Cystadleuaeth Cân Intervision
Mae'r Gystadleuaeth Cân Intervision (ISC) yn gystadleuaeth gân ryngwladol sy'n cynnwys gwladwriaethau Ôl-Sofietaidd ac aelodau o Sefydliad Cydweithrediad Shanghai. Yn flaenorol, roedd yn fersiwn Dwyrain Ewrop gomiwnyddol o gystadleuaeth canu yr Eurovision. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Intervision, rhwydwaith gorsafoedd teledu Dwyrain Ewrop. Fe’i cynhaliwyd yn bennaf yn Opera’r Goedwig nhref glan-môr Sopot, Gwlad Pwyl.
Cystadleuaeth Cân Intervision | |
---|---|
Un o'r nifer o logos a ddefnyddiwyd gan y Rhwydwaith Intervision rhwng 1977–1980. | |
Genre | Song contest |
Nifer o benodau | 5 cystadleuaeth |
Cwmni cynhyrchu | Intervision |
Dosbarthwr | Intervision |
Rhyddhau | |
Darlledwyd yn wreiddiol |
|
Cronoleg | |
Rhagflaenwyd gan | Sopot International Song Festival |
Sioeau cysylltiol | Eurovision Song Contest (1956–) |
Trefnwyd yr ISC rhwng 1977 a 1980. Disodlodd Ŵyl Gân Ryngwladol Sopot (Sopot ISF) a gynhaliwyd yn Sopot er 1961. Yn 1981 canslwyd ISF yr ISC / Sopot oherwydd cynnydd y mudiad undebau llafur annibynnol, gwrth-gomiwyddol, Solidarność, a farnwyd gan wledydd eraill y Bloc Comiwnyddol yn wrth-chwyldroadol. Roedd yn rannol yn ymdrech o ddiplomyddiaeth ddiwylliannoll a lledaenu grym meddal o fewn a thu hwnt y Bloc Comiwnyddol.
Hanes
golyguCychwynnwyd a threfnwyd Gŵyl Gân Ryngwladol gyntaf Sopot ym 1961 gan Władysław Szpilman, gyda chymorth Szymon Zakrzewski o Polish Artists Management (PAGART). Roedd Szpilman yn Iddew a phianydd proffesiynnol. Ei berfformiad byw ef ar y radio Pwyleg o ddarn Chopin Nocturne mewn C sharp leiaf oedd y gerddoriaeth fyw olaf i'w chlywed yng Ngwlad Pwyl nes diwedd yr Ail Ryfel Byd yn sgil goresgyniad y Natsiaid o Wlad Pwyl yn 1939. Alltudwyd ei deulu i gyd i'r gwersylloedd angau, ond llwyddodd i ddianc a byw mewn dirgel trwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ef yw prif gymeriad y ffilm, The Pianist gan Roman Polanski.[1] Cynhaliwyd y tri rhifyn cyntaf yn neuadd Iard Longau Gdańsk (1961–1963), ac ar ôl hynny symudodd yr ŵyl i Opera’r Goedwig (Opera Lesna). Y brif wobr yw "Eos Ambr" am y rhan fwyaf o'i hanes yr Ŵyl.
Rhwng 1977 a 1980 fe'i disodlwyd gan y Intervision Song Contest, a gynhaliwyd o hyd yn Sopot. Yn wahanol i Gystadleuaeth Cân Eurovision, roedd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Sopot yn aml yn newid ei fformiwlâu i ddewis enillydd ac yn cynnig llawer o wahanol gystadlaethau i'w chyfranogwyr. Er enghraifft, yn y 4edd Ŵyl Gân Intervision (a gynhaliwyd yn Sopot 20-23 Awst 1980) roedd dwy gystadleuaeth yn effeithiol: un ar gyfer artistiaid sy'n cynrychioli cwmnïau teledu, a'r llall ar gyfer y rhai sy'n cynrychioli cwmnïau recordiau. Yn y cyntaf, ystyriodd y rheithgor rinweddau artistig y caneuon a gofnodwyd; tra yn yr ail, barnodd ddehongliad y perfformwyr."[2]
Mae'r ŵyl bob amser wedi bod yn agored i actau nad ydynt yn rhai Ewropeaidd, a gwledydd fel Cuba, Gweriniaeth Dominica, Mongolia, Seland Newydd, Nigeria, Periw, De Affrica a llawer o rai eraill. wedi cael eu cynrychioli yn y digwyddiad hwn.
Beth oedd 'Intervisionn'
golyguYn yr oes cyn teledu lloeren, cysylltwyd rhwydweithiau teledu nifer o wladwriaethau Ewrop gan rwydwaith a Eurovision. Oherwydd rhwyg ideolegol rhwng Comiwnyddiaeth Dwyrain Ewrop a Chyfalafiaeth Gorllewin Ewrop a achoswyd y Rhyfel Oer, penderfynnodd gwladwriaethau y Bloc Sofietaidd (oedd o dan arch-reolaeth yr Undeb Sofietaidd wahanu oddi wrth Undeb Darlledu Ewrop (EBU) ym 1950 a chreu eu rhwydwaith teledu eu hunain ym 1961 a'i alw'n Intervision. Roedd ei swyddogaeth, ar gyfer darllediadau byw ar draws ffiniau, yn debyg i swyddogaeth Eurovision.[3]
Gwahaniaethau a Gwleidyddiaeth
golyguRoedd yr Intervision wedi ei hysbrydoli gan yr Eurovision - er nad oedd cynulleidfaoedd y Dwyrain yn gallu gwylio'r Eurovision roeddynt yn gwybod am yr enillwyr fel Waterloo gan ABBA. Roedd y trefnwyr a'r sefydliad Gomiwnyddol am ddangos y gallai'r system Gomiwnyddol gynhyrchu rhywbeth cystal, os nad gwell, na'r Gorllewin gyfalafol.
Yn wahanol i'r Eurovision, Sopot oedd lleoliad pob cystadleuaeth bob blwyddyn, beth bynnag oedd cenedl yr enillydd. Doedd dim terfyn chwaith ar hyd y caneuon - yn wahanol i'r Eurovision lle roedd rhaid cadw at dim hwy na thri munud.
Cafwyd islais wleidyddol o bryd i'w gilydd. Atofiodd Eugeniusz Terlecki, cyfarwyddwr cyffredinol Asiantaeth Artistig y Baltig, a helpodd i drefnu'r ornest, "Weithiau byddai hyd yn oed artist dda o'r Undeb Sofietaidd ddim yn cael ei werthawrogi a byddai chwibanu'n dod o du'r gynulleidfa."
Manteisiodd cyflwynydd yr Intervision, Jacek Bromski, ar gyfle i dynnu blewyn o drwyn y Sofietiaid:
- "For example, we were collecting votes like they do at Eurovision. I was calling every capital and asking for their results. One year when I was calling Moscow, there was no answer. So I said, 'Moscow, Moscow - wake up!' Then I had very big applause from the audience. 'Moscow, are you sleeping? Wake up!' Everyone was laughing. In the end I said, 'Better let them sleep.' That bit was cut out afterwards."[1]
Yn 1980 dechreuodd streiciau gan yr undeb llafur annibynnol (annibynnol o'r wladwriaeth gomiwnyddol), Solidarnośċ brotestio a chafwyd gwrthdaro gyda'r awdurdodau. Ar ôl 1980 ni fyddai mwy o Gystadlaethau Cân Intervision. Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd awdurdodau Gwlad Pwyl gyfraith filwrol. Roedd tanciau ar y strydoedd a gwrthdaro rhwng protestwyr a heddlu terfysg. Pan ddychwelodd y gystadleuaeth ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd wedi dychwelyd i'w hen enw: "Gŵyl Gerdd Sopot".[1]
Enillwyr
golyguBlwyddyn | Dyddiad | Lleoliad | Enillydd[4] | Artist[4] | Cân[4] | Iaith |
---|---|---|---|---|---|---|
1977 | 24–27 Awst | Sopot | Gwer. Sosialaidd Tsiecoslofacia | Helena Vondráčková | "Malovaný džbánku"[5] | Tsieceg |
1978 | 23–26 Awst | Sopot | Undeb Sofietaidd | Alla Pugacheva | "Vsyo mogut koroli" (Всё могут короли) [6] | Rwsieg |
1979 | 22–25 Awst | Sopot | Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl | Czesław Niemen | "Nim przyjdzie wiosna"[7] | Pwyleg |
1980 | 20–23 Awst | Sopot | Ffindir | Marion Rung | "Hyvästi yö"[8] | Ffineg |
No contests held from 1981 to 2007 | ||||||
2008 | 28–31 August | Sochi | Tajikistan | Tahmina Niyazova | "Hero" (cân Mariah Carey) | Saesneg |
Dim cystadleuaeth o 2009 hyd at y presennol |
Egwyl cyn Ail-lansio
golyguCollodd yr ornest boblogrwydd yng Ngwlad Pwyl a thramor yn yr 1980au, gan ddirywio ymhellach yn ystod y 1990au, a gwnaeth y sefydliadau eithaf argyhoeddiadol gan TVP i awdurdodau Sopot roi trefniadaeth Gŵyl Gân Ryngwladol Sopot 2005 i sianel deledu breifat, TVN. Er 1999, ni chafwyd gornest. Dewisodd TVP wahodd artistiaid adnabyddus yn lle, gan gynnwys pobl fel Whitney Houston neu The Corrs. Yn 2005, roedd disgwyl i TVN ddod â'r gystadleuaeth yn ôl. Yn 2006 gwahoddodd TVN Elton John. Mae Gŵyl Gân Ryngwladol Sopot fel arfer yn cael ei hystyried yn fwy na Gŵyl Gân Ryngwladol Benidorm oherwydd ei gallu i ddenu perfformwyr sêr. Yn 2010 a 2011, ni chynhaliwyd yr ŵyl oherwydd adnewyddu'r Opera Coedwig. Er 2012, fe'i gelwir yn Sopot Top Of The Top Festival ac mae'n cael ei ddarlledu'n flynyddol gan Polsat. Roedd yr ŵyl hefyd yn gyfle i wrando ar sêr rhyngwladol. Yn y gorffennol, roedd yn cynnwys Charles Aznavour, Boney M, Johnny Cash, ac yn fwy diweddar: Chuck Berry, Vanessa Mae, Annie Lennox, Vaya Con Dios, Chris Rea, Tanita Tikaram, La Toya Jackson, Whitney Houston, Kajagoogoo, a Goran Bregovic, Anastacia.
Ceisio adfywiad
golyguYn 2009, cynigiodd prif weinidog Rwsia, Vladimir Putin, ailgychwyn y gystadleuaeth, y tro hwn rhwng Rwsia, China a gwledydd Canol Asia sydd yn bennaf yn aelodau o Sefydliad Cydweithrediad Shanghai.[9][10] Ym mis Mai 2014, cyhoeddwyd y byddai'r ornest yn dychwelyd ar ôl egwyl o 34 mlynedd, yn cynnwys gwledydd o Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol, Sefydliad Cydweithrediad Shanghai a chyn-Weriniaethau Sofietaidd.[11]
Roedd yr ornest i fod i gael ei chynnal ym mis Hydref 2014 oherwydd dicter Rwseg ar "ddadfeiliad moesol y Gorllewin", yn enwedig mewn ymateb i Conchita Wurst, enillydd Cystadleuaeth Cân Eurovision 2014. Ar ben hynny, mae'r adfywiad yn cael ei ystyried yn rhan o "agenda diplomyddiaeth ddiwylliannol ehangach" Vladimir Putin.[12] Er gwaethaf cynlluniau i lwyfannu'r ornest yn 2014 a 2015, gohiriwyd adfywiad yr ornest.[13][14] Nododd cynlluniau cychwynnol y byddai'r gystadleuaeth wedi digwydd yn Sochi gyda saith gwlad wedi datgan eu diddordeb i gystadlu: Kazakhstan, Kyrgyzstan, Rwsia, Tajikistan, Turkmenistan, China ac Uzbekistan.[15]
Gweler hefyd
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 https://www.bbc.co.uk/news/magazine-18006446
- ↑ Waschko, Roman (1980-09-06). "Finn Singer Triumphant At Sopot Contest". Billboard. Nielsen. t. 65. Cyrchwyd 2011-04-05.
Two competitions were held at the 4th Intervision Song Festival in Sopot August 20–23, 1980: one for artists representing television companies, the other for those representing record companies. In the first the jury considered the artistic merits of the songs entered; while the performers' interpretation was judged in the second. The outcome was a victory for Finnish singer Marion in the first contest, "Where Is the Love?" taking the Grand Prix. Six year ago, the same artist won Grand Prix at the Sopot International Song Festival. First prize was shared by Czech performer, Marika Gombitová with "Declaration", and Russian Nikolai Gnatiuk for the song "Dance on a Drum".
- ↑ https://www.rferl.org/a/intervision-eurovision-poor-defunct-ex-soviet-rival/27726563.html
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Rosenberg, Steve (14 May 2012). "The Cold War rival to Eurovision". BBC News. Cyrchwyd 31 May 2014.
Intervision winners
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=c-kcwGpItzQ&list=PLWAqoBf9UX4hputpromWZOzdF49zeR7Fz
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=LwCUoxcedd0&list=PLWAqoBf9UX4hputpromWZOzdF49zeR7Fz&index=3
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=RSTc3EJzr6E&list=PLWAqoBf9UX4hputpromWZOzdF49zeR7Fz&index=4
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=9aUMTiyxwkg
- ↑ Intervision: The Russian proposed song contest with China, Central Asia (Shanghaiist: Shanghai News, Food, Arts & Events)
- ↑ Putin mulls Intervision Song Contest Archifwyd 2013-07-16 yn y Peiriant Wayback (BBC World Service)
- ↑ Bartlett, Paul (23 May 2014). "Bearded Lady Spurs Russia to Revive Soviet-Era Song Contest". eurasianet.org. eurasianet. Cyrchwyd 30 May 2014.
- ↑ Lee-Adams, Wiliam (25 July 2014). "Following Outrage Over Conchita, Russia Is Reviving Its Own Straight Eurovision". newsweek.com. Newsweek. Cyrchwyd 30 July 2014.
- ↑ Granger, Anthony (1 September 2014). "Intervision: 2014 Contest Is Cancelled". Eurovoix. Cyrchwyd 1 September 2014.
- ↑ Granger, Anthony. "Intervision: Contest Moved To Autumn 2015". Eurovoix.com. Cyrchwyd 16 April 2015.
- ↑ Granger, Anthony (23 May 2014). "Russia: Intervision To Return This October". Eurovoix. Cyrchwyd 26 May 2014.