Mòd Genedlaethol yr Alban
Gŵyl Geltaidd ryngwladol wedi’i hysbrydoli gan yr Eisteddfod sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth, cerddoriaeth draddodiadol a diwylliant Gaeleg yr Alban yw’r Mòd Cenedlaethol Brenhinol a gynhelir yn flynyddol yn yr Alban. Mae'r Mòd, fel digwyddiad gerddorol a diwylliannol yn un hen a byw. Fel yng Nghymru lle ceir eisteddfodau lleol ar hyd a lled y wlad, felly hefyd yn yr Alban lle ceir amrywiaeth eang o Mòdau lleol. Serch hynny, y Mòd Genedlaethol yw'r brif Mòd ac, fel y cyfeirid ar yr Eisteddfod Genedlaethol fel 'yr Eisteddfod', felly'n am cyfeirir at y Mòd i olygu'r digwyddiad blynyddol genedlaethol. Bu iddo ddylanwadu ar sefydlu gŵyl Oireachtas na Gaeilge yn Iwerddon yn 1897.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl ![]() |
---|---|
Lleoliad | Aberdeen, Airdrie, Aviemore, Ayr, Blairgowrie, Dingwall, Dundee, Dunoon, East Kilbride, Caeredin, Falkirk, Fort William, Glasgow, Golspie, Greenock, Inverness, Largs, Lochaber, Motherwell, Oban, Paisley, Perth, Rothesay, An t-Eilean Sgitheanach, Skye and Lochalsh, Stirling, Steòrnabhagh, Thurso, Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b5/2013_M%C3%B2d_Ph%C3%A0islig.jpg/250px-2013_M%C3%B2d_Ph%C3%A0islig.jpg)
Mae’r Mòd yn cael ei redeg gan An Comunn Gàidhealach (Y Gymdeithas Aeleg) ac mae’n cynnwys cystadlaethau a gwobrau.
Hanes
golyguSefydlwyd y Mòd gan y Comunn Gàidhealach. Dylanwadodd Eglwys Sant Columba, Glasgow, yn fawr hefyd ar gychwyn y Mòd pan, ym 1891, gwahoddwyd ei chôr i roi Cyngerdd Gaeleg yn Oban dan lywyddiaeth yr Arglwydd Archibald Campbell.[1] Mynychwyd y cyngerdd gan lawer o uchelwyr yr Alban, gan gynnwys Louise, y Dywysoges Frenhinol a Duges Fife. Wedi'r cyngerdd, diddanwyd y côr i swper yng Ngwesty'r Alexandra, a cheir disgrifiad o'r adloniant yn un o nofelau William Black.[1] Y cyngerdd hwn oedd rhagarweiniad y Mòd cyntaf, a gynhaliwyd yn Oban y flwyddyn ganlynol ac enillodd Côr St. Columba y wobr yn y gystadleuaeth cerddoriaeth Gorawl.[1]
Mae'r Mòd wedi'i gynnal bron bob blwyddyn ym mis Hydref er 1892. Yr unig flynyddoedd na chynhaliwyd y Mòd Cenedlaethol oedd blynyddoedd rhyfel 1914-1919 a 1939–1946, a blwyddyn bandemig 2020. Nid oedd y "Royal" yn wreiddiol rhan o'r enw. Mae'n dal yn arferiad gan Eglwys Sant Columba i anfon parti cyngerdd i gychwyn y gwaith codi arian pan fydd y Mòd yn ymweld ag Oban. Yn ogystal ag ennill prif gystadleuaeth y côr am y tair blynedd gyntaf, mae’r gynulleidfa hefyd wedi ennill llawer o fedalau aur y Mòd dros y blynyddoedd.
Digwyddodd trobwynt yn ystod Mòd Cenedlaethol 2011 yn Stornoway, pan enillodd barddoniaeth Lewis MacKinnon, a gyfansoddwyd yn nhafodiaith Gaeleg Canada a siaredir yn Antigonish County, Nova Scotia, y Goron Farddol. Dyma'r tro cyntaf yn hanes y Mòd i'r cyfryw wobr gael ei rhoi i rywun nad oedd yn Albanwr.[2]
Cystadlaethau
golyguCystadlaethau ffurfiol yw'r rhan fwyaf o'r Mōd. Mae digwyddiadau corawl a cherddoriaeth draddodiadol gan gynnwys caneuon Gaeleg, ffidil, pibau, telyn clarsach a grwpiau gwerin yn dominyddu. Mae digwyddiadau llafar yn cynnwys darllen barddoniaeth i blant ac oedolion, adrodd straeon a darllen y Beibl, a chategorïau fel Adodd Hen Chwedlau ac Ymgom Ddigri. Gall plant hefyd gyflwyno drama wreiddiol, a cheir cystadlaethau mewn llenyddiaeth ysgrifenedig. Mae’r Mòd hefyd yn cynnal cystadleuaeth shinti (gêm ffon a phêl tebyg i hurling yn Iwerddon neu'r bando flynyddol, Cwpan y Mòd, rhwng y ddau dîm shinty sydd agosaf at ble mae’r Mòd yn cael ei gynnal.
Gwahoddir enillwyr cystadlaethau pob dydd i berfformio yn y ceilidhau enillwyr a gynhelir bob nos.
Mae'r Mòd yn ddathliad o iaith a diwylliant Gaeleg yr Alban,[3] sy'n codi ei broffil ac yn cyfrannu at y nod o sicrhau ei ddyfodol.[4]
Yn sgil gwelliannau yn narpariaeth addysg cyfrwng Gaeleg ar draws yr Alban erbyn 2007 roedd adran y siaradwyr rhugl iau wedi cynyddu i'r fath raddau nes i'r trefnwyr gael eu gorfodi i ymestyn rhai o'r cystadlaethau y tu hwnt i ddiwrnod.[5]
Bu rhywfaint o feirniadaeth ar amlygrwydd y "Fedal Aur" o ganu operatig, y mae rhai cerddorion Gaeleg yn teimlo ei fod yn ymyleiddio arddulliau canu mwy traddodiadol.[6]
Yn ddiwylliannol, mae’r Mòd yn debyg i’r Eisteddfod Gymraeg ac Oireachtas na Gaeilge yn Iwerddon.
Ffrinj y Mòd - Mód Amgen
golyguMae’r Mòd yn denu tyrfa fawr, sy’n arwain lleoliadau lleol i gynnal digwyddiadau amrywiol yn ogystal â digwyddiadau swyddogol y Mòd. Cyfeirir at y digwyddiadau hyn gyda'i gilydd fel Ffrinj y Mòd.[7]
I’r rhai sy’n cymryd rhan, mae’r Mòd hefyd yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Adnabyddir y Mòd yn boblogaidd fel “Gemau Olympaidd Wisgi”,[4] a ystyrir yn "either a vicious slur or fair comment".[8]
Sylw yn y cyfryngau
golyguYn draddodiadol mae BBC Scotland wedi darlledu uchafbwyntiau'r Mòd ar BBC One, BBC Two a Radio nan Gàidheal.[4] Ers ei chyflwyno yn 2008, mae BBC Alba wedi darparu darllediadau yn yr Aeleg. Mae'r cyflwynwyr wedi cynnwys y cerddor traddodiadol, siaradwr Gaeleg a darlledwr, Mary Ann Kennedy a'r ddarlledwraig Gaeleg Cathy Crombie.[4]
Perthynas gyda Chymru
golyguMae perthynas weithredol rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Mòd. Yn 2002 bu i John Macleod ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 er mwyn astudio a phrofi sut cynhelir y Brifwyl yng Nghymru ac os oes arferion y gellid eu mabwysiadu gan brifwyl yr Aeleg.[9] Galwodd John MacLeod ar gefnogaeth Cymry i bwyso ar i bapur pleidleisio Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 2014 i fod yn ddwyieithog, Saesneg a Gaeleg.[10]
Yn wahanol i'r cenhedloedd Frythoneg eraill (Cernyw a Llydaw) does gan y Mòd ddim byd tebyg i Orsedd y Beirdd ei hun na'n gysylltiedig o'r digwyddiad. Serch hynny, ceir perthynas a chydnabyddiaeth rhwng y ddau sefydliad a nodir hynny ar wefan Gorsedd Cymru.[11]
Gwyliau'r gorffennol a'r dyfodol
golyguMae’r Mòd yn cael ei gynnal bob mis Hydref, ac mae wedi’i gynnal yn y lleoliadau canlynol ledled yr Alban, yr Ucheldir a’r Iseldir.
Dyma'r lleoliadau hyd yma:[12]
- Aberdeen - 1946, 1955, 1964, 1976
- Airdrie - 1993
- Aviemore - 1969
- Ayr - 1973
- Blairgowrie - 1996
- Dingwall - 1905, 1931, 1991
- Dundee - 1902, 1913, 1937, 1959, 1974
- Dunoon - 1930, 1950, 1968, 1994, 2000, 2006, 2012, 2018
- East Kilbride - 1975
- Caeredin - 1899, 1910, 1919, 1928, 1935, 1951, 1960, 1986
- Falkirk - 2008
- Fort William - 1922, 1927, 1932, 1981, 1985, 1999
- Glasgow - 1895, 1901, 1907, 1911, 1921, 1933, 1938, 1948, 1958, 1967, 1988, 1990, 2019
- Golspie - 1977, 1995
- Greenock - 1904, 1925
- Inverness - 1897, 1903, 1912, 1923, 1936, 1949, 1957, 1966, 1972, 1984, 1997, 2014
- Largs - 1956, 1965, 2002
- Lochaber - 2007, 2017
- Motherwell - 1983
- Oban - 1892, 1893, 1894, 1898, 1906, 1920, 1926, 1934, 1953, 1962, 1970, 1978, 1992, 2003, 2009, 2015
- Paisley - 2013
- Perth - 1896, 1900, 1924, 1929, 1947, 1954, 1963, 1980, 2004
- Rothesay - 1908, 1952
- An t-Eilean Sgitheanach - 1982
- An t-Eilean Sgitheanach a Lochalsh - 1998
- Stirling - 1909, 1961, 1971, 1987
- Stornoway - 1979, 1989, 2001
- Thurso - 2010
- Ynysoedd Allanol Heledd - 2005, 2011, 2016
Gohiriwyd sawl Mòd gan flwyddyn oherwydd COVID-19:[13]
- Inverness - 8–16 Hydref 2021.
- Perth - 14–22 Hydref 2022
- Paisley - 13–21 Hydref 2023.
- Oban - Hydref 2024
Yn wahanol i'r Eisteddfod Genedlaethol, dydy'r Mòd byth wedi ei chynnal y tu allan i'w gwlad.
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cymru
- Oireachtas na Gaeilge - Iwerddon
- Cooish - Ynys Manaw
- Gouel Broadel ar Brezhoneg - Llydaw
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Encouragement to the Gaelic Mod" Archifwyd 22 October 2007 yn y Peiriant Wayback. in The Highlander's Friend Chapter 9, Highland Cathedral, St Columba's Church of Scotland
- ↑ Non-Scot is Gaelic Bard for first time By David Ross. The Herald, 19th October 2011.
- ↑ "Mod generated £3.5m for Inverness". BBC News. BBC. 3 February 2015.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 MacLeod, Murdo; Stewart, Fiona (12 October 2002). "Mod 2002 - and 20,000 Gaels blow in for festival of music". The Scotsman. Johnston Press. Cyrchwyd 15 June 2021.
- ↑ "Mod's fluent youth speaks volumes for Gaelic education". The Scotsman. Johnston Press. 16 October 2007. Cyrchwyd 21 February 2015.
- ↑ "Gold Medal controversy casts a shadow over Mod performances". www.scotsman.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 March 2017.
- ↑ House, Ellie (10 October 2014). "Mod expected to generate £3 million for Inverness economy, say organisers". Inverness Courier. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-20. Cyrchwyd 5 December 2016.
- ↑ Ross, Peter (18 October 2008). "Whisky Olympics continue to thrive in a Mod-ern world". The Scotsman. Johnston Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 February 2015. Cyrchwyd 12 January 2022.
- ↑ "O'r Mod i'r Steddfod". BBC Cymru Fyw. 2022.
- ↑ "Dyn 'Gorsedd' yr Alban yn galw am help ei gyd-Geltiaid". Golwg 360. 2013.
- ↑ "Cysylltiadau". Gorsedd Cymru. Cyrchwyd 9 Medi 2022.
- ↑ List of Mod's places for each year on Sabhal Mòr Ostaig website
- ↑ "An Comunn Gàidhealach - Royal National Mod : Mod News".
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol y Mòd Genedlaethol
- Sianel Youtube y Mòd Genedlaethol
- Royal National Mòd Torchlight Parade Paisley, Scotland ffilm o'r prosesiwn agoriadol 2013
- Finale of the 2018 Gaelic Mod, Dunoon. The massed choirs sing "Suas leis a’ Ghàidhlig" perfformiad awyr agored 2018