Richard Prichard (gweinidog Wesleaidd)

gweinidog Wesleaidd

Roedd Richard Prichard (31 Mawrth, 1811 -12 Mai, 1882) yn weinidog Wesleaidd Cymreig, yn olygydd ac yn awdur.[1]

Richard Prichard
Ganwyd31 Mawrth 1811 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1882 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Prichard ym Mangor yr hynaf o naw plentyn John Pritchard, hwsmon ar ystâd Perfeddgoed a Jane Griffith ei wraig.[2] Cafodd ei fedyddio yn Ebeneser, Capel Annibynwyr Bangor ar 3ydd Ebrill 1811 gan y Parch Arthur Jones.[3] Cafodd ei addysgu mewn ysgolion dydd preifat yn y ddinas. Er bod ei dad yn aelod o enwad yr Annibynwyr a'i fan yn Fethodist Calfinaidd, mynychai Richard ysgol Sul y Wesleaid.[4]

Dechreuodd pregethu mewn oedfa yn Llanllechid ar 25 Tachwedd, 1827, yn ddim ond 16 mlwydd oed. Wedi cael ychydig o brofiad pregethu o dan arolygiaeth rhai profiadol cafodd ei dderbyn fel pregethwr cynorthwyol cyflawn ar y mis canlynol ar 31 Rhagfyr, 1827. Yn fuan profodd yn bregethwr poblogaidd iawn gan dderbyn galwadau i bregethu mor bell i ffwrdd a Lerpwl, Caergybi a Machynlleth. I hogyn ifanc heb ddigon o olud i brynu ceffyl, bu cerdded i oedfaon mor bell i ffwrdd yn dipyn o gamp.[5]

Ym 1829 cafodd gwahoddiad i fynd ar daith bregethu byddai'n cynnwys pregethu yn Harlech, Abermaw, Dolgellau, Machynlleth a llefydd eraill ym Meirionnydd a Sir Drefaldwyn. Tra ar y daith cafodd gwahoddiad i fod yn bregethwr cyflogedig ar gylchdaith (ardal gwasanaeth gweinidogion Wesla yn cynnwys nifer o gapeli) Aberystwyth a Machynlleth. Derbyniodd y cynnig ac ymhen tri mis ar 31 Mawrth 1830 rhoddodd y gylchdaith ei enw ymlaen fel un deilwng i fod yn ymgeisydd i'r weinidogaeth. Yng nghynhadledd Daleithiol de Cymru o'r enwad rhoddodd Prichard pregeth brawf a chafodd ei arholi gan gynrychiolydd Cynhadledd y Methodistiaid a chael ei dderbyn yn ymgeisydd i'r weinidogaeth ar 31 Mehefin 1830. Fe gafodd ei ordeinio yn weinidog yn y Gynhadledd Fethodistaidd a gynhaliwyd yn Lerpwl ym 1832 a chafodd ei ddanfon i Gylchdaith Caerdydd i ddechrau ar ei weinidogaeth.[6] Yn ôl trefn yr enwad yn hytrach na chadw un capel am flynyddoedd, roedd ei weinidogion yn newid eu cylchdaith yn aml gan aros yn yr un ardal am gyfnod o rhwng blwyddyn a thair blwydd. Gwasanaethodd Prichard ar Gylchdeithiau:

  • Caerdydd (1832-3),
  • Dolgellau (1834-5)
  • Caernarfon (1836)
  • Llanrwst ac Abergele (1837-9)
  • Llanfair Caereinion (1840-2),
  • Yr Wyddgrug (1843-4)
  • Dolgellau (1845-7)
  • Llanfyllin (1848-50). Yn Llanllyfni fe'i penodwyd yn Arolygydd am y tro cyntaf, sef y blaenaf ymysg gweinidogion y gylchdaith. Bu'n arolygydd pob cylchdaith arall y bu'n gwasanaethu ynddi wedi hynny.
  • Biwmares (1851)
  • Lerpwl (1852-4)
  • Rhuthun (1855-7)
  • Yr Wyddgrug (1858-60)
  • Coedpoeth (1861-2)
  • Lerpwl ( 1863-5)
  • Caernarfon (1866-8)
  • Y Rhyl (1869-71),
  • Conwy (1872)

Ymddeol i'r Rhyl ym 1873 fel uwchrifiad (gweinidog Wesleaidd wedi ymneilltuo ond sy'n parhau ar hawl i gyflawni gwaith gweinidog megis pregethu, rhannu'r cymyn cynnal bedyddiadau, priodasau, angladdau ac ati).[7]

Llenor

golygu

Cyhoeddodd Prichard nifer o bamffledi yn ystod ei oes. Y cyntaf oedd cyfieithiad o ddau o Bregethau'r Dr Adam Clerk, un o fawrion Saesneg y Wesleaid, ym 1831. Ym 1835 cyhoeddodd 1,200 o rifynnau o bregeth ei hun am Etholedigaeth Gras. Cyhoeddodd nifer fawr o bamffledi tebyg. Ei chyhoeddiad pwysicaf oedd Yr Holwyddorydd Duwinyddol, llyfr o gwestiynau ac atebion am faterion crefyddol. Roedd plant yr ysgol Sul yn dysgu'r cwestiynau a'r atebion ar eu cof, fel bod ateb parod ganddynt i unrhyw feirniad o'u ffydd. Cyhoeddwyd yr Holwyddorydd gyntaf ym 1857 aeth i nifer o ailargraffiadau ac fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg ym 1875. Roedd yr Holwyddorydd yn dal i gael ei ddefnyddio mewn ysgolion Sul hyd y 1970au. Ysgrifennodd cyfrol olynol i'r Holwyddorydd Duwinyddol ym 1866 sef Yr Holwyddorydd Hanesyddol, ond ni phrofodd mor llwyddiannus â'i rhagflaenydd. Bu'n olygydd Y Winllan, cylchgrawn ieuenctid y Wesleaid a bu'n cyfrannu erthyglau yn rheolaidd i'r Eurgrawn Wesleyaidd. Ceir cofiant iddo mewn deg rhan yn yr Eurgrawn rhwng Hydref 1886 a Gorffennaf 1887.

Ym 1837 priododd Jane Richards, Bont Newydd, Meifod, cawsant bedwar o blant.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn y Rhyl wedi bod yn ddioddef am sawl flwyddyn o "wendid y gyfundrefn gieuol" (sef wendid y system nerfol Anhwylder Parkinson, mae'n debyg). Roedd yn 71 mlwydd. Claddwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus Rhyl. Mae ei fedd yn agos iawn i fedd un arall o fawrion y Wesleaid, Y Parch Thomas Aubrey.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "PRICHARD, RICHARD (1811 - 1882), gweinidog Wesleaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-10.
  2. Yr Eurgrawn, Hydref 1886, Cofiant y Parch. Richard Prichard, Gweinidog Wesleaidd, gan y Parch Hugh Jones Rhan 1
  3. Yr Archif Genedlaethol RG4/3832 Cofrestrau Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Anghydffurfiol a ildiwyd i Gomisiynau Cofrestrau An-blwyfol 1837 a 1857
  4. "MARWOLAETH Y PARCH RICHARD PRICHARD - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1882-05-17. Cyrchwyd 2019-09-10.
  5. Yr Eurgrawn, Tachwedd 1886, Cofiant y Parch. Richard Prichard, Gweinidog Wesleaidd, gan y Parch Hugh Jones. Rhan 2
  6. Yr Eurgrawn, Rhagfyr 1886, Cofiant y Parch. Richard Prichard, Gweinidog Wesleaidd, gan y Parch Hugh Jones. Rhan 3
  7. Yr Eurgrawn, Gorffennaf 1887, Cofiant y Parch. Richard Prichard, Gweinidog Wesleaidd, gan y Parch Hugh Jones. Rhan 10
  8. "CLADDEDIGAETH Y PARCH RICHARD PRICHARD - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1882-05-24. Cyrchwyd 2019-09-10.