Canu'r Bwlch yw enw ar roddir ar y canu Cymraeg yn y cyfnod rhwng diwedd cyfnod yr Hengerdd a dechrau cyfnod Beirdd y Tywysogion, sef yn fras o'r seithfed ganrif i'r 11eg.

Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Arolwg golygu

Yn wahanol i'r Hengerdd, mae enwau'r rhan fwyaf o'r beirdd a ganai yn y cyfnod a elwir Canu'r Bwlch (o tua'r 7g hyd yr 11eg yn anhysbys bellach. O blith yr ychydig o enwau sydd wedi dod i lawr i ni mae gwaith Afan Ferddig, Arofan, Morfran, Meigan a Dygynnelw ar goll ac mae union awduraeth y cerddi a briodolir i Lywarch Hen a Heledd yn ansicr. Dim ond y gwaith a briodolir i Daliesin yn Llyfr Taliesin sy'n gysylltiedig â chymeriad hanesyddol, ond fe'i dangoswyd gan Syr Ifor Williams mai cerddi diweddarach ydyn nhw (ac eithrio rhyw ddwsin o destunau dilys gan y Taliesin go iawn) a'u bod wedi cael eu cyfansoddi tua'r 9g. Perthyn i draddodiad yn hytrach na bardd hanesyddol y mae'r cerddi a briodolir i Fyrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin yn ogystal.

Ceir hefyd nifer o gerddi eraill, gan gynnwys y darogan cynnar Armes Prydain, canu natur, cerddi crefyddol, englynion am arwyr (Englynion y Beddau) a cherddi sy'n ymwneud â gwirioneddau amlwg (gwirebau). Ni wyddom ddim am awduron y testunau hyn. Er yn ddiweddarach yn eu ffurf presennol, mae'r cyfresi o gerddi byr a adnabyddir fel Trioedd Ynys Prydain, yn amlwg â'u gwreiddiau yn y cyfnod hwn hefyd.

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.