Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Comisiwn a sefydlwyd yn 2021 gan Lywodraeth Cymru i archwilio dyfodol cyfansoddiadol Cymru

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (Saesneg: Independent Commission on the Constitutional Future of Wales) gan Lywodraeth Cymru a cytunwyd arno fel rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae gan y Comisiwn ddau amcan eang.

Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Dechrau/Sefydlu2021 Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2021 wedi cyfres o orymdeithiau mawr gan YesCymru ac AUOB Cymru dros annibyniaeth i Gymru a thrafodaeth a ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yn Etholiad Senedd Cymru, 2021
Yr Athro Laura McAllister cyd-Gadeirydd y Comisiwn
Rowan Williams cyd-Gadeirydd y Comisiwn

Yr amcan cyntaf yw i ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni. Yr ail amcan yw ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.[1]

Gwaith golygu

Ym mis Hydref 2023 lansiwyd y Comisiwn Cyfansoddiadol Annibynnol gan lywodraeth Lafur Cymru.[2] Cytunwyd ar hyn hefyd fel rhan o Gytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021.[3] Dan arweiniad yr Athro Laura McAllister a chyn Archesgob Cymru, Rowan Williams, bydd yn archwilio perthynas Cymru â gweddill y DU yn y dyfodol ac yn ystyried annibyniaeth i Gymru hefyd.[4][5] Galwodd Plaid Cymru y comisiwn y "sgwrs genedlaethol fwyaf eang am ddyfodol Cymru".[2]Amlinellodd canfyddiadau interim y comisiwn dri opsiwn dichonadwy ar gyfer Cymru gan gynnwys annibyniaeth, i’w harchwilio’n fanylach yn 2023. Amlinellodd yr adroddiad yr opsiwn o Gymdeithas Masnach Rydd yn ystod cyfnod pontio i annibyniaeth lle gellid gwneud cytundeb ar e.e. cyfrifoldeb Lloegr ar gyfer materion megis amddiffyn. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi conffederasiwn o Brydain ac Iwerddon fel opsiwn posibl a chwestiynau allweddol ar annibyniaeth i gael sylw yn 2023.[6] Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod "problemau sylweddol" gyda'r ffordd mae Cymru'n cael ei llywodraethu o fewn Undeb y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd a bod annibyniaeth yn opsiwn "hyfyw".[7]

Aelodau golygu

Pobl allweddol y Comiwisn yw:[8]

Cyd-gadeiryddion golygu

Comisiynwyr golygu

Cyrraedd y Cyhoedd golygu

 
Leanne Wood, y cyn Arweinydd Plaid Cymru ac un o gomisiynwyr y Comisiwn

Fel rhan o waith ymgysylltu gyda chyhoedd Cymru, bu i'r Comisiwn drefnu taith ar hyd y wlad a hefyd mynychu digwyddiadau cyhoeddus. Roedd hefyd modd i'r cyhoedd rhannu eu barn ar ddyfodol cyfansoddiadol drwy e-bost a chwblhau ffurflen arolwg ar-lein.[9] Yn Ebrill 2023 sefydlodd y Comisiwn 'Gronfa Ymgysylltu á'r Cymuned' [sic.] gan gwrdd â grwpiau ar draws Cymru gan gynnwys Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu; Menter Effaith Gymunedol CIC (Castell-nedd Port Talbot); Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru (Cymru gyfan); Cyngor Hil Cymru (Abertawe); Tai Pawb (Caerdydd); Lleisiau o Ofal Cymru.[10]

Adroddiad Interim Rhagfyr 2022 golygu

Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddwyd adroddiad interim sy’n amlinellu cam cyntaf y gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn – rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Tachwedd 2022 – casgwyd barn a thystiolaeth ar sut caiff Cymru ei rhedeg. Dyma rai o’r gweithgareddau:[11]

Derbyn barn dros 2,500 o ddinasyddion Cymru [12]
Tua 1,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned
15 sesiwn i gasglu tystiolaeth
5 gweithdy gyda gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr
24 o gyfarfodydd a gweithdai gyda gwahanol grwpiau a fforymau

Tri llwybr cyfansoddiadol hyfyw golygu

Yn yr adroddiad, dadleuodd y Comiiwn nad yw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn dichonadwy ar gyfer darparu sefydlogrwydd a ffyniant i Gymru.

Nododd yr adroddiad dri llwybr cyfansoddiadol dichonadwy ac amgen ar gyfer sut gellid rhedeg Cymru, a allai wella bywydau dinasyddion Cymru. Y tri llwybr yw:

  • Datganoli: wedi’i gryfhau a’i ddiogelu
  • Strwythur ffederal
  • Annibyniaeth

Cyfeiriadau golygu

  1. "Beth rydym yn ei wneud ar dudalen y Comisiwn ar wefan Llywodraeth Cymru". Llywodraeth Cymru. 2022.
  2. 2.0 2.1 Chandler, Andy (19 October 2021). "Commission considers Welsh independence". Herald.Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 October 2021.
  3. "Y Cytundeb Cydweithio 2021" (PDF). Llywodraeth Cymru. 2021.
  4. "Annibyniaeth i gael ei 'ystyried' gan gomisiwn". BBC Cymru Fyw. 19 Hydref 2021.
  5. "Welsh independence to be considered by commission". BBC News. 19 October 2021.
  6. "Interim report by The Independent Commission on the Constitutional Future of Wales" (PDF).
  7. "Welsh independence a 'viable' constitutional option, landmark report says". 7 December 2022.
  8. "Beth rydym yn ei wneud ar dudalen y Comisiwn ar wefan Llywodraeth Cymru". Llywodraeth Cymru. 2022.
  9. "Dweud eich Dweud". Gwefan y Comisiwn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-08-21. Cyrchwyd 21 Awst 2023.
  10. "Gronfa ymgysylltu â'r cymuned". Gwefan y Comisiwn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-08-21. Cyrchwyd 21 Awst 2023.
  11. "Adroddiad Interim". Gwefan y Comisiwn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-08-21. Cyrchwyd 21 Awst 2023.
  12. "Comisiwn: Y stori hyd yn hyn". Sianel Youtube y Comisiwn. 2023.


Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.