Cwpan Pêl-droed Merched Cymru
Cwpan Her Merched CBD Cymru, sy'n fwy adnabyddus fel Cwpan Merched Cymru neu Cwpan CBD Merched Cymru yw cystadleuaeth genedlaethol cwpan pêl-droed merched yng Nghymru. Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy'n ei redeg.
Enghraifft o'r canlynol | cystadleuaeth bêl-droed |
---|
Gan nad oedd gan Gymru gynghrair genedlaethol i ferched nes sefydlu Uwch Gynghrair Merched Cymru (Adran Premier bellach) yn nhymor 2009–10 Cwpan Cymru oedd yr unig docyn i Gynghrair y Pencampwyr Merched UEFA. Yn wahanol i gêm y dynion, fodd bynnag, caniateir i glybiau sy'n canolbwyntio ar Loegr gymryd rhan. Enillodd Cardiff City Ladies F.C. wyth cwpan yn olynol rhwng 2003 a 2010.
Diwygio Posibl
golyguYn dilyn nifer o gemau â sgôr uchel, un ochrog yn rownd agoriadol cystadleuaeth 2012-13, galwodd gwefan answyddogol y gynghrair ar CBDC i ystyried ailwampio’r gystadleuaeth[1] er mwyn osgoi canlyniadau mor chwithig yn nhymhorau’r dyfodol ac annog cynghrair is cyfranogiad.
Tlws Cwpan Menywod Cymru
golyguYn 2022 comisiynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru dlws arbennig fel arwydd o ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu Cwpan Merched Cymru. Cynhyrchwyd ar y ar y cyd â chwmni Inkerman ac Oriel y Gweithwyr, Ynys-hir yn y Rhondda.
Comisiynodd y Gymdeithas i Inkerman gynhyrchu’r tlws newydd, gan weithio’n agos gyda’r artist Dr Gayle Rogers o Oriel y Gweithwyr (Worker's Gallery), Ynshir yn y Rhondda, a ddyluniodd y ddelwedd wedi’i hysgythru ar ochr y tlws.
Mae Inkerman, a sefydlwyd ym 1996, yn Gwmni cynhyrchu tlysau a sefydlwyd a’i redeg gan fenywod, gan gefnogi menywod mewn chwaraeon a busnes a gwneuthurwyr rhai o’r tlysau ledled y byd.
Ysbrydolwyd delwedd Dr Gayle Rogers gan ymddangosiad pêl-droed merched yng Nghymru. Gan weithio i’r briff i gynhyrchu tlws modern i sefyll ochr yn ochr â thlws Cwpan Cymru y dynion presennol. Me wedi’i grefftio â llaw mewn gweithdai yn y DU gan grefftwyr traddodiadol gyda copa'r tlws wedi’i addurno â'r ddraig goch Gymreig â phlatiau aur.
Dywedodd Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched CBDC, Lowri Roberts: “Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â’r tîm yn Inkerman ac Oriel y Gweithwyr i gynhyrchu ein tlws Cwpan Cymru Bute Energy newydd, mawr a beiddgar."</ref>"Bespoke trophy unveiled for Bute Energy Welsh Cup". Gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru. 10 Tachwedd 2023.</ref>
Enillwyr
golyguYn ystod blynyddoedd cynnar y gwpan, gwelir amrywiaeth o dimau yn cyrraedd y ffeinal, ond timau o Gaerdydd sydd wedi dominyddu'r gystadleuaeth o'r cychwyn.
Darlledwyd ffeinal 2023-24 yn fyw ar S4C lle gwelwyd Dinas Caerdydd yn ennill y trebl.[2][3] Gwelwyd torf o 1,734 oedd tairgwaith yn fwy i ffeinal yn 2023[4] a hefyd mwy nag oedd i ffeinal Cwpan Cymru y dynion a gynhaliwyd ar yr un maes wythnos ynghynt.[5]
Rhest y gemau terfynnol:[6]
Gweler hefyd
golygu- Adran Premier - uwch gynghrair genedlaethol pêl-droed merched Cymru
- Tlws Adran - cwpan clybiau cynghreiriau Adran Cymru
- Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Time To Reform The Welsh Cup?". leaguewebsite.co.uk/womenswelshpremierleague. 1 October 2012. Cyrchwyd 30 October 2012.
- ↑ "Merched Caerdydd yn llygadu'r trebl Fe fydd Caerdydd a Wrecsam yn mynd benben â'i gilydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru yng Nghasnewydd". Golwg360. 2 Mai 2024.
- ↑ "Megan Bowen: "Ni wedi dangos pam ni'n haeddu'r trebl." Caerdydd yn ennill Cwpan Cymru Bute Energy 2023/24 ac yn sicrhau'r trebl 🏆". Twitter Sgorio. 5 Mai 2024.
- ↑ {{cite web |url=https://twitter.com/FAWales/status/1787175338713153746 |title=1,734 Trebling the previous attendance record for a #ButeEnergyWelshCup final 🙌 |publisher=Twitter @FAWales |date=5 Mai 2024}
- ↑ "Y GÊM LAWN Wrecsam v Caerdydd Rownd derfynol Cwpan Cymru Bute Energy". Sgorio ar sianel Youtube S4C. 5 Mai 2024.
- ↑ "Wales - List of Challenge Cup Finals (Women)". RSSSF. 2006.
- ↑ "Cardiff retein Welsh Cup for eighth year". shekicks.net. 19 April 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 16 May 2011.
- ↑ "Swansea lift Welsh Cup". shekicks.net. 20 March 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 16 May 2011.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 14 April 2014.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2016. Cyrchwyd 21 Ebrill 2016.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ "Cardiff Met win Welsh Cup final shootout". She Kicks. 9 April 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 April 2017. Cyrchwyd 5 October 2017.
- ↑ http://www.faw.cymru/en/news/swansea-come-back-beat-cardiff-faw-womens-cup-final/
- ↑ "FAW Women's Cup: Cardiff Met Women win domestic treble". 14 April 2019. Cyrchwyd 22 July 2019.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/sport/football/49100220
- ↑ "Cardiff City Women win Welsh Cup". 25 April 2023.
- ↑ "Y GÊM LAWN". Sgorio ar sianel Youtube S4C. 5 Mai 2024. Text " Wrecsam v Caerdydd " ignored (help); Text " Rownd derfynol Cwpan Cymru Bute Energy " ignored (help)