Ysgeifiog, Sir y Fflint

pentref yn Sir y Fflint

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir y Fflint, Cymru, yw Ysgeifiog[1] (hefyd Ysceifiog).[2] Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd o'r briffordd A541 rhwng Nannerch a Caerwys.

Ysgeifiog
Ysceifiog - geograph.org.uk - 132312.jpg
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.23°N 3.27°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000212 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ151714 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Am y pentrefan o'r un enw yn Sir Benfro, gweler Ysgeifiog, Sir Benfro.

Mae'r dafarn, y Fox Inn, yn dyddio o'r 18g. Mae'r plwyf hanesyddol yn cynnwys pentref Licswm, i'r dwyrain.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Eglwys Santes Fair, Ysgeifiog

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ysgeifiog (pob oed) (1,286)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ysgeifiog) (267)
  
21.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ysgeifiog) (720)
  
56%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Ysgeifiog) (135)
  
25.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

EnwogionGolygu

Ganed a magwyd yr hynafiaethydd a chopïydd llawysgrifau Cymreig, John Jones, Gellilyfdy (c.1585-1657/8), ym mhlas bychan Gellilyfdy ym mhlwyf Ysgeifiog.

Yma yr oedd y bardd William Edwards (Wil Ysgeifiog) yn byw yn hanner cyntaf y 19g, ac roedd John Owen (1733-76), un o arloeswyr Methodistiaeth yn Sir y Fflint, yn enedigol o Ysgeifiog.

LlyfryddiaethGolygu

  • Dewi Roberts, The Old Villages of Denbighshire and Flintshire (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]