Wicipedia:Ar y dydd hwn/12 Mawrth
12 Mawrth: Gŵyl mabsant Pab Grigor I a Paulinus Aurelianus, sant Cymreig. Diwrnod annibyniaeth Mawrisiws (1968)
- 1626 – ganwyd yr hynafiaethydd ac awdur John Aubrey yn Wiltshire (m. 1697)
- 1881 – sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru yn y Castle Hotel, Castell-nedd
- 1950 – bu farw 80 o gefnogwyr rygbi a chriw yr awyren yn Nhrychineb awyr Llandŵ, y ddamwain awyren waethaf yn y byd, ar y pryd
- 1989 – cyhoeddodd Tim Berners-Lee ddogfen ar gyfer CERN yn amlinellu system rheoli gwybodaeth a ddaeth i fod yn y we fyd-eang
- 1999 – bu farw'r fiolinydd clasurol Yehudi Menuhin
|