Rhosesmor

pentref yn Sir y Fflint

Pentref bychan yng nghymuned Helygain, Sir y Fflint, Cymru, yw Rhosesmor[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif tair milltir i'r gogledd o'r Wyddgrug. Ceir ynddo swyddfa bost, eglwys, tafarn, parc, ysgol gynradd a neuadd pentref. Gorwedd y pentref yn agos i bentrefi Rhyd-y-mwyn, Llaneurgain ac Helygain. I'r gogledd-orllewin cyfyd llethrau Mynydd Helygain.

Rhosesmor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.207°N 3.178°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ213684 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Caerfallwch oedd yr hen enw ar y pentref cyn iddo dyfu yn y 19g; mae'r enw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y plwyf newydd a greuwyd y 1870au.

Mae gan y pentref hanes hir o fwyngloddio plwm ac mae'n cynnwys sawl adeilad sydd dros 300 mlynedd oed, yn arbennig yn ardal Wern-y-Gaer o'r pentref. Ceir nifer o dwneli ac ogofâu - naturiol neu o waith dyn - dan y ddaear o gwmpas y pentref, sy'n dyst i'r hanes hir o gloddio yn yr ardal, efallai mor gynnar â chyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru.

I'r dwyrain o Rosesmor saif bryngaer Moel y Gaer rhan o Fryniau Clwyd, a godwyd yn Oes yr Haearn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Rob Roberts (Ceidwadwyr).[3][4]

Rhosesmor

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014