Agor y brif ddewislen

TarddiadGolygu

Pan enillodd Dafydd ab Edmwnd gadair arian Eisteddfod Caerfyrddin 1451, aeth ati i ail-drefnu'r hen bedwar mesur ar hugain. Ceisiodd ddisodli dau fesur; yr englyn milwr a'r englyn penfyr; gyda dau fesur newydd. Y naill oedd Cadwynfyr a'r llall oedd Gorchest y Beirdd.

NodweddionGolygu

Amrywiad mwy cywrain a chymhleth ar y rhupunt hir yw Gorchest y Beirdd.

Mae gan bennill o Orchest y Beirdd bymtheg sillaf wedi'u gosod fel a ganlyn: 4,4,4,3. Yn y tair rhan gyntaf, cynhelir odl ar yr ail sillaf, a chynhelir odl hefyd ar y bedwaredd sillaf rhwng y tair rhan. Cynganeddir y ddwy ran gyntaf yn annibynnol. Caiff y drydedd ran ei chynganeddu'n annibynnol ond mae hefyd yn cynganeddu gyda'r bedwaredd ran fel un llinell saith sillaf. Mae sillaf olaf y bedwaredd ran yn cynnal y brifodl.

Dyma enghraifft o'r mesur o waith Siôn Tudur:[2]

Dôi 'rhyd y rhiw, dull hud a lliw,
Da bryd yw briw dybryd bron.

Yn y pennill hwn, mae ail sillaf y tair rhan gyntaf yn odli, sef 'rhyd, hud a bryd.

Mae pedwaredd sillaf y tair rhan gyntaf yn odli, sef rhiw, lliw a briw.

Cynganeddir y ddwy ran gyntaf yn annibynnol, sef

Dôi 'rhyd y rhiw (Groes o gyswllt)
dull hud a lliw (Groes o gyswllt)

Yna, cynganeddir y drydedd ran yn annibynnol:

Da bryd yw briw (Groes o gyswllt)

ond mae'r drydedd ran a'r bedwaredd ran yn cynganeddu ar eu hyd i greu un llinell saith sillaf:

Da bryd yw briw dybryd bron (Groes gytbwys acennog)

Dyma'r pennill eto, gyda'r brifodl a'r odlau mewnol wedi'u duo:

Dôi 'rhyd y rhiw, dull hud a lliw,
Da bryd yw briw dybryd bron.

A dyma'r dyfyniad ar ei hyd:

Dôi 'rhyd y rhiw, dull hud a lliw,
Da bryd yw briw dybryd bron,
Ym Mhasg mwyhâ enw tasg nid da,
Egr wasg o'r iâ, guras gron.

Mae bron a gron yn cynnal y brifodl. Sylwer hefyd yn y pennill uchod fod ail sillaf pedwaredd ran pob uned yn odli ag ail sillaf y rhannau eraill, sef dybryd a'r odl gudd, guras gron. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rheol; mae'n fwy na thebyg fod y bardd wedi defnyddio'r odl hon er mwyn cywreinio'r mesur hyd yn oed ymhellach; efallai er gorchest yn unig.

Gellir ysgrifennu'r dyfyniad uchod fel a ganlyn er mwyn gweld y nodweddion yn gliriach:

Dôi 'rhyd y rhiw,
dull hud a lliw,
da bryd yw briw dybryd bron,
Ym Mhasg mwyhâ
enw tasg nid da,
Egr wasg o'r iâ, guras gron.

Daw'r odlau o dan ei gilydd uchod.

Dyma enghraifft arall o waith Dafydd ab Edmwnd, arloeswr y mesur:[1]

I'ch llys iach llawn, wiw Rys yr awn,
A gwŷs a gawn, agos ged;
A'th fudd, wyth fael, o gudd i'w gael,
Aur rhudd, ŵr hael, rhwydd y rhed.

Fel y gwelir uchod, mae'n fesur astrus a chlogyrnaidd[2] oherwydd y rheolau llymion y mae'n rhaid ufuddhau iddynt. Anaml iawn y gwelir enghraifft o'r mesur nad yw'n rhan o awdl enghreifftiol, sef awdl orchestol sy'n cynnwys pob un o'r pedwar mesur ar hugain.

Ni chenir nemor ddim ar y mesur hwn heddiw gan fod y rheolau yn tueddu i gyfyngu mynegiant y bardd.

Dywed y Prifardd Alan Llwyd fod y ddau fesur a neilltuwyd ar gyfer Gorchest y Beirdd a Chadwynfyr, sef yr englyn milwr a'r englyn penfyr, yn "llawer mwy defnyddiol".[2]

LlyfryddiaethGolygu

  • John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
  • Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925
  2. 2.0 2.1 2.2 Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd, Cyhoeddiadau Barddas, 2007

Gweler hefydGolygu