Wicipedia:Ar y dydd hwn/30 Mawrth
- 1555 – llosgwyd Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, wrth y stanc, am ddangos gormod o gariad tuag at y Cymry
- 1822 – bu farw'r bardd Dafydd Ddu Eryri yn 62 (neu'n 63 oed)
- 1853 – ganwyd yr arlunydd o'r Iseldiroedd Vincent van Gogh
- 1899 – ganwyd Cyril Radcliffe yn Llanychan, cadeirydd Pwyllgor creu ffiniau newydd India, Pacistan a Bangladesh
- 1934 – ganwyd y Prifardd a'r ffermwr Dic Jones yn Nhre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion
- 1980 – cyrch 'Operation Tân' gan yr heddlu pan geisiwyd dal aelodau o Feibion Glyndŵr; arestiwyd dros hanner cant o bobl.
|