Gwesbyr

pentref yn Sir y Fflint

Pentref yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Gwesbyr[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (amrywiad: Gwespyr).[2] Saif ym mhen gogleddol y sir ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, rhwng Prestatyn 4 km i'r gorllewin a Ffynnongroyw i'r dwyrain ar briffordd y A548. Fymryn i'r gogledd mae Talacre a'r Parlwr Du ac i'r de mae pentref Llanasa. Mae Bryniau Clwyd yn codi i'r gorllewin o'r pentref.

Gwesbyr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanasa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3381°N 3.3383°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ109832 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DURob Roberts (Ceidwadwyr)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Geirdarddiad

golygu

Yn ôl Syr Ifor Williams, mae'r enw yn ei naill ffordd, yn amrywiad Cymraeg o'r enw lle Saesneg Westbury.[5] Fel nifer o enwau lleoedd eraill yr ardal, megis Prestatyn, Bagillt, a Bistre, mae'r enw o darddiad Saesneg wedi'i Gymreigio pan newidiodd iaith yr ardal o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (Lerpwl, 1945), t. 10.

Dolen allanol

golygu