Adnoddau naturiol Cymru
Enghraifft o'r canlynol | agweddau o ardal ddaearyddol |
---|---|
Lleoliad | Cymru |
Dŵr
golyguGyda’i dir mynyddig a digon o law, mae gan Gymru dignoedd o ddwr. Mae gan y wlad lawer o gronfeydd dynol ac mae Cmru'n allforio dŵr i Loegr yn ogystal â chynhyrchu pŵer trwy trydan dŵr. Mae’r grŵp mwyaf o gronfeydd dŵr, yng Nghwm Elan ac yn cynnwys Claerwen. Mae cyrff eraill o ddŵr yn cynnwys Llyn Tegid, Llyn Trawsfynydd, Llyn Efyrnwy, Cronfa Ddŵr Talybont a Llyn Brianne. Mae rhai o'r rhain yn lefydd poblogaidd ar gyfer gweithgareddau awyr agored fel hwylio, caiacio, beicio, pysgota a gwylio adar.[2]
Mae tarddiad nifer o afonydd arwyddocaol ym mynyddoedd Cymru, gan gynnwys Afon Dyfrdwy, Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Gwy, ac Afon Hafren ac mae gan bob un ohonynt bysgodfeydd sylweddol yn enwedig eogiaid a sewin .
Ynni adnewyddadwy
golyguMae gwynt yn adnodd arall sydd gan Gymru yn helaeth. Mae "Gwynt y Môr" yn un o nifer o ffermydd gwynt alltraeth oddi ar arfordir Gogledd Cymru ac Ynys Môn, a dyma’r ail fferm wynt fwyaf o’i bath yn y byd.[3] Mae ffermydd gwynt eraill ar safleoedd mewndirol, ucheldir yn bennaf, ond nid oes un yn y parciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog. [4]
Glo
golyguMae Maes Glo De Cymru yn ymestyn o rannau o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin, i Flaenau Gwent a Thorfaen yn y dwyrain[5] ac mae Maes Glo Gogledd Cymru yn llai ac yn rhannu o Sir y Fflint a Sir Ddinbych.[6] Cloddiwyd llawer iawn o lo yng Nghymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol a rhan gyntaf yr ugeinfed ganrif, ac wedi hynny gostyngodd y stociau glo. Daeth y pyllau oedd yn weddill yn aneconomaidd wrth i lo tramor ddod ar gael am brisiau ise ac fe gaeodd y pwll dwfn olaf yng Nghymru yn 2008.[7]
Mwynau metel
golyguBu'r haearnfaen ar hyd ymyl gogleddol Maes Glo De Cymru yn brysur cynhyrchu haearn ac roeddent yn bwysig wrth gychwyn y Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru.[8]
Cloddiwyd plwm, arian ac i raddau llai sinc yn ardaloedd ucheldirol afonydd Ystwyth a Rheidol ac ym mlaenddyfroedd Afon Hafren am ganrifoedd a chloddiwyd dyddodion llai hefyd ym Mhentre Helygain yn Sir y Fflint yn ystod meddiannaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Roedd yna hefyd safleoedd mwynau yng Nghlwyd lle roedd plwm, arian ac weithiau sinc yn cael eu cloddio.[9]
Roedd llawer o gopr yn cael ei allforio o Fynydd Parys ar Ynys Môn a oedd, yn ei anterth, y mwynglawdd copr mwyaf yn y byd. Roedd copr wedi bod yn hysbys ac yn cael ei gloddio ers o leiaf yr Oes Efydd gyda mwynglawdd copr soffistigedig o'r Oes Efydd ar y Gogarth ger Llandudno.[10] Roedd gweithfeydd copr llai yn Eryri ac roedd diwydiant copr llewyrchus yno ers dechrau’r 1800au. Er y cawsont eu hecsbloetio, nid oes un o'r mwynau hyn yn cael ei gloddio ar raddfa fasnachol heddiw. [11]
Carreg
golyguMae cerrig yn cael eu cloddio mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae chwarela a chloddio llechi wedi bod yn ddiwydiant mawr yng Ngogledd Cymru. Roedd Chwarel Cilgwyn yn cael ei gweithio yn y 12g, ond yn ddiweddarach daeth Blaenau Ffestiniog yn ganolbwynt cynhyrchu.[12] Mae Chwarel y Penrhyn yn dal i gynhyrchu llechi, er ar lai o gapasiti o gymharu â’i hanterth, ac mae Ceudyllau Llechi Llechwedd wedi’u troi’n atyniad i ymwelwyr. [13] Mae nifer o'r rheilffyrdd a arferai gludo'r llechi i'r porthladdoedd wedi eu hadfer fel atyniadau twristiaid, gan gynnwys Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Talyllyn.[14]
Olew a nwy
golyguMae gan Gymru rywfaint o botensial ar gyfer cynhyrchu olew a nwy ar y tir. Gellir cael nwy siâl trwy ffracio ac mae methan mewn gwythiennau glo heb ei gloddio, y gellir ei echdynnu. Ffynhonnell nwy bosibl arall yw hylosgiad tanddaearol o wythiennau glo i gynhyrchu syngas, sef cymysgedd o hydrogen, methan a charbon monocsid.[15]
Amgylchedd naturiol
golyguMae gan Gymru lawer o ardaloedd gwarchodedig gan gynnwys tri pharc cenedlaethol: Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro . Mae ganddi bum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Penrhyn Gŵyr, Penrhyn Llŷn, a Dyffryn Gwy.[16]
Môr ac arfordir
golyguOherwydd ei lleoliad yn wynebu cefnfor egnïol iawn, mae gan Gymru nifer o draethau tywodlyd, arfordir sy'n gyforiog o glogwyni môr ac amrediad llanw cymharol uchel mewn sawl ardal. Yn 2020 roedd gan arfordir Cymru 40 o draethau Baner Las, tri marina Baner Las ac un gweithredwr cychod Baner Las.[17]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dinorwig Power Station" (yn Saesneg). Mitsui & Co., Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2016. Cyrchwyd 23 Ebrill 2016.
- ↑ "Shimmering waters: Welsh lakes and reservoirs". Visit Wales (yn Saesneg). Welsh Government. Cyrchwyd 23 Ebrill 2016.
- ↑ Denholm-Hall, Rupert (18 June 2015). "World's second largest offshore wind farm opens off coast of Wales". Wales Onlone. Cyrchwyd 23 Ebrill 2016.
- ↑ "Interactive Map of Renewable and Alternative Energy Projects in the UK". Renewable Energy in the UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-15. Cyrchwyd 23 Ebrill 2016.
- ↑ "South Wales (geological map)". Geological Maps of Selected British Regions. University of Southampton. Cyrchwyd 22 Ebrill 2016.
- ↑ "The North Wales Coalfield". Coalmining History Research Centre. 1953. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 22 Ebrill 2016.
- ↑ "Coal mine closes with celebration". BBC News. 25 January 2008. Cyrchwyd 22 April 2016.
- ↑ "Blaenavon World Heritage Site". Cyrchwyd 23 Ebrill 2016.
- ↑ "Denbighshire, Flintshire & Wrexham Metalliferous Sites" (yn Saesneg). North Wales Miners Association Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2016. Cyrchwyd 23 Ebrill 2016.
- ↑ "Copper in Wales" (yn Saesneg). ESRC - Swansea University. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ Bevins, Richard E. (1994). A Mineralogy of Wales (yn Saesneg). National Museum Wales. tt. 18–26. ISBN 978-0-7200-0403-8.
- ↑ Lindsay, Jean (1974). A History of the North Wales Slate Industry (yn Saesneg). David and Charles. t. 314. ISBN 0-7153-6264-X.
- ↑ "Llechwedd Slate Caverns". Cyrchwyd 23 Ebrill 2016.
- ↑ Richards, Alun John (1999). The Slate Regions of North and Mid Wales and Their Railways (yn Saesneg). Gwasg Carreg Gwalch. t. 14. ISBN 0-86381-552-9.
- ↑ "Extracting onshore oil and gas". Natural Resources Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2016. Cyrchwyd 23 Ebrill 2016.
- ↑ "Areas of Outstanding Natural Beauty". Welsh Government website (yn Saesneg). Welsh Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2012. Cyrchwyd 6 Hydref 2010.
- ↑ Knapman, Joshua (14 Mai 2019). "All of Wales' Blue Flag beaches in 2019". walesonline (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Mai 2020.