Agor y brif ddewislen

Bardd Cymraeg o'r 16g oedd Morus Dwyfech, sef Morus ap Dafydd ab Ifan ab Einion (bl. 15231590). Cafodd ei enw barddol o'r afon Dwyfech (Dwyfach heddiw; ceir y ffurf ddiweddar ar ei enw barddol Morus Dwyfach hefyd), ger Cricieth, Gwynedd.[1]

BywgraffiadGolygu

Brodor o Eifionydd oedd Morus Dwyfech. Roedd yn fardd proffesiynol a ganai i rai o deuluoedd mawr Gwynedd, yn enwedig rhai Llŷn ac Eifionydd, yn cynnwys teuluoedd Penyberth, Cefnamwlch a Talhenbont.[1]

Graddiodd yn Eisteddfod Caerwys 1523, y gyntaf o'r ddwy Eisteddfod Caerwys. Daeth yn fardd teulu ym mhlas Cefnamwlch ond crwydrai'r gogledd-orllewin yn clera hefyd, fel y rhan fwyaf o'i gyd-feirdd. Yn ogystal â'i chanu mawl cyfansoddodd gerddi crefyddol a cherddi dychan hefyd. Un o'i gerddi mwy anghyffredin yw'r 'Cywydd moliant i Lŷn'.[1]

Bu farw tua dechrau'r 1590au a chafodd ei gladdu ym mynwent plwyf Penllech, Cymydmaen, Llŷn.[1]

LlyfryddiaethGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 John Jones (Myrddin Fardd) (gol.), Cynfeirdd Lleyn.