Wicipedia:Ar y dydd hwn/5 Mawrth
5 Mawrth: Dydd Gŵyl Sant Caron a Sant Piran, un o nawddseintiau Cernyw
- 1295 – trechwyd Madog ap Llywelyn gan lu Iarll Warwig ym Mrwydr Maes Maidog, Caereinion
- 1512 – ganwyd y cartograffydd Gerardus Mercator yn Fflandrys
- 1850 – agorwyd Pont Britannia (neu ‘Bont Llanfair’)
- 1953 – bu farw'r cyfansoddwr Sergei Prokofiev a'r unben Joseff Stalin
- 1977 – mewn damwain car yn Grand Prix De Affrica 1977 bu farw Tom Pryce, Rhuthun, pan drawodd ei gar stiward a oedd yn croesi'r trac.
|