William Morgan Williams
Roedd Dr William Morgan Williams (3 Mehefin 1832 – 9 Mawrth 1877) a adweinid wrth yr enw barddol Fferyllfardd yn feddyg ac yn fardd lled enwog yn ei ddydd.
William Morgan Williams | |
---|---|
Ffugenw | Fferyllfardd |
Ganwyd | 3 Mehefin 1832 Pwllheli |
Bu farw | 9 Mawrth 1877 Llansanffraid Glan Conwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, bardd |
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd Fferyllfardd ym Mhentre-poeth, Pwllheli ar y 3ydd o Fehefin, 1832, yn fab i William Williams, (Gwilym Heli) crydd, a oedd ei hun yn dipyn o fardd gwlad. Dangosodd William Morgan diddordeb mawr mewn barddoniaeth er yn ifanc a chyfansoddodd nifer o gerddi cynganeddol a rhydd yn ei arddegau.[1]
Wedi derbyn addysg elfennol yn Ysgol Botwnnog aeth yn brentis i siop fferyllydd William Parry Williams, Bridge Street, Caernarfon[2]
Hyfforddiant a gwaith meddygol
golyguWedi gorffen ei brentisiaeth aeth i weithio fel cynorthwydd a disgybl ym meddygfa Dr Watkin Roberts yng Nghaernarfon cyn mynd ymlaen i ysbyty hyfforddi yng Nglasgow gan raddio yn LRCP (trwydded Coleg y Ffisigwyr) ac MRCS (Aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon) ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi gorffen ei hyfforddiant ymsefydlodd fel meddyg yn Llansanffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych lle y bu'n gwasanaethu hyd weddill ei oes.[3]
Y Bardd
golyguYn ei ddydd cyfrifwyd Fferyllfardd fel un o fawrion y byd barddonol Cymraeg, yn yr un dosbarth a beirdd megis Ceiriog, Trebor Mai a Gwilym Cowlyd. Roedd yn aelod o Orsedd Geirionydd ac yn mynychu Arwest Glan Geirionydd, ond prin a erys dim o'i waith sydd wedi goroesi ac sydd wedi profi i fod o werth oesol. Bellach mae Fferyllfardd yn cael ei gofio'n bennaf am ddigwyddiad yn Eisteddfod Gadeiriol Môn Porthaethwy 1873, a achosodd ysgytiad yn y byd eisteddfodol, pan gyhuddwyd bardd y gadair o ennill drwy dwyll.[5]
Testun cystadleuaeth y Gadair oedd Distawrwydd. Roedd Thomas Tudno Jones (Tudno), John Owen Griffith (Ioan Arfon) a John James Hughes (Alfardd) yn beirniadu'r gystadleuaeth. Cafwyd chwe ymgais, ac yn ôl y beirniaid yr oedd pob un ohonynt yn ddigon da i deilyngu'r wobr. Dyfarniad y beirniaid oedd mai awdl gan un yn dwyn y ffugenw Salis oedd yn rhagori ac yn haeddu'i gadeirio[6] . Canwyd y corn a safodd Dr William Morgan Williams ar ei draed i gydnabod mae ef oedd Salis. Cafwyd gwrthwynebiad gan ddau o'r beirniaid, Ioan Arfon ac Alfardd, i gadeirio'r buddugol gan eu bod wedi derbyn llythyr gan fardd arall, William E Williams (Gwilym Alltwen), yn honni mae Gwilym Cowlyd oedd gwir awdur y gerdd a'i fod wedi ei gynnig ar werth; gan mae Fferyllfardd a safodd ar ei draed ac nid Gwilym Cowlyd, roedd yn amlwg bod Fferyllfardd wedi twyllo trwy brynu'r gerdd gan Cowlyd.
Gwadodd Gwilym Cowlyd a Fferyllfardd y cyhuddiadau, gan gyfaddef bod Gwilym Cowlyd wedi bwrw golwg dros y gerdd ar gais ei gyfaill, ac wedi awgrymu ambell sylw er mwyn cywreinio'r gerdd, ond mai gwaith gwreiddiol Fferyllfardd ydoedd.
Cynddeiriogwyd y gynulleidfa gan y ddadl a'r oedi yn y brif seremoni gan floeddio Chair! Chair! Chair! (yn Saesneg, mae'n debyg) er mwyn annog yr eisteddfod i fwrw ymlaen i gadeirio'r bardd buddugol. Penderfynodd pwyllgor yr eisteddfod bod cyhuddiad o dwyll yn fater difrifol a gofynnwyd i Richard Davies Aelod Seneddol Sir Fôn i ffurfio pwyllgor i ymchwilio i'r cyhuddiad. Wedi tair awr o hel tystiolaeth a thrafod, penderfynodd y pwyllgor, yn unfrydol o blaid dyfarnu'r gadair i Fferyllfardd. Ond, oherwydd bod awr y cadeirio wedi mynd heibio, ni chafodd Fferyllfardd ei gadeirio, yn hytrach cyflwynwyd y gadair iddo yn ystod cyngerdd yr hwyr, gan roi'r awgrym nad oedd yn llawn haeddu ei gadeirio; a bu trafod yn y wasg am haeddiant Fferyllfardd am flynyddoedd wedyn; gyda rhai yn awgrymu bod yr anghydfod wedi arwain at farwolaeth y bardd yn ŵr weddol ifanc yn 44 oed.
Ymateb Fferyllfardd ei hun i'r anghydfod oedd mai dyma:
... yr insult mwyaf melltigedig a gafodd unrhyw ymgeisydd erioed mewn Eisteddfod ... Ni fuaswn yn gyrru fy awdl i'r gystadleuaeth oni bae fod gennyf feddwl uchel am Ioan Arfon a Thudno, am Alfardd nis gwyddwn ddim, ond gwn yn awr:
Maddeuaf, meddai awen,
I hogyn bach gwan ei ben
.
I ddangos nad oedd ganddo unrhyw embaras o'i gyfraniad i'r Eisteddfod enwodd mab a anwyd iddo ychydig fisoedd ar ôl yr eisteddfod yn Ambrose Salis Williams.[7]
Bywyd personol
golyguPriododd Dr William Morgan Williams a Catherine Hughes, Glan y Môr, Llandrillo yn Rhos yn Eglwys y plwyf Llandrillo ar 24 Ionawr 1868, roedd y briodferch yn ferch i John Hughes, llafurwr o'r un plwyf [8]. Cawsant bedwar o blant dau fab a dwy ferch.
Bu farw Fferyllfardd o drawiad ar y galon ar 9 Mawrth 1877 yn 44 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys y plwyf Llansanffraid Glan Conwy gyda pheth rhwysg. Roedd Arwestwyr Glan Geirionydd wedi paratoi sashes galarwisgol drudfawr ar gyfer yr amgylchiad, a gwisgwyd hwynt yn yr orymdaith gan Gethin, Gwilym Cowlyd, Tudno, Scorpion, Iscoed, Elfyn, Dewi Crwst, a Dr Hughes, pa rai a drefnwyd i ragflaenu'r elor, fel prawf bod ei gyfeillion barddonol yn driw i'r geirwiredd ei fod yn fardd haeddiannol o glod.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "MARWOLAETH DR. W. MORGAN WILLIAMS (FFERYLLFARDD)", Llais Y Wlad, 16 Mawrth 1877; adalwyd 18 Chwefror 2014
- ↑ Carnarvon Traders CHEMISTS & DRUGGISTS (APOTHERCARIES)[dolen farw]; adalwyd 18 Chwefror 2014
- ↑ "Ymweliad a Llandudno. Adgofion Dyddorol", Y Werin, 7 Mawrth 1896; adalwyd 18 Chwefror 2014
- ↑ Llais y Wlad, 30 Hydref 1874; adalwyd 17 Chwefror 2014
- ↑ Cyffro yn yr Eisteddfod; adalwyd 18 Chwefror 2014
- ↑ "Eisteddfod Gadeiriol Môn", Y Dydd, 15 Awst 1873; adalwyd 19 Chwefror 2014
- ↑ "Family Notices", Welsh Coast Pioneer, 27 Mehefin 1907; adalwyd 19 Chwefror 2014
- ↑ Cofrestr Priodas Llandrillo yn Rhos 1868 (Yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych)
- ↑ "Y Claddedigaeth", Llais y Wlad, 16 Mawrth 1877; adalwyd 19 Chwefror 2014