John William Thomas

mathemategwr
(Ailgyfeiriad o Arfonwyson)

Mathemategydd a "phoblogeiddiwr gwyddoniaeth" dawnus o Gymro oedd John William Thomas (180512 Mawrth 1840), sy'n adnabyddus wrth ei lysenw Arfonwyson. O gefndir syml daeth yn athro ysgol hunanaddysgiedig yn ardaloedd Bangor a Llan Ffestiniog. Bu ei geisiadau i gyhoeddi am fathemateg a seryddiaeth yn Gymraeg yn fethiannau masnachol (yn bennaf oherwydd ei ddefnydd o orgraff annealladwy i relyw ei gynulleidfa). I geisio cynnal ei hun a'i deulu symudodd i Lundain lle, ar ôl cyfnod di-waith, fe'i hapwyntiwyd (yn computer) ar staff Arsyllfa'r Brenin yn Greenwich (1836). Ar ôl cyfnod tymhestlog yno, bu farw o'r dicâu yn 1840. Ystyrir cynnwys ei gyhoeddiadau Cymraeg, er waetha'r orgraff, a'i gyfraniadau i fywyd Cymraeg Llundain, yn arloesol.     

John William Thomas
FfugenwArfonwyson Edit this on Wikidata
Ganwyd1805 Edit this on Wikidata
Pentir Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 1840 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmathemategydd, chwarelwr, pedlar Edit this on Wikidata
Manylyn o bentan cerfiedig Bryn Twrw. Diagram diffyg yr haul a'r lloer (1837). Cynllun John William Thomas.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd John William Thomas yn 'rAllt Isaf, Pentir (Plwyf Llandygai) ger Bangor yn fab i Dorothy a William Thomas[1][2]. Er bod y teulu yn dlawd, llwyddwyd i'w anfon am dair blynedd i Ysgol Genedlaethol Pentir (ond un sâl, mae'n debyg, oedd yr athro William Thomas[2]). Yn 17/18 oed aeth i weithio ar ben yr osglawr (inclein) yng Nghilgeraint (Dyffryn Ogwen) yn trosglwyddo llechi o Chwarel Cae Braich Cafn (Chwarel Penrhyn) i'r dramffordd (ceffyl) oedd yn eu cario i Borth Penrhyn. Ar ôl ei waith, dechreuodd mynychu dosbarth nos ryw John Williams yn ardal Pentir. Rhwng pob dim, fe gasglodd digon o arian (yn 18 oed) i fynychu ysgol Robert Roberts (awdur Daearyddiaeth (1816)), Caergybi am dri mis. Ymddiddorodd yn arbennig mewn rhifyddeg a seryddiaeth (a'r iaith Saesneg er mwyn darllen yn eang am y pynciau hyn). Mae un hanesyn lleol amdano yn gorwedd a'i gefn ar domen dail ffres i gadw'n gynnes wrth astudio'r sêr ar nosweithiau oer. Erbyn 1824 bu modd iddo agor, a rhedeg, ei ysgol eu hun, ger ei gartref, yn Nhregarth. I gadw pen llinyn ynghyd, a hefyd yn fodd iddo weld mwy o lyfrau, bu'n dosbarthwr llyfrau i'r llyfrwerthwr ac argraffydd Enoch Jones o Fiwmares. Yn 1826, yn 21 oed, priododd a merch Tai Teilwriaid, Tregarth. Yn ystod y cyfnod hwn rhoddwyd iddo gyfrifoldeb yr Ysgol Genedlaethol yn Llan Ffestiniog. Y Deon James Henry Cotton (Bangor)[3], yn enw'r Eglwys Sefydledig, oedd yn gyfrifol am yr ysgol a diddorol yw gweld i John cael y fath nawdd, gan ei fod yn ymneilltuwr. Ni pharodd y trefniant yn hir. Yn ôl Robert John Pryse[2], pechodd John un o'r "clerigwyr" Anglicanaidd a chollodd ei swydd. Symudodd yn ôl i Fangor, gan ddechrau (tua 1830) cadw ysgol yng Nglanrafon yno.

Bu hwn yn gyfnod prysur i John. Roedd ganddo eisoes deulu "lled lliosog[2]". Ond fe'i cofid yn bennaf am ei lyfrau. Tra yn ysgol Tregarth 'roedd wedi cynllunio campwaith dysgu mathemateg. Erbyn 1832 roedd y tair cyfrol gyntaf o Elfenau Rhifyddiaeth neu Rhifgell y Cymro wedi'i cyhoeddi (am 6ch yr un). Ceir yma cymysgedd arloesol[1] o reolau syml rhifyddeg, trafodaeth ar athroniaeth mathemateg ac ar y berthynas rhwng iaith a mathemateg. Hefyd tri rhifyn cyntaf Athro i'r Cymro Ieuangc; compendiwm o wybodaeth gyffredinol ar gyfer y Cymro ifanc oedd y rhain[1], mae'n debyg i John bwriadu ryw 30 rhifyn i gyd[2]. Yn 1833 gwelwyd Geiriadur Cymreig a Seisoneg ar werth. Yn eu erthyglau cofiannol mae Robert John Pryse[2], Elwyn Hughes[1] a Gwyn Chambers[4] yn gytun mai anhawsder mawr John oedd eu ddefnydd o ieithwedd glogyrnaidd a ffug-wyddonol William Owen Pughe wrth ysgrifennu. Roedd y llyfrau yn anodd iawn i neb eu darllen - heb son am werthfawrogi cyfoeth eu cynnwys. Ni fuont yn llwyddiant masnachol a rhoddwyd y gorau i freuddwyd yr Elfenau. Yng Ngorffennaf 1834 ceisiodd nifer o'i gyfeillion, ar ei ran, ennill swydd gyllidwr (excise officer) iddo, ond yn ofer. Symudodd ei deulu yn ôl i 'rAllt Isaf at ei rhieni a mudodd yntau i chwilio am waith i Lundain yn Awst 1834.

Symud i Lundain golygu

Er ei siom, nid yw'n ymddangos iddo sori a'i gyd Gymry[1] ac ymunodd a'r Cymreigyddion a dechreuodd arddel yr enw "Arfonwyson". Er ei ddawn ysgrifennu Saesneg yn dda, mae'n debyg nad oedd ei ddefnydd llafar o'r iaith honno cystal. Bu hwn yn llestair iddo am gyfnod i ennill swydd. Am gyfnod byr, cafodd swydd Ysgrifennydd Personol i William Cobbett[5], AS dros Oldham. Yn anffodus bu Cobbett farw mewn dyled ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Nid yn unig oedd John allan o waith unwaith eto, ond nid oedd wedi derbyn ceiniog o gyflog !

Er ei siom, nid oedd pall ar frwdfrydedd John am seryddiaeth. Cymerodd gryn ddiddordeb yn ymddangosiad "planed" (comed) Halley[6] yn ystod 1835, ac yn rhag-sylwadau am ddiffyg ar yr haul oedd i ddyfod yn 1836. Ysgrifennodd am y rhain yn ôl i'w deulu a chyfeillion yn Arfon (gw. Carreg Aelwyd Bryn Twrw isod). Mae'n debyg y bu, hefyd, yn eu trafod ymhlith ei gyd Cymreigyddion, oherwydd tynnwyd sylw un ohonynt, y mathemategydd a Chymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (FRS) Griffith Davies[7] at ddawn fathemategol John. Gwyddai Davies fod Seryddwr newydd y Brenin, George Airy[8], yn chwilio am ddau rifyddwr i weithio yn yr Arsyllfa Frenhinol[9] yn Greenwich. Cyn dyddiau cyfrifiaduron electronig, dynion a gwragedd[10], oedd y gwneud yr holl gyfrifiannu angenrheidiol yr ydym yn cymryd yn ganiataol heddiw. Yn wir, "computers" oedd yr enw a rhoddid ar y mwyaf di-nod o'r gweithwyr yma. Cychwynnodd John yn yr Arsyllfa yn 1836 am gyflog a disgrifir gan Griffith Davies fel "small remuneration[1]". (Awgrymwyd iddo y medrai dderbyn 30 swllt yr wythnos "ymhen amser"[1].)  

Cyfnod Arsyllfa Greenwich golygu

 
Syr George Biddell Airy (1801-1892). Seryddwr y Brenin a chyflogwr John William Thomas o 1836-1840

Yn ei lith gofiant[1], mae R. Elwyn Hughes yn manylu ar y ddeuoliaeth ym mywyd John o'r foment hon hyd at ei farwolaeth pedair blynedd yn ddiweddarach. Swydd gymharol ddi-nod oedd ganddo yn yr Arsyllfa, eto mi roedd yn llythyru'n gyson ag Airy yn cwyno am ei gyd-weithwyr yn y Great Room, yr ystafell gyfrifiannu y bu'n oruchwyliwr (anfodlon ?) arno erbyn diwedd ei fywyd. Yn aml ni ddaeth ymateb gan Airy. (Ceir ymdriniaeth drylwyr o'r llythyrau hyn, sy'n gipdrem ddiddorol ar fywyd gwyddonwyr proffesiynol cyffredin - ynghyd a moesau - dechrau'r 19 ganrif, heb sôn am bersonoliaeth John, yng nghofiant Elwyn Hughes). Rhoer peth o'r eglurhad am anniddigrwydd John gan Elwyn Hughes i'r ffaith ei fod bellach yn dioddef o'r ddarfodedigaeth (dicâu). Roedd yn ymwybodol nad oedd ganddo hir i fyw. I geisio gwella ei stad ariannol, ceisiodd (bygythiodd ?) gadael yr Arsyllfa am gyflogaethau eraill ym myd Yswiriant Llundain. Mae'n arwydd o werthfawrogiad Airy ei fod yntau wedi cynyddu cyflog John yn sylweddol. (Erbyn Tachwedd 1838 roedd yn ennill £140 y flwyddyn.) Ond dirywio gwnaeth perthynas John ac Airy. Ar ben ymgecru'r Great Room, roedd y dicáu yn dwysau. Bu farw ar 12 Mawrth 1840.

Mae’n debyg nad oedd Airy yn ymwybodol o ochr arall fywyd John. Ei gyfraniad i fywyd Cymraeg Llundain a’r genedl. Aeth ati i gyhoeddi ei lyfr mwyaf llwyddiannus, Trysorfa yr Athrawon, yn fath o grynodeb o wybodaeth gyffredinol am y Beibl. Cyhoeddwyd hwn yn 1837, er y bu yn llaw’r cyhoeddwr ers Awst 1835[2].  (Fel arwydd o geisio uno deuoliaeth ei fywyd, mae’n arwyddo’r rhagymadrodd a’i gyfeiriad “Tremle Brenhinol y Parc Glas” (sef Greenwich).) Roedd almanaciau[11] yn boblogaidd ar y pryd, ac fe gyhoeddwyd tri o’i eiddo gan John Jones[12], Llanrwst am y blynyddoedd 1838-40. Roedd yn ddarlithydd cyson (a hirfaith !) i’r Cymreigyddion. Mae sawl un o’r darlithoedd yma wedi goroesi yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac fe gyhoeddwyd un, Seryddiaeth[13], gan Hugh Humphreys (1817-1896) o Gaernarfon. Bu’n llythyru’n gyson a Seren Gomer - lle ‘roedd tystiolaeth ei fod, o’r diwedd, yn dianc o ddylanwad William Owen Pughe yn ei orgraff.

Cymysg oedd y goffadwriaeth amdano ar ôl ei farwolaeth. Fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Alphage Sant[14] yn Greenwich. Erbyn 1843 nid oedd yr un o’r Cymreigyddion yn cofio lle y claddwyd[1]. Er mae cofnod i lun ohono wedi’i beintio yn 1836 gan William Roos (1808-78) bod ar wal ystafell y Cymreigyddion[15][16]  Aeth cyfaill iddo (Ieuan ab Gruffydd (Llanofer) ati i ddarganfod y man claddu, a threfnu garreg fedd. Yn yr 1920au ceir gofod o’r arysgrif:

   J W Thomas [claddwyd] 12 Feb 184[0] [oedran] 36
Cof-fain i J.W. Thomas (Arfonwyson) [Ie]ithydd, Rhifydd a Serydd
   A enwogwyd trwy ddawn gynhenid er llawer o rwystrau.
   Ganwyd ym mhlwyf Llandegai. Bu farw yn Greenwich[1]

Bellach diflannodd y garreg. Nid oes arwydd o fodolaeth Arefonwyson yn Greenwich.

Roedd y wasg Gymraeg yn garedicach a cheir nifer o deyrngedau canmoliaethus iddo (yn enwedig yn Seren Gomer[1] ac yn ddiweddarach yn Y Gwyddoniadur Cymreig[2]. Yn wir o rhai gellir feddwl mai John oedd Seryddwr y Brenin !

Carreg Aelwyd Bryn Twrw golygu

 
Manylyn o bentan cerfiedig Bryn Twrw. Orbitau'r planedau, ynghyd a thrywydd comed Halley yn 1835 (1837).

Ceir cofeb ryfeddol i Arfonwyson ger ei gartref ym mhlwyf Llandygai. Yn 1837, cyflwynodd i Richard a Grace Jones, Bryn Twrw, cynllun cynhwysfawr seryddol ar gyfer pentan eu tŷ newydd. Dyma gyfnod hynod Llechi Cerfiedig[17] Dyffryn Ogwen, pryd crëwyd dwsinau o bentanau addurnedig. O fewn degawd neu ddwy aethant yn anffasiynol a gwaredwyd nifer fawr ohonynt. Yn ffodus, mae un o’r enghreifftiau rhyfeddaf wedi goroesi yn gyfan. Pentan Bryn Twrw. Cerfiwyd y cynllun gan Thomas (1808-40) a William (1815-1855), brodyr Grace Jones, ar dri darn sylweddol o lechen. Mae’n cynnwys (i gyd wedi’i disgrifio yn Gymraeg) lluniau o’r planedau unigol a’r haul. Cynllun eu horbitau, ynghyd a thrywydd “planed” Halley[6] a oedd newydd wedi ymddangos yn 1835. (Bu gryn gynnwrf am hyn trwy’r byd am mai hwn oedd yr ail ymddangosiad ohono ers i Edmond Halley (1656-1741)[18] darogan ei ymddangosiad yn 1758/9. Halley oedd y gyntaf i ddangos fod nifer o gomedau yn ail ymddangos yn gyson. Yn wir erys apêl y gomed hon (a luniwyd ar Dapestri Bayeux am 1066) fel y dangosodd diddordeb ei hymddangosiad yn 1986 (daw y tro nesaf yn 2061). Hefyd ar y garreg mae diagramau manwl yn esbonio diffyg ar yr haul. (Bu ddiffyg felly yn 1836).  Yn fwy chwareus, yng nghanol y garreg lorweddol uwchben y tân mae lluniau o arwyddion y Sidydd mewn cylch o amgylch yr haul. Mae hanes lleol sy’n adrodd i griw o denantiaid ifanc yn ystod y 1960au, o bosibl o dan ddylanwad canabis, credu bod y pentan yn arwydd o’r diafol. Perswadiwyd y ficer lleol, ynghyd a chyfaill iddo oedd hefyd yn ysbrydegydd, dod i fwrw allan (exorcise) y diafoliaid o’r pentan! Dameg hynod o sut mae perthynas gwyddoniaeth a’r cyhoedd (gan cynnwys gwerin Dyffryn Ogwen) yn newid dros y canrifoedd !

Tua diwedd y 19 ganrif symudwyd y pentan o Fryn Twrw i Dyddyn Dicwm, lle mae perchnogion presennol (2019) y tŷ yn ei barchu ac wedi casglu nifer o ddogfennau a hanesion amdano. Gwnaethpwyd copi (cast) ohono. Ar ôl cyfnod yn hen Ysbyty Chwarel Dinorwig Llanberis symudwyd y copi i Amgueddfa Bangor (Storiel) lle mae rhan ohono yn rhan o’r arddangosfa barhaol (2019).

Llyfryddiaeth golygu

  • Llewelyn Gwyn Chambers (1994) Mathemategwyr Cymru. CBAC. (tud 56-58)
  • Llewelyn Gwyn Chambers (1973) Elfennau Rhifyddiaeth; tamaid anorffenedig. Y Gwyddonydd. 11, 128-131[4]
  • R. Elwyn Hughes (1999-2000) Arfonwyson - Uchelgais a Siom. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. XXXI. 149-171[1]
  • Hugh Hughes (Hugh Tegai) (1849) Cofiant J.W.Thomas, Arfon (Arfonwyson). Seren Gomer, Cyfrol 32. tud. 33-5, 73-5, 100-2, 134-8, 228-31, 266-9
  • Robert Thomas Jenkins (1953) Thomas, John William (‘Arfonwyson’; 1805 - 1840), mathemategwr. Bywgraffiadur Cymreig[19]
  • Robert John Pryse (Gweirydd ap Rhys) (1877) Thomas, John Williams (Arfonwyson) Y Gwyddoniadur Cymreig (Dinbych), Cyfrol 9, 675-7

Gwaith J.W. Thomas (detholiad) golygu

  • John William Thomas (1831-2) Elfenau Rhifyddiaeth neu Rhifgell y Cymro (tt 84). William Evans, Caerfyrddin. (Cyhoeddwyd tair cyfrol yn unig o gyfres arfaethedig fwy.)
  • John William Thomas (Medi 1833) Geiriadur Cymreig a Seisonig a Chydymaith i'r Ysgol Sabbothawl (Caernarfon) (tt 88)
  • John William Thomas (Mai 1832- Gorffennaf 1833) Golygydd Tywysog Cymru, Caernarfon.
  • John William Thomas (1832) Ffordd Anffaeledig i Gymro uniaith ddarllen Saesneg yn gywir. (Rhifyn gyntaf, yn unig, o gyfres arfaethedig[2].)
  • John William Thomas (1837) Trysorfa yr Athrawon. (bu hwn yn nwylo’r wasg ers Awst 1835[2])
  • John William Thomas (1842) Dyn yn cael ei gymharu idd y byd. Yr Odydd Cymreig 3, 77-9 (ysgrif annheilwng o'r awdur, maen debyg[1].)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 Hughes, R. Elwyn (1999–2000). "Arfonwyson - Uchelgais a Siom". Cylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019.CS1 maint: date format (link)
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 Pryse, Robert John. "Thomas, John Williams (Arfonwyson)". Y Gwyddoniadur Cymreig 9: 675-680.
  3. "Cotton, James Henry. (1780-1862)". A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge. Cyrchwyd 27 Ionawr 2019.
  4. 4.0 4.1 Chambers, Llewelyn Gwyn (1973). "Elfennau Rhifyddiaeth; tamaid anorffenedig". Y Gwyddonydd. Cyrchwyd 4 Chwefror 2019.
  5. "William Cobbett". www.parliament.uk. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  6. 6.0 6.1 Howell, Elizabeth (19 Medi 2017). "Halley's Comet: Facts About the Most Famous Comet". www.space.com. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  7. William Gilbert Williams, Llewelyn Gwyn Chambers, Gwilym Arthur Jones (1953). "DAVIES, GRIFFITH (1788 - 1855), mathemategwr". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  8. "George Biddell Airy". Grace's Guide to British Industrial History. 28 Medi 2018. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  9. "History of the Royal Observatory". Royal Museums Greenwich. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  10. "Hidden Figures". IMDb. 2017. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  11. "Casgliad Almanaciau Cymraeg". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-09. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  12. Morgan, Gerald (1997). "JONES, JOHN (1786 - 1865), argraffydd a dyfeisiwr". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  13. Hughes, R.Elwyn (1990). Seryddiaeth Arfonwyson (yn Nid am yr un harddwch iaith. Rhyddiaeth Gwyddoniaeth y 19eg Ganrif). (Dyfyniad sylweddol o'r ddarlith). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 82–88. ISBN 0 7083 1043 5.
  14. "St Alfege Greenwich". www.st-alfege.org. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.[dolen marw]
  15. Lord, Peter (2001). Visual culture among the London Welsh (yn The Welsh in London. 1500-2000. gol Emrys Jones). Caerdydd: Cymdeithas y Cymmrodorion. t. 222. ISBN 0 7083 1710 3.
  16. Casgliad John Humphreys Davies (1871-1926) (2018). "The Cwrtmawr Manuscripts". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.[dolen marw]
  17. Caffell, Gwenno (1983). Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen. Caerdydd: Amgueddfa Genedlaethol Cymru. tt. 17–19. ISBN 0 7200 02788.
  18. Sharp, Tom (11 Rhagfyr 2018). "Edmond Halley: An Extraordinary Scientist and the Second Astronomer Royal". www.space.com. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  19. Jenkins, Robert Thomas (1953). "Thomas, John WIilliam ('Arfonwyson'; 1805 - 1840), mathemategwr". Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 4 Mawrth 2019.