Wicipedia:Ar y dydd hwn/4 Awst
![CyIG](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c0/Tafod-y-ddraig-coch-ar-wyn.svg/73px-Tafod-y-ddraig-coch-ar-wyn.svg.png)
- 1788 – bu farw Evan Evans (Ieuan Fardd), 57, ysgolhaig a llenor
- 1875 – bu farw Hans Christian Andersen, 70, awdur Daneg; un o'i storiau i blant oedd Dillad Newydd yr Ymerawdwr
- 1894 – ganwyd Ambrose Bebb; gwleidydd, llenor a hanesydd Cymreig; tad Dewi Bebb ac awdur Llydaw (1929)
- 1914 – Prydain yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen yn sgil ymosodiad yr Almaen ar Wlad Belg
- 1962 – sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mewn enw, yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais.
- 2020 – digwyddodd dau ffrwydrad enfawr yn Beirut, prifddinas Libanus.
|