Roedd Idi Amin Dada (tua 1925 – 16 Awst 2003) yn Llywydd Wganda a phennaeth ei lluoedd arfog o 1971 hyd 1979, a ddaeth yn unben creulon hyd ei orfodi i ffoi ei wlad ar ôl cael ei orchfygu gan fyddin Tansanïa.[1]

Idi Amin
Ganwyd1925 Edit this on Wikidata
Koboko, Kampala Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 2003 Edit this on Wikidata
Canolfan Ymchwil ac Ysbyty Arbenigol y Brenin Faisal Edit this on Wikidata
Man preswylJeddah Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWganda, Sawdi Arabia, Diffynwlad Wganda, Wganda Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol, paffiwr, materion milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Wganda, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr Edit this on Wikidata
PriodSarah Kyolaba Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywyd Cynnar golygu

Gan nad oedd Amin yn awyddus i awdurdodi cofiant swyddogol o'i fywyd mae yna anghysondebau ynglŷn â phryd a ble y cafodd ei eni. Mae'r rhan fwyaf o ffynonellau bywgraffyddol yn honni ei fod wedi cael ei eni yn Koboko neu Kampala tua 1925. Mae ffynonellau eraill yn nodi blwyddyn geni Amin mor gynnar â 1923 hyd at 1928. Dywedodd mab Amin, Hussein, bod ei dad wedi ei eni yn Kampala ym 1928.

Yn ôl Fred Guweddeko, ymchwilydd ym Mhrifysgol Makerere, roedd Amin yn fab i Andreas Nyabire (1889-1976)[2]. Roedd Nyabire yn aelod o lwyth ethnig y Kakwa. Wedi'i dröedigaeth o Gatholigiaeth i Islam ym 1910 newidiodd Naybir ei enw i Amin Dada. Enwodd ei fab mab cyntaf ar ôl ei hun. Wedi'i i'w dad ymadael a’r teulu pan oedd Idi yn ifanc, cafodd ei fagu gyda theulu ei fam mewn tref ffermio wledig yng ngogledd orllewin Wganda. Yn ôl Guweddeko mam Amin oedd Assa Aatte (1904-1970), aelod o lwyth y Lugbara. Roedd hi’n gweithio fel llysieuydd traddodiadol.

Addysgwyd Amin yn ysgol Islamaidd Bombo. Gadawodd yr ysgol ar ôl ychydig flynyddoedd, gyda chymhwyster Saesneg bedwaredd radd yn unig[3]

Teulu golygu

Roedd Amin yn credu mewn amlwreiciaeth a bu ganddo hyd at 7 wraig a hyd at 45 o blant.

Gyrfa gynnar golygu

Gwnaeth Amin rywfaint o swyddi cyffredin cyn iddo gael ei recriwtio i'r fyddin gan swyddog o fyddin drefedigaethol Prydain. Ymunodd Amin â Chatrawd Reifflau Affricanaidd y Brenin fel cogydd cynorthwyol ym 1946[4]. Ym 1947 fe'i dyrchafwyd yn breifat ac aeth i Cenia i wasanaethu fel troedfilwr. Ym 1949. Bu ei uned yn ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr Somalia yn Rhyfel Shifta[5]. Ym 1952, defnyddiwyd ei frigâd yn erbyn gwrthryfelwyr Mau Mau yn Cenia. Fe’i dyrchafwyd yn gorporal ym 1952 ac yna’n, rhingyll ym 1953.

Ym 1959, gwnaethpwyd Amin yn Afande (swyddog gwarant), y radd uchaf bosibl ar gyfer milwr[6] Affricanaidd croenddu yn y Byddin Drefigaethol Brydeinig ar y pryd. Dychwelodd Amin i Wganda'r un flwyddyn ac, ym 1961, cafodd ei ddyrchafu’n is-gapten, gan ddod yn un o'r ddau filwr, brodorol o Wganda, cyntaf i ddod yn swyddogion dan gomisiwn. Ym 1962 daeth Wganda yn wlad annibynnol a dyrchafwyd Amin yn gapten ac yna, ym 1963, yn uwchgapten. Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Gadlywydd ym 1964 ac, y flwyddyn ganlynol, yn Gadlywydd. Fe’i penodwyd yn oruchwyliwr y lluoedd arfog ym 1968 ac fe'i gwnaed yn bennaeth ar holl luoedd arfog Wganda ym 1970.

Pennaeth y Fyddin golygu

Ym 1965, bu cynllwyn rhwng Prif Weinidog Wganda, Milton Obote, ac Amin i smyglo ifori ac aur i Wganda o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Roedd pobl oedd yn gwrthwynebu llywodraeth y Congo yn cyfnewid yr aur ac ifori am arfau oedd yn cael eu rhoi iddynt yn ddirgel gan Amin. Ym 1966, galwodd Senedd Wganda ymchwiliad i’r fasnach gudd. Mewn ymateb newidiodd Obote cyfansoddiad y wlad gan ddiddymu llywyddiaeth seremonïol y Kabaka (brenin) Mutesa II o Buganda, gan benodi ei hun yn llywydd gweithredol. Penodwyd Amin yn bennaeth y fyddin ac aeth ati i ymosod ar balas y Kabaka a gorfodi Mutesa i alltudiaeth.

Dechreuodd Amin recriwtio aelodau o lwythi’r Kakwa, Lugbara, a grwpiau ethnig eraill o ardal Gorllewin yr afon Nil a ffiniau De Swdan. Gan fod y milwyr newydd yn dod o’r un cefndir ethnig ag Amin ‘roeddynt yn rhoi teyrngarwch personol iddo fo.[7]

Cipio grym golygu

 
Milton Obote

Oherwydd teyrngarwch y fyddin i Amin a’i gefnogaeth i wrthryfelwyr De Swdan bu rhwyg rhyngddo ac Obote. Ym mis Hydref 1970, misoedd ar ôl iddo gael ei ddyrchafu yn oruchwyliwr y lluoedd arfog, penderfynodd Mobote i’w diswyddo.

Wedi clywed sïon bod Obote yn bwriadu ei arestio am gamddefnyddio arian y fyddin, penderfynodd Amin i gipio’r arlywyddiaeth oddi wrtho. Ar 25 Ionawr 1971, tra bod Obote yng nghyfarfod uwchgynhadledd y Gymanwlad yn Singapôr[8] fe wnaeth milwyr oedd yn deyrngar i Amin cau maes awyr rhyngwladol Entebbe a meddiannu dinas Kampala. Bu milwyr yn amgylchynu preswylfa Obote ac yn rhwystro’r ffyrdd mawr. Mewn darllediad ar Radio Wganda cyhuddodd Amin llywodraeth Obote o lygredd a thriniaeth ffafriol i rai rhanbarthau ar draul eraill. Dywedodd Amin ei fod yn filwr, nid yn wleidydd, ac y byddai'r llywodraeth filwrol yn parhau fel cyfundrefn gofal yn unig hyd gynnal etholiadau newydd, a fyddai'n cael ei gyhoeddi pan fyddai'r sefyllfa'n cael ei normaleiddio.

Ar 2 Chwefror 1971 penododd Amin ei hun i swydd Arlywydd Wganda a Chadbennaeth y lluoedd arfog.

Erlid ei elynion golygu

Cymerodd Obote lloches yn Tansanïa. Ffodd rhyw 20,000 o bobl eraill o Wganda yno hefyd. Ceisiodd yr alltudion i adennill Wganda ym 1972, trwy ymosodiad milwrol, ond methodd yr ymgais. Ymateb Amin i’r ymosodiad oedd i garthu’r fyddin o gefnogwyr Obote, yn bennaf y rhai o lwythau Acholi a Lango. Erbyn dechrau 1972, roedd rhyw 5,000 o filwyr Acholi a Lango, ac o leiaf ddwywaith cymaint o sifiliaid, wedi diflannu. Daeth y dioddefwyr yn fuan i gynnwys aelodau o grwpiau ethnig eraill, arweinwyr crefyddol, newyddiadurwyr, artistiaid, uwch fiwrocratiaid, beirniaid, cyfreithwyr, myfyrwyr, deallusion a thramorwyr.

Parhaodd y lladdiadau, a ysgogwyd gan ffactorau ethnig, gwleidyddol ac ariannol, trwy gydol wyth mlynedd Amin. Nid yw'r union nifer y bobl a laddwyd yn hysbys. Amcangyfrifodd Comisiwn Rhyngwladol y Cyfreithegwyr bod nifer y farwolaethau o leiaf 80,000 ac yn fwy tebygol o fod tua 300,000. Mae amcangyfrif a luniwyd gan fudiadau alltud gyda chymorth Amnest Rhyngwladol yn amcangyfrif bod y nifer a laddwyd yn 500,000.[9]

Ym mis Awst 1972, cyhoeddodd Amin yr hyn a alwodd yn "ryfel economaidd", set o bolisïau a oedd yn cynnwys difeddiannu eiddo oedd yn eiddo i Asiaid ac Ewropead. Roedd 80,000 o Asiaid Wganda, yn bennaf a’u tras yn is-gyfandir India. Roedd y rhan fwyaf wedi eu geni yn y wlad yn ddisgynyddion i bobl a symudwyd i Wganda i wasanaethu’r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd nifer o’r Asiaid a’r Ewropead yn berchen ar fusnesau, gan gynnwys mentrau ar raddfa fawr, a oedd yn ffurfio asgwrn cefn economi Wganda.

Ar 4 Awst 1972, cyhoeddodd Amin archddyfarniad yn orchymyn alltudio 50,000 o Asiaid a oedd yn ddeiliaid pasbort Prydeinig. Ymfudodd oddeutu 30,000 o Asiaid Wganda i'r DU; rhoddwyd lloches i rai o rain yng nghyn camp filwrol Tonfanau ger Tywyn, Meirionnydd.[10] Aeth eraill i wledydd y Gymanwlad fel Awstralia, De Affrica, Canada, a Fiji, neu i'r India, Cenia, Pacistan, Sweden, Tansania, a'r Unol Daleithiau. Rhoddodd Amin fusnesau ac eiddo oedd yn perthyn i'r Asiaid a'r Ewropead i'w gefnogwyr. Cafodd y busnesau eu cam-reoli, a methodd y diwydiannau o ddiffyg cynnal a chadw. Roedd hyn yn drychinebus i economi oedd eisoes yn gwegian.

Perthnasau rhyngwladol golygu

I ddechrau, cefnogwyd Amin gan bwerau'r Gorllewin megis Israel, Gorllewin yr Almaen ac, yn arbennig, Prydain Fawr. Yn ystod y 1960au hwyr, roedd Obote yn symud i'r chwith, gan gyflwyno polisïau megis Siarter y Dyn Cyffredin a arweiniodd at wladoli 80 o gwmnïau Prydeinig. Roedd hyn yn peri i'r Gorllewin boeni y byddai'n bygythiad i fuddiannau cyfalafiaeth y Gorllewin yn Affrica a gwneud Wganda yn gynghreiriad i’r Undeb Sofietaidd. Roedd Amin wedi gwasanaethu gyda byddin Prydain, gan hynny ystyriwyd y byddai’n cyfaill i Brydain. Er bod rhai wedi honni bod Amin yn cael ei baratoi ar gyfer pŵer mor gynnar â 1966, dechreuodd y plotio gan bwerau Prydain a gwledydd gorllewinol eraill yn ddifrifol ym 1969, ar ôl i Obote ddechrau ei raglen gwladoli.

Yn dilyn alltudiad Asiaid Wganda ym 1972, y rhan fwyaf ohonynt o dras Indiaid, fe wnaeth India dorri cysylltiadau diplomyddol gydag Wganda. Yr un flwyddyn, fel rhan o'i ryfel economaidd, fe dorrodd Amin gysylltiadau diplomyddol â'r DU a gwladolwyd pob busnes a oedd yn eiddo i Brydain. Yn yr un flwyddyn cafodd cysylltiadau ag Israel eu suro. Er bod Israel wedi darparu arfau i Wganda yn flaenorol, ym 1972 diarddelodd Amin cynghorwyr milwrol Israel a throi at Muammar Gaddafi o Libia a'r Undeb Sofietaidd am gefnogaeth.

Daeth yr Undeb Sofietaidd yn gyflenwr arfau mwyaf Amin. Roedd Dwyrain yr Almaen yn cynorthwyo’r Uned Gwasanaeth Gyffredinol a Swyddfa Ymchwil y Wladwriaeth, y ddwy asiantaeth a oedd fwyaf nodedig am artaith. Yn ddiweddarach yn ystod ymosodiad Wganda ar Tansania ym 1979, ceisiodd Dwyrain yr Almaen cuddio tystiolaeth o'i ymwneud â'r asiantaethau hyn.

Ym 1973 caeodd yr Unol Daleithiau ei lysgenhadaeth yn Wganda

Ym mis Mehefin 1976, caniataodd Amin i awyren Air France a gafodd ei herwgipio wrth deithio o Tel Aviv i Baris gan ddau aelod o'r "Ffrynt Poblogaidd ar gyfer y Rhyddid Palestina" (PFLP-EO) a dau aelod o Revolutionäre Zellen o'r Almaen i lanio ym Maes Awyr Entebbe. Ymunodd tri o gefnogwyr yr herwgipwyr a hwy. Yn fuan wedyn, rhyddhawyd 156 o wystlon nad oeddynt yn Iddewon neu yn dal trwydded teithio Israel. Cadwyd 83 o Iddewon a dinasyddion Israel, yn ogystal ag 20 arall a wrthododd ymadael hebddynt (gan gynnwys capten a chriw'r awyren), yn wystl[11].

Ar noson 3-4 Gorffennaf 1976, glaniodd grŵp o gomandos yn y maes awyr gan ei feddiannu a rhyddhau bron pob un o'r gwystlon. Bu farw tri gwystl yn ystod y cyrch a chafodd 10 yn eu hanafu; Cafodd y 7 herwgipiwr, tua 45 o filwyr Wganda ac un milwr o Israel eu lladd hefyd. Fel ymateb i’r digwyddiad penderfynodd y Deyrnas Unedig i gau ei Uchel Gomisiwn yn Wganda.

Colli grym golygu

Erbyn 1978, roedd nifer cefnogwyr Amin wedi lleihau yn sylweddol, ac roedd yn wynebu anghydfod cynyddol o'r boblogaeth o fewn Wganda wrth i'r economi a'r isadeiledd chwalu yn sgil y blynyddoedd o esgeuluso. Ym mis Tachwedd 1978, wedi i is-lywydd Wganda, y Cadfridog Mustafa Adrisi, gael ei anafu mewn damwain car, gwrthryfelodd milwyr oedd yn ffyddlon iddo. Anfonodd Amin filwyr yn eu herbyn a bu rai ohonynt ffoi dros y ffin i Tansanïa. Cyhuddodd Amin, Nyrere, Llywydd Tansania o greu rhyfel yn erbyn Wganda, a gorchymyn ymosodiad ar diriogaeth Tansania gan atodi rhan o ranbarth Kagera ar draws y ffin i Wganda[12]

Ym mis Ionawr 1979, gwrth ymosododd Llu Amddiffyn Pobl Tansania gyda nifer o grwpiau o alltudion o wganda a oedd wedi ymuno â Byddin Ryddhau Genedlaethol Wganda (UNLA). Cafodd lluoedd Amin eu trechu a phenderfynodd Amin i ffoi am ei fywyd mewn hofrennydd ar 11 Ebrill 1979, pan gafodd Kampala ei feddiannu. Dihangodd yn gyntaf i Libia, lle bu'n aros tan 1980, ac yn y pen draw ymgartrefodd yn Sawdi Arabia, lle'r oedd teulu brenhinol Sawdi yn caniatáu iddo noddfa a rhoi iddo gymhorthdal hael yn gyfnewid am addewid na fyddai’n ymyrryd a gwleidyddiaeth[13].

Marwolaeth golygu

Ar 19 Gorffennaf 2003, dywedodd un o wragedd Amin, Madina, ei fod mewn coma ac yn agos i farwolaeth yn Ysbyty Arbenigol y Brenin Faisal yn Jeddah, Sawdi Arabia, o herwydd fethiant yr arennau. Plediodd hi â Llywydd Wganda, Yoweri Museveni, i ganiatáu iddo ddychwelyd i Wganda am weddill ei fywyd. Gwrthodwyd y cais. Penderfynodd teulu Amin i ddatgysylltu ei beiriannau cefnogaeth bywyd a bu farw ar 16 Awst 2003. Fe'i claddwyd ym Mynwent Ruwais yn Jeddah mewn bedd syml heb unrhyw rwysg.[14]

Cyfeiriadau golygu