Warsaw

(Ailgyfeiriad o Warszawa)

Warsaw, neu Warszawa, (Pwyleg: Warszawa) yw prifddinas Gwlad Pwyl. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Vistula, tua 370 km o arfordir y Môr Baltig a mynyddoedd y Carpatiau fel ei gilydd. Amcangyfrifir bod ganddi boblogaeth o tua 1,726,581 (2014).

Warsaw
Mathdinas gyda grymoedd powiat, dinas, sedd y llywodraeth, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid, y ddinas fwyaf, endid tiriogaethol gweinyddol, metropolis, national capital Edit this on Wikidata
Warszawa pl.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Varșovia.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,860,281 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRafał Trzaskowski Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Pwyleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMasovian Voivodeship Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Arwynebedd517 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr118 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Vistula Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSir Warsaw West, Sir Pruszków, Sir Piaseczno, Sir Otwock, Sir Mińsk, Sir Wołomin, Sir Legionowo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.23°N 21.0111°E Edit this on Wikidata
Cod post00-000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Warsaw Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRafał Trzaskowski Edit this on Wikidata
Map

Erbyn dechrau'r Oesoedd Canol roedd casgliad o drigfeydd ar lan Afon Vistula wedi tyfu'n dref ac yna'n ddinas erbyn y 15g. Cyhoeddwyd Warsaw yn brifddinas y wlad yn 1611. Dioddefodd gyfnod dilewyrch ar ôl hynny ond erbyn y 18g roedd yn ddinas lewyrchus eto.

Cafodd ei meddiannu gan Rwsia yn 1794 ac yn ddiweddarach gan Ffrainc dan Napoleon, a Phrwsia yn ogystal. Chwaraeodd ran bwysig yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Wlad Pwyl yn y 19g. Ar ôl cael ei meddiannu gan yr Almaenwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn brifddinas y wlad unwaith yn rhagor yn 1918 pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.

Dioddefodd y ddinas yn enbyd yn yr Ail Ryfel Byd pan y meddiannwyd gan y Natsïaid. Un o agweddau gwaethaf y rhyfel yn Warsaw oedd creu'r geto i'r Iddewon gan y Natsïaid (1940). Gorfodwyd 400,000 o Iddewon i fynd i fyw yn Geto Warsaw. Dim ond tua 100,000 oedd wedi goroesi erbyn Chwefror 1943. Bu gwrthryfel ganddynt ar y strydoedd ond fe'u gorchfygwyd gan y Natsïaid a chafodd y goroeswyr i gyd eu rhoi i farwolaeth.

Ar ddiwedd y rhyfel roedd y ddinas wedi'i dinistrio yn llwyr bron. Aethpwyd ati yn y 1950au i atgyfodi'r hen ddinas ac ail-greu rhai o'r adeiladau hanesyddol a gollwyd. Mae'r ddinas wedi tyfu'n sylweddol ers hynny ac erbyn heddiw mae Warsaw yn ddinas fywiog ac yn ganolfan ddiwylliannol, fasnachol a chyfathrebol y wlad.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Colofn Zygmunt
  • Eglwys gadeiriol Sant Ioan
  • Królikarnia
  • Palas Czapski
  • Palas Diwylliant
  • Palas Krasiński
  • Palas Wilanów
  • Theatr Mawr

Enwogion

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyffredinol

golygu
 
Palas Branicki

Orielau

golygu