Wicipedia:Ar y dydd hwn/29 Gorffennaf
- 1833 – bu farw William Wilberforce, dyngarwr a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i gael gwared â chaethfasnach.
- 1890 – bu farw'r arlunydd Vincent van Gogh
- 1905 – ganwyd Dag Hammarskjöld, diplomydd Swedaidd ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
- 1921 – ganwyd yr hanesydd Aled Eames yn Llandudno
- 1933 – sefydlwyd y Bwrdd Marchnata Llaeth a sicrhaodd brisiau teg i'r ffermwyr
- 1994 – bu farw'r cyfansoddwr Cymreig William Mathias a'i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
|