Wicipedia:Ar y dydd hwn/31 Awst
- Diwrnod annibyniaeth Cirgistan oddi wrth yr Undeb Sofietaidd (1991).
- 1568 – bu farw'r hynafiaethydd a'r awdur Cymreig Humphrey Lhuyd yn Ninbych
- 1881 – ganwyd yr hanesydd a'r awdur Cymreig Robert Thomas Jenkins (R. T. Jenkins), yn Lerpwl
- 1892 – dadorchuddiwyd cloc y dref yn goron ar Neuadd y Dref, neu'r Guildhall, Aberteifi
- 1921 – ganwyd Raymond Williams, awdur ac arloeswr ym maes astudiaethau diwylliannol, yn y Pandy, Sir Fynwy
- 1997 – lladdwyd Diana, Tywysoges Cymru, ym Mharis yn 36 oed
|