Rhys ap Thomas

prif gynorthwywr Cymreig y brenin Harri VII
(Ailgyfeiriad o Syr Rhys ap Thomas)

Roedd Syr Rhys ap Thomas (14491525) yn un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru yn ail hanner y 15g. Ymladdodd gydag oddeutu 2,000 o'i filwyr ar ochr Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth ac fe'i gwobrwywyd am hynny. Yn ôl llygadystion i'r frwydr, megis Guto'r Glyn a Thudur Aled, Rhys laddodd Richard III, brenin Lloegr, er bod rhai o'r farn mai cyfeiriad sydd yma at Rys arall - Rhys Fawr ap Maredudd.

Rhys ap Thomas
Ganwyd1449 Edit this on Wikidata
Llandeilo Edit this on Wikidata
Bu farw1525 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmilwr, tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
TadThomas ap Gruffudd Edit this on Wikidata
MamElsbeth Griffith Edit this on Wikidata
PriodEfa ap Henry, Jonet Mathew Edit this on Wikidata
PlantGruffydd ap Rhys ap Thomas, Margaret ap Thomas, William ap Rhys, Margred 'ieuaf' ferch Rhys ap Thomas, Dafydd ap Rhys ap Thomas o Drericert Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
Tarian Rhys
Ysgythriad o gofeb Rhys yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin.

Rhys oedd mab ieuengaf Thomas ap Gruffydd ap Nicolas o Landeilo yn Sir Gaerfyrddin, ac Elizabeth, merch Syr John Gruffydd o Abermarlais, hefyd yn Sir Gaerfyrddin. Perthynai Rhys i deulu dylanwadol iawn yn Nyffryn Tywi; dywedai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion Urien Rheged. Llwyddodd ei daid, Gruffudd ap Nicolas, i ennill grym dros ran helaeth o dde-orllewin Cymru. Roedd tad Rhys, Thomas ap Gruffudd, yn drydydd mab Gruffudd; priododd Elizabeth ferch Syr John Gruffudd, Abermarlais (ger Llandeilo), rhywbryd cyn 1446.[1][2][3]

Yn y cyfnod hwn, cefnogwyd brenin Lloegr gan nifer fawr o uchelwyr Cymru, yn bennaf gan iddynt dderbyn eu tiroedd a'u harian am wrthwynebu Owain Glyn Dŵr. Taid y brenin Harri VI oedd wedi hwn, ac roedd eu teyrnagrwch iddo'n eitha cadarn. Pan gododd Richard, dug Efrog yn ei erbyn, cefnogi'r brenin (ac felly'r Lancastriaid) wnaeth y Cymry.

Pan oedd Rhys ap Thomas tua deuddeg oed, codwyd byddin Lancastriaidd yng Nghymru, dan arweinyddiaeth Siasbar Tudur, Iarll Penfro, a martsiodd y fyddin dros y ffin i Loegr ble ymladdodd ym Mrwydr Mortimer's Cross, gan golli i Edward, iarll March - mab hynaf Richard, dug Efrog a laddwyd ychydig wythnosau ynghynt. Bu farw taid Rhys yn y frwydr hon, ac o fewn wythnos neu ddwy, cyhoeddwyd yr Iorcydd Edward IV yn frenin. Ond parhau ar ochr y Lancastriaid wnaeth tad Rhys, fel y rhan fwyaf o'r Cymry, gan mai Lancastriad oedd Siasbar, efallai. Amddiffynnodd Thomas (tad Rhys) Castell Carreg Cennen ger Llandeilo, gyda'i frawd Owain, ond bu raid iddynt ildio wedi cyrch hir. Chwalwyd y castell gan yr Iowciaid a dygwyd tiroedd y Cymry. Dihangodd Thomas a'i deulu i Fwrgwyn at Philippe le Bon lle cawsant loches.

Bosworth

golygu

Y daith drwy Bowys i Gefn Digoll

golygu
 
Taith Harri Tudur (chwith) a Rhys ap Thomas (llinell werdd) drwy Gymrui Gefn Digoll.

Pan laniodd Harri Tudur ym mae Pont y Pistyll (ger Dale), ger Hwlffordd dewisiodd Rhys lwybr gwahanol i Harri am dri rheswm: yn gyntaf roedd yn casáu'r Ffrancwyr - a dyna oedd tros hanner byddin Harri.[4] Yn ail, ceisiodd chwarae'r ffon ddwybig gan beri i Richard III gredu ei fod o'i blaid, ac felly nid ymosododd Richard ar unwaith gan ei fod yn teimlo'n saff. Yn drydydd, rhoddodd ei hun a'i fyddin o tua dwy fil a hanner o filwyr profiadol, arfog rhwng Harri a Richard. Roedd hyn hefyd yn golygu ei fod ef ar lwybr gwahanol yn casglu milwyr ato, o gymunedau gwahanol i Harri. Roedd Arnold Butler, Gruffydd Rede a John Morgan, cyfeillion pennaf Rhys yn cyd-deithio â Harri, ac yn ddolenau cryfion rhwng y ddau arweinydd, y ddwy fyddin. Ceir cefnogaeth i hyn gan gofnod o ymateb Richard III pan glywodd fod Harri wedi glanio ym Mhenfro: 'ychydig o ddynion sydd ganddo, a drwg fydd ei dynged: naill ai ymladd yn erbyn ei ewyllus neu ei gymryd yn garcharor gan Walter Herbert a Richard Thomas.' Yn ôl The Life of rhys thomas cymerodd Rhys lwybr gwahanol i Harri 'er mwyn cryfhau ei fyddin... a hysbysu'r Cymry wrth fynd ei fod yn bleidiol i Harri'.[5]

O Gaerfyrddin y cychwynodd Rhys, ar yr 8fed o Awst, ac erbyn iddo gyrraedd Aberhonddu deuddydd yn ddiweddarach roedd ganddo fyddin mor fawr (a oedd yn cynnwys plant a merched) bu'n rhaid eu chwynu i lawr i ddwy fil, a 500 arall dan ofal ei frodyr Dafydd a John, a'i unig fab Gruffudd Rhys, oedd yn eu dilyn oddeut deg milltir wrth eu sodlau, yn gwarchod eu cefnau. Pan ddychwelodd sgowtiaid Harri'n ôl ar y dydd hwn (yr 8fed o Awst) mynegwyd iddo fod gan Rhys fyddin gryfach nag oedd ganddo ef. Ym Machynlleth, cyn brifddinas Cymru, a thref a oedd yn orlawn o weledigaeth Gymreig, danfonodd Harri lythyr at Rhys yn cynnig iddo fod yn 'Rheolwr' neu'n 'Siambrlen' Cymru gyfan pe bae'n fuddugoliaethus.

Ar yr 15ed o Awst unwyd y ddwy fyddin ar gopa gwastad Cefn Digoll, ble roedd y cam nesaf bron o fewn eu gafael, ond yn sicr o fewn eu golwg: yr Amwythig. Yno y tyngodd Rhys lw o ffyddlondeb i'w frenin - Harri Tudur.

Maes Bosworth

golygu

Erbyn i Harri Tudur lanio yn Sir Benfro yn Awst 1485 roedd Rhys mewn sefyllfa gref yn ne Cymru, a chododd fyddin o tua 2,000 o wŷr i gefnogi ymgais Harri i gipio coron Lloegr. Cyfarfu Rhys a'i ddynion ('Gwŷr y Wlad Ucha') Harri Tudur yng Nghefn Digoll ger y Trallwng ac aeth y ddau garfan yn ei blaenau drwy'r Amwythig, Stafford, Lichfield ac yna Bosworth gan gyrraedd ar ddydd Sul yr 21ain o Awst.

Yn ôl traddodiad llafar, lladdwyd Rhisiart III, brenin Lloegr gan Rys. Canodd y bardd Guto'r Glyn:[6]

Syr Rhys ni welais ŵr gwell
Na'i gystal yn ei gastell.
Concweiriodd y King Harri
Y maes, drwy nerth ein meistr ni...
Lladd y baedd, eilliodd ei ben.

Gellir dehongli'r darn olaf fel cadarnhad i'r frwydr gael ei hennill oherwydd Rhys, yn ôl Emyr Wyn Jones yn ei lyfr Bosworth Field: y baedd oedd symbol herodraethol Rhisiart III.

Am ei drafferth, gwnaed ef yn farchog yn fuan wedi Brwydr Bosworth, a rhoddwyd nifer o swyddi yn ne Cymru iddo.

Mae cerddi iddo gan nifer o feirdd y cyfnod, yn cynnwys Lewys Glyn Cothi, Dafydd Nanmor, Huw Cae Llwyd a Tudur Aled. Ceir tystiolaeth yn y cerddi hyn mai ef a laddodd Rhisiart III, brenin Lloegr ym Mrwydr Bosworth. Roedd Rhys Nanmor yn fardd teulu iddo.

Wedi Bosworth

golygu

Yn ogystal a'i wneud yn Farchod anrhydeddwyd Rhys gan nifer o swyddi gan gynnwys ei wneud yn Rheolwr Cymru, yn Gyfrin Gynghorwr ac yn 1505 yn Farchog y Gardas Aur a chafwyd dathliadau enfawr yng Nghastell Caeriw. Yn dilyn marwolaeth Harri VII bu Rhys yn driw i'w fab gan ymladd gydag ef ym mrwydr Guinegatte yn 1513.

Priododd ddwywaith: Efa oedd ei wraig gyntaf, merch Henri ap Gwilym o Gwrt Henri; ac eilwaith i Sioned (Janet), merch Thomas Mathew o Radyr, sef gweddw Thomas Stradling o Sain Dunwyd. Bu farw ei fab Gruffydd ap Rhys ap Thomas yn 1521 a bu farw Rhys ei hun bedair blynedd wedi hynny, yn 1525 ym Mhriordy Caerfyrddin. Wedi dymchwel y briordy ar orchymyn gan Harri VIII, symudwyd ei gorff i gistfaen yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin.

Ei fab Rhys ap Gruffudd (rebel) oedd yr etifedd, ond fe'i cyhuddwyd o frad (ar gam, mae'n debyg) yn erbyn Harri VIII, brenin Lloegr ac fe'i dienyddiwyd fel rebel. Trosglwyddwyd ei diroedd a'i arian i goron Lloegr.

Bywgraffiad

golygu

Ysgrifennwyd hanes bywyd Syr Rhys ap Thomas gan un o'i ddisgynyddion, Henry Rice yn y 1620au, dan y teitl A short view of the long life... of Rice ap Thomas. Arhosodd mewn llawysgrif hyd 1796 pan gafodd ei gyhoeddi yn The Cambrian Register dan olygyddiaeth William Owen Pughe wrth y teitl The Life of Sir Rhys ap Thomas.[7] Cafodd ei olygu yn llawn am y tro cyntaf a'i gyhoeddi yn 1993 gan yr hanesydd Ralph A. Griffiths yn ei gyfrol Sir Rhys ap Thomas and his Family.[7] Gellir ei gymharu â The History of the Gwydir Family gan Syr John Wynn o Wydir fel un o'r ychydig enghreifftiau o lyfrau hanes teuluol cynnar yng Nghymru ac mae'n ffynhonnell bwysig i haneswyr yr Oesoedd Canol Diweddar.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Griffiths, Ralph, Sir Rhys ap Thomas and his family: a study in the Wars of the Roses and early Tudor politics, University of Wales Press, 1993, p.43. See also guto'r glyn.net
  2. E. A. Rees, A Life of Guto'r Glyn, Y Lolfa, 2008, p.212.
  3. Richard III wounds match medieval Welsh poem description
  4. Cofnodwyd yn ei gofiant Life of Rhys ap Thomas a sgwennwyd tua diwedd ei oes, ei awydd barhaus i soundly to cudgel those French dogs. Gweler Bosworth gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix; 2013; tud. 234.
  5. Gweler Bosworth gan Chris Skidmore (Gwasg Phoenix, 2013), t.253.
  6. Gwefan Guto'rGlyn.net; adalwyd 22 Hydref 2013.
  7. 7.0 7.1 Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his family.

Dolenni allanol

golygu