Siôn Cent
Bardd a ganai ar bynciau crefyddol a chymdeithasol oedd Siôn Cent (fl. c.1400 – 1430/45).[1] Ar lawer cyfrif rhaid ei ystyried yn un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr ei gyfnod, ond ar yr un pryd y mae'n sefyll ar wahân iddynt. Canai ar fesur y cywydd. Ceir nifer o gerddi a briodolir iddo yn y llawysgrifau Cymraeg ond anodd gwybod a yw'r awduraeth yn ddilys yn achos y mwyafrif o'r testunau hyn. Cedwir llun y credid unwaith mai Siôn Cent ei hun ydoedd ym mhlas Llan-gain, Swydd Henffordd.[2]
Siôn Cent | |
---|---|
Ffugenw | Sion Cent |
Ganwyd | c. 1367 Teyrnas Brycheiniog |
Bu farw | c. 1430 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Cysylltir gyda | Sir Frycheiniog |
Cefndir
golyguMae peth cymhlethdod efo olrhain hanes bywyd Siôn Cent, gan fod mynach arall o'r un enw yn esgobaeth Henffordd tua'r un cyfnod a'r bardd. Aelod o urdd y Brodyr Llwyd oedd y Siôn Cent arall, tra fo'r bardd yn aelod o urdd y Sistersiaid. Bu farw Siôn Cent y brawd Llwyd ym 1348 a chladdwyd ef yn Henffordd.[3]
Ychydig a wyddys am y bardd y cyfeirir ato yn y ffynonellau llawysgrifol fel Siôn Cent neu Siôn y Cent. Ar sail ei gywydd moliant i Frycheiniog, y mae'n deg ei gysylltu â'r parthau hynny – o leiaf, ar un adeg yn ei fywyd - er nad oes unrhyw dystiolaeth mai oddi yno yr hanoedd yn wreiddiol:
Brycheiniog, bro wych annwyl,
Brychan dir, lle gwelir gŵyl.
Brychan wlad dyfiad dwyfawl,
Braich Duw i'th gadw rhag broch diawl.[4]
Er y ceir traddodiadau sy'n cysylltu Siôn Cent â Rhos ar Wy a Kentchurch yn Swydd Henffordd, y mae'n bwysig nodi bod tystiolaeth i glerigwyr a gyfenwid hwythau yn 'Kent', ond a berthynai i genhedlaeth hŷn na'r bardd Cymraeg. Fodd bynnag, cyfeirir at 'Ysgubor Siôn Cent' a 'Derwen Siôn Cent' ym mharc plasdy y teulu Scudamore yn Kentchurch, ac fe dybir bod cysylltiad rhwng y Scudamoriaid ac Owain Glyn Dŵr. Oherwydd y cysylltiad tybiedig rhwng Siôn Cent a theulu'r Scudamoriaid a bod Syr John Scudamore yn fab yng nghyfraith i Owain Glyn Dŵr, mae rhai wedi damcanu mae, "hunaniaeth ffug" Glyn Dŵr i guddio rhag Brenin Lloegr oedd Sion Cent.[5] Ond gan fod modd olrhain hanes eglwysig y bardd o'i ordeinio ym 1366, blynyddoedd maith cyn cychwyn gwrthryfel Glyn Dŵr, gellir bod yn sicr nad oes sail i'r fath honiad.[3]
Credai Saunders Lewis fod Siôn wedi graddio ym Mhrifysgol Rhydychen ac i'r athronydd Roger Bacon ddylanwadu arno, ond Sion Cent y Brawd Llwyd oedd hwnw.
Canu
golyguYmddengys fod Siôn Cent wedi canu o leiaf ddwy gerdd yn erbyn y beirdd. Un ohonynt sydd wedi goroesi, a hynny mewn dwy ffurf bur wahanol. Cywydd yw hwn, ac fe ymosodir ynddo ar gam-ddefnydd o'r Awen gan feirdd y Gyfundrefn Farddol, a haerir ymhellach mai dwy Awen sydd: y naill yn tarddu oddi wrth Dduw ei hun, a'r llall o'r "ffwrn natur uffernawl". Cyhuddir y beirdd gan Siôn Cent o ganu'n 'gelwyddog' am eu bod yn dilyn traddodiad eu crefft farddol drwy foli Uchelwyr â gormodiaith ddibrin, gan anwybyddu'n llwyr eu hanghyfiawnderau a'u gormes ar y tlodion. Dechreubwynt oedd hyn i hir ddadl ynghylch swyddogaeth yr Awen ac union rôl y beirdd hwythau yn y gymdeithas y perthynent iddi. Gwelir hyn egluraf, efallai, yn ymryson barddol Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal ar droad yr 17g. Ymatebwyd her Siôn Cent mewn cywydd gan Rhys Goch Eryri, cyfoeswr iddo, yn amddiffyn tarddiad dwyfol Awen y beirdd. Er y cyfeirir weithiau at y cerddi hyn fel ymryson barddol, nid ydynt yn dilyn patrwm confensiynol yr ymryson (ond fe all, wrth reswm, fod testunau eraill a gollwyd).
Elfen amlwg yng ngwaith Siôn Cent yw'r pwyslais ar 'Wagedd ac Oferedd y Byd' (sef y teitl a roddwyd gan Ifor Williams, golygydd canon Siôn, i un o'i gerddi mwyaf trawiadol). Mewn un adran mae'n pentyrru cwestiynau rhethregol am rwysg y byd darfodedig:
Mae'r tyrau teg? Mae'r tref tad?
Mae'r llysoedd aml? Mae'r lleisiad?
Mae'r tai cornogion? Mae'r tir?
Mae'r swyddau mawr, os haeddir?
Mae'r trwsiad aml? Mae'r trysor?
Mae'r da mawr ar dir a môr?
A'r neuadd goed newydd gau,
A'r plasoedd, a'r palisau?[6]
Dadleuwyd bod elfen fywgraffyddol yn y cerddi o waith Siôn Cent ar destunau megis y Saith Bechod Marwol ac Edifeirwch, ond rhaid nodi bod y rhain yn dopos, neu deip o gerdd, a arferid gan y beirdd yn enwedig yn ystod dau brif gyfnod penydiol blwyddyn yr Eglwys, sef Adfent a'r Grawys. Ceir enghreifftiau tebyg i hyn mewn cannoedd o gerddi cyffelyb:
Annoeth rwyf, heb ofn na thranc,
Fy mywyd tra fûm ieuanc ;
Camgerdded bedw a rhedyn,
A choed glas yn uched glyn.[4]
Mae arddull Siôn yn syml a llawer llai addurnedig na gwaith y rhan fwyaf o'i gyfoeswyr. Mae'n hoff o ailadrodd i daro'r neges adref, yn chwarae â geiriau, yn defnyddio diarhebion, ac yn llunio gwrthgyferbynnau trawiadol.
Cysylltir sawl cywydd brud ag enw Siôn yn ogystal, ond mae dilysrwydd eu hawduraeth yn ansicr. Yr unig gerdd o naws frudiol sydd efallai'n waith y bardd yw'r cywydd a adnabyddir wrth ei llinell gloi enwog "Gobeithiaw a ddaw ydd wyf". Ynddo ceir Siôn yn atgoffa'r Cymry o'u gorffennol anrhydeddus: Pennaf nasiwn, gwn gwmpas, / Erioed fuom ni o dras — ac yn gresynu ynghylch ei chyflwr presennol, gan obeithio y daw'r dydd pryd y gwelir dyfodiad y Mab Darogan.
Traddodiadau
golyguTyfodd nifer o chwedlau a thraddodiadau am Siôn Cent. Fe'i hystyrid yn fath o ddewin, yn fynach, yn Lolard chwyldroadol, ac ddoethur mawr. Mae lle i gredu bod cof amdano dros Glawdd Offa mewn traddodiad llên gwerin a geir mewn drama o'r enw John a Kent and John a Cumber (diwedd yr 16g).
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Testunau
golygu- Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (arg. cyntaf: Bangor, 1925, ail arg.: Caerdydd, 1937).
Astudiaethau
golygu- Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams (arg. cyntaf: Bangor, 1925), cxxxvi–clxvii, 237–87; (ail arg.: Caerdydd, 1937), lxii–lxxx, 251–98
- D.J. Bowen, 'Siôn Cent a'r ysgwieriaid', Llên Cymru xxi (1998), 8–37
- Andrew Breeze, 'Llyfr durgrys', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxxiii (1986), 145
- ______. 'Siôn Cent, the Oldest Animals and the Day of Man's Life', ibid. xxxiv (1987), 70–6;
- ______. 'Llyfr Alysanna', ibid. xxxvii (1990), 108–11
- M. Paul Bryant-Quinn, ‘ “Trugaredd mawr trwy gariad”: golwg ar ganu Siôn Cent’, Llên Cymru xxvii (2004), 71–85
- ______. 'Chwedl Siôn Cent', Cof Cenedl XX, gol. Geraint H. Jenkins (2005), tt. 1–31
- Dafydd Johnston, Llên yr Uchelwyr (gw. Mynegai, ‘Siôn Cent’)
- Bobi Jones, I'r Arch (Llandybïe, 1959), 70–84
- Saunders Lewis, Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (ail arg. Caerdydd, 1986), 102–114
- ______. 'Siôn Cent', Meistri a'u Crefft, gol. Gwynn ap Gwilym (Caerdydd, 1981), 148–160
- A.T.E. Matonis, 'Late Medieval Poetics and Some Welsh Bardic Debates', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxix (1982), 635–65
- D. Densil Morgan, `Athrawiaeth Siôn Cent', Y Traethodydd cxxxviii (1983), 13–20
- Jean Rittmueller, 'The Religious Poetry of Siôn Cent' (M.Phil. [National University of Ireland], 1977)
- ______. 'The Religious Poetry of Siôn Cent', Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, iii, ed. John Koch and Jean :Rittmueller (Cambridge, Massachusetts, 1983), 107–47
- E.I. Rowlands, `Religious Poetry in Late Medieval Wales', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd xxx (1982), 1–19
- G.E. Ruddock, 'Siôn Cent', A Guide to Welsh Literature 1282–c. 1550: Volume 2, ed. A.O.H. Jarman and Gwilym Rees Hughes, revised by Dafydd Johnston (Cardiff, 1997) 151–69
- ______. `Dau rebel', Barn, 303 (1988), 29–33
- Gwyn Thomas, 'Siôn Cent a Noethni'r Enaid', Gair am Air: Ystyriaethau ar Faterion Llenyddol (Caerdydd, 2000), 40–57
Cyfeiriadau
golygu- ↑ SION CENT (1367? - 1430?), bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 29 Awst 2023
- ↑ "Siôn Cent [John Kent] (fl. 1400–1430), Welsh-language poet". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/15419. Cyrchwyd 2023-08-29.
- ↑ 3.0 3.1 Matthews, T (1914). "Hanes Sion Cent". Gwaith Sion Cent (PDF). Llanuwchllyn: Llyfrau ab Owen. tt. 5–8.
- ↑ 4.0 4.1 Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (ail arg. 1937), tud. 256.
- ↑ "Y Wasg | S4C "S4C yn datgelu wyneb Owain Glyndŵr"". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-08-29.
- ↑ Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (ail arg. 1937), tud. 290.
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd