Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954 oedd y pumed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal ond y tro cyntaf i'r Gymanwlad cael ei grybwyll yn nheitl y Gemau. Daeth y penderfyniad i newid yr enw mewn cyfarfod yn ystod Gemau Olympaidd 1952 yn Helsinki. Vancouver, Canada sef cartref y Gemau rhwng 30 Gorffennaf - 7 Awst.

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1954 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Gorffennaf 1954 Edit this on Wikidata
Daeth i ben7 Awst 1954 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadVancouver, Empire Stadium Edit this on Wikidata
Yn cynnwysrowing at the 1954 British Empire and Commonwealth Games Edit this on Wikidata
RhanbarthVancouver Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
5ed Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad
Campau91
Seremoni agoriadol30 Gorffennaf
Seremoni cau7 Awst
IV VI  >

Cafwyd y Gemau mwyaf hyd yma yn Vancouver gyda saith o wledydd yn ymddangos am y tro cyntaf; Ghana, Bahamas, Barbados, Gogledd Rhodesia, Cenia, Pacistan ac Wganda.

Yn ystod Gemau 1954 cafwyd y defnydd o systemau electronig i amseru'r cystadleuwyr am y tro cyntaf erioed gyda system ffotograffiaeth yn cael ei ddefnyddio ar linell derfyn y rasys athletau.

Mae Gemau 1954 yn enwog am y 'Miracle Mile' lle roedd Roger Bannister o Loegr a John Landy o Awstralia - yr unig ddau ddyn yn y byd ar y pryd i fod wedi rhedeg milltir mewn llai na 4 munud - yn wynebu eu gilydd am y tro cyntaf. Landy oedd ar y blaen tan ytroad olaf pan garlamodd Bannister heibio i ennill mewn amser o 3'58.8" gyda Landy 0.8 eiliad ar ei ôl - y tro cyntaf erioed i ddau redwr i dorri 4 munud yr yr un ras.

Roger Bannister a John Landy

Chwaraeon golygu

Timau yn cystadlu golygu

Cafwyd 24 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1954 gyda'r Arfordir Euraidd, Bahamas, Barbados, Gogledd Rhodesia, Cenia, Pacistan ac Wganda yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau golygu

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Lloegr 23 24 20 67
2   Awstralia 20 11 17 48
3   De Affrica 16 6 13 35
4   Canada 9 20 14 43
5   Seland Newydd 7 7 5 19
6   Yr Alban 6 2 5 13
7   Simbabwe 3 6 3 12
8   Trinidad a Tobago 2 2 0 4
9   Gogledd Iwerddon 2 1 0 3
10   Nigeria 1 3 3 7
11   Pacistan 1 3 2 6
12   Cymru 1 1 5 7
13   Jamaica 1 0 0 1
14   Barbados 0 1 0 1
  Hong Cong 0 1 0 1
  Wganda 0 1 0 1
17   Guiana Prydeinig 0 0 1 1
  Gogledd Rhodesia 0 0 1 1
Cyfanswm 92 89 89 270

Medalau'r Cymry golygu

Roedd 20 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur John Brockway Nofio 110llath ar ei gefn
Arian Malcolm Collins Bocsio Pwysau plu
Efydd Ken Jones Athletau 220llath
Efydd Don Skene Beicio 10milltir
Efydd Ron Jenkins Codi Pwysau Pwysau plu
Efydd Aileen Harding Ffensio ffoil

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Auckland
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Caerdydd