Wicipedia:Ar y dydd hwn/22 Medi
22 Medi: Diwrnod annibyniaeth Bwlgaria (1908) a Mali (1960)
- 1837 – Ganwyd Thomas Charles Edwards, prifathro cyntaf Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn Llanycil, Gwynedd
- 1923 – Ganwyd Dannie Abse, bardd yn yr iaith Saesneg, yng Nghaerdydd
- 1934 – Trychineb Glofa Gresffordd, Wrecsam
- 1937 – Ganwyd Richard Marquand, cyfarwyddwr y ffilm Return of the Jedi yn y gyfres Star Wars, yng Nghaerdydd
- 1955 – Cyhoeddwyd Bannau Brycheiniog yn barc cenedlaethol
|