Meddygon Isallt Fawr

Teulu estynedig, yn cynnwys nifer sylweddol o feddygon, fferyllyddion ag ati (ynghyd a beirdd ac ysgolheigion eraill), a'i gwreiddyn yn Isallt Fawr, Cwm Pennant, Sir Gaernarfon yw Meddygon Isallt Fawr. Cainc yw'r teulu o deulu ehangach Wynn[1], Cesail Gyfarch[2], Penmorfa, Sir Gaernarfon. Dyma deulu a gynhyrchodd rai pobl o bwys ac a gysylltwyd trwy briodasau ag amryw deuluoedd dylanwadol yng Ngogledd Cymru[1].

Cwm Pennant

Achau'r meddygon golygu

Gellir cychwyn gyda Robert ap Richard Owen (Isallt) m1678[3] (ei ferch Jonet oedd y cyswllt a'r genhedlaeth nesaf).

Robert ap Dafydd (Isallt)[3][4] 1654-1738. Priododd hwn dwywaith. Yn gyntaf Jonet ych Robert ap Richard Owen (Isallt)[3] ac yna Catherine Owen[3] (m1750).

Roedd plant Jonet yn cynnwys Gwen ych Robert[3] (m1737) a Dafydd ap Robert[3] (m1732).

Priododd Gwen ych Robert ag Owen Humphrey[3] (Garreg Wen, Y Gest; m1714). Un o'u plant nhw oedd Dafydd y Garreg Wen (1712-1741).

Priododd Dafydd ap Robert â Margaret Cadwaladr (Tyddyn Du Bach; merch Cadwaladr Griffiths m1694) (1692-1775)[3]. Un o'u plant oedd Cadwaladr David[3] (Tyddyn Du; 1727-1810). Ymysg eu disgynyddion yw "Teulu Penybryn", Cricieth, sy'n cynnwys Owen Elias Owen[5] (Bethesda; 1922-2019) a'i ddisgynyddion sy'n cynnwys nifer o feddygon ac hefyd John Bryn Owen[6] (Athro Amaeth Prifysgol Bangor; m 2019).

Roedd plant Catherine Owen (m1750) yn cynnwys Robert Roberts[4] (Isallt; llawfeddyg; 1707-1776; Claddwyd ym mynwent Llanfihangel y Pennant[4]. ). Ymhlith ei tair gwraig oedd Elizabeth Griffith[3] (m1737) a Jane Roberts[3] (Annwyl Isaac; Llanfair, Harlech; o deulu Edmwnd Prys[3]).

Un o blant Elizabeth Griffith (m1737) oedd Griffith Roberts[7] (meddyg; Plas Uchaf, Dolgellau; Casglwr llawysgrifau o bwys (cysylltiadau a'r Hengwrt a’r Myvyrian Archaiology of Wales); 1735-1808). Ymhlith ei blant[4][3] oedd y Dr. Griffith Roberts (meddyg, a ddilynodd ei dad yn Nolgellau tan 1815) a'r Dr. William Roberts (meddyg llynges; m1815).

Ymysg plant Jane Roberts (Annwyl Isaac) oedd John Roberts (Cae'r Groes, Beddgelert; 1745-1803), y Dr. Robert Isaac Roberts[4] (Isallt, Ymwlch ac Ystumllyn; 1742-1809) a'r Dr. William Lloyd Roberts[4] (Oakland, Llanrwst)

 
Chwarel Dinorwig

Ymysg plant John Roberts (Cae'r Groes) oedd Robert Roberts [4] ("Yr Hen Ddoctor", Chwarel Dinorwig; 1786-1876)* a Griffith Roberts[4] (Cae'r Gors a Doctor Chwarel Llanllyfni; 1785-; bu iddo feibion, Robert Roberts[4], yn Ddoctor yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda a David Roberts[3] (meddyg esgyrn; 1824-)).


Ymysg plant Robert Isaac Roberts (Isallt, Ymwlch ac Ystymllyn; 1742-1809) oedd William Roberts[3] (meddyg esgyrn; Beddgelert; 1779-1838), Gainor Roberts[3] (1788-1862), Griffith Roberts[3] (1773-; ei fab John Jones[3] yn feddyg yn Nhyddyniolyn; m1878), Henry Roberts[3] (meddyg llynges; marw yn ynysoedd Syllan; 1781-1818), Robert Roberts[3] (meddyg, Caernarfon a Chonwy; 1765-), David Roberts (Meddyg Chwarel y Penrhyn, Bethesda; 1785-1869) ac Edward Roberts (meddyg esgyrn, Warrington; 1775-1848; ei fab, Edward Roberts yn feddyg esgyrn ym Mhwllheli; 1818-1895).

Ymysg plant Robert Roberts ("Yr Hen Ddoctor")* oedd William Roberts[3] (meddyg bu farw yn 20 oed), Griffith Roberts[3] (Dinorwig, meddyg llynges), Margaret Roberts[3] (llawfeddyges; Porthmadog; 1815-1879) a John Roberts[4] (Conglywal, Ffestiniog; Doctor Chwareli Ffestiniog; 1812-1869). Priododd John Roberts (Conglywal) ag Elizabeth Roberts (Betsan merch Owen Roberts[4], Gof, Highgate, Ffestiniog; roedd Owen yn feddyg gwlad a phrif waedwr (phlebotomydd) yr ardal. Gwraig Owen, Margaret Gruffydd[4], oedd brif, a bron yr unig, fydwraig yn ardal Ffestiniog - honnodd derbyn dros 1000 o blant i'r byd.) Yn ei thro, cychwynnodd Elizabeth Roberts[4] (Betsan Roberts) trwsio doluriau yn eu cartref ym meddygfa Conglywal. Daeth yn fedrus a phoblogaidd fel meddyges, yn trin anafiadau trwm ac erchyll yn y chwarel pan nad oedd ei gwr, John, ar gael. Bu iddynt unarddeg o blant.


 
Robert Isaac Jones (Alltud Eifion)[8]

Ymysg plant John a Betsan Roberts oedd y Dr. William Lloyd Roberts[4] (Llundain; 1843-1870), y Dr. Robert Roberts[4] (Chwareli Ffestiniog; 1839-1914), y Dr. John Roberts[4] (llawfeddyg; Caer; 1840-1908; bu iddo feibion, y Dr. Griffith Roberts[3]) a'r Dr. Griffith J. Roberts[4] (Swyddog Meddygol Undeb Ffestiniog a Llawfeddyg Ysbyty a Chwareli Ffestiniog).

Ymysg plant Gainor Roberts (1788-1862) (a'i gwr Owen Jones, Tyddyniolyn) oedd Robert Isaac Jones (Alltud Eifion) 1815-1905[9] (fferyllydd – Cambrian Pill Depot[10], Tremadog; Y Brython (1858-63)) a John Jones[3] (meddyg Dolwyddelan; 1819-1878). Gwraig gyntaf Alltud Eifion oedd Elizabeth[3] merch y Dr. Thomas Hughes[3], Plas y Ward Pwllheli (1812-1840). Ei ail wraig oedd Martha ych William Roberts[3] (Ynysgarregaethnen, Tremadog; 1823-1875). Ymysg plant Alltud Eifion a Martha oedd y Dr. Henry Isaac Jones[3][4] (byddyn India; Scranton, Pennsylvania; Arbenigwr ar y llygad a'r glust; 1844-), Robert Humphrey Jones[3] (milfeddyg; U.D.A.; 1852-), y Dr. Edward Christmas Jones[3][4] (fferyllydd yn y Cambrian Pill Depot, Tremadog) a'r Dr. William Robert Jones[4] (ffisigwr, llawfeddyg ac apothecari; Betws y Coed a Llundain; 1843-)


* Robert Roberts (1786-1876) mab John Roberts Cae'r Groes

Gweithiodd Robert Roberts (1786-1876) fel meddyg esgyrn bro nes cael ei ddewis gan chwarelwyr Dinorwig, Llanberis, yn "Ddoctor y chwarel". Felly gwasanaethodd hyd gyrraedd 70 oed, pryd y penodwyd blwydd-dal iddo gan berchennog y chwarel, Thomas Asheton Smith. Bu fyw Robert (a alwyd erbyn hynny yr "Hen Ddoctor") hyd at ei 91 oed[4] . Mab Robert Roberts oedd John Roberts (1812-1869). Tua 1835 gwneud cais i Robert Roberts anfon John Roberts yn "Ddoctor y chwarel" i Ffestiniog. Ac iddo, sef Robert, bod yn gefn iddo mewn achosion o bwys, gan gerdded yr holl ffordd[4].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Davies, William Llewelyn (1953). "WYNN (TEULU), Cesail Gyfarch, Penmorfa, Sir Gaernarfon". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2023.
  2. Dunn, Margaret (16 Ebrill 2008). "Y Gesail Gyfarch (Snowdonia Dendrochronology Project)" (PDF). Coflein. Cyrchwyd 4 Tach 2023.
  3. 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 3.13 3.14 3.15 3.16 3.17 3.18 3.19 3.20 3.21 3.22 3.23 3.24 3.25 3.26 3.27 3.28 3.29 3.30 Griffith, T Ceiri (2012). Achau rhai o deuluoedd hen Siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Threfaldwyn. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. tt. cychwyn tablau [6] ac [8]. ISBN 9781847714930.
  4. 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 4.12 4.13 4.14 4.15 4.16 4.17 4.18 4.19 4.20 4.21 dienw (Dydd Gwyl Dewi 1908). [cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2045153/2619019/51# "Achau"]. Briwsion y Ford Gron 7: 46-48. cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2045153/2619019/51#.
  5. Roberts, Guto (1985). Doctor Pen-y-Bryn. Atgofion Owen E. Owen. Cyhoeddiadau Mei. ISBN 978-0905775517.
  6. "Professor John Bryn Owen". Funeral Notices. 8 Gorffennaf 2019.
  7. Davies, William Llewelyn (1953). "ROBERTS, GRIFFITH (1735 - 1808), meddyg, a chasglwr llawysgrifau". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2023.
  8. Williams, Dewi (2007). "Anffaeledig belenni "Dryg bach y Port"". Y Casglwr 32: 7. http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2032/32%2007.pdf.
  9. William Rowlands, William (1953). "JONES, ROBERT ISAAC ('Alltud Eifion '; 1815 - 1905), fferyllydd, llenor ac argraffydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2023.
  10. Williams, Dewi (2007). "Anffaeledig belenni "Dryg fach o Bort"". Y Casglwr 32: 7. http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2032/32%2007.pdf.