Nicola Zaccaria

cyfansoddwr a aned yn 1923

Roedd Nicola Zaccaria (9 Mawrth 1912, - 24 Gorffennaf 2007) yn ganwr bas operatig Groegaidd, a oedd yn un o brif faswyr Teatro alla Scala am ryw bymtheng mlynedd yn ystod y pumdegau a'r chwedegau. Yn La Scala byddai'n aml yn gyd berfformio a Maria Callas [1]

Nicola Zaccaria
Nicola Zaccaria fel Felipe II yn Don Carlos (1964)
Ganwyd9 Mawrth 1923 Edit this on Wikidata
Piraeus Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 2007 Edit this on Wikidata
o clefyd Alzheimer Edit this on Wikidata
Athen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Groeg Groeg
Galwedigaethcanwr opera, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbas-bariton, bas Edit this on Wikidata

Cefndir ac addysg gerddorol

golygu

Ganwyd Nicolas Angelos Zachariou yn Piraeus, un o faestrefi Athen ym 1923. Fe wnaeth marwolaeth gynamserol ei rieni orfodi iddo a'i frawd a chwaer cael eu magu gan fodryb. Yn ei ieuenctid daeth yn aelod o gôr y Drindod Sanctaidd yn Piraeus ac yna o Gôr Piraeus dan gyfarwyddyd Menelaos Palandios. Felly, drwy lafarganu Bysantaidd, daeth i gysylltiad â cherddoriaeth symffonig ac opera. Astudiodd yn y Conservatoire Manolis Kalomiris yn Athen.[2]

Wedi ymadael a'r coleg daeth yn aelod o gôr Opera Cenedlaethol Gwlad Roeg. Gwnaeth ei début fel unawdydd ar ddiwedd y 1940au fel yr Iarll Ceprano in Rigoletto (sef y Comisiynydd yn La traviata). Canodd ei rôl fawr gyntaf ym 1949 fel Raimondo yn Lucia di Lammermoor gan Gaetano Donizetti.[3]

Dechreuodd ei yrfa ryngwladol ym 1953 pan wnaeth ei début yn La Scala fel Sparafucile yn Rigoletto Verdi. Canodd gyntaf gyda Callas ym 1954 yn rôl yr Oracle yn Alceste Gluck. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf ymddangos gyda hi fel y dyn hysbys yn La Vestale, Rodolfo yn opera Gaspare Spontini La sonnambula (a berfformiwyd hefyd yng Ngŵyl Caeredin), Raimondo yn Lucia ac Oroveso yn Norma gan Vincenzo Bellini. Gwnaeth ei début yn y Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden ym 1957 fel Oroveso (gyda Callas fel Norma) a chafodd ei lais cain ei edmygu'n fawr.[4]

Yn La Scala ym 1958, creodd rôl y Trydydd Temtiwr yn premiere y byd o opera Ildebrando Pizzetti Assassinio nella cattedrale, addasiad o ddrama T. S. Eliot Murder in the Cathedral [5]

Yn y blynyddoedd canlynol a hyd at ddechrau'r 1980au, canodd ym mhob un o brif theatrau a gwyliau opera'r Eidal (Rhufain, Fienna, Napoli, Palermo, Fflorens, Torino) yn ogystal â dinasoedd a gwyliau Ewropeaidd a thu hwnt (Berlin, Fienna, Salzburg, Moscow, Llundain, Caeredin, Paris, Aix-en-Provence, Brwsel, Madrid, Munich, Aachen, Dinas Mecsico, Rio de Janeiro, Johannesburg). Ei gynhyrchiad olaf yn La Scala oedd opera Massenet Werther ym 1976. Ym 1958 gwnaeth ei début yn yr Unol Daleithiau fel Creon mewn cynhyrchiad rhagorol o Medea yn Opera Dinesig Dallas gyda Maria Callas (trosglwyddwyd y cynhyrchiad hwn i Lundain ym 1959) ac aeth ymlaen i ymddangos yn aml yn Dallas.

Roedd ganddo repertoire eang a oedd yn cynnwys y rhan fwyaf o rolau cynrychioliadol bas y repertoire opera Eidalaidd yn y 18fed a'r 19eg ganrif, ond hefyd gweithiau Wagner a Mussorgsky. Roedd ei repertoire hefyd yn cynnwys gweithiau o Monteverdi i Richard Strauss, Debussy, Shostakovich, Milhaud, Pizzetti, a rhannau unigol mewn gweithiau corawl megis 9fed Symffoni a Missa Solemnis Beethoven, Offerennau Dros y Meirw Mozart a Verdi, ac ati.

Gyrfa recordio

golygu

Recordiodd mwy na 30 o operâu ar gyfer y cwmnïau recordio mawr. Gyda Callas recordiodd naw opera gyflawn:[6]

Marwolaeth

golygu

Bu farw Nicola Zaccaria yn Athen ar Orffennaf 24, 2007 o glefyd Alzheimer yn 84 oed.

Cyfeiriadau

golygu