Bwlgariaid. Gwnaed cytundeb heddwch, gyda'r Ymerodraeth Fysantaidd yn talu teyrnged flynyddol i Simeon.

Pan fu farw Leo VI yn 912, gwrthododd ei frawd Alexander, oedd yn rhaglaw dros fab Leo, Cystennin VII, dalu'r deyrnged flynyddol. Ymosododd Simeon ar yr Ymerodraeth Fysantaidd eto, gan obeithio gwireddu ei uchelgais o gipio Caergystennin. Bu farw Alexander yn 913, a bu terfysgoedd yng Nghaergystennin. Perswadidwyd Simeon i wneud cytundeb heddwch gan y Patriarch Nicholas; cytunwyd i dalu'r deyrned a bod Cystennin VII i briodi un o ferched Simeon, a fyddai'n cael ei gydnabod yn swyddogol gan y Patriarch fel Ymerawdwr Bwlgaria.

Bu rhyfel arall rhwng Simeon a'r Bysantiaid yn 917, pan ymosododd byddin Fysantaidd dan Leo Phokas ar Fwlgaria. Gorchfygodd Simeon hwy ym Mrwydr Anchialos, gan ladd nifer mawr ohonynt. Yn dilyn y frwydr yma, aeth y cadfridog Romanos Lekapenos i Gaergystennin, lle roedd yr ymerodres Zoe Karvounopsina yn rheoli ar ran yr ymerawdwr ieuanc Cystennin VII. Llwyddodd Romanos i ennill grym oddi wrth Zoe a'i chefnogwr Leo Phokas, ac yn mis Mai 919 priododd ei ferch Helena Lekapene a Chystennin. Ym mis Rhagfyr 920 cyhoeddwyd Romanos yn gyd-ymerawdwr fel Romanos I Lekapenos, gan ddod yn rheolwr yr ymerodraeth. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Bwlgariaid am rai blynyddoedd, Simeon yn cipio Adrianople yn 921. Cyfarfu Simeon a Romanos yn 924 a gwnaed cytundeb heddwch.

Wedi marwolaeth Simeon yn 927, gwnaed cytundeb heddwch a'r Bwlgariaid a barhaodd am ddeugain mlynedd. Gyrrodd Romanos ei gadfridog Ioan Kourkouas i ymgyrchu yn y dwyrain yn erbyn llinach yr Abbasid, ac enillodd Ioan frwydr bwysig ym Melitene yn 934, gan gipio'r ddinas. Yn 941 ymosodwyd ar Gaergystennin gan Rus Kiev, ond gorchfygwyd hwy gan Ioan Kourkouas ac yn 944 gwnaed cytundeb heddwch ag Igor I, tywysog Kiev. Yn 943 bu Kourkouas yn ymgyrchu yng ngogledd Mesopotamia, a bu'n gwarchae ar Edessa yn 944.

Yn ei henaint, aeth Romanos i boeni am farn ddwyfol oherwydd iddo gymeryd yr orsedd oddi wrth Cystennin VII. Roedd ei feibion, Steffan a Cystennin, yn poeni y byddai Romanos yn gadael i Gystennin VII ei olynu yn hytach na hwy, ac yn Rhagfyr 944 cymerasant eu tad i'r ddalfa a'i orfodi i fynd yn fynach ar Ynysoedd y Tywysogion. Fodd bynnag, roedd pobl Caergystennin o blaid Cystennin VII, a gyrrwyd hwythau i alltudiaeth.

Anterth yr ymerodraeth

golygu
 
Basileios II, llun mewn llawysgrif o'r 11g.

Bu farw'r ymerawdwr Romanos II yn 963, pan nad oedd ei fab hynaf ond pump oed. Ail-briododd ei wraig, Theophano, ag un o gadfridogion Romanos, a ddaeth yn ymerawdwr fel Nikephoros II Phokas. Llofruddiwyd Nikephoros yn 969, a daeth cadfridog arall, Ioan I Tzimiskes, yn ymerawdwr. Erbyn iddo ef farw ar 10 Ionawr, 976, roedd mab hynaf Romanos II yn ddigon hen i ddod i'r orsedd fel Basileios II.

Roedd Basileios yn filwr galluog, a bu'n ymladd llawer yn erbyn yr Arabiaid, oedd yn gwarchae ar Aleppo ac yn bygwth Antioch. Enillodd Basileios nifer o fwydrau yn eu herbyn yn Syria yn 995, gan anrheithio dinasoedd cyn belled a Tripoli ac ychwanegu'r rhan fwyaf o Syria at yr ymerodraeth. Bu'n ymladd llawer yn erbyn Samuil, ymerawdwr Bwlgaria hefyd, gan warchae ar Sredets (Sofia) yn 986. Methodd gipio'r ddinas, a gorchfygwyd ef ym Mrwydr Trayanovi Vrata ar y ffordd yn ôl i Thrace. Collwyd Moesia i'r Bwlgariaid am gyfnod, ond gallodd Basileios ei hennill yn ôl yn 1001 - 1002. Cipiodd Skopje yn 1003 a Durazzo yn 1005. Ar 29 Gorffennaf, 1014, enillodd Basileios fuddugoliaeth fawr dros y Bwlgariaid ym Mrwydr Kleidion. Dywedir iddo gymeryd 15,000 o garcharorion, a dallu 99 o bob cant ohonynt. Ildiodd Bwlgaria yn derfynol yn 1018, ac yn ddiweddarach ildiodd y Serbiaid hefyd, gan ddod a ffîn yr ymerodraeth at Afon Donaw am y tro cyntaf mewn pedair canrif. Bu hefyd yn ymladd yn erbyn y Khazar, a chipiodd dde y Crimea oddi wrthynt.

Yn ddiweddarach, bu'n ymladd yn erbyn y Persiaid, gan ennill Armenia yn ôl i'r ymerodraeth am y tro cyntaf ers dwuy ganrif. Concrwyd rhan o dde yr Eidal hefyd, a phan fu Basileios farw ar 15 Rhagfyr 1025, roedd ar ganol cynllunio ymgyrch i ad-ennill ynys Sicilia.

Dirywiad a'r adferiad Komnenaidd

golygu
 
Diptych o Romanus IV Diogenes ac Eudocia Macrembolitissa, yn cael eu coroni gan Grist (Bibliothèque nationale de France)

Cyhaeddodd y Sgism Fawr, ymraniad yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol a'r Eglwys Gatholig oddi wrth ei gilydd, ei uchafbwynt cyntaf yn 1054 pan ysgymunwyd y patriarch Cerularius o Gaergystennin (1043 - 1058) gan y Pab am iddo feirniadu gwyryfdod fynachaidd orfodol y Gorllewin a defnyddio bara heb ei godi yn yr offeren fel arferion hereticaidd.

Yn 1068 daeth Romanos IV Diogenes yn gyd-ymerawdwr gyda Mihangel VII, Konstantios Doukas, ac Andronikos Doukas, ond ganddo ef yr oedd y pwer. Ymladdodd dair ymgyrch lwyddiannus yn erbyn y Twrciaid Seljuk, gan eu gyrru tu draw i Afon Ewffrates yn 1068 - 1069. Yn 1071 dechreuodd ymgyrch arall yn erbyn dinas Manzikert. Wedi rhai llwyddiannau ar y dechrau, gorchfygwyd Romanos ym Mrwydr Manzikert ar 26 Awst, 1071. Cymerwyd Romanos yn garcharor gan y Swltan Alp Arslan. Rhyddhawyd ef yn gyfnewid am dâl sylweddol.

Cymerodd gelynion Romanos yng Nghaergystennin fantais ar hyn i gynllwynio yn ei erbyn. Ymosodwyd arno gan Cystennin ac Andronikos Doukas, meibion Ioan Doukas. Gosodwyd gwarchae arno mewn caer yn Cilicia, ac ildiodd Romanos gan addo encilio i fynachlog. Dallwyd ef ar 29 Mehefin, 1072) a'i alltudio i Ynys Proti. Bu farw o'i glwyfau yn fuan wedyn.

Tua 1081, ymosododd y Normaniaid dan Robert Guiscard ar ardal Dyrrhachium. Pan gynullwyd y fyddin i'w gwrthwynebu, perswadiwyd Alexios Komnenos, nai y cyn-ymerawdwr Isaac I Komnenos, i ymuno â chynllwyn yn erbyn yr ymerawdwr Nikephoros III, a chyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan ei filwyr. Cipiodd y fyddin ddinas Caergystennin ar 1 Ebrill 1081, gan orfodi Nikephoros III i ymddeol i fynachlog, a daeth Alexios ym ymerawdwr fel Alexios I.

Bu raid i Alexios ymladd yn barhaus yn ystod ei deyrnasiad o 37 mlynedd. Cipiwyd Dyrrhachium gan Robert Guiscard a'i fab Bohemund). Llwyddodd Alexios i oresgyn y perygl, yn rhannol trwy roi 360,000 o ddarnau aur i Harri IV, yr Ymerawdwr Glan Rhufeinig, i ymosos ar y Normaniaid yn yr Eidal. Bu Alexios hefyd yn ymladd yn Thrace, yn erbyn gwrthryfel y sectau Bogomil a'r Pawliciaid, a bu ymosodiadau gan y Pecheneg. Gyda chymorth y Cumaniaid llwyddodd Alexios i orchfygu'r Pechenegs yn Levounion yn Thrace yn 1091.

Gyrrodd Alexios lysgenhadon at y Pab Urbanus II i ofyn am gymorth yn erbyn y Twrciaid. Ei fwriad oedd cael milwyr hur o'r gorllewin, ond yn ddiweddarach y flwyddyn honno, pregethodd y Pab yr angen am Groesgad, a dechreuodd y Groesgad Gyntaf. Pan gyrhaeddodd prif fyddin y croesgadwyr i Gaergystennin, llwyddodd Alexios i'w defnyddio i ennill nifer o diriogaethau yn ôl i'r ymerodraeth. Ildiodd Nicea i'r ymerawdwr yn 1097, ac wedi buddugoliaeth ym Mrwydr Dorylaeum, adfeddiannodd ran helaeth o orllewin Asia Leiaf.

 
Ioan II Komnenos

Dilynwyd Alexios gan ei fab Ioan II Komnenos, a deyrnasodd hyd 1143. Heblaw bod yn enwog am ei dduwioldeb ac am ei gyfiawnder, roedd Ioan yn gadfridog galluog, a pharhaodd waith ei dad i adfer yr ymerodraeth yn dilyn Brwydr Manzikert, hanner canrif ynghynt. Arweiniodd ymgyrchoedd yn erbyn y Pecheneg yn y Balcanau ac yn erbyn y Twrciaid yn Asia Leiaf. Llwyddodd i ad-ennill llawer o'r tiriogaethau a gollwyd i'r Twrciaid, gan ymestyn ffîn yr ymerodraeth o Afon Maeander yn y gorllewin cyn belled a Cilicia a Tarsus yn y gorllewin. Arweiniodd fyddin Gristnogol oedd yn cynnwys gwladwriaethau'r croesgadwt i Balesteina, ond bu raid iddo encilio pan wrthododd y croesgadwyr ymladd.

Olynydd Ioan oedd ei bedwerydd mab, Manuel I Komnenos, fu'n ymgyrchu yn y dwyrain a'r gorllewin. Gwnaeth gynghrair a Theyrnas Jeriwsalem a gyrrodd lynges fawr i gymeryd rhan mewn ymosodiad ar yr Aifft. Ymestynnodd ei awdurdod dros wladwriaethau'r croesgadwyr, gyda Raynald, Tywysog Antioch ac Amalric, brenin Jeriwsalem yn gwneud cytundebau oedd yn cydnabod ei awdurdod. Gyrrodd fyddin i'r Eidal yn 1155, ond bu raid iddi encilio oherwydd anghydfod gyda'i gyngheiriaid. Ymosododd ar Deyrnas Hwngari yn 1167, gan orchfygu'r Hwngariaid ym Mrwydr Sirmium. Erbyn 1168 roedd bron y cyfan o arfordir dwyreiniol y Môr Adriatig yn nwylo'r ymerodraeth. Gwnaeth nifer o gytundebau a'r Pab ac a theyrnasoedd Cristionogol y gorllewin, a llwyddodd i sicrhau fod byddinoedd yr Ail Groesgad yn mynd trwy ei diriogaethau heb drafferth. Yn y dwyrain, gorchfygwyd ef gan y Twrciaid ym Mrwydr Myriokephalon yn 1176, ond llwyddodd ei gadfridog, Ioan Vatatzes, i adfer y sefyllfa.

Wedi marwolaeth Manuel, dechreuodd grym yr ymerodraeth edwino. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan Alexius II Komnenos (1180 - 1183) ac (Andronicus I Komnenos (1183 - 1185), yr olaf o frenhinllin y Konmeniaid. Daeth Isaac II Angelus yn ymerawdwr yn 1185 ond diorseddwyd ef yn 1195.

Y Bedwaredd Groesgad ac anrheithio Caergystennin

golygu
 
Cipio dinas Caergystennin gan y croesgadwyr yn 1204.

Bwriad y Bedwaredd Groesgad (1202 - 1204) oedd cipio Jeriwsalem oddi wrth luoedd Islam, gan ymosod trwy yr Aifft. Yn 1198 daeth Pab Innocentius III yn Bab, a dechreuodd bregethu'r angen am groesgad arall. Gyda chymorth pregethu Fulk o Neuilly, codwyd byddin o groesgadwyr. Etholwyd Thibaut III, Cownt Champagne yn arweinydd yn 1199, ond bu ef farw yn 1200 a chymerwyd ei le gan Eidalwr, Boniface o Montferrat. Gyrrodd yr arweinwyr lysgenhadon at Fenis a Genova i geisio trefnu llongau, a chytunodd Fenis i gludo'r croesgadwyr.

Cychwynnodd y mwyafrif o'r croesgadwyr o Fenis yn Hydref 1202; y rhan fwyaf ohonynt o Ffrainc. Cychwynnodd rhai o borthladdoedd eraill, megis Marseilles a Genova. Roedd Fenis wedi gofyn am 85,000 o farciau arian am eu cludo, ond dim ond 51,000 y gallai'r croesgadwyr ei dalu. Oherwydd hyn, roedd gwŷr Fenis yn chwilio am gyfle i ad-ennill eu colledion ariannol. Yn dilyn yr ymosodiadau ar dramorwyr yng Nghaergystennin yn 1182, roedd marsiandïwyr Fenis wedi eu gorfodi i adael y ddinas. Oherwydd hyn, roedd y Fenetiaid a'u Doge Dandolo yn elyniaethus i Gaergystennin. Awgrymodd Dandolo y dylai'r croesgadwyr dalu'r gweddill o'u dyled trwy ymosod ar borthladd Zara yn Dalmatia (Zadar yn Croatia heddiw), oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd.

Daeth y croesgadwyr i gysylltiad a'r tywysog Bysantaidd Alexius Angelus, mab yr ymerawdwr Isaac II Angelus oedd wedi ei ddiorseddu'n ddiweddar. Roedd Alexius yn alltud yn llys Philip o Swabia, a chynigiodd arian a milwyr i'r croesgadwyr pe baent yn ymosod ar Gaergystennin, diorseddu'r ymerawdwr Alexius III Angelus a rhoi Isaac II yn ôl ar yr orsedd.

 
Ymerodraeth Nicea, yr Ymerodraeth Ladin, Ymerodraeth Trebizond ac Unbennaeth Epirus yn 1204.

Cyrhaeddodd y croesgadwyr ddinas Caergystennin, oedd a phoblogaeth o 150,000 yr adeg yma, gyda garsiwn o 30,000. Cipiwyd Chalcedon a Chrysopolis, cyn iddynt ymosod ar Gaergystennin ei hun. Llosgwyd rhan o'r ddinas a ffôdd Alexios III. Dychwelwyd Isaac II i'r orsedd gyda'i fab Alexius yn gyd-ymerawdwr fel Alexios IV. Cafodd Alexios drafferth i godi'r arian yr oedd wedi ei addo i'r croesgadwyr, a bu raid dinistrio llawer o eiconau i gael yr aur a'r arian ohonynt. Gwaethygodd y berthynas rhwng trigolion Caergystennin a'r croesgadwyr, a bu tân arall a losgodd ran helaeth o'r ddinas. Gwrthryfelodd Alexius Ducas, a diorseddodd Alexios IV a'i ladd, gan ddod i'r orsedd ei hun fel Alexius V; bu farw Isaac yn fuan wedyn.

Mynnodd y croesgadwyr a'r Fenetiaid fod yr ymerawdwr newydd yn cadw at y cytundeb a'i ragflaenydd, ond gwrthododd. Ymosododd y croesgadwyr ar y ddinas eto, ac ar 12 Ebrill 1204, cipiwyd y ddinas wedi ymladd ffyrnig. Anrheithiwyd Caergystennin yn llwyr; dywedir i werth 900,000 o farciau arian gael ei gymeryd o'r ddinas.

Gosododd y croesgadwyr Baldwin o Fflandrys ar yr orsedd, a rhannwyd yr Ymerodraeth. Y pwysicaf o'r rhannau oedd Ymerodraeth Nicea dan Tewdwr Lascaris, Ymerodraeth Trebizond ac Unbennaeth Epirus.

Cwymp yr Ymerodraeth

golygu
 
Arfbais ymerodron Brenhinllin Palaiologos

Yn fuan ar ôl marwolaeth yr ymerawdwr Tewdwr II Doukas Laskaris, llywodraethwr Ymerodraeth Nicea, yn 1258, daeth Mihangel VIII Palaiologos yn raglaw dros yr ymerawdwr ieuanc Ioan IV Doukas Laskaris, yna yn 1259 yn gyd-ymerawdwr. Ar 25 Gorffennaf, 1261, llwyddodd cadfridog Mihangel VIII, Alexios Strategopoulos, i ennill dinas Caergystennin yn ôl oddi wrth olynwyr y croesgadwyr, gan ail-greu'r Ymerodraeth Fysantaidd. Yn Awst yr un flwyddyn, dallwyd Ioan IV, a'i yrru i fynachlog.

Llwyddodd Mihangel VIII i orchfygu Epirus, a bu llawer o ymladd yn erbyn y gelynion oedd yn ei hamgylchynu, ond roedd yr ymerodraeth wedi ei gwanychu'n fawr gan ddigwyddiadau'r blynyddoedd cynt. Parhaodd yr ymladd dan Andronikos II a'i ŵyr Andronikos III, ond roeddynt yn gorfod dibynnu'n drwm ar filwyr hur.

 
Yr Ymerodraeth Fysantaidd (coch) erbyn 1430.

Erbyn hyn yr Ymerodraeth Ottoman oedd y bygythiad mwyaf i'r Bysantiaid. Collwyd y rhan fwyaf o Asia Leiaf, ac yn 1354 dinistriwyd y gaer yn Gallipoli gan ddaergryn, gan alluogi'r Twrciaid i groesi i Ewrop. Enillasant fuddugolaeth ym Mrwydr Kosova a daethant i reoli'r rhan fwyaf o'r Balcanau. Collwyd mwy o diriogaethau, a gostyngodd poblogaeth Caergystennin yn sylweddol iawn.

Ar 2 Ebrill, 1453, gosododd byddin y Swltan Ottomanaidd Mehmed II ddinas Caergystennin dan warchae. Wedi gwarchae o ddau fis, syrthiodd y ddinas ar 29 Mai, 1453. Yr olaf a welwyd o'r ymerawdwr olaf, Cystennin XI Palaiologos, oedd cip arno taflu ei regalia ymerodrol i ffwrdd ac ymuno yn yr ymladd wedi i'r gelyn ddod dros y muriau.

Diwylliant

golygu

Gweler hefyd

golygu