Wicipedia:Y Caffi/archif/14

Archif Mawrth 2010 -

twitter feed golygu

Somebody has set up a twitter feed for new articles on wicipedia here. This is ill-conceived, as it isn't programmed to delete tweets corresponding to articles that get deleted. So if someone creates an attack page, the edit summary will still persist as a tweet even after the page is deleted here. If anyone knows who runs this bot, please get them to either handle deleted articles properly or else switch the whole thing off. Dysgwr 16:23, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Er mae gwenud hwn yn syniad da, efallai bydd problem(au) gyda phobl drosto - er ein bod ni i gyd yn defnyddio enwau defnyddiwr, nad yw rhai pobl yn hoffi cael hyd yn oed eu henw defnyddiwr ei "gyhoddi" heb ganiatâd penodol. Ni ddylai rywun wedi gwneud hwn heb siarad â phobl y Wicipedia 'ma yn gyntaf. Oes mwy o newyddion?
Though this is a good idea, perhaps some people will have issues with this - though we all use a user name, some people are not comfortable with even just their user name being "published" without proper consent. Someone should not have done this without talking with the people of this Wikipedia first. Is there any more news? Xxglennxx 04:12, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Fi greodd y cyfrif Twitter, a cafywd trafodaeth (fer) ar y Caffi yn gynta. Ydy, mae'r fformatio'n hyll, ac mae pob tudalen newydd yn cael ei gyhoeddi arno, ond dw i yn gallu eu dileu. O ran enw defnyddiwr, does gyda ti ddim 'hawl' (na modd hyd y gwela i) i guddio unrhyw gynnwys oddi ar y wicipedia, mae o yn y 'parth cyhoeddus'*. Mae tudalen 'Erthyglau newydd' a hyd yn oed dy dudalen proffil unigol di gyda phorthiant RSS ei hun, felly gall unrhyw un danysgrifio iddo - does dim rheolaeth gyda ni dros pwy all ddefnyddio'r RSS hyn na sut. Pwrpas y cyfrif Twitter yw hyrwyddo'r proseict ac mae llawer iawn yn dilyn y cyfrif (65 hyd yma). Dw i'n fodlon ystyried cau'r cyfrif, ond dwi ddim yn gweld y ddau ddadl uchod yn rhai digon dra dros wneud.
*O'r dudalen Wicipedia:Pum Colofn (fy mhwyslais i):
Mae yn brosiect cynnwys rhydd y gall unrhyw un ei olygu a'i ddosbarthu. Parchwch gyfreithiau hawlfraint. Am fod eich holl gyfraniadau ar drwydded rhad ac am ddim i'r cyhoedd, nid yw'r un erthygl yn eiddo i olygydd; gall a bydd pob erthygl gael eu golygu a'u ail-ddosbarthu'n ddidrugaredd.
--Ben Bore 10:35, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Efallai byddai'n ddelfrydol pe bai'n gyfyngedig i erthyglau newydd yn unig, ond fel arall dwi ddim yn gweld bod unrhyw beth o'i le. Fel mae Ben yn nodi, mae ein cyfraniadau, yn cynnwys ein cyfrifon defnyddwyr, yn y parth cyhoeddus beth bynnag: rhowch eich enw defnyddiwr mewn peiriant chwilio ac mi welwch hynny (os ydych yn poeni am eich preifatrwydd yn gyffredinol defnyddiwch un sy'n parchu hynny, fel Ixquick, yn hytrach nag un cwbl ddiegwyddor fel Google). Anatiomaros 14:51, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Er gwybodaeth, Porthiant RSS y dudalen 'Erthyglau newydd' sy'n cael ei ddefnyddio, nid 'Neiwidiaudau diweddar' felly mae wedi ei gyfyngu i erthyglau newydd yn unig. Os ydych yn poeni am eich preifatrwydd, peidiwch cyfrannu dim byd ar lein full-stop! (Dw i ddim eisiau i chi stopio cyfrannu cofiwch, jyst dweud ydyw i).--Ben Bore 16:18, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
'Sgen i ddim byd yn ei erbyn, jyst dweud o'n i o safbwynt diogelwch :) (A chwarae devil's advoate). Xxglennxx 17:12, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Lluniau + Infobox golygu

Sut mae ychwanegu llun i erthygl? Dwi newydd greu hwn:

http://cy.wikipedia.org/wiki/Myfanwy_Davies

Yn y fersiwn Saesneg o'r un erthygl, dwi wedi cadarnhau perchnogaeth ar y testun a'r llun, ac wedi uwchlwytho'r llun, ond does dim hawl gyda fi uwchlwytho llun ar y fersiwn Gymraeg. Hedd Gwynfor 21:28, 09 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Hefyd, a oes siwd beth a 'Infobox' ar y fersiwn Gymraeg? Wedi trio pastio draw yr infobox Saesneg, ond nid yw'n gweithio. Diolch.

Defnyddia [[delwedd:enw'r delwedd.jpg|dde|200px|Disgrifiad yma]]. Ffeindia erthygl gyda delwedd ac yna pwysa'r bowtwm golygu i weld y cod! Rhys Thomas 22:52, 9 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Y drafferth ydy nad oes gen i ganiatad i uwchlwytho delwedd! Mae'n dweud mai dim ond gweinyddwyr sy'n cael gwneud. Un peth arall sydd wedi codi, mae bron yr holl destun wedi cael ei ddileu oddi ar dudalen dwi newydd wneud - http://cy.wikipedia.org/wiki/Myfanwy_Davies . Mae'n dweud ei fod yn 'amheus'. Pam ei fod yn amheus? Mae union yr un testun wedi ei dderbyn yn Saesneg. Dwi wedi danfon ebost at Wikipedia yn cadarnhau fod gennyf yr hawl i ddefnyddio'r testun a llun o wefan Myfanwy. Oes angen gwneud hyn eto ar gyfer Wicipedia? Hedd Gwynfor 21:28, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Gweler Sgwrs:Myfanwy Davies. Anatiomaros 21:45, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n gweld nad yw neb wedi dweud wrthyt ti eto, felly cei ti afael ar y gwybodlen (infobox) yma. Xxglennxx 14:55, 11 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]


Canllawiau, Cyfarwyddiadau, Cymorth golygu

Helo, fel rhywun sy'n newydd iawn i Wicipedia, ond sy'n awyddus i gyfrannu yn y dyfodol, dwi'n gweld yr holl broses yn un cymhleth iawn. Oes modd creu 1 dudalen syml yn esbonio sut mae cyfrannu? Dwi'n ofni bod lot o bobl yn cadw draw gan nad ydynt yn deall y drefn. Dwi wedi gweld yr adran 'Cymorth' ond mae'n rhy gymhleth yn fy marn i. Dim ond 1 tudalen syml sydd ei angen gyda'r prif gyfarwyddiadau, canllawiau (yn fyr) ac wedyn dolen lle gellir darllen mwy a dolen at lle gellir cael cymorth. Nid beirniadaeth yw hyn. Dwi am weld Wicipedia Cymraeg yn llwyddo. :-) Hedd Gwynfor 21:36, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Pwynt teg, efallai, ond ydych chi wedi gweld y tudalennau cyfatebol maith a chymhleth ar y Wikipedia Saesneg? Mae'r rhai sydd gennym ni yn hynod o syml mewn cynhariaeth! Mae angen eu gwella, yn sicr, ac efallai cawn ystyried tudalen cyflwyniad syml. Croeso i'r Wicipedia, beth bynnag. Anatiomaros 21:49, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Shwmae! Dw i'n cytuno i raddau. Pan ddechreuais i gyfrannu, do'n i ddim yn deall ystyr y gwahanol gôdau a symbolau a.y.y.b. ond wrth i mi arbrofi yn y pwll tywod, daeth pethau'n llawer haws. Er mwyn cyfrannu, yr un beth sydd angen gwneud yw clicio ar "Golygu" ar frig y dudalen a theipio beth bynnag rydych eisiau ychwanegu. Fodd bynnag, mae nifer o bobl eisiau gwybod sut i greu dolenni at erthyglau eraill, gwybodlenni, ychwanegu lluniau a.y.y.b. a dyna pam fod y tudalennau cymorth mor faith. Efallai mai'r dudalen fwyaf defnyddiol i edrych arni ynglyn a chreu erthygl yw'r Tudalendwyllo am fod crynodeb o'r gwahanol symbolau i'w cael yno. Os oes angen unrhyw gymorth er mwyn gwneud rhywbeth penodol, gadawa neges yn Y Caffi neu ar fy nhudalen sgwrs. Pob lwc! Rhodri77 21:59, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Yn ogystal â sylwadau Anatiomaros a Rhodri, mae Rhodri hefyd wrthi'n creu Tiwtorial (dwi'n meddwl mai Rhodri yw'r un), felly rhô olwg arno er mwyn cael y basics. Xxglennxx 15:01, 11 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Creu PDFs golygu

Helo bawb. Mae modd ar y Wici Saesneg (ac Wicis eraill) creu ffeiliau PDF er mwyn cadw erthyglau. Oes modd rhaglennu'r nodwedd hon i mewn i'n Wici ni? Xxglennxx 16:47, 12 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Ym, felly, allwn ni'i raglennu mewn? Xxglennxx 12:45, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Newid enw defnyddiwr golygu

Dw i'n ystyried newid enw defnyddiwr hefyd i rywbeth llai amlwg. Ai dim ond creu cyfrif arall dan enw gwahanol ac ailgyfeirio fy nhudalen sgwrs a thudalen defnyddiwr presennol i'r dudalen newydd sydd angen? Neu oes 'na ffordd well o wneud hynny? Pwyll 08:40, 13 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Dydw i ddim yn siwr. Arbrawf oedd yr hyn wnes i, ond rwy'n amau nag wyf wedi cael y broses yn iawn eto. 09:36, 13 Mawrth 2010 (UTC)
Rwy'n meddwl fy mod yn gwybod sut i wneud erbyn hyn, ond mae angen bod yn fiwrocrat i wneud y newid. Rho wybod os oes arnat ti eisiau newid. Porius1 09:53, 13 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Salve Porius! Rwyt ti'n iawn am symud/newid enw defnyddiwr: mae'r ffurflen ar gael yn y Tudalennau arbennig @Ail-enwi defnyddiwr, ond dim ond biwrocrat sydd â'r hawl i'w ddefnyddio. Piti mewn ffordd fod rhaid i ni "guddio" fel hyn ond mae'r we yn lle cwbl gyhoeddus ac mae 'na bobl digon maleisus o gwmpas, ar y we fel yn y byd go iawn, gwaetha'r modd. Anatiomaros 15:58, 13 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Hoffwn i newid fy enwi i hefyd i fod yn onest, am resymau preifatrwydd. Yr enw defnyddiwr 'swn i'n hoffi defnyddio yw Pwyll. Tybed fyddai rhywun yn gallu trefnu hynny i mi? Hefyd, a fyddai'n rhaid newid yr enw defnyddiwr ar bob prosiect y Wici neu a fyddai'n hynny'n digwydd yn awtomatig? Pwyll 16:25, 13 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi dy symud i'r enw newydd. Mi gofrestrais i eto dan yr enw newydd ar yr Unified Login System. Porius1 17:08, 13 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr am wneud hynny! :o) Pwyll 18:50, 13 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
O.N. Dw i newydd drio mewngofnodi i Wikiquote a'r Wiciadur o dan fy enw defnyddiwr newydd ond 'dyn nhw ddim yn gadael fi mewn! Oes rhywun yn gwybod sut alla i newid fy enw defnyddiwr ar y ddau brosiect yna hefyd? Oes 'na Fiwrocrat ar gael fyddai'n gallu gwneud hyn? Diolch. Pwyll 19:59, 13 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n gweithio dan yr enw newydd i mi. Efallai y byddai'n werth gweld a yw'n gweithio heddiw - efallai nad oedd y sgript wedi gorffen rhedeg ddoe. Porius1 07:19, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Dw i wedi trio mewngofnodi heddiw eto ar Wikiquote a Wiciadur o dan yr enw newydd ond roedd y ddau'n dweud nad yw'r fath enw defnyddiwr yn bodoli. Dw i wedi creu cyfrif newydd yn Wikiquote o dan yr enw Pwyll, ond yn amlwg 'dyw'r galluoedd gweinyddwr ddim wedi cael eu trosglwyddo. Unrhyw awgrymiadau? Pwyll 16:04, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Rho drei ar logio i mewn yma gyntaf, yna mynd i Arbennig:MergeAccount a chreu SUL yno. Dydyw i ddim yn weinyddwr yn unman arall, felly dydw i ddim yn siwr a yw hyn yn cario statws gweinyddwr trosodd. Rwy'n amau nad yw, felly byddai angen gwneud cais newydd. Porius1 18:41, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Dwi newydd dy ail-enwi ar Wiciadur, bydd angen gwneud cais am ail-enwi ar Meta am yr un arall gan nad oes biwrocrat ar Wikiquote. —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:16, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Oce, gret. Diolch! Pwyll 18:54, 15 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Disney and other animation articles are locked golygu

Do they HAVE to be FULLY LOCKED ALREADY?! The poor bots can't even update them now!!!!!!!! Examples: Dumbo, Bambi, The Lion King, The Fox and the Hound (ffilm), The Fox and the Hound 2, Charlotte's Web, Charlotte's Web (ffilm 1973), Charlotte's Web 2: Wilbur's Great Adventure, Lady and the Tramp, ect. See: [[Categori:Ffilmiau Disney]], [[Categori:Ffilmiau Pixar]], [[Categori:Ffilmiau animeiddiedig]], plus the Charlotte's Web, Ice Age, and The Fox and the Hound (nofel) articles. 70.146.227.212 16:33, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

I believe they were blocked by admins here as they were getting a lot of vandalism from one particular user. Your best bet is to wait until an admin from this Wici comes here to post a reply. Xxglennxx 17:16, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Paid â chymryd sylw ohono fo, Glenn: fo ydy'r Fandal! Anatiomaros 17:18, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
A reit! Diolch am dynnu fy sylw :) Xxglennxx 17:24, 15 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Does dim rhaid i bopeth yn y byd fod yn hollol unffurf. Does dim rhaid i ni weld Macdonalds yn Delhi, nac Holiday Inn yn Timbuktu. golygu

Does dim rhaid i ni, yn y Wiki Cymraeg, beidio ag ysgrifennu o safbwynt Cymreig, chwaith.

09:18, 17 Mawrth 2010 (UTC)

Cyfeirio at fy ngolygiad i o erthygl God Save The Queen mae Defnyddiwr:Dweud y gwir. Dyma beth ddileuais.
, ond mae'n hollol anaddas fel anthem i Gymru - dim ond Hen Wlad fy Nhadau all adlewyrchu harddwch a gogoniant y wlad, a'n gobeithion am i'r heniaith barhau a ffynnu ar gyfer y cenedlaethau i ddod, er gwaethaf yr ymgyrchoedd yn ei herbyn gan ei gelynion yn amser ein tadau ac heddiw
Ysgrifennu o dy safbynt dy hun ydy hynny, a nid safbynt yr holl Gymry. Gwyddoniadur rydym yn ceisio ei greu yma, ac mae unrhwy wyddoniadur gwrth ei halen yn ddi-duedd. Sori os ydy hyn yn dy dristhau.--Ben Bore 09:37, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Ond nid "yr holl Gymry" ydy'r darllenwyr - rydym yn trafod am wyddoniadur cyfrwng Cymraeg, felly mae'n rhesymol i dybio bod gan ddarllenwyr obeithion am ddyfodol yr iaith, hyd yn oed y rhain sydd yn Saesneg eu hiaith gyntaf megis minnau. Os mae Cymry Saesneg hollol unieithog yn meddwl yn wahanol, mae'n amherthasol - dim nhw sy'n darllen. Dweud y gwir 13:57, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n cam-ddeall - nid yw gwyddoniadur yn lle am feddyliau personol - mae gwyddoniadur yn amhleidiol. Gan ddweud "mae'n hollol anaddas fel anthem i Gymru" - well, cred bersonol yw hon, felly nid yw'n addas ar gyfer Wicipedia. Cer di a cheisio cadw'r frawddeg honno (yn Saesneg) ar y Wicipedia Saesneg - fydd yn cael ei dileu'n syth, jyst fel mae wedi digwydd fan hyn. Xxglennxx 14:16, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Wyt ti'n ceisio anwybyddu fy holl ymresymiad, neu ydy hi'n dod atat ti yn naturiol? Dw i newydd wneud y pwynt mai pobl Cymraeg yw'r darllenwyr fan hyn, ond yn dy ymateb rwyt ti'n ceisio defnyddio'r ffaith y byddai fy mrawddeg yn annerbyniol ar y Wiki Saesneg i brofi ei bod yn annerbyniol yma hefyd.

Dweud y gwir 14:30, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

'Cymyy Cymraeg' ro'n feddwl, nid 'y Cymry' i gyd - ro'n i'n teipio ar frys. Ond hyd yn oed wedyn, dy farn personol di yw beth sgwennaist ti, nid ffaith, a beth bynnag nad yw pob Cymro Cymraeg o'r un farn a thi o anghenraid. Y pwynt rwy'n geisio ei wneud yw bod gwahaniaeth rhwng barn a ffaith. Os ti'n chwilio am rhywle i wyntyllu dy farn, beth bynnag ydy o, nid ar y Wicipidia Cymraeg (na Saesneg) ydy hwnnw. Does dim rhaid i ni ddilyn yr un patrwm a rheolau a'r Wici Saeseng yma, ac mi rydan ni weithau'n trin pethau'n whanol (e.e. y ffordd rydym yn cyfeirio at wledydd a chenhedloedd), yn yn y pendraw Gwyddoniadur yw hwn.--Ben Bore 14:45, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n rhaid imi atseinio'r hyn a ddywedwyd gan Ben - nid yw erthyglau'r Wici yma'r lle am farnau personol. Os yw rhywun isio gosod sylw personol, wedyn rhaid gwenud ar eu tudalen siarad. 'Sdim ots yw pobl "Cymraeg" sydd - efallai fydd rhywun arall yn anghytuno gyda dy sylwadau di, a derbyn bod yr anthem yn hollol addas i Gymru. Wedyn beth ydy'n ni'n gwneud gyda dy sylwadau di a sylwadau'r person arall yn yr erthygl? Fel dywedais yn barod, mae'n rhaid i bob Wici fod yn amhleidiol, ymha iaith yr ydynt. Xxglennxx 15:06, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Dw i'n deall be 'dych chi'n ei ddweud mewn egwyddor. Ond beth am i ni wneud "straw poll" am y pwnc penodol dan drafodaeth? Ym marnau'r golygwyr yma, pa anthem sy'n well i Gymru: "God Save the Queen" neu "Hen Wlad fy Nhadau"? Os dim ond un person yma sy'n dweud "GStQ", dw i'n barod i gytuno bod y frawddeg yn anaddas i'r erthygl. Ydy hynny'n deg? Dechreua ti, Ben...

Dweud y gwir 15:17, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]


Rwy'n meddwl dy fod yn cam-ddeall y pwynt. Yn bersonol, rwy'n casau GStQ; ond nid lle i roi fy marn bersonol i yw Wicipedia. Mae fy marn bersonol i yn hollol amherthnasol, ac mae'r un peth yn wir am farn bersonol unrhyw gyfrannwr arall. Mae'n rhaid i erthyglau fod yn ddiduedd. Porius1 15:42, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
[gwrthdaro golygyddol] Dwi ddim yn siwr os ydych chi'n deall y pwynt, Dweud y gwir. Am y record, dwi o'r un farn â chi a nifer o Gymry eraill. Mae'n gas gen i'r anthem imperialaidd estron honno. Ond gwyddoniadur yw hwn i fod, nid plattform i ddangos barn bersonol. Wedi dweud hynny, am fod yr anthem honno yn un dadleuol dros ben beth am gael adran o fewn yr erthygl sy'n nodi hynny - yn ddiduedd, heb farn - gan dyfynu barnau a safbwyntiau pobl amdani. Ac nid Cymry yn unig: mae'n anthem wrthun i hanner poblogaeth gogledd-ddwyrain Iwerddon, er enghraifft, ac mae Awstralwyr gweriniaethol eisiau cael gwared â hi hefyd. Mae'n iawn nodi hynny, ond rhaid nodi barnau eraill hefyd a bod yn gwbl wrthrychol yn union fel basech chi'n disgwyl mewn unrhyw wyddoniadur arall. Anatiomaros 15:46, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
'Sdim lot o ddiddordeb gyda fi mewn canlyniad y fath straw-poll i ddweud y gwir, a byddai'r canlyniadau'n hollol amherthnasol ta beth. Os ti eisiau gwybod teimladau eraill ar gwestiwn o'r fath, beth am drio maes-e? Mae'n le ardderchog i leisio barn a chlywed barn pobl eraill.--Ben Bore 15:52, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]


Nid amherthansol yw dy farn di, Porius - dw i'n gwneud "straw poll" achos fy mod i'n tybio mai sampl o farnau pobl Cymraeg yn gyffredinol ydy'n barnau ni. Y rheswm dros beidio a mynegi barn yn gyffredinol ydy cydnabod bod amrywiaeth o farnau, a sicrhau bydd y darllenwyr yn gallu cytuno a'r erthygl - h.y. heb ganran sylweddol o bobl sy'n anghytuno - os mae rhai bobl yn meddwl bod y ddaear yn wastad, nid reswm dros beidio a dweud ei fod yn rownd ydy hynny. Os fydd canran sylweddol o ddarllenwyr sy'n anghytuno bod HWfN yn well na GStQ, dylen ni allu canfod un ohonynt ymysg y golygyddion. Ond mae pawb sy wedi dweud eu barnau yn cytuno eu bod yn casau GStQ...

Dweud y gwir 16:12, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Ai fi yw e neu a oes unrhyw un arall yn cael deja vu? Tua wythnos yn ôl, cafodd un defnyddiwr ei flocio am fandaliaeth a bod yn fwriadol ddadleuol gan wastraffu amser nifer o gyfrannwyr Wicipedia o ganlyniad. Mewn ychydig dros wythnos, mae defnyddiwr newydd wedi cofrestru ac mae naws ei negeseuon / agwedd yn debyg iawn. Hefyd mae'r cyfraniadau'n eithaf tebyg hefyd. Efallai mod i'n anghywir, ond dw i'n synhwyro mai'r un person yw'r ddau... Pwyll 17:52, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Hmm. Cafodd cyfrif 'Dweud y gwir' ei greu pedwar diwrnod ar ôl i ddau gyfrif y defnyddiwr arall eu blocio. Dwi'n cytuno nad yw'r "drafodaeth" yma yn adeiladol o gwbl ond yn wastraff amser. Gyda phob parch iddo, ymddengys nad yw 'Dweud y gwir' yn barod i wrando ond yn dal i rwgnu ymlaen am "straw poll" a ballu. Anatiomaros 18:15, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Dw i'n sori i glywed eich bod chi'n meddwl nad wyf i'n barod i wrando, a bod y drafodaeth hon yn anadeiladol, achos roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ddefnyddiol. Yn yr achos hwn, dw i'n atynnu fy nghais am "straw poll", ac wna i addo i gadw draw o bynciau ynglyn a Chymreictod, sydd yn bwnc y ddadl hon, a chawn ni gau'r drafodaeth hon os gwastraff o amser ydyw. Dweud y gwir 18:51, 17 Mawrth 2010 (UTC) O.N. os ydych yn meddwl bod y drafodaeth hon yn wastraff amser, cewch ei dileu os eisiau. Ond wna i ddim ei wneud fy hun rhag ofn i bobl deimlo fy mod i'n ceisio cuddio beirniadaeth amdana i.[ateb]

Wikimania Scholarships golygu

The call for applications for Wikimania Scholarships to attend Wikimania 2010 in Gdansk, Poland (July 9-11) is now open. The Wikimedia Foundation offers Scholarships to pay for selected individuals' round trip travel, accommodations, and registration at the conference. To apply, visit the Wikimania 2010 scholarships information page, click the secure link available there, and fill out the form to apply. For additional information, please visit the Scholarships information and FAQ pages:

Yours very truly, Cary Bass
Volunteer Coordinator
Wikimedia Foundation

Rhagor o bypedau? golygu

Dwi'n amau bod "y boi 'na" nôl eto gyda chyfeiriad IP a chyfrif newydd. Creuwyd yr eginyn Cree gan IP 76.247.245.228. Ychydig o funudau'n ddiweddarach mae Sion Corn a'i feibion yn troi i fyny i wneud ei gyfraniad cyntaf trwy olygu'r un erthygl (dwi wedi bod yn cadw golwg amdano fo hefyd). Mae'r cyfeiriad IP yn gorwedd y mymryn lleia tu allan i ystod arferol y FD, ond mae'n ddigon agos: yn ôl Sam Spade mae'n dod o Texas ([1]). Mae o leiaf un o'r pypedau yn y categori hwn ar 'en' yn rhannu'r un rhwydwaith (gweler Sam Spade eto). Cadwch olwg ar y rhain neu unrhywbeth tebyg. Dwi'n cael fy nhemtio i'w blocio rwan hyn ond mi arosaf nes i'r pethau arferol ddechrau. (Wrth i mi sgwennu hyn, sylwais hefyd ar Defnyddiwr:Y ffarwel a'i neges (yeah, sure thing!). Anatiomaros 22:25, 27 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Diolch am y rhybudd! Bydd angen i ni gyd gadw'n llygaid yn agored. Pwyll 07:16, 28 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Ar ôl dweud ei fod yn "ymddeol" mae wedi bod yn ôl heddiw gyda'r cyfeiriad IP hwn - 72.147.142.36. Anatiomaros 19:36, 6 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]

Cymru/Wales as featured article in the Basque Wikipedia golygu

The article on Wales has been chosen as featured article of the week in the Basque Wikipedia. See here: Wales. Greetings from Basque Country to Wales.
Euskalduna 16:25, 6 Ebrill 2010 (UTC)

Eskerrik asko. Mi ddylem ni wella ein herthygl ar Wlad y Basg! Porius1 16:25, 6 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]
Having just checked it, it looks amazing! Da iawn, well done! Xxglennxx 16:35, 6 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]
Thank you, Euskalduna. Great article. I have only one criticism and that is the use of the so-called "Royal Badge of Wales" as the arms of the country. This is very controversial indeed and would be rather like using a "Royal Badge of Euskal Herria" created by the Spanish or French to represent the Basque Country. This "(English) royal badge" is very recent and does not represent Wales, officially or unofficially. Anatiomaros 19:30, 6 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]

Ez horregatik / â chroeso. O.K, I understand your criticism, Anatiomaros, and I'm agree with you, but I can't delete the "Royal Badge of Wales" from the Cymru's article before ask to the rest of users or administrators because that symbol was previously added by someone before I extend or assist in the article. Even so, I will propose the elimination of the coat of arms for the reason you've mentioned me.

Thanks. It's not a criticism of yourself or the article itself, of course. If you are thinking of doing that, and I hope you do it, I remember there was a heated "debate" on the Wales talk page (I think, or maybe the Wales politics template talk page?) on English wikipedia and the result was that they decided not to use it (at least that was the situation). Anatiomaros 19:54, 6 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]

By the way, I'm working in this Portal of Wales in Basque Wikipedia. Agur / Hwyl... and greetings to a welsh friend of Basque Country: John Toshack:P
Euskalduna 21:43, 6 Ebrill 2010 (UTC)

Gwyliau golygu

Ar ôl heddiw, mi fyddaf i ffwrdd yn Costa Rica am ychydig dros bythefnos, ac allan o gyrraedd unrhyw gysylltiad i'r we yn ôl pob tebyg. Porius1 16:25, 6 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]

Mwynhea dy hun, Poriws I, rwyt ti'n haeddu'r brêc! Anatiomaros 19:31, 6 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]

Pry-bethma golygu

Dwi'n gwybod bod hyn wedi cael ei drafod o'r blaen rywbryd, heb benderfyniad, ond hoffwn dynnu eich sylw at fy sylwadau ar dudalen sgwrs y categori 'Actifyddion Prydeinig'. Dyma a ddywedais:

Ydy "actifyddion Prydeinig" yn cynnwys actifyddion Cymreig sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, dyweder, ac actifyddion gweriniaethol yng ngogledd Iwerddon sy'n ystyried eu bod yn Wyddelod? Yn y ddau achos maent yn gwrthod y disgrifiad "Prydeinig". Rydym wedi dilyn cawlach yr Anglopedia yma. Yn amlwg ni ellir galw Gerry Adams yn "actifydd Prydeinig" heb dynnu nyth cacwn am ein pennau, heb sôn am fod yn chwerthinllyd o anwybodus. A fyddai arweinwyr yr SNP a Phlaid Cymru yn fodlon ar y disgrifiad "gwleidyddion Prydeinig"? Go brin! Beth am gael y categori 'Pobl o Brydain' i fynd ochr yn ochr â 'Pobl o Ogledd Iwerddon'? Byddai'r cyntaf yn cynnwys yr Albanwyr, y Cymry, y Saeson ac unrhyw un arall o Ynys Brydain ac yn ffitio yn y categori 'Demograffeg y Deyrnas Unedig'; mae'r ail (GI) yn mynd yn yr un categori a 'Demograffeg Iwerddon' hefyd yn barod - cyfaddawd a geir ar yr Anglopedia yn ogystal. Gellid cadw y categori 'Prydeinwyr' ar gyfer pobl sy'n dewis galw eu hunain yn 'Brydeinwyr'. Cofier hefyd nad yr un peth ydyw 'Prydain (Fawr)' a 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon'. Hen bryd i ni sortio hyn allan.

Dwi'n meddwl ei bod yn amser i ni ystyried sut i ddatrys y broblem cyn i'r categoriau dyfu. Anatiomaros 19:41, 14 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]

I fi, y gair 'Actifyddion' sy'n swnio waetha! Beth sy'n bod a'r Ymgyrchwyr? Cytuno nad yw'r gair Prydeinig yn dderbyniol/addas, ond beth wyt ti'n ei gynnig felly; 'Actifyddion/Ymgyrchwyr o'r Deyrnas Unedig'?--Ben Bore 07:49, 15 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]
Dw i'n cytuno. Beth am 'Ymgyrchwyr o Gymru', 'Ymgyrchwyr o Ogledd Iwerddon' a.y.b. ac os yw rhywun eisiau cael eu cynnwys yn y categori 'Ymgyrchwyr o Brydain', yna gellir gwneud hynny. Pwyll 09:04, 15 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno â'r sylwadau am y gair "actifyddion" ond doeddwn i ddim eisiau cymylu'r dyfroedd trwy ddod â hynny i mewn yma. Byddai "Ymgyrchwyr" yn llawer mwy naturiol. Mae "actifyddion" yn swnio fel rhywbeth sy'n rhan o broses cemegol! Anatiomaros 16:27, 19 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]
Y drafferth yw, mae'n eitha amlwg i ba gategori byddai aelodau o fudiadau iaith/gweldidyddol yn dymuno cael eu hadnabod, ond sut mae penderfynu os taw Cymru 'ta Brit mae Ymgyrchydd Hawliau Anifeiliad/Amgylcheddol yn ystyried eu hun?--Ben Bore 09:29, 15 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]
Dyna un rheswm dros gynnig cadw'r categori "Prydeinig". Ond trio tynnu sylw at y sefyllfa yn gyffredinol oeddwn i, dim jest ymgyrchwyr. Byddai modd roi 'Ymgyrchwyr Cymreig' ayyb yn y categori 'Ymgyrchwyr o'r Deyrnas Unedig' heb bechu neb, gobeithio, achos dydy hynny ddim yr un peth a dweud mai "Prydeinig" yw eu cenedligrwydd. Dewis arall fyddai cael y categori newydd 'Pobl o Brydain' i fynd ochr yn ochr â 'Pobl o Ogledd Iwerddon' (mae'r olaf yn y categori 'Pobl o Iwerddon' yn barod) a'r ddau yn ffitio yn y categori 'Pobl o'r Deyrnas Unedig'. Gellid cael y categori 'Ymgyrchwyr Prydeinig' hefyd, i'w roi yn y categori 'Ymgyrchwyr o'r Deyrnas Unedig / o Brydain' gyda'r lleill. Mi fydd 'na achosion lle nad yw'n glir i ba gategori maen nhw'n pertnyn ond mae hynny'n llai o broblem na rhoi pawb yn ddi-ofyn yn y categori "Prydeinig". Bydd hyn yn wir hefyd am bob categori arall, e.e. cerddorion, gwleidyddion, llenorion ayyb. Anatiomaros 16:40, 19 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]
ON I gael syniad o faint y broblem edrychwch ar gynnwys Categori:Prydeinwyr yn ôl galwedigaeth... Anatiomaros 16:44, 19 Ebrill 2010 (UTC)[ateb]

Nodiau yr Etholiad cyffredinol golygu

I don't know how many users will be awake and here through the night, or here early tomorrow morning, so I wish to make two requests:

  1. If updating individual constituency results, please continue to use the formatting that is already used in the constituency articles - copying and pasting from other constituency articles, if necessary. This also applies for the articles of individual MPs.
  2. If Mr Cameron wins the most seats in the new Parliament, DON'T change all references to the Prime Minister being being Mr Cameron. This will only happen when appointed by the Queen (after Mr Brown resigns to her); and in the case of a hung Parliament this could take up to a week to happen, if at all (if there is a Labour-led coalition, for example).

Diolch yn fawr iawn, Paul-L 20:44, 6 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Disney articles golygu

Is a full lock neccery for articles meant to be protected from new users? Bots and registered non-admins can't edit them. Also please translate The Cat in the Hat. Thanks to all. 99.56.72.50 00:51, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Clowyd erthyglau Disney oherwydd eu bod nhw'n cael eu fandaleiddio'n aml gan ddefnyddwyr cofrestredig ac anghofrestredig. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 00:55, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]
But for the most part only the users who don't get blocked after registering and stay unblocked in time to edit semied pages vandalize the articles. This only happened with Boatshops who was unblocked for a while until spotted. I don't think a full lock is worth the iw and other problems. 99.56.72.50 00:58, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Efallai'r gwir yw hon, ond 'sdim byd arall gallwn ni wneud. Sut wyddost ti mai Boatshops oedd y fandal? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:07, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Roedd yn gwybod achos fo ydy "Boatshops"/"Bambifan101"/etc. Nice proxy, Bambifan, unfortunately it doesn't hide the BellSouth connection which points directly at you, as if your interests and tone weren't enough of a giveaway. And I thought you said you'd "retired"? Y wers yma ydy peidio derbyn unrhyw beth tebyg i erthyglau Disney ayyb gan gyfranwyr cyfeiriad IP ac i siecio unrhyw gyfranwr arall sy'n gofyn i ni newid cysylltiadau rhyngwici. Mae Paul wedi blocio'r cyfrif IP ond mae'n bosibl bydd o nôl eto gyda'i hen driciau, felly byddwch yn wyliadwrus. Anatiomaros 16:15, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]
I was thinking of unlocking the Disney pages for a few hours to allow Defnyddiwr:Obersachse to make the interwiki changes he/she wanted to do, without having to post them on the talk page - but I had a feeling BambiFan would reappear, and I've been proved right.
Yes, his "retirement" was too good to be true, alas! Anatiomaros 17:50, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]
I've also benn thinking that we could grant admin rights to Defnyddiwr:Obersachse (already an Administrator & Bureaucrat on ru: ) for approximately a week, so they could easily update the interwikis themself. Paul-L 17:35, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]
I've no objection in principal as Obersachse is a trusted contributor, but the problem is we can only grant admin status, not take it away - if we wanted to do that we'd have to go to meta and make a formal request. Anatiomaros 17:50, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]
ON Perhaps the solution would be to unlock for a short period as you suggest, prearranged so that an admin can be here to keep an eye on things? Anatiomaros 17:52, 7 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Wyneb newydd ar en golygu

Mae en newydd gael ei ailwampio. Oes unrhyw beth yn y bibell inni gael rhywbeth fel hyn? Mae'n edrych yn fwy "main" ac mae golygu'n llawer gwell. Mae llawer o Wicis eraill yn edrych yr un yn barod, felly gallwn ni "ddal lan"? Gweler yma os rydych heb eto. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:19, 13 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Tua 2, 3 mis yn ôl roedd cyfle i i ddefnyddwyr y Wicpedia newid i verswin newydd o 'Beta', a dyma fi'n derbyn y cynnig (baswn i'n dychmygu bod y cynnig i bawb a bod yr opsiwn yn aros yn weladwy (reit ar dop y sgrin falle?) nes mae rhywun yn ei dderbyn. Tydy o ddim yn newid mawr, ond mae o'n edrych mwy neu lai yr un fath ag edrychiad newydd y Wici Saesneg. Hefyd, dyma oedd y rheswm am fy ngolygiad diweddar yn honni mai 'Golygu' gyda 'g' fawr sydd yna ar dop y sgrin, ond sylweddolais wedyn mai mond ar Beta mae o'n ymddangos felly. --Ben Bore 21:09, 13 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Dw i'n cytuno'n llwyr gyda Xxglennxx; mae symlder Wiki yn rhywbeth i'w groesawu a'i efelychu. Y lleia o fanylion, y gorau. Dw i'n gweld fod rhai colofnau megis 'Ieithoedd' yn guddiedig, gydag un clic ar y gair yn rhyddhau'r rhestr ieithoedd - os yw person yn dymuno eu gweld. SYMLDER ydy'r gair; 'less is more'. Llywelyn2000 22:35, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Felly beth am inni fynd ati i'w chreu? Sut - wn i ddim! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:38, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Soniwyd am y peth tua mis yn ôl (uchod) mewn erthygl dan y teitl: Boddi dan ormod o wybodaeth. Ac fe geisiodd sawl un ohonom arbrofi yma: [2], ond nes y daw rhai hoelion wyth megis Ben Bore i'r gorlan does dim gobaith!
Iawn. Arhoswn ni nes i bawb ddweud eu dweud. Dwi'n meddwl mae'n jyst hen bryd inni ailwampio'r holl Wicipedia ei hun, a chywiro pethau fel "fy rhestr gwylio." Mae'n edrych yn hen bellach yn fy marn i - mwy o liw a dynameg! Ha. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:09, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Yn hollol gyfaill! Gwych ydy gweld fod Rhys yn parhau i ddatblygu Hafan newydd, amgen; ond mae angen mwy o liw ynddo, Rhys! Gweler: [3] Llywelyn2000 23:11, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Ydy, ond rydym angen ailwampio'r Wici i gyd, nid jyst yr Hafan. Dwi ddim yn credu dylwn ni roi dreigiau Cymreig ar benawdau chwaith. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:54, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Dw i ddim yn siwr os gallwn ni newid y rhyngwyneb i fod fel y un .en eto - efallai bod angen lleolieddio'r rhyngwyneb yn gyntaf. Llofiwr sydd wedi bod yn dallt pethau felly yn y gorffenol.
O ran symleiddio y dudalen flaen, dw i ddim yn gwrthwynebu ei symleiddio, yn wir dwi o blaid hynny, ond doeddwn i ddim o blaid y cynnig i ddefnyddio dyluniadau newydd Rhys achos doeddwn i ddim yn meddwl eu bod yn syml eiddio dim, ar roedd y dyluniad yn edrych yn amhroffesiynol (llawer gwell na allwn i byth gynnig cofiwch). Mond rwan dw i'n gweld dyluniad newydd HRys sy'n welliant aruthrol ar ei gynnigion eraill ac o bosib yn well na'r presenol. Eto, dw i ddim yn siwr oam y dreigiau coch ymhobman, ond o leiaf maen nhw'n subtle!
Cytuno hefyd y gall fod yn anodd i newydd ddyfodiaid ddygymod a phopeth, fel nododdd Hedd ap Gwynfor. Dyna pam mae angen gwella a hyrwyddo adran Tiwtorial.--Ben Bore 12:45, 19 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Mae Ben yn iawn, dim ond Metawiki sy'n gallu newid pethau sylfaenol fel hyn. Bydd angen cyfieithu/lleoleiddio'r rhyngwyneb yno yn gyntaf - mwy o waith i Lloffiwr, mae'n siwr! Ond fe ddaw. Dwi'n defnyddio'r rhyngwyneb newydd ar Gomin ac mae'n welliant yn sicr, er i mi drysu weithiau ar y dechrau am fy mod mor gyfarwydd â'r hen un. Mae unrhyw newidiadau y medrem ni eu gwneud ein hunain, fel diwyg y dudalen Hafan, yn fater i'w drafod, wrth gwrs. Cytuno bod mwy o "liw" yn ddymunol ond cofiwch taw'r testun sy'n ganolog i'r wici. Sut i fod yn "secsi" heb roi'r argraff o fod yn "naff" ydy'r cwestiwn! Anatiomaros 16:27, 19 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n meddwl fod yr Hafan yn edrych yn iawn. Y bar-ochr a phopeth arall oeddwn yn golygu. Cofiwch mai Wicipedia yn Gymraeg yw hon, nid Wicipedia Cymreig. Er mae'n neis i gael bach y o Gymreictod, mae'n rhaid inni osgoi fod yn "dueddol" (os yw'r gair hynny'n gweithio yn y sefyllfa hon). Bydd Hafan sy'n eithaf tebyg i en yn neis, gydag "Erthygl dewis (gan gynnwys testun yr erthygl ei hun, nid jyst teitlau)," "Wyddoch chi...," "Ar y dydd hwn..." Ond ie, mae'n iawn imi awgrymu hyn, gan fy mod i ddim yn gwybod sut her yw e i newid, ha! :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:21, 19 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno bod rhaid newid y dudalen flaen ond dwi'n credu ddylem osgoi cynnwys dreigiau coch a chenin pedr ar y dyluniad. Mae'n rhaid i ni gofio taw Wicipedia Cymraeg ydym, nage Wicipidia Cymreig. Heblaw am y dreigiau, dwi'n hoffi dyluniad newydd Rhys yn fawr. :-) Glanhawr 02:27, 20 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Gwych! Mae'r wyneb newydd wedi cyrraedd ac mae'n llawer haws o safbwynt y disgyblion! (Ac o fy safbwynt i!) Ysgol Dinas Bran 13:22, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Treiglo mewn dolenni - cwestiwn golygu

Iawn! Cefais gwestiwn: sut mae rhywun yn creu dolen pan mae strwuthur y brawddeg yn galw am dreiglad? Diolch. Ynyrhesolaf 17:30, 16 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Fel hyn: [[Caerfyrddin|Gaerfyrddin]]. Yn achos rhai enwau cyfarwydd mae dolenni wedi'u treiglo gennym hefyd, e.e. mae Nghaerdydd yn ddolen i'r erthygl trwy ailgyfeiriad, ond dylem osgoi hynny fel rheol. Mae dolenni fel yr enghraifft gyntaf yn gyfleus hefyd i greu dolen i erthygl gan osgoi gorfod ffitio'r enw llawn yn y testun, e.e. "Mynydd yn Iran yw Demavand..." ([[Rhestr mynyddoedd Iran|Mynydd yn Iran]]). Gobeithio fod hynny o gymorth. Anatiomaros 18:17, 16 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Diolch! Ynyrhesolaf 18:43, 16 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Cwestiwn golygu

Rydw i'n darllen "Eisteddfod 2010" yma ac "yr Eisteddfod 2010" acw. Ydy'r ddau yn gywir ? Diolch. Llydawr 16:01, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Nac ydynt. 'Eisteddfod 2010' sy'n gywir. Seisnigiad ydy "yr Eisteddfod 2010". Anatiomaros 16:31, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr iawn ! Llydawr 16:34, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Annwyl Llydawr,
Nid wyf yn cytuno ag Anatiomaros yn hyn o beth. Mae "yr Eisteddfod 2010" yn hollol gywir. Nid strwythur genidol sydd yma, pe bai'r strwythur yn un genidol, byddai rhaid dweud "Pasg 2010" yn lle "y Pasg 2010" ac "Eisteddfod Urdd 2010" yn lle "Eisteddfod yr Urdd 2010", ayyb. Ond am wn i, "Y Pasg 2010" ac "Eisteddfod yr Urdd 2010" sydd yn gywir. Wedi dweud hynny, rwyf yn gwybod bod pobl yn dweud (ac yn ysgrifennu) pethau megis "steddfod 2010" a "Pasg 2010"(dylanwad "Eisteddfod Llanrwst", "Eisteddfod Aberystwyth" mae'n debyg).
Cofion.
Mae gen i ofn bydd rhaid i mi anghytuno. Y priod-ddull Cymraeg yw 'Eisteddfod 2010[ayyb]' nid "yr Eisteddfod 2010", sy'n dynwared y Saesneg. Yn yr achos yma mae'r eisteddfod yn perthyn i'r flwyddyn. Os ydy 'Eisteddfod 2010' yn anghywir mae 'Deddf Llywodraeth Leol 1948' yn anghywir hefyd, ond wrth gwrs basa neb yn deud "y Ddeddf Llywodraeth Leol 1948", gobeithio. Yn yr un modd, dydym ni ddim yn dilyn y gystrawen Saesneg yn achos pethau fel "the October Revolution" = Chwyldro'r Hydref nid "y Chwyldro Hydref". Sylwer mai ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun ("yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru"?!) y ceir y ffurf safonol. Anatiomaros 18:41, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]
ON Enghraifft gan rywun gyda thipyn mwy o awdurdod na fi: "Eisteddfod Caerwys 1567" ac "(yn) Eisteddfod 1523" (Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968. Sawl enghraifft, e.e. yn y rhagymadrodd). Anatiomaros 18:44, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am ymateb i'm neges. Mae'r enghreifftiau yn ddiddorol iawn ond nid yw "Eisteddfod Caerwys 1567" yn profi dim yn anffodus, byddai pawb yn dweud "Eisteddfod Caerwys" beth bynnag, nid ydy ychwanegu "1567" yn newid yn strwythur. Mae "(yn) Eisteddfod 1523" a "Deddf Llywodraeth Leol 1948" yn fwy perthnasol ac yn fwy o broblem yn hyn o beth, rwyf yn cyfaddef, ond ni welaf ddylanwad y Saesneg yna, dim ond dylanwad y strwythur genidol a gyffredinolir. Ar y llaw arall, fel y gwyddoch, mae dweud ac ysgrifennu pethau megis "Y Nadolig 2010", "Y Pasg 2003", ayyb, yn hollol gywir. Felly mae "Yr Eiteddfod 2010" yn gywir yn fy nhyb i. Nid ydy hynny'n golygu bod "Eisteddfod 2010" yn anghywir o reidrwydd cofiwch. Edrycher ar y gwefannau lle y ceir enghreifftiau megis "Y Nadolig 2010", "Yr Eisteddod 2010", ayyb. A yw'r iaith yn anghywir fel arall? Nac ydy.
Cofion.
ON Ni honnodd neb bod *yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn dderbyniol. Son am ychwanegu blwyddyn penodol ar ol digwyddiad yr ydym yma, nid ychwanegu enw (enw person neu enw gwlad) a cheisio penderfynnu os dylid ystyried blwyddyn a ychwanegir fel ansoddair > "Yr eisteddfod 2010" (gw. Yr Eisteddod gyntaf), neu fel enw > "Eisteddfod 2010" (gw. Eisteddod Llanrwst). Mae enghreifftiau fel "Deddf Llywodraeth Leol 1948" yn dueddol o brofi mai fel enw dylid ystyried "2010", mae enghreifftiau fel "y Pasg 2009" yn dueddol o brofi mai fel ansoddai dylid ystyried "2010". Wedyn mae eisiau ystyried "Eisteddfod yr Urdd 2010", ni fyddai neb yn dweud "car *y cymodog Alun" am wn i, "car cymodog Alun" sydd yn gywir. Dyma pam nad ydwyf yn gweld unrhyw strwythur genidol yn "Eisteddfod yr Urdd 2010" a dyma pam rwyf yn dueddol o feddwl bod "Yr eisteddfod 2010" yn gywir. Mae'n fwy cymhleth na gweld dim ond dylanwad y Saeneg yn hyn o beth, yn fy marn i.
Diolch am eich ymateb. Dydwi ddim eisiau cael trafodaeth faith am hyn, ond mi ychwanegaf ambell enghraifft eglurach o lyfr Gwyn Thomas, sy'n un o'n llenorion disgleiriaf ac yn acdemydd uchel ei barch, wrth gwrs:
"Cadarnhawyd ei oruchafiaeth dros bawb yn Eisteddfod 1523." (Eisteddfodau Caerwys, tud. 80.)
"Beth arall a ddaeth o Eisteddfod 1523?" (eto, tud. 78)
"Ynglŷn â dathlu pedwar can mlwyddiant Eisteddfod Caerwys 1567..." (eto, rhagymadrodd)
Enw yw'r flwyddyn mewn achosion fel hyn, nid ansoddair. Felly mae'r digwyddiad yn perthyn - yn ramadegol ac mewn ffaith - i'r flwyddyn. Cymh. hefyd 'Rhyfel 1990' a llu o enghreifftiau eraill. Anatiomaros 21:56, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Does dim dadl yma. Mae Anatiomaros yn llygad ei le. Llywelyn2000 22:29, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Dwi wedi gadael fy sylwadau ar y tudalen sgwrs. Roeddwn yn meddal am adael y neges hon ar Negesfwrdd gweinyddiaeth, ond penderfynais i'w hychwanegu yma'n lle. Jyst tynnu'ch sylw chi dwi - gadewch ymatebion ar y tudalen sgwrs, ac wedyn gallwn gael gwared â'r post 'ma :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:45, 18 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Help gyda chreu gwybodlen golygu

Wrth ysgrifennu erthygl Justin Bieber, dwi'n ceisio creu gwybodlen (wedi bod yn gweithio gyda Nodyn:Gwybodlen cerddor cerddorol Saesneg (un 'ma mwy) a Nodyn:Gwybodlen cerddor cerddorol) sy'n cynnwys ei wybodaeth e. Mae'n gweithio i faint, ond mae'n cynnwys geiriau fel "style="text-align:center;" class="." Gweler yma am enghraifft. All rhywun helpu neu ddatrys y broblem, neu wneud gwybodlen o sgratsh eto??? Diolch. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:29, 26 Mai 2010 (UTC)[ateb]

We already have this infobox: Nodyn:Gwybodlen Cerddorion Paul-L 16:05, 26 Mai 2010 (UTC)[ateb]
O diolch, Paul! Dwi'n dymuno y bydd pobl yn ychwanegu'r nodyn Cymraeg i'r fersiwn Saesneg! Ond, dyw'r llun ddim yn gweithio nawr ar yr enghraifft uchod! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:57, 26 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Rhanbarthau rygbi golygu

Oes rhywun yn dda am wneud mapiau? Mae angen un newydd arnom ni: gweler Sgwrs Delwedd:RhanbarthauRygbiCymru.svg. Anatiomaros 20:27, 29 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Bot Interwicket ar Wiciadur golygu

Eisiau cymorth technegol rhywun ydw i. Mae'r bot Interwicket ar y Wiciadur yn gwneud ei waith yn dda ond mae'n boddi'r dudalen Newidiadau Diweddar gyda gwybodaeth sy'n amherthnasol. A oes modd cuddio'r diweddariadau mae'n gwneud? Diolch! Pwyll 17:11, 8 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Oes, os ydy gweinyddwr ar y Wiciadur yn barod i roi statws Bot iddo. Anatiomaros 17:19, 8 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Mi elli di hefyd newid dy osodiadau person fel nad yw golygiadau gan botiau yn ymddangos ar dudalen 'Newidiadau diweddar' a 'Fy rhestr gwylio'.--Ben Bore 08:43, 9 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
gol: O ddarllen ateb Anatiomaros, os nad os statws bot ganddo eto, mae'r cyngor dwietha gennyf yn ddiwerth!--Ben Bore 08:43, 9 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Diolch bobl! Mae Adam wedi rhoi statws bot iddo nawr. Pwyll 13:51, 9 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]


Yr Axolotl golygu

Shwmae pîps! Un o fy hoff anifeiliaid yw'r Axolotl ond oes enw Cymraeg ganddo? Os na, dwi'n awgrymu creu un (oherwydd nid yw'r llythyren X yn bydoli yn ein wyddor, yn amlwg). Byddai'n ffafrio enw creadigol yn lle rhywbeth fel 'Acsolotl' - fy awgrymiad; Ogofil.

Diolch :) Stifyn 12:58, 10 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Dydy hi ddim i fyny i ni i greu enwau hollol newydd fel hynny am fod Wicipedia yn dibynnu'n gyfangwbl ar ei ffynonellau. Fel rwyt ti'n deud, 'acsolotl' fyddai'r Cymreigiad naturiol, waeth pa mor ddiflas ydy hynny. Mae Cymreigio enwau sydd heb fod yn y geiriadur yn dderbyniol ond nid creu enwau dychmygol. Anatiomaros 19:55, 10 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Dileu?! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 17:01, 10 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Ymateb ar y dudalen sgwrs - ailgyfeirio efallai? Anatiomaros 19:56, 10 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Categorïau nodiadau golygu

Mae gennym ni rai cannoedd o nodiadau o bob math sydd heb gael eu rhoi mewn categori o gwbl (gweler yma). Cofiwch geisio rhoi unrhyw nodyn newydd mewn categori, pe bai dim ond yn Categori:Nodiadau neu Categori:Gwybodlenni. Mae 'na waith oriau (diflas) i geisio trefnu'r rhai sydd heb gategori, ond pwysicach na hynny yw'r ffaith mai ychydig iawn ohonom fydd yn gwybod am y nodiadau hyn fel arall, yn enwedig os nad yw'r enw yn amlwg, ac felly mae'n annhebygol y byddent yn cael eu defnyddio gan eraill. Anatiomaros 22:13, 11 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Rhaid dweud, fel arfer dwi'n anghofio i gynnwys y categorïau, ond un rheswm pam - pan mae pobl yn creu tudalennau / erthyglau / nodiadau / gwybodlenni (ayyb), maen nhw fel arfer yn anghofio i fynd i en ac ychwanegu'r fersiwn Cymraeg ato. Dyw hyn ddim yn deg i bobl sydd am greu pethau, ac i ffeindio allan rhyw amser wedyn gafodd ei greu gan rywun arall, fel gwnaeth â Nodyn:Ailgyfeirio (crëwyd gen i) a Nodyn:Ail-gyfeirio (crëwyd gan rywun arall). Mae hyn yn cyd-fynd â chategorïau hefyd - fel arfer mae categori ar gael am rywbeth newydd, ond wrth greu pethau o bethau en, rydym yn tueddu cyfieithu yn hytrach defnyddio'r un sy'n bodoli'n barod. Pam? Am yr union resymau a nodwyd uchod! Felly . . . . . . . plîs, bawb, ychwanegwch y Gymraeg i en hefyd - am bopeth! </rant!> -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 05:26, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Cofier hefyd fod rhai o'r categoriau ar 'en' yn llawer rhy gymhleth i ni - does gennym ni ddim 3 miliwn o erthyglau eto! Anatiomaros 17:34, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Mi gredais i fod y bots yn ei roi ar en yn otomatig; felly, prin iawn ydy'r adegau y bydda i'n trafferthu gwneud hyn. Ond mi rydw i newydd tsecio hen erthyglau wnes i greu dro'n ol, ac wir i ti - doedden nhw ddim ar Wiki o gwbwl. Efallai fod ganddyn nhw bot sy'n dethol ieithoedd mawr ac yn hepgor y rhai bach! Llywelyn2000 16:37, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Efallai roedd y dolenni yn anghywir. Mae'r botiau'n gwneud eu gwaith yn gyflym iawn fel rheol. Hefyd yn achos erthyglau am Gymru mae'n ddigon posibl nad oes erthygl ar yr Anglopedia. Dwi'n creu llawer o erthyglau trwy gyfieithu o'r Ffrangeg ac o roi'r ddolen Ffrangeg ar y gwaelod mae'r botiau yn ychwanegu'r lleill o fewn deg munud fel rheol. Anatiomaros 17:30, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Rhaid rhoi dolen rhyngwici o'r erthygl .cy at o leiaf un o'r erthyglau mewn iaith arall, yna gall botiau wneud y gweddill (am wn i). Os dan ni'n creu erthygl newydd yma a dim dolen rhyngwici o gwbl, does gan y bot druan ddim syniad at beth y dylid ei gysylltu.--Ben Bore 07:42, 15 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]


  Cwblhawyd
Enghraifft o'r hyn ddywedais uchod!!!!!! Pan greodd y tudalennau hyn gan eu hawduron, NI ychwanegodd y ddolenwici mewnol, ac o ganlyniad, mae dau fersiwn o'r un tudalen gennym! P'un ddylwn ei ddefnyddio? Yn fy marn i, dylwn gael gward ag un ohonyn. Mae'r ddau yn cysylltu i en:Wikipedia:Manual of Style, ond mae'r Saesneg yn cysylltu ag Wicipedia:Arddull (dwi'n meddwl mai fi oedd e wnaeth ychwanegu'r ddolenwici mewnol. Pe bai rhywun wedi cysylltu'r ddwy â'i gilydd yn y lle cyntaf ac yn syth, ni fydd y broblem hon gennym!). Mae mwy o wybodaeth ar Wicipedia:Arddull, felly yn fy marn i, ddylwn drosglwyddo'r wybodaeth o Wicipedia:Canllaw arddull, ei gwagio, a'i hailgyfeirio i Wicipedia:Arddull. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:40, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno. Anatiomaros 22:09, 14 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno. Llywelyn2000 22:31, 14 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Gwnaf i fe nawr 'te. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:00, 16 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

  Cwblhawyd
-- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:18, 16 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n meddwl cafodd pawb nodyn gan Defnyddiwr:Capsot heddiw yn galw arnom ni fel unigolion i gefnogi Wikimedia CAT, cynghrair o'r wicipediau ieithoedd llai sy'n ceisio hyrwyddo'r wicis hynny o fewn Wikimedia (y "Fam Long") ac yn benodol trwy newid y rheolau fel ein bod yn medru sefydlu "chapters" seiliedig ar iaith/diwylliant yn hytrach na gwlad[=gwladwriaeth sofran]. Cefais dipyn o drafodaeth gyda Capsot am hyn heno ar fy nhudalen sgwrs (Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros#Helo, could you help us, please!). Roeddwn i'n meddwl basai'n syniad cychwyn trafodaeth yma yn lle ei chael ar wasgar yma ac acw. Dwi'n meddwl fod hyn yn symudiad cyffrous ac y dylem ni gymryd rhan ynddo. Dwi ddim wedi cael amser i ddarllen popeth sydd ar y ddolen CAT ond mae'n swnio'n hynod berthnasol i ni yma ar y Wicipedia Cymraeg. Unrhyw syniadau/sylwadau? Anatiomaros 22:06, 14 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Heb fod yn ddadleuol am hyn, sut all gwyddoniadur sy'n cael ei greu gan sosialwyr fod yn deg a niwtral? Dwi'n gweld y tuedd ymron pob erthygl dwi'n darllen. Iddew 01:19, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Cyffredinoli ydy datganiad fel "gwyddoniadur sy'n cael ei greu gan sosialwyr" achos dw i'n sicr ddim yn ystyried fy hun yn y categori hwn. Dw i'n cytuno i raddau fod slant o blaid Palesteiniaid ar nifer o'r erthyglau ond mae gan bob datganiad/ffaith sydd wedi cael ei wneud ffynhonnell ddibynadwy sy'n cefnogi'r datganiadau hynny. Os oes datganiad heb dystiolaeth i'w gefnogi, dylid rhoi {{Angen ffynhonnell}} ar ôl y ffaith.
Os nad wyt ti'n teimlo fod erthygl yn ymdrin a phwnc mewn ffordd deg, mae croeso i ti dy hun ychwanegu gwrthddadleuon a safbwyntiau eraill i'r erthygl OND rhaid cofio cynnwys ffynhonnell ddibynadwy i brofi'r ffaith ac sicrhau dy fod yn ysgrifennu mewn ffordd sy'n cyflwyno'r ffeithiau yn unig ac nid dy farn bersonol. Trwy wneud hynny, gellir sicrhau fod erthyglau'n cyflwyno pob safbwyntiau ac yn deg ac yn niwtral.
Gobeithio fod hyn o rhyw gymorth. Pwyll 07:54, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Ai fi ydy'r unig un sy'n cael rhyw deimlad rhyfedd o déjà vu wrth ddarllen hyn a gweld cyfraniadau'r defnyddiwr "newydd" hwn? A chymharwch geiriad y ddau ddatganiad cenhadaeth hyn: "Byddaf yma i gael gwared o'r gwrth-semitaeth amlwg ar y Wicipedia Cymraeg Comiwnyddol." (#1) "Mae'n ymddangos bod y Wikipedia ma yn cael ei greu gan Sosialwyr eithafol. Bydda i ma i gael gwared o'r rhagfarn." (#2). Cafodd y cyfrif cyntaf ei flocio am gyfnod amhenodol am olygiadau fel hyn a hyn ac ymosodiadau personol; os profir mai'r un person sydd yma, ac mae'n anodd geni gredu nad yw hynny'n wir, ceiff y cyfrif yma ei flocio ar unwaith ac am byth fel cyfrif pwped o'r cyfrif a flocwyd. Dwi'n meddwl bod y dystiolaeth yn ddigon plaen, ond arosaf i glywed barn eraill. Anatiomaros 16:27, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Fi oedd y defnyddiwr arall hefyd. Wi ddim yn esgus fel arall. Dylwn i ddim fod wedi ymosod ar bobl fel na. Felly wi'n flin am hynny. Felly baniwch fi oes ychi eisiau. Hoffwn i allu gwneud cyfraniadau adeiladol i roi iawn y problemau wi'n gweld ma. Ond nai adael os taw dyna beth ychi eisiau. Iddew 16:43, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Fe fuaswn i'n awgrymu rhoi cyfle arall iddo, os yw'n barod i osgoi ymosodiadau ar ddefnyddwyr eraill a rhoi ffynonellau ar gyfer unrhyw gyfraniadau i bynciau dadleuol. Fel y dywed Pwyll, mae awgrym o rywfaint o slant o blaid y Palesteinaid yn rhai o'r erthyglau, a fyddai hi ddim yn beth drwg cael rhywun yn rhoi'r ochr arall i'r ddadl. Ond ar y ddealltwriaeth fod unrhyw ymosodiad personol neu roi barn bersonol mewn erthygl yn golygu bloc ar unwaith, yn wyneb hanes y defnyddiwr. Porius1 17:04, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Mae Porius1 yn hael iawn, ond dwi'n barod i dderbyn rhoi un cyfle i'r defnyddiwr hwn. Dan y rheolau dylai'r cyfrif newydd gael ei flocio fel "pwped". Go brin fod yr achos blocio cyntaf yn un ymylol. Os cawn yr awgrym lleia fod yr un peth yn digwydd eto dwi'n gobeithio bydd un o'r gweinyddwyr eraill yn blocio'r cyfrif, yn hytrach na fi, am fod y person yma yn gyfrifol am ymosodiadau cas a phersonol iawn yn erbyn fi ac eraill (e.e. [4]). Felly nid mater o wahaniaeth barn ydy hyn. Anatiomaros 17:27, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n flin am yr ymosodiadau cas wnes i Anotiamaros. Roni wedi ngwylltio ar y pryd er bod hynny ddim yn esgus am beth wnes i. Ond dwi yn berson rhesymol fel arfer. Dwi ddim yn gefnogwr mawr o Israel, dwi'n cydymdeimlo'n fawr gyda'r Palestiniaid a dwi'n casâu Netanyahu. Ond dwi'n cael fy ngwylltio pan mae pobl yn galw pobl Israel yn "seioniaid" pan gafodd y rhan fywaf o'r Iddewon yn Israel heddiw eu geni na. Ble ddylen nhw fynd nawr? Does dim cartrefi gyda nhw yn Ewrop a dyw’r rhan fywaf ohonyn nhw erioed wedi bod yn Ewrop. Felly nage Ewropeiaid ydyn nhw a nage bai Iddewon ifanc sy’n byw yn Israel yw Seionaeth. Am ryw reswm pan ddarllenais i’r erthygl ar ymosodiad Israel ar Lain Gaza roni’n meddwl tawr agwedd oedd "yr hen Iddewon drygionus wrthi eto". Cymharwch hi a'r erthygl Saesneg ac fe welwch chi'r gwahaniaeth. Ond gorymateb oni. Ac eto dwi'n flin am ymosod arnochi Anomatimaros. Iddew 17:42, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Dw i hefyd yn cytuno gyda Porius y dylid rhoi un cyfle arall i Iddew. Pan yn ysgrifennu unrhyw erthygl am fater dadleuol neu fater mae rhywun yn teimlo'n gryf yn ei gylch, mae'n anodd iawn i unigolyn aros yn ddiduedd ac o ganlyniad, weithiau mae dyn yn dewis ffeithiau a ffynonellau sy'n atgyfnerthu safbwynt bersonol yr unigolyn hwnnw. Yn hynny o beth, dw i o'r farn y gallai fod o fantais cael rhywun fel Iddew i gyflwyno'r gwrth-ddadleuon.
Wedi dweud hynny, dw i'n pwysleisio'r hyn a ddywedais yn fy ymateb gwreiddiol - rhaid i'r wybodaeth a ychwanegir fod wedi ei eirio mewn ffordd ddiduedd ac yn nodi ffynonellau sydd yn ddibynadwy. Yn ogystal a hyn, os oes unrhyw enghraifft o ymosodiadau personol neu wneud newidiadau bwriadol ddadleuol, dylid ei flocio'n syth. Pwyll 19:07, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Yn gyntaf oll, dwi'n cytuno iddo/iddi gael siawns arall. Yn ail, mae'n rhaid bod yn ofalus, Pwyll, rhwng datganiad a ffaith, cofia. Mae Iddew wedi ychwanegu {{Angen ffynhonnell}} i'r erthygl Wica o ddiweddar, i'r ffaith, "Crefydd yw Wica." Nid yw hyn yn ddatganiad, ond ffaith. Rydym yn gallu rhoi ffynhonnell, ond bydd jyst allan o ryw lyfr sy'n dweud "Mae Wica yn grefydd." -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:43, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Buost graff Anatiomaros... fel arfer. Os wyt ti'n cytuno, mi gytuna inna hefyd. Llywelyn2000 22:08, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Cyfnod ar ben... un newydd yn cychwyn! golygu

Gair byr i'ch hysbysu fod holl [[elfen|nau'r Tabl Cyfnodol newydd ei gwbwlhau. O ran nifer yr elfennau felly - er bod gwaith mireinio ac ehangu rhai o'r hen erthyglau yn parhau. Hwre! Llywelyn2000 22:43, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Llongyarchiadau a diolch am y gwaith ardderchog yn ddiweddar, Llywelyn. [Bu'r FandalDisney nôl hefyd - newydd ddod yn ôl o'r wici Simple English lle mae'r IP wedi cael ei flocio rwan... Cadw dyn yn brysur!] Anatiomaros 23:12, 17 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

6 Mehefin 2010 (UTC)

Dyfynnu cyfeiriadau a nodiadau golygu

Gaf i'ch gofyn i ddefnyddio Categori:Nodiadau dyfynnu wrth nôl/cyfieithu o en (Wicipedia'r Saesneg), os gwelwch yn dda. Wrth jyst gael y cyfeiriadau a nodiadau o'r gwaelod yr erthygl, rydym yn colli allan ar brin dipyn o wybodaeth berthnasol i'r erthygl/cyfeiriad ei hun. Maen nhw'n hawdd i'w defnyddio, felly 'sdim rheswm dros ddim yn eu defnyddio(!) Os ein bod ni i gyd yn defnyddio'r nodiadau dyfynnu uchod, mi fydd pob un cyfeiriad yn gyson trwy gydol y Wici 'ma, sy'n gwneud Wici gwell, mwy darllenadwy a dealladwy. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:16, 18 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Dw i newydd ychwanegu'r ddolen i fy nhudalen ffrynt, gan mai prin iawn ydw i wedi bod yn eu defnyddio: rhy brin, rhy anaml. diolch i ti am eu casglu'n dwt a thaclus fel hyn. Llywelyn2000 22:57, 18 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Croeso :) Ond Wici sy'n gwneud y gwaith tacluso - dwi'n jyst cyfeirio ato, haha! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 23:31, 18 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]


Gwallau yr Hafan newydd golygu

Mae dau gangymeriad i'w trwsio:

  • Ewch â fi am nôl; mae hyn yn ramadegol anghywir. Ewch â fi yn ôl ddylai fod.
  • Be goblyn ydy Notice something different? We've made a few improvements to Wicipedia. Learn more.? a sut mae ei newid? Llywelyn2000 21:36, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Bydd angen newid hyn ar Metawiki, dwi'n meddwl. Dydy'r pethau cefndir/fframwaith fel hyn ddim yn rhan o'n wici ni fel y cyfryw (o ran meddalwedd). Anatiomaros 22:00, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi wedi'i newid, ond bydd yn cymryd sbel i'r feddalwedd catsho lan, ond fi'n methu dod o hyr i "Notice something different . . . .". Hefyd wedi newid "Fy rhestr gwylio" o'r diwedd! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 13:53, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Gwych, Glenn. "Fy rhestr wylio" sy gen i rwan! Anatiomaros 14:17, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Cyn dweud y gair yn llawn... cyflawnwyd! Diolch eto Glenn! :} Llywelyn2000 20:41, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Croeso i'r ddau ohonoch :) Dwi newydd ddiweddaru "fy newisiadau" hefyd i gynnwys priflythyren i gyd-fynd â'r gweddill. Dwi'n bwriadu gwario dydd cyfan yn mynd trwy'r holl gyfieithiadau i weld os fy mod yn gallu helpu gyda rhai ohonyn. Pa un yw'r "prif" adran? H.y., sy'n cynnwys y testun a welir gan bawb yma. MediaWiki? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:55, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Y Faner Newydd yn datgelu ffeithiau CHWYLDROADOL am ein hanes golygu

Gawn ni ofyn i chi i gyd ddarllen [Erthygl yn Y Faner Newydd] sy'n erthygl arloesol iawn. Bydd angen newid llawer ar ein erthyglau hanes yma ar Wici cyn mynd ati i ddiweddaru Wiki yntau. Gwybodaeth drwy astudiaeth ddiweddar o'n cromosomau ydyw ac mae'n newid llyfrau hanes Cymru, yr Indiaid Cochion, y Basgiaid ayb Ysgol Dinas Bran 07:08, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Ydy, ond bydd rhaid i ni fod yn ofalus. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei wyntyllu ond bydd rhaid i ni aros i weld ymateb haneswyr, archaeolegwyr ac arbenigwyr eraill, yn ogystal â'r genetegwyr. Dylem sôn am hyn mewn erthyglau perthnasol, ond yn ochelgar am rwan. Buaswn i'n cytuno cyn belled ag y mae hyn yn cadarnhau barn hanesyddol y Cymry/Brythoniaid mai ni yw "brodorion" Ynys Prydain, ond mae camu nôl wedyn i Siberia a'r cysylltiad gyda pobl brodorol yr Amerig yn beth arall. A sut mai esbonio fod y Fasgeg yn iaith unigol tra bod yr ieithoedd Celtaidd yn perthyn i'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd? Mae hynny'n faen tramgwydd i'r ddamcaniaeth, o bosibl. Anatiomaros 14:15, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mater o amser fydd hi a mi fydd y dadansoddi ieithyddol yn dilyn y genetegwyr, a'r wybodaeth yn ffiltro i lawr i'r llyfrau. O ran diffyg cysylltiad rhwng y Fasgeg a'r Gymraeg, mae'r ffigwr o 50,000 o flynyddoedd yn esbonio hynny, dw i'n meddwl, gan fod hynny'n fwy na digon o amser i iaith esblygu'n iaith gwbwl wahanol neu 'unigol'. Llywelyn2000 22:25, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae angen bod yn ofalus gyda'r deunydd yma. Mae nifer o astudiaethau o'r fath, a chryn amrywiaeth yn y canlyniadau, ond bod rhai astudiaethau wedi cael mwy o gyhoeddusrwydd yn y cyfryngau nag eraill. Porius1 06:55, 10 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]


Llofnod golygu

Oes rhywun arall wedi sylwi bod ein llofnodion wedi newid? Dim ond enw'r cyfrif sy'n ymddangos rwan. Mae hynny'n od iawn achos mae'r ddolen i Sgwrs yno o hyd ar Gomin er i'r sustem newid wythnosau nôl fan'na. Glitsh yn y meddalwedd? Mae'n angyfleus, beth bynnag. Anatiomaros 22:02, 2 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Efallai nam yw e. Gynhwysir y ddolen i sgwrs mewn llofnod fel arall? Dwi ddim yn gallu cofio'i weld :| Mae modd iti newid fe dy hunan os liciet ti. Cer i Fy newisiadau, ac wedyn i Llofnod, a jyst rhoi unrhyw beth mewn :) Fel sydd gen i ac Adam (dwi'n meddwl). -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 16:25, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Erthyglau gan gyfranwyr IP golygu

Basai'n braf cael clywed eich barn ar fy sylwadau am hyn @Sgwrs Wicipedia:Eich erthygl gyntaf. Diolch. Anatiomaros 22:50, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Wicipedia golygu

Gwriwaidd neu beniwaidd ydy wicipedia, ers pryd, ha paham? Diolch. Bianchi-Bihan 08:25, 7 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dywedwn i taw gair gwrywaidd ydyw. Sai'n gwybod pam. :) Glanhawr 09:00, 7 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Gwrywaidd, gan fod yr enw ei hun yn cyfeirio at "gwyddoniadur," sy'n wrywaidd hefyd (encyclopaedia yn Saesneg yw "gwyddoniadur"). -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 13:33, 7 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]


Archwilwyr defnyddwyr golygu

Gweler trafodaeth ar Wicipedia:Negesfwrdd gweinyddiaeth parthed Archwilwyr defnyddwyr.

Carwn gynnig dau berson i wneud y gwaith hwn, sef Defnyddiwr:Anatiomaros a Defnyddiwr:Xxglennxx. Bydd yr enwebiadau'n cau ar ddydd Sadwrn a chynhelir pleidlais wedi hynny.

Dylid defnyddio'r adran yma ar gyfer enwebu a phleidleisio, a'r negesfwrdd gweinyddiaeth ar gyfer trafodaeth.

Wel, does dim llawer o ymateb hyd yn hyn! Dwi'n meddwl bydd angen mwy o amser arnom ni, beth bynnag. Does dim brys arbennig ac os ydym am wynebu holl fiwrocratiaeth y Fam Long - ac mae gen i ddigon o brofiad o fiwrocratiaeth 'en' yn y gorffennol i ddychmygu sut brofiad y gallai hynny fod! - bydd yn well i ni wneud yn siwr bod gennym ni gymaint o gefnogaeth â phosibl ac hefyd fod popeth yn cael ei wneud yn ffurfiol. Rhan gyntaf hynny fyddai pleidlais ffurfiol i roi statws gweinyddwr i Glenn hefyd (gweler isod). A fyddai'n well i gadw'r drafodaeth a'r pleidleisio gyda'i gilydd yn daclus, efallai? Sdim ots gen i os ydy o yn y Caffi neu ar y Negesfwrdd. Anatiomaros 22:13, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Enwau ieithoedd golygu

Gwn i nid yw'r pwnc yn ymwneud â pholisïau Wicipedia (ayyb), ond efallai bod hwn o ddiddordeb i bobl sy'n sgwennu erthyglau ynglŷn ag ieithoedd? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 14:46, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dolen ddefnyddiol iawn, Glenn. Dwi'n gweld rhywfaint o anghysondeb yn y ffordd mai enwau rhai ieithoedd llai yn cael eu Cymreigio ac eraill dim, e.e. enwau ieithoedd Ewrop, ond mae'n adnodd gwerthfawr iawn. Piti dydyn nhw ddim yn nodi ffynonellau ond mae safon Cymraeg pwy bynnag sgwennodd yr erthyglau yn ardderchog ac mae'n amlwg ei fod/bod o gefndir academaidd. Diolch i ti! Anatiomaros 15:06, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Pleidlais i roi statws gweinyddwr i Xxglennxx golygu

Hoffwn dynnu sylw pawb at y cynnig i roi statws gweinyddwr i Glenn. Enwebwyd gennyf fi ac eilwyd gan Llywelyn2000. Er mwyn gwneud popeth yn ffurfiol, mae lle i bleidleisio ar y Negesfwrdd gweinyddiaeth, sef yma. Anatiomaros 22:06, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Mae chwech o bobl wedi pleidleisio hyd yn hyn. Gan fod rhai cyfranwyr amlwg heb fod yma dros y dyddiau diwethaf dwi'n cynnig aros tan nos Wener cyn cau'r bleidlais. Mae cyfnod o wythnos yn ddigon, dwi'n meddwl. Anatiomaros 14:38, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Erthyglau'n ymwneud a rhyw golygu

Ai dyma'r unig thema, bellach, lle nad oes gennym ni Nodyn i fforio'n hwylus o gwmpas y pwnc? Bois bach! A phrin ydy'r erthyglau sydd gennym! A hithau'n 2010 - O na bai 34 awr mewn diwrnod! Newydd ddarganfod Nodyn ar Gyfeiriadedd Rhywiol.Llywelyn2000 23:22, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n iawn - hen bryd i ni gael un! (Amser, amser, amser...). Anatiomaros 23:45, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Wrth imi ddod o hyd i nodiadau 'en,' creaf nhw a'u defnyddio, ond am y foment, dwi'n canolbwyntio ar bynciau eraill. Eto - amser, amser, amser! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:54, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ô.N. Mae gennym hwn hefyd. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:57, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Buost weithgar a gofalus ac mae'r gwacter a fu bellach wedi'i lenwi gen ti ! Llywelyn2000 04:24, 23 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Wicimedia CAT Diolch! golygu

Hello to all of you and my most sincere apologies for using English again. Just a small information, you can take a look at my userpage to see the evolution of our campaign. I wish you all a delicious summer, best regards, Capsot 07:56, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Moltes gràcies, Capsot! Anatiomaros 14:41, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]


Your article on Catrin Finch golygu

Hi. Just keeping things up to date, could someone please add the reference into Catrin's article about her appearance on the BBC Kids tv show "Zingzillas"? There is information on her page at enwiki, and also on the ZingZillas article there too. I'm only asking cause I'm keeping an eye on the kids tv articles there, through the TV Wikiproject, and it's sorta related. Cheers. BarkingFish 22:14, 22 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

The Cardiff of Queen Street golygu

Mae'r enw "Caerdydd Heol Y Frenhines" yn aros yn Rhif Un yn ein Siartiau (Hafan) i bawb ei weld, gwaetha'r modd. Cafwyd rhai sylwadau am y ffurf anghyfiaith ar dudalen Sgwrs yr erthygl ond does neb wedi mynegi eu barn ers rhai dyddiau rwan. A ddylem ni symud hyn neu beidio? Dwi'n gwrido bob tro dwi'n ei weld ar y rhestr Erthyglau Newydd. Anatiomaros 16:47, 23 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n fater o beth yw'r enw swyddogol. Oes rhywun yn gwybod beth sydd ar yr arwydd yn yr orsaf ei hun? Porius1 12:41, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Newydd ddod ar draws hwn! Dw i wedi newid enw'r stryd i'r hyn ddylai fod; gweler yma. Llywelyn2000 14:48, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dal i grafu pen ynglyn a hon...Er fod Heol y Frenhines Caerdydd yn ramadegol gywir, os mai gramadeg sydd am gymryd blaenoriaeth yna yn Saesneg byddem yn cywiro Cardiff Queen Street i Queen Street Cardiff, London Euston i Euston London, Manchester Piccadilly i Piccadilly Manchester a.y.y.b. Y rheswm caiff Caerdydd ei roi o flaen Heol y Frenhines yw i wneud pethau'n fwy syml i'r teithiwr e.e. ar wefan amserlenni trenau mae'n llawer haws i'r rheini sydd ddim yn adnabod yr ardal yn dda i ddechrau gyda enw'r ddinas (e.e. Birmingham) cyn mynd i fanylder (e.e. New Street) i greu Birmingham New Street. Gramadeg anghywir, ond enw mwy cyfleus. Osian Llwyd 10:51, 4 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n gweld dy bwynt yn achos y Saesneg, ond dwi'n dal i feddwl fod 'Caerdydd Heol y Frenhines' yn edrych ac yn swnio'n chwerthinllyd. A dyna pam y ceir cynifer o enghreifftiau o'r ffurf ramadegol gywir ar y we gan gyrff eraill, mae'n debyg. Pe bai'n darllen 'Caerdydd: Heol y Frenhines' neu 'Caerdydd - Heol y Frenhines' ni fyddai'n gymaint o broblem. Efallai dylem awgrymu i Arriva, os ydynt am gael y ffurf Gymraeg, i'w sgwennu fel 'Heol y Frenhines, CAERDYDD' fel bod enw'r ddinas yn sefyll allan? Anatiomaros 16:22, 4 Awst 2010 (UTC)[ateb]
ON Dydy record Arriva am barchu'r Gymraeg ddim yn arbennig o dda. A phan maen nhw'n ei defnyddio mae'n ymddangos nad yw gramadeg yn cyfri am lawer. Mae arwydd anferth ar flaen gorsaf Llandudno yn datgan "Croeso i Gorsaf Llandudno", er enghraifft! Anatiomaros 16:26, 4 Awst 2010 (UTC)[ateb]


Alla i dynnu'ch sylw i'r nodyn uchod, os gwelwch yn dda. Fydd yn dda petaech yn ei ddarllen a'i ddefnyddio o hyn ymlaen. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:24, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Diolch Glenn, ond mae'n rhaid i mi ddeud ei fod yn swnio'n gymhleth, yn Gymraeg a Saesneg a Ffrangeg fel ei gilydd! Anatiomaros 22:38, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Wiciadur golygu

Dw i wedi bod yn ceisio symleiddio'r dudalen gymorth ar y Wiciadur [5] er mwyn ceisio cael mwy o bobl i gyfrannu. Heb eisiau swnio fel fy mod i'n ceisio dwyn cyfrannwyr Wicipedia, a fyddai unrhyw un yn fodlon cymryd cipolwg arno a rhoi adborth ar y dudalen sgwrs o.g.y.dda? A yw'r cyfarwyddiadau'n ddigon syml i unrhyw un fedru creu cofnod o'r newydd ac unrhyw awgrymiadau eraill? Diolch! Pwyll 18:13, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dwi wedi gadael awgrym bach ar y dudalen Sgwrs. Anatiomaros 22:32, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Enw neu gyfenw? golygu

Mae defnyddio'r cyfenw yng nghorff yr erthygl i mi wastad yn swnio'n annaturiol, gan mai'r enwau bedydd ryden ni'n eu defnyddio yn Gymraeg, fel arfer, e.e. ar y newyddion. Enghraifft: "Parhaodd James i gyflwyno rhaglenni teledu..." I fy nghlust i, mae "Parhaodd Sian i gyflwyno rhaglenni teledu..." yn llawer mwy cyfeillgar, agos-atoch, naturiol a chynnes. Mater o arddull ydyw; ac os cytunwch, mi wna i ddechra chwynu a newid y dudalen "Wicipedia:Arddull".

Mae'n fwy cyfeillgar, ond gan nad ydym yn nabod y person, mae'n well (yn fy marn i) defnyddio cyfenw rhywun. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:11, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n dibynnu ar y person dan sylw. Byddai "Ar ôl brynsh o fyrgyrs a tsips, penderfynodd George a Tony ymosod ar Irac" yn chwerthinllyd, wrth reswm, ond ar y llaw arall mae "Yn ei gerdd adnabyddus 'Trafferth Mewn Tafarn' mae Dafydd yn disgrifio'r helynt a gafodd..." yn hollol dderbyniol ac arferol (dim ond mewn llyfrau Saesneg y cyfeirir ato fel "ap Gwilym"). Dewis arall yw defnyddio enwau llawn, wrth gwrs. Anodd creu set o reolau pendant: mae canllaw yn well na rheol gadarn. Anatiomaros 22:54, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno gyda defnyddio'r enw bedydd. Y rheswm am hyn yw bod llawer o'n cyfenwau, fel enwau ein tafarndai, yn gyffredin iawn. Mae defnydd o'r cyfenw yn gweithio yn y Saesneg oherwydd yr amrywiaeth eang o gyfenwau, a'r ffaith ei bod yn genedl anferth. Yng Nghymru, mae llawer o bobl unai yn "Jones" neu "Roberts", felly mae defnyddio "Jones" ynghanol erthygl yn swnio'n gloff iawn. Mae llawer o bobl yn gollwng eu cyfenwau; er enghraifft byddai galw Ceri Wyn Jones yn Jones yn anaddas gan mai Ceri Wyn ydyw ar lafar. Does dim angen ffurfioldeb llwyr bob amser gan ein bod yn genedl fechan a chlos ar y cyfan.
O.N. - cytunaf â phwynt Anatiomaros hefyd - synnwyr cyffredin ydyw a dweud y gwir. Eisingrug 23:09, 26 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]


Bocs etholiadol golygu

Awgrymaf y newidiadau canlynol i erthyglau sy'n dangos canlyniadau etholiadau gyda 'bocs etholiad'. Newid e.e. Llafur yn dal i Llafur yn cadw a newid ennill oddi wrth i disodli - dyma sut y caiff canlyniadau swyddogol gwefan y BBC eu datgan. Hefyd mae blogwyr etholiadol yn defnyddio'r gair 'gogwydd' yn hytrach na 'Swing'. Yn olaf, oes modd newid lliw Plaid Cymru o felyn i wyrdd tywyll?

Diolch i chi am eich agwrymiadau. Dwi'n cytuno gant y cant am ddefnyddio 'cadw', 'disodli' a 'gogwydd' - dwi'n siwr ceiff y termau hynny eu newid heb ddadl ("swing" sy gennym felly? dyna dipyn o embaras!). Ynglŷn â lliw PC, cafwyd tipyn o ddadl am hyn o'r blaen, ond mae'n ymddangos fod y Blaid wedi mabwysiadu'r lliw melyn yn swyddogol erbyn hyn; roeddem ni'n defnyddio'r lliw gwyrdd traddodiadol ar un adeg ond mae'r lliw, fel y blaid ei hun, wedi newid. (Gyda llaw, os rhowch pedwar tild fel hyn, ~~~~, ar ddiwedd eich neges bydd yn creu llofnod fel bod pawb yn gwybod pwy sy'n siarad.) Anatiomaros 22:56, 3 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Diolch! Osian Llwyd 10:41, 4 Awst 2010 (UTC)[ateb]
If the fluent speakers agree to these new terms, I'd be happy to implement them in election boxes. As mentioned elsewhere, Plaid Cymru's official colour since February 2006 has been yellow, and so we have to reflect that. Paul-L 16:36, 4 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Diolch Paul. I'll admit I hadn't taken too close a look at the infobox myself or I'd have suggested something similar ("Swing" in particular!). If you'd like to do that it'd be great. Agree about the colour, as noted above and elsewhere. Anatiomaros 16:42, 4 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Please see this page Sgwrs Nodyn:Dechrau bocs etholiad to make any further comments. Diolch, Paul-L 12:09, 9 Awst 2010 (UTC).[ateb]

Darnio'r Cewri golygu

Mae na lawer o erthyglau ar gewri fel Owain Owain - un o brif sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith a syniadau Adfer yn cael eu tameidio ar Wiki Sasneg gan Wikiaid gwrth-Gymreig. Gweler http://en.wikipedia.org/wiki/Talk:Owain_Owain. Allith rywun ddod a chydig o sens i fewn i'r sgwrs plis?

punctuation golygu

Hello, just a quick question hopefully. Are rules of punctuation always the same in Welsh as English, or are there any important differences to be aware of? Thanks. Sais Neis 23:11, 14 Awst 2010 (UTC)[ateb]

The same as far as I'm aware, apart from the use of the apostrophe, obviously. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:27, 14 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Thanks. Sais Neis 23:34, 14 Awst 2010 (UTC)[ateb]