Diplomyddiaeth ddiwylliannol

Diplomyddiaeth sy'n bwriadu hybu gwell ddealltwriaeth o wladwriaeth er mwyn hybu budd gwleidyddol, diwylliannol, ieithyddol, neu economaidd

Mae'r term diplomyddiaeth ddiwylliannol yn dynodi esblygiad cyfoes o ddiplomyddiaeth y wladwriaeth. Mae'n fath o ddiplomyddiaeth gyhoeddus a grym meddal sy'n cynnwys "cyfnewid syniadau, gwybodaeth, celf, iaith ac agweddau eraill ar ddiwylliant ymhlith cenhedloedd a'u pobloedd er mwyn meithrin cyd-ddealltwriaeth".[1] Pwrpas diplomyddiaeth ddiwylliannol yw i drigolion cenedl dramor ddatblygu dealltwriaeth o ddelfrydau a sefydliadau'r genedl arall mewn ymdrech i feithrin cefnogaeth eang i nodau economaidd a gwleidyddol y genedl honno.[2] Yn ei hanfod mae "diplomyddiaeth ddiwylliannol yn datgelu enaid cenedl", sydd yn ei dro yn creu dylanwad.[3] Er ei bod yn cael ei hanwybyddu'n aml, gall ac mae diplomyddiaeth ddiwylliannol yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ymdrechion diogelwch cenedlaethol. Mae'n agwedd ar gysyniad grym mewn cysylltiadau rhyngwladol.

Diplomyddiaeth ddiwylliannol
Mathpublic diplomacy Edit this on Wikidata
Mae'r Gemau Olympaidd wedi eu defnyddio gan bob gwladwriaeth fel modd o hyrwyddo diplomyddiaeth ddiwylliannol, dyma'r Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi, Rwsia gyda Vladimir Putin

Diffiniad golygu

 
Yr Athro Joseph Nye, un o feddylwyr sy'n ystyried pwsigrwydd Diplomyddiaeth Ddiwylliannol

Mae diwylliant yn set o werthoedd ac arferion sy'n creu ystyr i gymdeithas. Mae hyn yn cynnwys diwylliant uchel (llenyddiaeth, celf, ac addysg, sy'n apelio at elites neu'r dosbarth rheoli) a diwylliant poblogaidd (sy'n apelio at y llu, gan gynnwys yn aml yr elite).[4] Dyma beth mae llywodraethau yn ceisio ei ddangos i gynulleidfaoedd tramor wrth ymwneud â diplomyddiaeth ddiwylliannol. Mae'n fath o rym meddal, sef y "gallu i gael yr hyn yr ydych ei eisiau trwy atyniad yn hytrach na gorfodaeth neu daliadau. Mae'n deillio o ddiwylliant, delfrydau gwleidyddol a pholisïau gwlad."[5] Mae hyn yn dangos bod gwerth diwylliant yn ei allu i ddenu tramorwyr i werthoedd eich cenedl. Mae diplomyddiaeth ddiwylliannol hefyd yn rhan o ddiplomyddiaeth gyhoeddus. Mae diplomyddiaeth gyhoeddus yn cael ei gwella gan gymdeithas a diwylliant mwy, ond ar yr un pryd mae diplomyddiaeth gyhoeddus yn helpu i "ymhelaethu a hysbysebu'r gymdeithas a'r diwylliant hwnnw i'r byd yn gyffredinol".[6] Gellid dadlau mai dim ond lle mae perthynas eisoes sy'n rhoi hygrededd i'r wybodaeth sy'n cael ei chyfleu y gall elfen wybodaeth diplomyddiaeth gyhoeddus fod yn gwbl effeithiol. Daw hyn o wybodaeth am ddiwylliant y llall.[7] Mae diplomyddiaeth ddiwylliannol wedi'i galw'n "bennawd diplomyddiaeth gyhoeddus" oherwydd bod gan weithgareddau diwylliannol y posibilrwydd i ddangos y gorau o genedl.[3] Yn y modd hwn, mae cysylltiad agos rhwng diplomyddiaeth ddiwylliannol a diplomyddiaeth gyhoeddus

Sail golygu

Gan ymestyn gwaith Joseph Nye ar amlygu, ochr yn ochr â chyflwr grym caled, ceir grym meddal. Mae pŵer meddwl yn defnyddio ac ystyried ffactorau mwy diwylliannol, yr un mor bwysig i ddylanwad gwladwriaethau. Nod y term yw ystyried yr esblygiad sy'n cynnwys unigolion nad ydynt (yn unig) yn mynd trwyddo penaethiaid gwladwriaeth, gweinidogion neu lysgenhadon i drafod mewn fframwaith gwleidyddol swyddogol, ond o ddefnyddio diwylliant i adnewyddu'r maes diplomyddol. Mae'n canolbwyntio’n fwy ar ddiwylliant fel hunaniaeth sy’n benodol i actorion yng nghyd-destun globaleiddio. Nod diplomyddiaeth ddiwylliannol yw cyfnewid safbwyntiau, gwella gwybodaeth am ddiwylliannau eraill, cymharu ffyrdd o wneud pethau ledled y byd er mwyn cael gwared ar wahaniaethau na diplomyddiaeth draddodiadol yn methu â datrys.

Yn gyffredinol, mae diplomyddiaeth ddiwylliannol yn canolbwyntio mwy ar y tymor hwy a llai ar faterion polisi penodol.[7] Mae diplomyddiaeth ddiwylliannol wedi'i galw'n "bennawd diplomyddiaeth gyhoeddus" oherwydd bod gan weithgareddau diwylliannol y posibilrwydd i ddangos y gorau o genedl.[3]

Hanes golygu

 
Byddai'r sefydliad Brydeinig yn gweld defnydd o'u teulu breninhinol (yma Elisabeth II yn cwrdd â Vladimir Putin yn 2003) fel defnydd o Diplomyddiaeth Ddiwylliannol. Ond gall bod ag oblygiadau gwrthgynhyrchiol mewn gwledydd eraill oherwydd hanes ymerodraeth Prydain
 
Roedd poblogrwydd byd-eang The Beatles yn yr 1960au yn arwydd o Brydain gyfoes, agored a defnyddiwyd fel 'arf' yn niplomyddiaeth ddiwylliannol y DU

Mewn gwirionedd, mae'r duedd hon i bedlera neges ddiwylliannol heblaw un wleidyddol yn hen, ond mae cyflymu globaleiddio yn cynyddu'n sylweddol nifer yr actorion newydd hyn ar y byd rhyngwladol a nifer y cysylltiadau, weithiau'n arwyddocaol, a grëir felly.

Amlygodd ymosodiadau 11 Medi 2001 ("9/11") fethiant penodol o ddiplomyddiaeth draddodiadol, a phwysigrwydd adeiladu pontydd i osgoi'r "clash of civilizations" a grybwyllwyd gan Samuel P. Huntington. Mae diplomyddiaeth yn llai a llai o barth unigryw Gwladwriaethau, ac mae actorion diwylliannol eraill bellach yn dod i rym: mae unigolion, grwpiau, cymdeithasau, cymunedau, sefydliadau, amgueddfeydd, theatrau bellach yn cyfrannu at ddatblygiad diplomyddiaeth gyfochrog, uniongyrchol, sy'n hepgor cyfryngwr Gwladwriaethau.

Disgyblaeth Academaidd golygu

Mae diplomyddiaeth ddiwylliannol yn dod yn ddisgyblaeth academaidd yn yr Unol Daleithiau, fel rhan o'r astudiaeth o gysylltiadau rhyngwladol. Yn Ewrop, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith sydd ar gael ar y pwnc hwn yn ymwneud yn bennaf â hanes, gydag ychydig o hoff themâu: mae'r Unol Daleithiau a Ffrainc, ar ôl bod yn aml yn pryderu am y dimensiwn diwylliannol yn eu cyfnewidiadau, yn cael eu hastudio ddigon. Hyd at gwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991, talwyd sylw i Athrawiaeth Zhdanov (Zhdanov Doctrine) yn aml iawn hefyd am ei effeithiolrwydd.

Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol golygu

O'i natur, mae llawer o natur a chryfder organig diplomyddiaeth ddiwylliannol yn bodoli yn y ffaith nad oes modd ei reoli'n llawn na'i weinyddu. Gellir meddwl am ffilmiau, cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth yn hyn o beth, ac, i raddau datblygiadau ym maes technoleg, diwydiant ac economi. Ond mae rhai gwladwriaethau cyfoethog wedi sefydlu neu ddatblygu asiantaethau rhyngwladol er mwyn hyrwyddo diplomyddiaeth ddiwylliannol a grym meddal, bu sefydlu asiantaethau i hyrwyddo eu iaith a diwylliant dramor. Ymysg y rhain mae'r; Cyngor Prydeinig (Y Deyrnas Unedig) a'r Goethe-Institut (Yr Almaen).

Mae hyd yn oed cenedl ddi-wladwriaeth sofran, Catalaneg wedi creu sefydliad er hyrwyddo'u hiaith a'u diwylliant, yr Institut Ramon Llull a'r Basgiaid hefyd gydag Etxepare Euskal Institutua. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Diplomyddiaeth Ddiwylliannol Gymreig golygu

 
Gellir dadlau bod llwyddiant tîm pêl-droed Cymru wedi ychwanegu at diplomyddiaeth ddiwylliannol a grym meddal Cymru ar y llwyfan byd-eang

Heb fod yn genedl wladwriaeth sofran, mae'n anodd i Gymru ddefnyddio'r arfau sydd wrth law cenhedloedd eraill ym maes Diplomyddiaeth Ddiwylliannol. Serch hynny, gellid gweld egin bolisi neu ffurfiau ar ddiwylliant, economi, a chymdeithas Cymru sy'n cael eu defnyddio ac sy'n agored i'w hyrwyddo fel cerbyd ar gyfer diplomyddiaeth o'r fath. Yn eu mysg mae; tîm pêl-droed Cymru, rygbi Cymru, cynnyrch bwyd Cymreig, yr iaith Gymraeg (e.e. Memorandwm Dealltwriaeth Cymru a Llydaw sy'n cynnwys rhannu arfer da a chydweithio ar lefel iaith yn ogystal â masnach [8].) fel symbol o hirhoedledd ac pholisi iaith, llwyddiant cymharol polisïau ailgylchu Senedd Cymru.

Er nad oes gan Gymru lysganhadoedd, ceir Swyddfa Cymru yn Tŷ Gwydyr, Llundain, sy'n gweithredu fel rhyw fath o ganolfan Gymreig yn Llundain. Ceir hefyd presenoldeb swyddfa ar draws y byd. Maent yncynnwys; Mrwsel ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd; Canada (Montréal), China (Beijing, Chongqing, Shanghai), Iwerddon (Dulyn), Ffrainc (Paris), Yr Almaen (Berlin a Düsseldorf), India (Bangalore, Delhi, Mumbai), Japan (Tokyo), Catar (Doha), Emiradau Arabaidd Unedig (Dubai), Unol Daleithiau America (Atlanta, Chicago, Efrog Newydd, San Francisco, Washington D.C.).[9]

Gweler hefyd golygu

Darllen pellach golygu

  • Barghoorn, Frederick C. The Soviet cultural offensive : the role of cultural diplomacy in Soviet foreign policy (1976) ar-lein
  • Becard, Danielly Silva Ramos, and Paulo Menechelli. "Chinese Cultural Diplomacy: instruments in China’s strategy for international insertion in the 21st Century." Revista Brasileira de Política Internacional 62 (2019) ar-lein.
  • Brown, John. "Arts diplomacy: The neglected aspect of cultural diplomacy." in Routledge handbook of public diplomacy (Routledge, 2020) pp. 79–81.
  • Carta, Caterina, and Richard Higgott. "Cultural Diplomacy in Europe." in Between the Domestic and the International (2020) org/10.1007/978-3-030-21544-6 ar-lein
  • Clarke, David, and Paweł Duber. "Polish cultural diplomacy and historical memory: the case of the Museum of the Second World War in Gdańsk." International Journal of Politics, Culture, and Society 33.1 (2020): 49-66 ar-lein.
  • Davidson, Lee, and Leticia Pérez-Castellanos, eds. Cosmopolitan Ambassadors: International exhibitions, cultural diplomacy and the polycentral museum (Vernon Press, 2019) ar-lein.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cultural Diplomacy, Political Influence, and Integrated Strategy," in Strategic Influence: Public Diplomacy, Counterpropaganda, and Political Warfare, ed. Michael J. Waller (Washington, DC: Institute of World Politics Press, 2009), 74.
  2. Mary N. Maack, "Books and Libraries as Instruments of Cultural Diplomacy in Francophone Africa during the Cold War," Libraries & Culture 36, no. 1 (Winter 2001): 59.
  3. 3.0 3.1 3.2 United States, Department of State, Advisory Committee on Cultural Diplomacy, Diplomacy Report of the Advisory Committee on Cultural Diplomacy, 3.
  4. Joseph S. Nye, Soft Power: The Means to Success in World Politics (Cambridge: Perseus Books, 2004), 22.
  5. Joseph S. Nye, Soft Power: The Means to Success in World Politics (Cambridge: Perseus Books, 2004), 18.
  6. Carnes Lord, Losing Hearts and Minds?: Public Diplomacy and Strategic Influence in the Age of Terror (Westport, CT: Praeger Security International, 2006), 15.
  7. 7.0 7.1 Carnes Lord, Losing Hearts and Minds?: Public Diplomacy and Strategic Influence in the Age of Terror (Westport, CT: Praeger Security International, 2006), 30.
  8. "Falch i arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llydaw @LoigCG, fydd yn cryfhau cysylliadau economaidd a diwylliannol rhwyng Cymru a'r rhanbarth". Twitter @PrifWeinidog. 11 Ionawr 2018. Cyrchwyd 16 Mawrth 2023.
  9. "Swyddfeydd rhyngwladol". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 16 Mawrth 2023.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.