Wicipedia:Ar y dydd hwn/18 Ebrill

Albert Einstein
Albert Einstein

18 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Simbabwe (1980)

  • 1849 (176 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Japaneaidd Hokusai
  • 1906 (119 blynedd yn ôl) – trawyd San Francisco, Califfornia, gan ddaeargryn a ddilynwyd gan dân a lladdwyd o leiaf 3,000 o bobl.
  • 1949 (76 blynedd yn ôl) – daeth Deddf Gweriniaeth Iwerddon (1948), a basiwyd gan yr Oireachtas Éireann, i rym gan greu gweriniaeth yn Iwerddon a thynnu'n ôl ei haelodaeth o'r Gymanwlad
  • 1955 (70 blynedd yn ôl) – bu farw'r gwyddonydd Albert Einstein wedi iddo wrthod rhagor o driniaeth llawfeddygol
  • 2004 (21 blynedd yn ôl) – bu farw'r gwleidydd Geraint Howells, AS Aberteifi ac yna Ceredigion, rhwng 1974 a 2004.