George Etherege
Dramodydd, bardd, diplomydd, a llyswr o Loegr oedd Syr George Etherege (1636 – tua 10 Mai 1692) sy'n nodedig am arloesi'r gomedi foesau yn ystod Oes yr Adferiad.[1] Ysgrifennodd dair drama: The Comical Revenge; or, Love in a Tub (1664), She Would if She Could (1668), a The Man of Mode; or, Sir Fopling Flutter (1676).
George Etherege | |
---|---|
Ganwyd | 1635 Maidenhead |
Bu farw | Mai 1692 Paris |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, diplomydd, llenor |
Bywyd cynnar (1636–59)
golyguTeulu
golyguGanwyd George Etherege yn Berkshire yn 1636, yn ail blentyn ac yn fab hynaf i'r "Capten" George Etherege (1607–50) a'i wraig Mary, Powney gynt (1612–99). Priodasant ar 7 Hydref 1634 yn Bray, ger Maidenhead, ac mae'n debyg i George gael ei eni yn yr un plwyf. Gwerthwr gwinoedd oedd ei dad-cu, hefyd o'r enw George (Etheridge; 1576–1658), ac un o fuddsoddwyr Cwmni Virginia yn 1609 a Chwmni Ynysoedd Somers (Bermwda) yn 1615. Rhywbryd ar ôl 1628, symudodd o blwyf St Clement Danes yn Llundain i Bray, ac aeth ei fab i reoli cyfranddaliadau tir 98 erw yn Paget's Tribe, Bermwda. Dychwelodd y Capten George, fel y'i elwir, i Loegr yn 1634 i briodi Mary, merch y bonheddwr Richard Powney o Old Windsor.[2]
Yn 1636, prynodd y Capten George le yn y llys brenhinol yn arlwywr i'r Frenhines Henrietta Maria, am dâl o ryw £200 y flwyddyn. Mae'n debyg iddo ddilyn y frenhines pan ffoes hi i Ffrainc yn 1644, a fe fu farw yno yn 1650. Yn y cyfnod hwn, cafodd Mary a'i saith o blant eu cefnogi'n ariannol gan George yr hynaf yn ei dŷ ym Maidenhead. Yn 1652, priododd Mary â Christopher Newstead (1597–1662), diwinydd a oedd yn gaplan arbennig i'r Brenin Siarl I yn 1641.
Addysg a phrentisiaeth
golyguYn draddodiadol, dywed i George fynychu Ysgol Ramadeg yr Arglwydd William yn Thame, Swydd Rydychen, ac i deithio i Ffrainc rhywbryd yn y 1640au yng nghwmni ei dad. Nid oes tystiolaeth i brofi naill stori na'r llall. Er gwaethaf, wrth ddarllen ei lythyrau a'i ddramâu mae'n sicr iddo dderbyn addysg dda, gan ei fod yn dyfynnu'r clasuron megis Horas, yn gyfarwydd â cheinion llên Lloegr, ac yn medru'r Ffrangeg yn rhugl.
Yn 1654 aeth George, ar gais ei dad-cu, yn brentis i'r twrnai George Gosnold o Beaconsfield, Swydd Buckingham. Fe'i derbyniwyd gan Ysbyty Clement, un o Ysbytai'r Siawnsri, ar 19 Chwefror 1659 i astudio'r gyfraith. Erbyn hyn, yr oedd George yn byw ar ei etifeddiaeth yn sgil achos cyfreithiol o'i blaid yn 1656–7 ac ar elw o £40 y flwyddyn a enillodd o hen ffermydd ei dad-cu yng Nghaint, wedi i'r hwnnw farw yn 1658.
Ei fywyd yn y llys brenhinol (1660–85)
golyguGweithiau cynnar (1660–68)
golyguTra'n astudio a thrin gyfraith yn Llundain yn nechrau'r 1660au, daeth Etherege yn gyfarwydd â chylchoedd llenyddol y ddinas. Mae sawl copi o'i gerdd libertinaidd "The Imperfect Enjoyment" yn goroesi o'r cyfnod 1660–62. Un o'i gyfeillion oedd yr Arglwydd Buckhurst (yn ddiweddarach Iarll Dorset), yr hwn a enwir yng nghyflwyniad ei ddrama gyntaf, The Comical Revenge; or, Love in a Tub, yn 1664. Dengys cyfeillgarwch y ddau ddyn gan ohebiaeth o'r cyfnod 1663–4, ar ffurf llithiau mydryddol sy'n canu clodydd y butain a'r botel o win, sy'n dystiolaeth o aelodaeth Etherege yng nghriw oferddynion Buckhurst. Yn ogystal â'i fercheta, roedd Ethergeyn hoff iawn o gamblo.[2]
Perfformiwyd The Comical Revenge gan Duke's Company yn chwaraedy Lincoln's Inn Fields, am y tro cyntaf mae'n debyg yn Ebrill 1664. Enillodd y gomedi hon ganmoliaeth i'w dramodydd yn ogystal ag elw i'w chwmni actio. Ni wyddys llawer am fywyd Etherege yn y pedair blynedd olynol, ond yn sicr yr oedd bellach yn enw amlwg yng nghylchoedd ffasiynol Llundain fel llenor a llyswr ffraeth, ac yn gyfaill i Iarll Rochester, Dug Buckingham, a Syr Charles Sedley. Mae ambell waith yn tystio iddo farddoni yn y cyfnod hwn, yn eu plith y molawd "To her Excellence the Marchioness of Newcastle after the Reading of her Incomparable Poems" (1665) a'r gerdd "To a Lady, Asking him how Long he would Love her" a gyhoeddwyd gyda cherddoriaeth gan Matthew Locke yn y llyfr caneuon Catch as Catch can (1667) gan John Playford.[2]
Yn nechrau 1668 penodwyd Etherege yn un o ddeugain gwrda cyffredin y siambr gyfrin, i wasanaethu at alwad y brenin. Perfformiwyd ei ail ddrama, She wou'd if she cou'd, a Comedy, yn gyntaf ar 6 Chwefror 1668 ac unwaith eto gan Duke's Company yn Lincoln's Inn Fields. Yn ôl atgofion Samuel Pepys yn ei ddyddiadur, a Thomas Shadwell yn ei ragair i The Humorists (1671), methiant oedd y perfformiad cyntaf, â'r actorion yn anghofio'u geiriau a'r gynulleidfa – yn eu plith y brenin a'i lys – heb chwerthin. Er hynny, llwyddodd Etherege i gynnal rhagor o lwyfaniadau oherwydd ei ffafriaeth yn y llys, a chafodd She wou'd if she cou'd ei lle yn stoc y theatrau cwmni nes canol y 18g.[2]
Cyfnod yn Nhwrci (1668–71)
golyguAeth Etherege i Dwrci yn 1668 yn ysgrifennydd i Syr Daniel Harvey (1631–72), marsiandïwr a chanddo brofiad o'r fasnach gyrens sychion fel aelod o Gwmni'r Lefant, a gafodd ei benodi'n llysgennad Teyrnas Lloegr i Ymerodraeth yr Otomaniaid. O ran safle a chyflog, hon oedd y llysgenhadaeth uchaf ei bri o holl swyddfeydd diplomyddol Lloegr, a derbyniodd Etherge dâl o £200 y flwyddyn. Cyrhaeddasant Gaergystennin yn Rhagfyr 1668, a threuliodd Etherege dwy flynedd a hanner yno.
Er iddo hiraethu am ei hen fywyd yn Llundain, cyflawnodd ei waith yn graff ac yn effeithiol. Aeth gyda Syr Daniel i gyfweld â'r Swltan Mehmed IV ar 30 Tachwedd 1669. Yng Ngorffennaf 1670 cafodd Etherege ei daro gan afiechyd, a gadawodd Gaergystennin yn nhymor y gwanwyn 1671. Ar ei ffordd yn ôl i Loegr, arhosodd ym Mharis ym Mai 1671, ac yno fe fu'n diddanu'r gymuned o Saeson yn y ddinas cyn iddo ddychwelyd i Lundain.
Anterth ei yrfa lenyddol (1671–85)
golyguWedi iddo gyrraedd Llundain, aeth Etherge yn ôl at ei hen arferion o gymdeithasu a chweryla. Ym Medi 1671 bu bron iddo ymladd gornest yn erbyn Edmund Ashton (tua 1643–95) yn Covent Garden. Ysgrifennodd "A Prologue Spoken at the Opening of the Duke's New Playhouse" i ddathlu agoriad theatr newydd Duke's Company yn Dorset Garden ar 9 Tachwedd 1671. Yn y cyfnod hwn, cyhoeddwyd tair cerdd ganddo yn y flodeugerdd The New Academy of Complements (1669), a naw cerdd arall yn y gyfrol A Collection of Poems, Written on Several Occasions (1672). Erbyn 1676 roedd Etherege yn gwasanaethu Maria o Modena, yr hon oedd yn wraig i Iago, Dug Efrog ac etifedd coronau Lloegr a'r Alban. Mae'n debyg i ddrama enwocaf Etherege, The Man of Mode; or, Sir Fopling Flutter, gael ei pherfformio am y tro cyntaf ar 11 Mawrth 1676 yn Theatr Dorset Garden. Yn y gynulleidfa oedd y brenin, ac ymhen fawr o dro cafodd y ddrama ei gweld gan yr holl lys. Hon oedd un o lwyddiannau mwyaf theatr yr Adferiad, ac yn ôl rhai y gomedi Saesneg wychaf yn ail hanner yr 17g.[2]
Ar noson 17 Mehefin 1676, roedd Etherege yng nghwmni Rochester ac eraill yn Epsom, ym mha le'r oeddynt yn mynychu'r rasys ceffylau. Cafwyd ffrae rhwng Rochester a'r cwnstabl lleol, a waethygodd yn ysgarmes rhwng criw Rochester a'r gwarchodlu. Cafodd un o gyfeillion Rochester, y Capten Downs, ei ladd pan safodd rhwng cleddyf Rochester a'r cwnstabl a chafodd ei guro gan y gwarchodwyr. Ffoes Rochester, Etherege, a'r eraill. Er iddo, yn ôl y sôn, geisio heddychu'r sefyllfa yn Epsom, nid dyn tawel na chymodol oedd Etherege bob tro. Yn Rhagfyr 1677, cafodd y llyswr ffraeth Fleetwood Sheppard ei drywanu gyda chleddyf dan ei lygad tra'n ceisio atal ffrae rhwng Etherege ac Henry Bulkeley mewn tafarn.[2]
Rhywbryd rhwng Tachwedd 1677 a 1679, urddwyd Etherege yn farchog a phriododd â Mary Arnold, Sheppard gynt (bu farw 1691 neu 1692), yr hon oedd yn ferch i farsiandïwr o Lundain ac yn weddw i'r cyfreithiwr Edmund Arnold. Ni wyddys llawer am hwyliau'r briodas, er bod un llythyr i Mary o'i ŵr yn awgrymu i bethau oeri rhyngddynt erbyn 1687. Ni chawsant yr un plentyn gyda'i gilydd.[2]
Gyrfa ddiplomyddol (1685–89)
golyguPenodwyd Etherege yn negesydd preswyl Lloegr i Gynulliad Regensburg, Reichstag yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, wedi i Ddug Efrog olynu ei frawd hŷn, Siarl II, i'r orsedd yn Chwefror 1685 fel Iago II & VII, brenin Lloegr a'r Alban. Cyrhaeddodd Regensburg, Bafaria, ar 21 Tachwedd 1685 i gychwyn ar bedair blynedd yn ei swydd ddiplomyddol. Dyma oedd y swydd isaf ei safle yn y gwasanaeth diplomyddol, heb rymoedd swyddogol i gyflafareddu â'r negesyddion eraill yn Regensburg. Statws sylwedydd oedd ganddo, a'i ddyletswydd oedd i ddanfon adroddiadau yn ôl i'w bennaeth, yr Arglwydd Middleton, yn manylu ar ddatblygiadau gwleidyddol a diplomyddol yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn debyg i'w gyfnod yng Nghaergystennin, fe fu Etherege yn diflasu ar fod i ffwrdd o'r llys brenhinol a'i gyfeillion yn Llundain, er iddo gyflawni ei waith yn drylwyr, gan arddweud dau lythyr yr wythnos i'w ddanfon at Middleton. Heb wybod i Etherege, roedd ei ysgrifennydd, Hugo Hughes, yn adysgrifennu gohebiaeth swyddogol a phersonol ei feistr mewn ymgais i ddwyn anfri arno. Nid oedd yr ysgrifennydd yn hoff o fywyd personol libertinaidd Etherege nac ychwaith ei gefnogaeth dros y Stiwartiaid, gan yr oedd Hughes a Pierre Valkenier, cynrychiolydd Gweriniaeth yr Iseldiroedd yn Regensburg, yn rhan o'r cynllwyn Protestannaidd i ddiorseddu'r Brenin Iago a choroni Wiliam, Tywysog Orange yn frenin Lloegr a'r Alban. Bu Hughes yn cofnodi i Etherege golli £250 yn gamblo yn yr Hâg ar ei ffordd i Fafaria, ac yn treulio'i nosweithiau yn Regensburg yn meddwi, yn cwffio, ac yn caru ag actores o Nürnberg.[2]
Yn nhymor y gwaynwyn 1687, ysgrifennodd y Cownt Gottlieb Graf von Windisch-Graetz (1630–95), cyd-gomisiynydd yr Ymerawdwr Leopold, at ddiplomyddion ym Mharis, Llundain, a Fienna yn lladd ar gymeriad Etherege. Wedi hynny, penderfynodd Etherege newid ei ymddygiad rhywfaint, gan gymodi ag ambell elyn ac ymroddi i'w ddyletswyddau. Er nad oedd cyfarfodydd Cynulliad Regensburg ei hun o ddiddordeb, na swydd y negesydd preswyl yn un freintiedig, cafodd safle Etherege ym mhrifddinas answyddogol yr Ymerodraeth Lân Rhufeinig ei chydnabod yn gyfle bwysig i gasglu cudd-wybodaeth am wleidyddiaeth Ewrop oll. Yn ei amser hamdden, ymddiddorodd mewn pleserau uwch eu parch: cerddoriaeth a dawns, cleddyfa, tenis, ac hela, a chadwodd hefyd lyfrgell o 90 o gyfrolau.[2]
Yn y cyfamser, parhaodd The Man of Mode yn ddrama boblogaidd yn Llundain. Ym Mawrth 1686, derbyniodd Etherege gais ffurfiol gan y Brenin Iago i ysgrifennu comedi arall. Er iddo honni i'w ddychymyg creadigol ymadael yn y cyfnod hwn, ysgrifennodd ddwy gerdd yn ychwanegol i'w adroddiadau i Middleton yn nechrau 1686, barddoniaeth fasweddus sydd cystal â'i lythyrau mydryddol at Buckhurst yn y 1660au. Er gwaethaf, fe wrthododd gais y brenin, gan ddatgan ei fod wedi rhoi'r gorau i grefft y dramodydd. Parhaodd Etherege yn ffyddlon i achos y Stiwartiaid, er i'r gwrthwynebiad yn erbyn y Brenin Iago gynyddu yn Lloegr. Talodd Etherege am ddathliadau yn Regenseburg yng Ngorffennaf 1688 i nodi genedigaeth James Francis Edward Stuart, mab y brenin. Yn ei lythyrau, anogodd i Middleton a'r Arglwydd Sunderland rybuddio'r brenin am gynllwynion Wiliam, Tywysog Orange a'i gefnogwyr. Ffoes y brenin Loegr ar 23 Rhagfyr 1688 yn sgil goresgyniad Wiliam a'r Chwyldro Gogoneddus. Wedi i Etherege ddysgu bod Iago ym Mharis fe adawodd Regensburg i ymuno â'r llys alltud, gan gyrraedd Paris ei hun ar 20 Chwefror 1689. Mae'n bosib hefyd i Etherege osgoi dychwelyd i Loegr oherwydd ei ddyledion. Nid oes cofnod o'i aelodaeth yn y llys alltud, ond cafodd ei ddyledion yn Regensburg eu talu ar gais Iago yng Ngorffennaf 1689.[2]
Diwedd ei oes (1689–92)
golyguYn Chwefror 1691 bu sôn am farwolaeth Etherege ym Mharis, ond yn ddiweddarach tystiodd ei nai, George, iddo farw yn y ddinas honno tua 10 Mai 1692. Mae'n debyg iddo droi'n Gatholig cyn ei farwolaeth.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sir George Etherege. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Awst 2019.
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 (Saesneg) John Barnard, "Etherege, Sir George" yn Oxford Dictionary of National Biography (24 Mai 2008). Adalwyd ar 14 Awst 2019.
Darllen pellach
golygu- Arthur R. Huseboe, Sir George Etherege (Boston: Twayne, 1987).