Wicipedia:Ar y dydd hwn/21 Mawrth
21 Mawrth: Diwrnod annibyniaeth Namibia (1990)
- 1282 – cododd y Cymry dan faner Dafydd ap Gruffudd gan gipio Castell Penarlâg a gorfodi'i frawd Llywelyn II i ymuno yn erbyn y goresgynwyr Seisnig
- 1556 – llosgwyd Thomas Cranmer, Archesgob Caergaint, am ei syniadaeth Protestanaidd
- 1802 – ganwyd Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, noddwraig y celfyddydau a'r iaith Gymraeg
- 1924 – priodwyd Leila Megàne ac Osborne Roberts yn yr eglwys Gymraeg yn Efrog Newydd
- 1967 – ganwyd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones
- 1975 – ganwyd cyn bencampwr snwcer y byd Mark Williams
|