Wicipedia:Ar y dydd hwn/24 Chwefror
24 Chwefror: Diwrnod annibyniaeth Estonia (1918)
- 1152 – cysegrwyd Sieffre o Fynwy yn Esgob Llanelwy
- 1582 – cyflwynwyd Calendr Gregori, datblygiad o Galendr Iŵl
- 1901 – ganwyd y llenor Mathonwy Hughes yn Nyffryn Nantlle, un o olygyddion Y Faner
- 1955 – ganwyd Steve Jobs, cyd-sylfaenydd y cwmni cyfrifiaduro Apple Inc.
- 2011 – lansiwyd Gwennol y Gofod UDA (OV-103) am y tro olaf
- 2022 – ymosododd Rwsia ar Wcráin pan lansiodd Vladimir Putin “weithred milwrol arbennig” i ddadfilitareiddio'r wlad.
|