Nodyn:Pigion/Wythnos 43
Pigion
Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archaeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn ieithoedd Celtaidd a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, a Chernyweg) a rhwng y tair iaith Oideleg (Gaeleg, Gwyddeleg, a Manaweg). mwy... |
Erthyglau dewis
|