Wicipedia:Ar y dydd hwn/2 Ionawr
- 1492 – ildiodd Granada, y deyrnas Islamaidd olaf yn Sbaen, i'r Cristnogion, gan ddod â'r Reconquista i ben
- 1856 – ganwyd John Viriamu Jones, Prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn Abertawe
- 1856 – ganwyd Arthur Hughes, golygydd a llenor Cymreig (m. 1965)
- 1919 – bu farw Arthur Gould, chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru
- 1941 – difrodwyd cadeirlan Llandaf gan fomiau'r awyrlu Almaenig a lladdwyd 165 o bobl
- 1960 – teithiodd y trên olaf o Flaenau Ffestiniog i'r Bala, o ganlyniad i foddi Cwm Celyn.
|