Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/John Williams (Brynsiencyn)

Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/John Williams
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru



Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB
Propaganda

Gwladgarwch: Rhyfel Byd Cyntaf Recriwtio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd John Williams, neu John Williams, Brynsiencyn (24 Rhagfyr 1854 - 1 Tachwedd 1921), yn frodor o Ynys Môn ac yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ar yr ynys. Daeth yn adnabyddus oherwydd ei gefnogaeth frwdfrydig i ymgyrch recriwtio’r Llywodraeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[1]

Bu o gymorth â hyrwyddo sefydlu Adran Gymreig oddi mewn i Fyddin Prydain ac yn ddiweddarach penodwyd ef yn gaplan anrhydeddus arnynt. Cafodd y llysenw ‘Caplan David Lloyd George’ oherwydd ei ymgyrchu recriwtio adeg y rhyfel.[2]

Bywyd Cynnar a Theulu golygu

Ganwyd ef yn 1854 yng Nghae’r Gors, Llandyfrydog, Ynys Môn, nid nepell o waith copr Mynydd Parys,[3] a phan oedd yn 9 oed symudodd gyda’r teulu i Fiwmares, lle mynychodd yr ysgol leol ac yna ym Mhorthaethwy.[4]

Erbyn 1873 roedd wedi dechrau pregethu a bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala.

Yn Lerpwl y cyfarfu ei wraig, sef Edith Mary Hughes, ac ym mis Mai 1899 priodwyd hwy yng Nghapel Cemaes, Ynys Môn. Cawsant dri o blant, sef Dilys Edna, John Merfyn a Miriam Jane Evrys.[5]

Roedd Edith Mary Hughes yn ferch i un o adeiladwyr enwocaf Lerpwl, sef John Hughes, oedd â gwreiddiau teuluol yn Ynys Môn ac wedi gwneud ei ffortiwn yn y gwaith adeiladu yn Lerpwl. Dychwelodd gyda’i deulu i fyw i Ynys Môn lle adeiladodd Wylva Manor, gyda’i 180 erw o dir, a safle Atomfa’r Wylfa heddiw.[6]

Gyrfa golygu

Disgrifiwyd ef fel areithiwr pwerus, ac yn 1878 cafodd alwad i ofalaeth Brynsiencyn, lle bu’n byw am ran fwyaf ei oes, ac oddi ar hynny adnabuwyd ef fel ‘John Williams, Brynsiencyn’. Rhwng 1895 a 1906 bu’n gwasanaethu yng nghapel adnabyddus Cymraeg ‘Prince’s Road’, yn Lerpwl[7] oedd â thros 1,000 o aelodau yn 1899. Dychwelodd i Frynsiencyn yn 1906 gan aros yno tan ei farwolaeth yn 1921. Yn 1907 roedd yn gymedrolwr Cymdeithas Methodistiaid Calfinaidd Gogledd Cymru ac roedd yn ffigwr poblogaidd yn y gymuned Fethodistaidd gydol ei oes.

Y Rhyfel Byd Cyntaf golygu

 
John Williams, Brynsiencyn tua 1875

O gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf bu John Williams yn ymgyrchu ac yn annog dynion ifanc i ymuno â’r ymdrech ryfel. Byddai’n pregethu i gynulleidfaoedd ar draws Ynys Môn, gogledd Cymru a gweddill Cymru mewn iwnifform llawn.[8][9]

Roedd Williams ymhlith unigolion amlwg bywyd cyhoeddus Cymru a oedd yn cefnogi ymgyrch recriwtio’r Rhyfel Byd Cyntaf - er enghraifft, John Morris-Jones, athro Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, y Parchedig Thomas Charles Williams, Porthaethwy, a oedd yn weinidog gyda’r Annibynwyr, a Syr Henry Jones, yr ysgolhaig a’r athronydd.[10]

Fel llawer yn y cyfnod, gwelai John Williams y rhyfel fel un cyfiawn ac fel rhyfel a fyddai’n rhoi diwedd ar bob rhyfel.[11]

Roedd propaganda’r cyfnod yn pwysleisio ei bod yn ddyletswydd ar ddynion i amddiffyn yr Ymerodraeth Brydeinig ac i wneud eu dyletswydd drwy ymladd dros eu gwlad a thros ryddid. Rhoddwyd pwysau eithriadol ar ddynion ifanc i gydymffurfio gyda’r disgwyliad iddynt ymuno â'r lluoedd arfog, ac roedd cywilydd a gwarth i’r unigolyn a’i deulu pe na wnaent hynny. Gwelwyd hwy fel bradwyr a chachgwn oedd yn ymwrthod â’u dyletswyddau.[12] Ysgogwyd ef hefyd i gefnogi’r ymdrech ryfel oherwydd teimlai ei bod yn ddyletswydd ar Gymru i amddiffyn rhyddid y gwledydd bach ac achub ‘gwledydd bychain’ tebyg i Wlad Belg rhag goresgyniad oddi wrth wledydd pwerus fel yr Almaen. Roedd yr awydd cryf hwn i amddiffyn rhyddid a chyfiawnder yn rhan annatod o’i ffydd Gristnogol.[13][14]

O dan arweiniad a chyda chefnogaeth frwdfrydig David Lloyd George, bu John Williams, Brynsiencyn ac Owen Thomas, ‘Rhyfelwr Môn’, a oedd hefyd yn enedigol o Ynys Môn, yn unigolion pwysig yn sefydlu Corfflu’r Fyddin Gymreig yn 1915. Roedd y ddau ohonynt yn aelodau o Bwyllgor Gwaith sefydlu’r Fyddin Gymreig.[15][16]

Hon oedd adran Gymreig byddin Prydain a ddaeth i gael ei hadnabod fel ‘Byddin Lloyd George’, ac a fu yn ddiweddarach yn rhan o’r ymladd ffyrnig ym Mrwydr Coed Mametz yn 1916.[17]

Gwelai Owen Thomas, John Williams a David Lloyd George Gymreictod y fyddin yn elfen a fyddai’n denu a recriwtio bechgyn Cymru ar gyfer yr ymdrech ryfel. Adlewyrchwyd hyn yn araith David Lloyd George, yn Neuadd y Frenhines, Llundain ym Medi 1914, pan gyfeiriodd at hanes Cymru wrth bledio dros sefydlu Byddin Gymreig.[18] Wedi iddo roi sêl ei fendith i sefydlu'r fyddin, rhoddodd yr Arglwydd Kitchener, Ysgrifennydd Rhyfel y Llywodraeth, swydd Cadfridog y fyddin i Owen Thomas, ac yn ddiweddarach penodwyd John Williams yn Gaplan y Fyddin Gymreig. Penodwyd John Williams yn Gyrnol yn ddiweddarach.[16]

Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ymwelodd John Williams â’r gwersylloedd hyfforddi milwyr - yn eu plith, Litherland, ger Lerpwl, lle hyfforddwyd milwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a Gwersyll Parc Cinmel ger Rhyl. Bu’n gymorth hefyd i Owen Thomas wrth sefydlu Cwmni Cymreig o’r Corfflu Meddygol yn 1916.[19]

Roedd John Williams yn ffrindiau mawr gyda Lloyd George ac roedd yn ymwelydd rheolaidd yn Stryd Downing pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ac yn Brif Weinidog. Bu Lloyd George yntau hefyd yn ymweld â chartref John Williams yn Llwyn Idris, Brynsiencyn, Ynys Môn.[20]

Marwolaeth ac etifeddiaeth golygu

Erbyn 1915, roedd 100,000 o Gymry wedi ymuno â’r lluoedd, gyda’r niferoedd yn codi i 270,000 erbyn 1918. O’r cyfanswm hwn, ni ddychwelodd 35,000, un o’r canrannau uchaf ymhlith y gwledydd a anfonodd filwyr i’r rhyfel. Er ei fod yn boblogaidd ar y pryd, erbyn ei farwolaeth roedd Williams wedi troi i fod yn ffigwr mwy dadleuol ac yn cael ei ddisgrifio fel un oedd yn ‘Herod ac yn sant’ oherwydd ei rôl yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[21] Dechreuodd pobl gwestiynu'r syniad o Gristion selog yn annog cenhedlaeth ifanc o ddynion Cymru i ymladd mewn rhyfel pell.[22]

Mae rhai haneswyr yn olrhain y dirywiad yn nylanwad Ymneilltuaeth ar y genedl i’r trawma a achoswyd gan golledion y Rhyfel Byd Cyntaf a rôl arweinyddion fel John Williams yn yr ymgyrch recriwtio.

Bu John Williams farw yn Llwyn Idris, Brynsiencyn yn 1921 a chladdwyd ef yn Llan-faes, Ynys Môn.[23]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwerthu anrheg John Williams Brynsiencyn". BBC Cymru Fyw. 2016-04-26. Cyrchwyd 2020-09-17.
  2. "WILLIAMS, JOHN (1854 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-17.
  3. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 11, 22. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. t. 23. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  5. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 14, 25. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 14, 19, 24. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  7. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 24, 27. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  8. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. t. 37. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  9. Wyn-Williams, Gareth (2016-04-24). "Anglesey minister called 'Lloyd George's chaplain' silver goes up for auction". North Wales Live. Cyrchwyd 2020-09-17.
  10. Jones, Geraint. (2012). Anglesey at War. Stroud: History Press. ISBN 978-0-7524-9023-6. OCLC 823388187.
  11. "Recriwtio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-17.
  12. "Propaganda". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-17.
  13. "Gwladgarwch: Rhyfel Byd Cyntaf". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-17.
  14. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 30–32. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  15. "Corfflu'r Fyddin Gymreig - Tasg Rhifedd". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-17.
  16. 16.0 16.1 Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 76–78. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  17. "Brwydr Coed Mametz". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-17.
  18. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. t. 139. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  19. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 166–167. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  20. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 129–130. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  21. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. t. 9. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  22. Wyn-Williams, Gareth (2016-04-24). "Anglesey minister called 'Lloyd George's chaplain' silver goes up for auction". North Wales Live. Cyrchwyd 2020-09-17.
  23. Parri, Harri,. Gwn Glan a Beibl Budr : John Williams, Brynsiencyn, A'r Rhyfel Mawr. Caernarfon. tt. 213–14. ISBN 978-1-907424-64-9. OCLC 893632196.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)