Banc Gogledd a Deheudir Cymru

Banc Cymreig a sefydlwyd yn 1836 ac a unodd gyda Banc y Midland yn 1908
(Ailgyfeiriad o Banc Gogledd a De Cymru)

Banc Cymreig a sefydlwyd yn 1836 oedd Banc Gogledd a Deheudir Cymru (Saesneg: The North and South Wales Bank), y pwysicaf o'r banciau annibynnol niferus a sefydlid yng Nghymru yn y 18g a'r 19g. Ffurfiwyd y banc a elwyd hefyd yn Banc Cymru ac yn Fanc Gogledd a De Cymru) yn Lerpwl ym 1836 ac fe'i lleolwyd yn wreiddiol mewn adeilad yn James Street, Lerpwl.[1] Yr adeg honno roedd miloedd o Gymry'n byw yn y ddinas. Yn ei anterth roedd dros cant o ganghennau, ac mae sawl adeilad ar strydoedd mawr Cymru yn dal i ddwyn meini ag enw'r banc arno.

Banc Gogledd a Deheudir Cymru
Math o gyfrwngbanc, busnes Edit this on Wikidata
Daeth i ben20 Tachwedd 1908 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu10 Awst 1836 Edit this on Wikidata
OlynyddBanc y Midland Edit this on Wikidata
Cynnyrchloans Edit this on Wikidata
PencadlysLerpwl Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfyngodd Deddf Siarter Banc 1844 ar hawliau banciau i gyhoeddi eu harian eu hunain, a dim ond banciau a oedd yn bathu arian cyn gweithredu'r Ddeddf a allai barhau i wneud hynny. Byddai pob banc yn colli'r hawl i argraffu arian pan fyddant yn uno neu drwy gael eu meddiannu gan sefydliad arall. Tynnwyd y papurau banc olaf o Gymru ym 1908 gan Fanc Gogledd a De Cymru, pan gafodd eu cymryd drosodd gan Fanc y Midland. Ar ôl hynny dim ond nodiadau a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr y gallai Cymru eu defnyddio.[2] Dim ond saith banc sy'n dal yr hawliau i argraffu papurau arian cyfred eu hunain, pob un ohonynt yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhaid i fenthycwyr sy'n argraffu'r papurau hyn ddal asedau sy'n gyfwerth â swm yr arian sydd ganddynt mewn cylchrediad.[2] Dywedodd Jonathan Edwards (llefarydd Trysorlys Plaid Cymru), fod y DU yn gwadu'r cyfle i Gymru gael ei thrin fel cenedl gyfartal.

Adeilad y Banc ym Mhorthmadog, tua 1875

Gweledigaeth

golygu

Cyhoeddwyd prosbectws yn cynnig cyfranddaliadau o £20, gyda £10 wedi'i dalu, ac yn galw sylw at anghenion:

“extensive and important mining, manufacturing and agricultural districts comprised within the proposed sphere of operations" [1]

Roedd y banc yn rhagweld rhwydwaith o ganghenau lleol ledled Cymru, er gwaethaf yr heriau o ran trafnidiaeth a chyfathrebu, gan nad oedd unrhyw reilffyrdd yng Nghymru ar y pryd.[1]

Pwyllgor dros dro a dirprwyaethau

golygu

Penododd pwyllgor dros dro o fasnachwyr, gweithgynhyrchwyr a dynion busnes Lerpwl ddirprwyaeth i ymweld â threfi Cymru a Llundain ar gyfer cyfweliadau ag arweinwyr, uchelwyr a bonheddwyr ac Aelodau Seneddol Cymru. Arfogwyd y bobl hyn gyda'r pwer i brynnu banciau lleol ac adeiladau ac i benodi staff (clercod) ac i agor banciau.[1]

Ymddiriedolwyr cyntaf

golygu

Penodwyd Syr Love Parry Price Parry, Ambrose Lace a John Dean Case yn ymddiriedolwyr y banc.

Roedd ceisiadau am gyfranddaliadau yn fwy na'r hyn a ragwelwyd a chodwyd addewidion o gyfalaf o £600,000 mewn cyfranddaliadau o £10 gyda £ 7 10s wedi'i dalu.[1]

Sefydlu canghennau drwy Gymru

golygu

Ar ôl ffurfio, dechreuodd y banc gymryd nifer o fanciau preifat drosodd yn y Gogledd ac er mwyn ehangu i'r De, anfonwyd dirprwyaeth yno i asesu'r potensial ar gyfer canghennau newydd.[1]

Yn ystod y flwyddyn gyntaf roedd y banc wedi sefydlu 13 cangen a 10 is-gangen, a'r un bellaf 100 milltir o Lerpwl.[1]

Pan aeth Banc Gogledd a Chanol Lloegr (Northern & Central Bank of England) i'r wal, prynnodd Banc Cymru wyth ohonyn nhw: wyth allan o 40.[1]

Canghennau cyntaf

golygu

30 Mai 1836: Trefesgob, Swydd Amwythig, y Drenewydd, Powys a'r Trallwng

8 Mehefin 1836: Llanfyllin a Chroesoswallt

27 Mehefin 1836: Rhuthun

1 Gorffennaf 1836: Llanrwst

4 Gorffennaf 1836 Caernarfon a Chaer

9 Awst 1836: Wyddgrug, Sir y Fflint

19 Medi 1836 Wrecsam

Daeth yr un ar ddeg o ganghennau hyn yn rhan o Fanc y Midland yn 1908, gan helpu i sefydlu eu rhwydwaith canghennau yng Nghymru.[1]

Cymerodd y banc drosodd fanc Aberystwyth o'r enw Bank y Llong ar 15 Awst 1836 ac roedd ganddo gangen yn New Street, Aberystwyth rhwng tua 1864 a 1885, yna symudodd y banc i adeilad ar ochr ddeheuol Great Darkgate Street ac wedi hynny bwriadwyd symud i adeilad newydd ar draws y stryd, ond tra roedd y gangen newydd yn cael ei hadeiladu fe'i meddianwyd gan Fanc y Midland.[3][4][5][6]

Roedd cangen Wrecsam yn yr adeilad lle mae 43 Stryd Fawr bellach yn sefyll ac ym 1861 symudodd i 29 Stryd Fawr. Agorwyd y gangen yn 14 Stryd Fawr ym 1905, a daeth yn dafarn Wetherspoons ym 1999.[7][8]

Agorwyd y gangen yn y Rhyl yn Chwefror 1856 yn hen Bodfor House ar gornel Stryd Bodfor a Stryd Wellington. Ym 1880 symudodd y banc i adeilad yn Neuadd y Dref lle cyflogwyd 10 clerc a bu'r banc yma nes cwblhau adeilad newydd ym 1900, wedi'i wneud o gerrig o Dalacre a briciau coch Rhiwabon.[9]

Sefydlwyd cangen Llangollen ym 1864. Codwyd yr adeilad banc cain gan Morris Roberts, a oedd yn gyfrifol am sawl adeilad yn y dref gan gynnwys Neuadd y Dref a'r Ysgol Genedlaethol. Caewyd y banc hwn ar 7 Chwefror 2014.[10]

Yng Nghaer, gelwid y gangen yn Grosvenor Club and North and South Wales Bank.

Agorwyd nifer o ganghennau yng Nglannau Mersi ac o'r 1860au ymlaen sefydlodd ganghennau mewn maestrefi newydd a thrwy Cilgwri.[1]

Roedd gan y canghennau hyn lawer o gwsmeriaid diwydiannol, yn enwedig ym myd masnachu a llongau a oedd yn cydbwyso busnes amaethyddol y canghennau yn y Gogledd a Swydd Gaer a Swydd Amwythig yn lloegr.[1]

Erbyn Tachwedd 1908, roedd gan y banc gyfanswm o 84 o ganghennau a 24 o is-ganghennau.[1]

Enw da

golygu

O dan reolaeth George Rae o Gilgwri rhoddwyd blaenoriaeth uchel i ddethol a hyfforddi staff ac effeithlonrwydd systemau cadw llyfrau o gymharu â banciau gwledig eraill.[1]

Defnyddiai nifer fawr o reolwyr a chlercod y Gymraeg yn naturiol ac yn ddyddiol. Ymhlith graddedigion y banc roedd bancwyr o fri fel R Meredith Jones, rheolwr Lerpwl rhwng 1868 a 1894, a Rowland Hughes, rheolwr cyffredinol rhwng 1897 a 1908 ac roedd gan y banc lawer o'i enw da oherwydd ansawdd ei staff. a'i ddulliau teg.[1]

Yn 1901 cymerodd drosodd Fanc Leyland a Bullin (sefydlwyd 1807).

Yn Nhachwedd 1908 unodd y banc â Banc y Midland. Dechreuwyd yr uno gan Syr Edward Holden, Barwnig 1af a oedd yn gadeirydd Banc Midland a'i reolwr gyfarwyddwr (prif swyddog gweithredol). Roedd yn ffigwr blaenllaw ym maes uno banciau'r cyfnod.[1][11]

Er bod Banc Cymru wedi bod yn broffidiol rhwng 1868 a 1895, gyda difidendau o 17'/2%, dirywiodd y busnes wedi hynny. Yn benodol, arweiniodd cylch busnes y diwydiant cotwm a Panig 1907 at y penderfyniad i uno â Banc y Midland. Ar adeg yr uno roedd cyfalaf talu i mewn y banc yn £ 750,000, cronfeydd wrth gefn y banc yn £ 512,000, yr adneuon yn £11 miliwn a thaliadau ymlaen llaw a biliau yn £7'/2 filiwn.[1]

Diwedd arian cyfredol Cymru

golygu

Yn y 19g, cyhoeddodd y mwyafrif o fanciau preifat eu papurau banc eu hunain. Cyfyngodd Deddf Siarter Banc 1844 ar yr arfer hwn a dim ond banciau a gyhoeddodd bapurau cyn gweithredu'r Ddeddf a allai wneud hynny. Byddai pob banc yn colli'r hawl i argraffu arian pan fyddant yn uno neu drwy gael eu meddiannu gan sefydliad arall. Tynnwyd y papurau banc olaf o Gymru ym 1908 gan Fanc Gogledd a De Cymru, pan gafodd eu cymryd drosodd gan Fanc y Midland. Ar ôl hynny dim ond nodiadau a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr y gallai Cymru eu defnyddio.[2]

Dim ond saith banc sy'n dal yr hawliau i argraffu papurau arian cyfred eu hunain, pob un ohonynt yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rhaid i fenthycwyr sy'n argraffu'r papurau hyn ddal asedau sy'n gyfwerth â swm yr arian sydd ganddynt mewn cylchrediad.[2]

Mae Plaid Cymru wedi dweud y dylid rhoi’r pwerau yn ôl i Gymru greu ei harian ei hun, er mwyn rhoi statws cyfartal i’r genedl â’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dywedodd Jonathan Edwards (llefarydd Trysorlys Plaid Cymru), fod y DU yn gwadu'r cyfle i Gymru gael ei thrin fel cenedl gyfartal o fewn y DU. Dywedodd y byddai cyhoeddi arian papur Cymru “yn ein rhoi ar sail gyfartal â’r cenhedloedd eraill”. Byddai'r cynnig yn gweld banc preifat newydd yn cael y pŵer i fathu ei harian ei hun am y tro cyntaf mewn mwy na 170 o flynyddoedd. Wrth siarad â'r Financial Times, dywedodd:

“Byddai cyhoeddi nodiadau banc Cymru, rwy’n credu, yn dod yn hwb i’w groesawu’n fawr i gymeriad cenedlaethol Cymru, ei chydnabyddiaeth fel cenedl gyfartal ac fel endid economaidd” [2]

Rhai o'r banciau eraill yng Nghymru

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • W.F. Crick a J.E. Wadsworth, Canrif o Hanes Banc Gogledd a Deheudir Cymru (Banc y Midland, 1936). Llyfr bach 30 tud. sy'n olrhain hanes y banc.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 1.14 1.15 "The North and South Wales Bank 1836-1908, the 150th anniversary of Midland Bank's forerunners in Wales" (PDF).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "The Telegraph: Wales should have its own banknotes again".
  3. Morgan, T.O., (1848), New Guide to Aberystwyth and its Environs, mentioned, p. 13
  4. Aberystwyth Observer, 9.1.1864
  5. Anon, (1874), Morgan's New Guide to Aberystwyth and Neighbourhood, p. 16
  6. Samuel, David, Cambrian News, 5.6.1903
  7. "The Buildings of Wrexham, High Street, north side". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-06. Cyrchwyd 2021-11-21.
  8. "J D Wetherspoon: The North and South Wales Bank". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-21. Cyrchwyd 2021-11-21.
  9. "Rhyl History Club: The North and South Wales Bank".
  10. "Llangollen: The North and South Wales Bank".
  11.  CANRIF O HANES BANC GOGLEDD A DEHEUDIR CYMRU by Crick, W.F. & Wadsworth, J.E... Stella and Rose's Books. Adalwyd ar 4 Mai 2012.