Persawr

(Ailgyfeiriad o Peraroglaeth)

Cymysgedd o olewau persawrus, sefydlogydd, ac alcohol a ddefnyddir i roi arogl hir-barhaol a dymunol i rannau o'r corff dynol neu i wrthrychau eraill yw perarogl neu persawr.

Llenwi a selio poteli persawr yn Abermaw. Ffotograff gan Geoff Charles (1953).

Caiff peraroglau eu defnyddio gan ddynion neu ferched. Eau de cologne yw'r perarogl sy'n tueddu i gael ei ddefnyddio'n amlaf gan ddynion yn y Gorllewin, yn enwedig ar ôl siafio, ond mewn rhannau o'r byd mae dynion yn defnyddio peraroglau traddodiadol lleol, fel patchouli yn India, er enghraifft. Mae gan ferched ddewis helaethach o lawer a chynhyrchir nifer fawr o beraroglion masnachol i gwrdd â'r alwad, yn aml am bris uchel iawn.

Hanes golygu

 
Tabled glai o Mesopmotamia 1200CC yn sôn am Tapputi yn paratoi persawrau.

Gwerthfawrogwyd a defnyddiwyd persawr gan ddynoliaeth ers miloedd o flynyddoedd. Yn sicr, aroglau gwrthrychau amrwd naturiol - blodau, pren, hadau, anifeiliaid - oeddynt i ddechrau. Yna, yn ystod y pedwar mileniwm cyn oed Crist aethpwyd ati i brosesu’r ffynonellau amrwd hyn. Yn gyffredinol, daw’r dystiolaeth gynharaf o’i baratoi ar ffurf gwrthrychau archaeoleg ac ysgrifau o Mesopotamia, Dyffryn yr Indws a’r Aifft. Daw’r olion cynharaf o’r offer ar gyfer distyllu cyntefig o safle Abrahám yn ne-orllewin Slofacia, sy’n dyddio o 4000 CC[1]. Erbyn 1800 CC, ym Mhyrgos ar ynys Creta, ceir offer (alembig) sy’n ymdebygu i’r hyn a geir heddiw[2]. Sonnir am ddistyllu Attar yn ysgrifau cynharaf traddodiad meddygol yr Hindŵ o India (y Charaka Saṃhitā a’r Sushruta Samhita) sy’n dyddio o ddechrau’r mileniwm cyntaf cyn oed Crist [3], ac mae sôn am ddefnyddio nifer o beraroglau yn yr Hen Destament[4]. Ymhlith y ffynonellau aroglau cynnar hyn oedd yr oedd almon, coriander, myrtwydd, bergamot, blodau a gwahanol brennau, megis thus a myrr. Fe’u defnyddiwyd at ddibenion meddygol, defosiynol ac er mwyn pleser, ac mae’n anodd gwahaniaethu rhwng y dibenion hyn wrth eu trafod yn hanesyddol.

Yr unigolyn cyntaf y medrir ei chysylltu â’r gwaith o baratoi persawr yw merch o’r enw Tapputi-Belatekallim. Hi yw’r cemegydd cyntaf sy’n hysbys inni [5]. Sonnir amdani, ac am ei thechnegydd, ar dabled glai o Fabilon o 1200 CC. Tua diwedd y mileniwm cyntaf oed Crist ceir dau gemegydd allweddol arall. Roedd Al-Kindi (Abu Yūsuf Yaʻqūb ibn ʼIsḥāq aṣ-Ṣabbāḥ al-Kindī; Arabeg: أبو يوسف يعقوب بن إسحاق الصبّاح الكندي‎) (tua 801 - tua 873)[6], y polymath arabaidd, yn gweithio yn Bagdad ac yna Abu Ali Sina (Afisena; Persieg: ابن سینا‎; ) (tua 980 - 1037)[7], “Tad” meddygaeth fodern gynnar, yn Bukhara. Ysgrifennodd Al-Kindi Lyfr Cemeg Persawrau a Distylliadau, sy’n cynnwys dros gant o rysetiau persawr ac offer i’w ddefnyddio wrth eu paratoi, megis yr alembig. Gan Afisena y ceir y disgrifiadau cyntaf o ddistyllu modern, a bu’n enwog am baratoi arogl rhosyn (Dŵr Rhosyn). Erbyn y cyfnod hwn ‘roedd, hefyd, defnyddid persawrau a pheraroglau yn Tsieina[8].

Ymledodd y diwydiant cynhyrchu persawrau o’r Dwyrain Canol i Orllewin Ewrop erbyn y canol oesoedd. Ceir sôn am fynachod Santa Maria Novella yn Fflorens yn paratoi persawr ar rhywbryd ar ôl 1221[9]. Erbyn 1370 ‘roedd enwogrwydd “Dŵr Hwngari” yn ymestyn trwy’r rhanbarth[10]. Crëwyd y persawr hwn ar gais y “Frenhines Elisabeth” o Hwngari. Yn anffodus, gan fod sawl frenhines o’r cyfnod yn arddel yr un enw (gan gynnwys y Santes Erzsébet o Hwngari), nid yw haneswyr yn gytûn pa un ohonynt oedd yn gyfrifol.

 
Hysbyseb Eau de Cologne o Ynys Jersey yn 1891

Gwraig ddylanwadol arall oedd Caterina de’ Medici (1519-1589). Yn 1533 priododd Henri, ail fab y Brenin François’r Cyntaf o Ffrainc, a ddaeth yn Henri II yn 1547. Wrth symud o Fflorens i Ffrainc daeth Caterina â’i sêr-ddewin (Cosme Ruggieri) a’i phersawrwr, Renato Bianco (Rene o Fflorens)[11], gyda hi. Bu Rene yn ddylanwadol iawn yn natblygiad y diwydiant persawr a cholur yn Ffrainc. Erys yr Eidal a Ffrainc yn bwysig yn y diwydiant hyd heddiw, ac yn y Ffrangeg y mae’r rhan fwyaf o eirfa'r diwydiant. Erbyn y 17g ‘roedd cryn ddefnydd o bersawr yn llysoedd Ewrop i guddio'r aroglau drwg a oedd yn gyffredin cyn ymddangosiad technoleg ymolchi yn y 19g. Rhoddwyd yr enw “La cour parfumée[12] ar Lys Versailles yn ystod teyrnasiad Louis XV (1638-1715). Ar y pryd ystyriwyd ymolchi yn beth peryglus i’w wneud, a dywedir mai tri bath yn unig a gymerodd y brenin hwnnw yn ystod ei deyrnasiad 72 mlynedd.

Yn y Gymraeg ceir cyfeiriadau at aroglau yn Llyfr Taliesin (14g) “Achwech aglywaf. Aseith aarogleuaf”[13] ac yng ngwaith Dafydd ab Edmwnd (1450-97)[14] “arogl per orains, pupur hirion a grawn grains”, ymhlith eraill.

Yn naturiol, ‘roedd hefyd ddiddordeb ymhlith bonedd Gwledydd Prydain. Er enghraifft yn 1668 cyhoeddwyd Choice and Experimented Receipts in Physick and Chirurgery and also Cordial and Distilled Waters and Spirits, Perfume and other Curiosities[15] gan Syr Kenelm Digby (1603 - 1665)[16] a oedd yn gyfrifol am werthu cŵyr seliau ar gyfer Cymru a’r Gororau.

Yn 1693 creodd y barbwr Giovanni Paolo Feminis bersawr o’r enw Aqua Admiralis[17]. Symudodd ef a’i nai, (Giovanni Maria Farina) i Gwlen (Köln) ac ail enwyd y cynnyrch yn “Eau de Cologne” a ddaeth, yn nhreigl amser, i gynrychioli dosbarth cyfan o bersawrau[18].

Llaw yn llaw â datblygiad y wyddor a’r diwydiant Cemeg yn y 19g ymddangosodd y Diwydiant Persawr modern. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd y rhan fwyaf o’r dosbarthiadau clasurol wedi’u sefydlu. Bellach, cyfran fechan iawn o gynhwysion persawrau sy’n dod o ffynonellau naturiol. Yn aml, defnyddir fersiynau synthetig o’r sylweddau naturiol, ond hefyd mae cryn ddefnydd o sylweddau newydd sydd â’r un priodoleddau â’r arogleuon “gwyllt” (neu hyd yn oed yn rhagori arnynt). Gwelir fwyfwy arogleuon hollol newydd (ee cola) yn cyfrannu i’r diwydiant. Mae’r rhan fwyaf o gynhwysion synthetig persawrau’r byd yn dod drwy ddrysau pum prif gwmni: International Flavors and Fragrances (IFF), Givaudan, Firmenich, Takasago, Symrise[19].

Cyfansoddiad Persawr golygu

 
"Organ" y persawrydd (yng Ngrasse, Ffrainc). Dyma lle mae'r persawrydd yn cyfansoddi o'r "nodau" unigol.

Yn ei hanfod cymysgedd o sylweddau (cemegau) sy’n anweddu ar dymheredd y corff ac sy’n creu argraff ffafriol i’r synnwyr arogli yw persawr. (Peth prin iawn yw defnyddio un cemegyn pur fel persawr.) Er mwyn anweddu, mae’n rhaid i’r cemegau fod yn gymharol fach (mas moleciwlar llai na thua trichan Dalton) ac yn amholar (hy. heb iddynt wefr). Bron yn ddieithriad, er mwyn eu defnyddio’n hwylus, toddir y sylweddau mewn hydoddyn. Nid yw dŵr yn briodol oherwydd natur amholar y sylweddau. Ethanol, neu ethanol a dŵr, yw’r hydoddyn mwyaf cyffredin - gan eu bod, hefyd, yn anweddu heb adael ôl. Mae modd defnyddio olew diarogl (megis olew cnau coco, jojoba neu gŵyr ysgafn), ond nid yw’r rhain yn anweddu. (Manteisir ar hyn wrth ddefnyddio’r un persawrau mewn aromatherapi, neu i bersawru’r tŷ.)

Mae cyflymder anweddu’r gwahanol sylweddau yn amrywio’n fawr - a manteisir yn llwyr ar hyn wrth gynllunio a chyfansoddi persawr. (Defnyddir geirfa cerddoriaeth yn eang yn y cyd-destun hwn [20].)

Daw’r argraff gyntaf o bersawr o’r sylweddau sy’n anweddu’n gyflym. Cyfeirir at y rhain fel y “nodau uchaf” (top notes). Yn y siop, yn aml, hwn yn unig (ynghyd ag arogl yr ethanol) sy’n denu neu ddiflasu’r cwsmer ! Yn anaml iawn (os byth) y cyfeirir at gemegolion unigol. Enwau traddodiadol yr aroglau a ddefnyddir sydd, weithiau, yn cynnwys sawl cemegyn gwahanol. Enghreifftiau o’r nodau uchaf yw mint, lafant a choriander. Ar ôl rhai munudau, mae goruchafiaeth y nodau hyn yn gwanio a synhwyrir y nodau canol (neu calon) (middle neu heart notes), sy’n anweddu’n arafach. Enghreifftiau o’r rhain yw pren santal (sandalwood), jasmin ac arogleuon “y môr”. Yn olaf, ar ôl hanner awr efallai, daw’r nodau bâs i’r amlwg i gwblhau cord (accord) y nodau. Fel mewn cerddoriaeth y cyfuniad o’r nodau canol a bâs yw prif nodwedd unrhyw bersawr. Yn aml nid yw’r nodau bâs unigol yn bleserus ar eu pennau eu hunain - ac weithiau nid oes ganddynt lawer o arogl amlwg. Eu swyddogaeth yw gosod sylfaen i’r persawr cyfan. Camp y persawrydd (y cyfansoddwr) yw darganfod y cyfuniadau arbennig. “Mae’r cyfan yn llawer mwy na swm y cydrannau”. Hefyd nid yw profi persawr yn rhywbeth statig - ond yn rhywbeth sy’n datblygu a newid dros oriau. Enghreifftiau o nodau bâs yw mwsg, ambr a thybaco.

Yn olaf, mae’n rhaid i’r persawrydd diwnio’r cyfan trwy ychwanegu ambell sylwedd sy’n mireinio’r arogleuon craidd. Er enghraifft, mae arogl sitrws yn cyfrannu nodwedd “ffres” i sawr blodau. Hefyd mae modd defnyddio sylweddau sy’n llenwir bylchau rhwng ambell nodyn, tra bo eraill yn sadio’r cymysgedd fel y bydd yn para’n hwy ar y croen heb golli ei safon.

Dosbarthiadau golygu

Fel gyda cherddoriaeth, anodd gosod y gwahanol bersawrau mewn dosbarthiadau pendant bob tro, ond, oherwydd yn bennaf yr angen i’w marchnata, bu sawl ymgais i wneud hyn. Erbyn y flwyddyn 1900 roedd nifer helaeth o’r prif gyfuniadau o nodau wedi ymddangos. Pob un wedi’i gyfansoddi ar gefn sylfaen cymysgedd craidd o nodau a ddefnyddiwyd gan yr un cwmni - a chwmnïau eraill. Dyma ambell ddosbarth traddodiadol (sylwer bod ffasiwn y cyfnod - ee ffilmiau Hollywood - yn ddylanwad):

 
Mitsouko, persawr clasurol Chypre a lansiwyd yn 1919 gan gwmni Guerlain.

Blodeuog unigol (soliflore). Lle mae un nodyn blodyn yn oruchaf. (ee. Sa Majeste la Rose, (Serge Lutens)).

Tusw o flodau (bouquet). Nodau sawl blodyn wedi’u cyfuno. (ee. Quelques Flores (Houbigant), Joy (Jean Patou))

Ambr neu Ddwyreiniol (oriental). Dosbarth eang a oedd yn atgofus o ddelwedd Oes Fictoria o’r Dwyrain Canol a Phell. Yn cynnwys nodau ambergris neu labdanwm. Hefyd, yn aml, fanila, cŵmerin, blodau a phrennau. Weithiau thus a resinau tebyg. (ee. Shalimar (Guerlain), Opium (Yves Saint Laurent), Coco Mademoiselle (Chanel))

Pren (woody). Aroglau per-brennau santal, cedrwydd ac agar (ŵd) a’r gwair fetifer. Mae arogl camffor patswli (patchouli) yn aml i’w glywed. (ee. Maderas de Oriente (Myrurgia), Bois des Îles (Chanel), Rumba (Balenciaga)

Lledr. Nodau mêl, tybaco, pren a tharai pren; aroglau lledr. (Bandit (Robert Piguet), Jolie Madam (Balmain)).

Chypre (Cyprus). Yn 1917 creodd François Coty, y persawrydd (cymhleth ei wleidyddiaeth), ddosbarth newydd o bersawr trwy gyfansoddi Chypre de Coty. Ei brif nodau oedd bergamot, labdanwm a’r cen “oakmoss”. Yn 1919 cyflwynwyd Mitsouko gan gwmni Guerlain. Erys hwn yn un o’r clasuron - er gwaethaf yr angen i’w ailgyfansoddi (yn llwyddiannus yn ôl y beirniaid) pan waharddwyd defnyddio “oakmoss” yn ddiweddar oherwydd ei sgil effeithiau[21].

 
Shalimar (Guerlain), persawr sy'n yn atgofus o ddelwedd Oes Fictoria o'r Dwyrain

Fougère (Rhedyn). Yn cyfleu awyrgylch llystyfiant a choed. Y sylfaen yw cyfuniad o lafant, cŵmarin ac “oakmoss” (gw. hefyd Chypre), a arloeswyd gan gwmni Houbigant wrth gyfansoddi Fougère Royale yn 1882. Enghreifftiau sy’n dal ar y farchnad yw Brut (Fabergé), Rive Gauche pour Homme (Yves Saint Laurent), Kouros (Yves Saint Laurent).

Gyda datblygiadau pellach ym myd Cemeg ers yr ail ryfel byd - a thwf ac ymhelaethu'r farchnad - ymddangosodd ambell ddosbarth newydd.

Gwyrdd. Dehongliad ysgafnach, gwlypach o Chypre, yn cynnwys nodau megis dail wedi’u gwasgu neu giwcymbr. (ee. Aliage (Estée Lauder), Eau de Campagne (Sisley), Eternity (Calvin Klein).

Morol (Oceanic). Y dosbarth diweddaraf yw hwn, a ddaeth yn sgil cynhwysion synthetig newydd, megis calôn. Mae’n yn atgofus o awel ffres y môr ac yn aml ar gyfer merched a dynion. Yr enghreifftiau cyntaf oedd Cool Water (Davidoff yn 1988) a Dune (Christian Dior yn 1991).

Citrws. Er eu bod yn gyffredin mewn ffrwythau, nid oedd yn hawdd creu persawr oedd yn para trwy ddefnyddio aroglau naturiol orenau, lemonau ag ati. (Mae bergamot yn eithriad, ond nid yw ei arogl yn nodweddiadol o “sitrws”.) Newidiodd y sefyllfa wrth ddatblygu nodau sitrws synthetig. Un enghraifft o’u defnyddio yw Brut (Fabergé).

Ffrwyth. Enghraifft arall lle mae nodau synthetig newydd yn fwy effeithiol i greu arogl na’r planhigion traddodiadol. Ceir nodau afal gwlanog, cyrens duon (cassis), mango ac ati. Enghraifft yw Botrytis (Ginestet) a enwyd ar ôl y ffwng sy’n pydru grawnwin arbennig ardal Sauterne a rhoi i’w gwin melys ei flas nodweddiadol (y pourriture noble).

Gourmand (blasus). Ar y cyfan nid efelychu bwyd yw diben persawr, ond mae’r dosbarth hwn yn eithriad. Trwy ddefnyddio nodau fanila, cŵmarin a nodau synthetig sy’n dynwared bwydydd gwireddwyd hyn. Enghraifft yw Angel (Thierry Mugler).

I hwyluso gwerthiant - yn arbennig ymysg cwsmeriaid newydd “dibrofiad” - yn 1983 cyflwynodd Michael Edwards, arbenigwr persawr, ei “olwyn bersawr”[22] wrth geisio dangos cydberthynas rhai o’r dosbarthiadau hyn.

Dosbarthiad yn ôl Cryfder golygu

Toddir y sylweddau persawrus mewn ethanol neu ethanol a dŵr. Nid oes diffiniad swyddogol o ddosbarthiad crynodiad persawr, ond mae’r canlynol yn rhoi braslun. Mae pris yr eitem yn adlewyrchu’r dosbarthiad. Weithiau mae cyfansoddiad (rysét) persawr yn amrywio gyda’r cryfder.

  • Parfum neu extrait. 15-40% sylweddau persawrus.
  • Espirit de parfum. 15-30% sylweddau persawrus.
  • Eau de parfum neu parfum de toilette. 10-20% sylweddau persawrus.
  • Eau de toilette. 5-15% sylweddau persawrus.
  • Eau de Cologne. 3-8% sylweddau persawrus.

Dynion, merched a ffasiwn golygu

Dros y canrifoedd defnyddiwyd persawrau gan ferched a dynion. Yr un yw’r cynhwysion ar gyfer y ddau ac nid oes tystiolaeth bod fferomonau dynol yn bodoli - heb sôn am gael eu defnyddio mewn persawr. O bryd i’w gilydd mae ffasiwn yn milwrio yn erbyn defnyddio persawr gan ddynion. Ar adegau felly mae’r cwmnïau persawr yn cynllunio eu strategaeth hysbysebu i gyrraedd yr hanner yma o’r boblogaeth. Er enghraifft, hyrwyddo eu cynnyrch fel estyniad o eillio a’i alw’n bersawr eillio (after shave) neu’n “ddiaroglydd”.

Mae ffasiwn, hefyd, yn dylanwadu ar sawl agwedd ar bersawr (ee diddordeb y Gorllewin yn ffilmiau rhamantus am y Dwyrain Canol a Phell ar ddechrau’r 20g yn arwain at enwi dosbarthiadau o bersawr). Yn fwy diweddar, yn ystod yr 1980au, yn dilyn patrymau ymddwyn mewn rhaglenni megis Dallas a Dynasty o’r Unol Daleithiau a Phrif Weinidogaeth Margaret Thatcher, cafwyd persawrau arbennig o gryf ac ymwthiol ffasiynol - megis Poison (Christian Dior) a ddisgrifir gan un beirniad fel tanc Abrams M1 yn gyrru ar lôn yn ystod yr awr frys; yn mynnu ymateb di-gwestiwn!

Enghreifftiau o gemegolion y diwydiant persawr golygu

Fanilin golygu

Prif gynnyrch (echdynnu) ffa fanila (Vanilla planifolia), tegeirian o Fecsico yw fanilin. Mae ei arogl yn eithaf cyfarwydd oherwydd defnyddir ef mewn hufen ia a chwstard. Yr ail sbeis drytaf yn y byd (ar ôl saffrwm)[23]. Mae’r echdyniad naturiol yn cynnwys cannoedd o gynhwysion, ond y prif sylwedd yw fanilin, aldehyd ffenolig. Mae’n enghraifft glasurol o gyfraniad y diwydiant cemeg yn y 19g. Fe’i purwyd yn 1858 a dadansoddwyd ei strwythur yn 1874. Aethpwyd ati’n syth i’w gynhyrchu yn lled-synthetig (yn wreiddiol o conifferin, bellach, yn bennaf, o wastraff y diwydiant papur). Ynghyd â synthesis lled-synthetig cŵmarin yn 1868, dyma ddechreuad y diwydiant persawr modern. Bellach ceir fanilin yn y rhan fwyaf o bersawrau, ond roedd Jacques Guerlain yn arbennig o flaengar yn ei ddefnyddio. Yn 1889 cyfansoddodd Jicky o’i gwmpas. Mae Jicky ar werth o hyd, y persawr hynaf (heb ei ailgyfansoddi) yn y byd[24].

Cŵmarin golygu

 
Cŵmarin. Arogl "gwair newydd ei dorri".

Ceir cŵmarin mewn nifer o blanhigion (gan gynnwys mefus, cyrens duon, bricyll a cheirios), ond trwy ddefnyddio’r ffeuen Tonca (Dipteryx odorata) y daeth i ‘r diwydiant bersawr. Mae iddo arogl melys gwair newydd ei dorri. Yn 1882, defnyddiodd cwmni Jean-Francois Houbigant (persawrydd Marie-Antoinette) hwn yn ei bersawr hanesyddol Fougère Royale. Trwy wneud hynny sefydlodd y dosbarth Fougère (rhedyn) o bersawr. (Fersiynau diwygiedig o hwn sydd ar werth bellach. Dim ond mewn amgueddfeydd ar gyfer ymarferwyr y maes (ee yr Osmothèque yn Versailles [1][dolen marw]) y gellir profi’r gwreiddiol.)

Cresol golygu

Daw nifer o nodau persawr yn wreiddiol o gynhyrchion anifeiliaid. Un enghraifft yw castorewm - o ben ôl yr Afanc. Fel yn y rhan fwyaf o gynhwysion o’r fath, maent yn cynnwys dwsinau o elfennau. Mae’r cemegydd wedi dewis rhai ohonynt i’w creu, neu’u hefelychu, yn synthetig. Mae i p-cresol a’i deiliaid rywfaint o’r nodwedd. Mae iddynt arogl mŵg a lledr. Dyma nodwedd persawrau lledr - megis Knize Ten a Cuir de Russie (Chanel).

 
Ewig Mwsg Siberia. Unwaith bu'n ffynhonell sawr gwerthfawr.

Mwsg Baur golygu

Bu cryn ymchwil i geisio dod o hyd i sawrau a oedd yn ymdebygu i’r gwahanol fathau o fwsg ( echdyniad chwarennau anifeiliaid megis Ewig Mwsg Siberia a’r Gathfwsg (civet) ac ambergris (cyfog morfilod wedi aeddfedu am flynyddoedd yn y môr) naturiol. Yn 1888 ‘roedd Albert Baur yn ymchwilio i greu ffrwydryn newydd tebyg i TNT (tri-nitro-tolwen). Methiant bu’r ffrwydryn, ond sylwodd ar arogl glân, melys ac etheraidd a barodd ar y croen am oriau. Roedd wedi darganfod y cyntaf o’r mwsgau-nitro. Enwyd y cyntaf (2-tert-bwtyl-4-methyl-1,3,5-trinitrobensen) yn Fwsg Baur ar ei ôl. Am ganrif roedd y dosbarth yma yn holl bwysig i’r diwydiant persawr. Roedd Brut (Fabergé), a lansiwyd yn 1968, yn enghraifft enwog. Yn anffodus, erbyn hynny daeth i’r amlwg bod y mwsgau-nitro yn creu adweithiau alergedd a ffotosensiteiddio'r croen - ac i ambell un gallai fod yn niwrowenwyn. Bellach fe’i gwaharddwyd yng ngwledydd datblygedig y byd. Yn sgil hyn bu rhaid ail-gyfansoddi nifer helaeth o bersawrau[21].

Calôn golygu

Enghraifft o’r aroglau hollol synthetig yw calôn (calone, methyl bensodiocsepinon). Fe’i crëwyd yn 1966 gan gwmni Pfizer. Oherwydd bod cemegau tebyg eu strwythur a’r arogl yn tarddu o ambell wymon brown (ee. Ectocarpus siliculosus)[25], fe’i cysylltir ag awyr ffres glan y môr. A dyna sut y’i cyflwynwyd i’r diwydiant persawr, gan greu dosbarthiad newydd “morol”. Y defnydd cyntaf ohono oedd Cool Water (Davidoff, 1988) a Dune (Christian Dior, 1991).

Santalol golygu

Nid yw’n hawdd ail-greu arogl naturiol bob tro. Enghraifft o hyn yw’r arogl clasurol o goed Santal (Santalum album), sydd wedi bod yn rhan o wneud peraroglau ers canrifoedd. Cynhyrchir (yn 2002) tua 60 tunnell o’r olew santal bob blwyddyn trwy ddistylliad stêm o’r pren. Cyfansoddir 55% ohono gan α-santalol, a 20% gan β-santalol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "History of the alembic in ancient times". Distilleria Santa Teresa dei Fratelli Marolo SRL. Chwefror 28, 2017. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  2. "Oldest Perfumes Found on "Aphrodite's Island"". National Geographic News. 29 Mawrth 2007. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  3. A.K. Sharma; Seema Wahad; Raśmī Śrīvāstava (2010). Agriculture Diversification: Problems and Perspectives. I. K. International Pvt Ltd. t. 140.
  4. Vosnaki, Elena (1 Ebrill 2015). "Ancient Fragrant Lore: The scents of the Bible (Rhan 5)". Fragrantica (Perfume Encyclopedia). Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  5. Alic, M. Hypatia's heritage, a history of women in science from antiquity through the nineteenth century. Boston, MA: Beacon Press, 1987. 22. Print.
  6. "Al-Kindi". Stanford Encyclopedia of Philosophy. 11 Ebrill 2018. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  7. "Ibn Sina [Avicenna]". Stanford Encyclopedia of Philosophy. 15 Medi 2016. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  8. Ding JY, Jin ZJ. (2010). "The origin and development of fragrance activity in Chinese ancient times. (cyfieithiad-gwe o'r Tsieinëeg)". Zhonghua Yi Shi Za Zhi. 40 (3): 131-6.. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/21029705.
  9. Röhrig, Bettina. "Old Pharmacy of Santa Maria Novella". The Museums of Florence. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  10. "The First Perfume – Hungary Water". History of Perfume. 2018. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  11. "Storia del profumo (Il Rinascimento: Caterina de' Medici)". Accademia del Profumo (info@accademiadelprofumo.it). (2002-2016). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-15. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018. Check date values in: |date= (help)
  12. "This is Versailles (blog)". Blog: louise_bs17@hotmail.com. 28 Ebrill 2013. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  13. "(Cynnwys digidol Llyfr Taliesin, Prifysgol Toronto)". The Internet Archive. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  14. Thomas Roberts (gol) (1914). Gwaith Dafydd ab Edmwnd. Bangor.
  15. "(Rhestr Pennawdau)". Early English Books Online. 2003. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  16. "Sir Kenelm Digby. English Philosopher and Diplomat". Encyclopaedia Britannica. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  17. "Cologne inventor flap resolved". United Press International. 2 Mawrth 2009. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  18. "The History Behind Eau de Cologne". Cologne Boutique. 2014. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  19. "An Update to the 2017 Flavor & Fragrance Leaderboard". Perfumer & Flavorist. 28 Mehefin 2017. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  20. Edwards, Michael (2006). "Fragrances of the World 2006". Crescent House Publishing.
  21. 21.0 21.1 "The changing world of perfume and why some chemicals are being taken out". https://theconversation.com. 27 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018. External link in |website= (help)
  22. "The Fragrance Wheel". Michael Edwards. Fragrances of the World. 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-24. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.
  23. Parthasarathy, V. A.; Chempakam, Bhageerathy; Zachariah, T. John . (2008). Chemistry of Spices. CABI. t. 2. ISBN 978-1-84593-405-7.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  24. Luca Turin & Tania Sanchez (2008). Perfumes. The A-Z Guide. Profile Books, London. tt. 332–3. ISBN 978 1 84668 127 1.
  25. Jensen, Bo. "(Erthygl ar Calôn mewn Gwymon Brown)". A small guide to Nature's fragrances. Cyrchwyd 23 Ebrill 2018.

Darllen Ychwanegol golygu

  • Luca Turin a Tania Sanchez, Perfumes: The A-Z Guide (London: Profile Books, 2008)

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am beraroglaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.