Wicipedia:Ar y dydd hwn/29 Medi
29 Medi: Gŵyl Fihangel yng Nghristnogaeth y Gorllewin: arferid taflu'r 'maen camp' (gw. y llun) ar y dydd hwn gan ddynion plwyf Eglwys Sant Mihangel, Efenechtyd, sir Ddinbych.
- 1267 – drwy Gytundeb Trefaldwyn cydnabu'r brenin Seisnig, Harri, mai Llywelyn ap Gruffudd oedd gwir Dywysog Cymru
- 1341 – ymladdwyd brwydr olaf Rhyfel Olyniaeth Llydaw, pan laddwyd Charles de Blois
- 1939 – ganwyd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru o 2000 i 2009, yng Nghaerdydd
- 1943 – ganwyd Lech Wałęsa, Arlywydd Gwlad Pwyl o 1990 i 1995
- 1961 – ganwyd Julia Gillard, Prif Weinidog Awstralia o 2010 i 2013, yn y Barri, Bro Morgannwg
|